Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed - Dydd Mercher, 15fed Tachwedd, 2023 2.30 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd R. James.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 28 MEDI 2023 pdf eicon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Pwyllgor Jason BlewiPENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 28 Medi 2023 yn gofnod cywir. 

tt o Archwilio Cymru i'r cyfarfod a gyflwynodd yr Adroddiad ynghylch yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed, gan fanylu ar y materion a oedd yn codi o'r archwiliad yr oedd angen eu hadrodd o dan Safon Ryngwladol ar Archwilio 260. 

 

Nodwyd mai'r Archwilydd Cyffredinol sy'n gyfrifol am roi barn ynghylch a yw datganiadau ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed yn olwg gywir a theg ar ei sefyllfa ariannol ar 31 Mawrth 2023, a'i hincwm a'i gwariant yn ystod y flwyddyn honno. 

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod adroddiad archwilio diamod ynghylch y datganiadau ariannol wedi'i gyhoeddi a'i gymeradwyo gan yr Archwilydd Cyffredinol a bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi ystyried yr adroddiad terfynol yn ei gyfarfod ar 27 Hydref 2023.

 

Wrth gydnabod y mân gywiriadau a amlygwyd i'r Pwyllgor fel y nodwyd yn Atodiad 3, yn gyffredinol dywedwyd bod yr Adroddiad ynghylch yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol 2022-23 yn gadarnhaol.

 

Dymunai'r Pwyllgor ddiolch yn ddiffuant i Archwilio Cymru am wneud yr Archwiliad ac i'r Adran Cyllid am ei holl waith caled mewn archwiliad llwyddiannus.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr Adroddiad ynghylch yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol 2022–23.

 

 

4.

ADRODDIAD YNGHYLCH YR ARCHWILIAD O DDATGANIDADAU ARIANNOL 2022-23 pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Pwyllgor Jason Blewitt o Archwilio Cymru i'r cyfarfod a gyflwynodd yr Adroddiad ynghylch yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed, gan fanylu ar y materion a oedd yn codi o'r archwiliad yr oedd angen eu hadrodd o dan Safon Ryngwladol ar Archwilio 260. 

 

Nodwyd mai'r Archwilydd Cyffredinol sy'n gyfrifol am roi barn ynghylch a yw datganiadau ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed yn olwg gywir a theg ar ei sefyllfa ariannol ar 31 Mawrth 2023, a'i hincwm a'i gwariant yn ystod y flwyddyn honno. 

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod adroddiad archwilio diamod ynghylch y datganiadau ariannol wedi'i gyhoeddi a'i gymeradwyo gan yr Archwilydd Cyffredinol a bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi ystyried yr adroddiad terfynol yn ei gyfarfod ar 27 Hydref 2023.

 

Wrth gydnabod y mân gywiriadau a amlygwyd i'r Pwyllgor fel y nodwyd yn Atodiad 3, yn gyffredinol dywedwyd bod yr Adroddiad ynghylch yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol 2022-23 yn gadarnhaol.

 

Dymunai'r Pwyllgor ddiolch yn ddiffuant i Archwilio Cymru am wneud yr Archwiliad ac i'r Adran Cyllid am ei holl waith caled mewn archwiliad llwyddiannus.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr Adroddiad ynghylch yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol 2022–23.

 

5.

COFNODION BWRDD PENSIWN CRONFA BENSIWN DYFED 25 HYDREF 2023 pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod cofnodion cyfarfod Bwrdd Pensiwn Cronfa Bensiwn Dyfed ar 25 Hydref 2023 yn cael eu nodi.

 

6.

ADRODDIAD BWRDD PENSIWN CRONFA BENSIWN DYFED - 25 HYDREF 2023 pdf eicon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad y Bwrdd Pensiwn a gyflwynwyd gan Gadeirydd Bwrdd Pensiwn Cronfa Bensiwn Dyfed.  Roedd yr adroddiad yn rhoi diweddariad ynghylch yr eitemau a drafodwyd yng nghyfarfod y Bwrdd ar 25 Hydref 2023.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Adroddiad Bwrdd Pensiwn Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Hydref, 2023 yn cael ei dderbyn.

 

7.

MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL 2023 - 30 MEDI 2023 pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol o ran blwyddyn ariannol 2023/24. Nodwyd mai'r sefyllfa bresennol ar 30 Medi 2023 oedd tanwariant o'i gymharu â’r gyllideb o £1.6m. 

 

Dywedwyd er mai'r gorwariant a ragwelwyd oedd £500k, bod tanwariant a ragwelwyd o £1.2m ar Bensiynau Taladwy. Yn ogystal, dywedwyd adeg pennu’r gyllideb ar gyfer 2023-24 bod cynnydd o 2.2% o ran aelodau newydd y pensiwn am y flwyddyn a hyd yma roedd y cynnydd gwirioneddol mewn aelodau pensiwn yn agosach at 1%.

 

O ran incwm, rhagwelwyd y byddai cyfraniadau yn £2.6m yn fwy na'r hyn a gyllidebwyd oherwydd bod cyflogres bensiynadwy aelod yn uwch na'r hyn a ragwelwyd wrth bennu’r gyllideb. Derbyniwyd incwm ychwanegol gan gyflogwyr a oedd yn uwch na'r hyn a ragwelwyd wrth bennu'r gyllideb.  Rhagwelwyd y byddai trosglwyddiadau i mewn yn fwy na'r gyllideb o £500k a rhagwelwyd y byddai incwm buddsoddi £1m yn is na'r gyllideb. Felly, rhagwelwyd y byddai incwm £2.1m yn fwy na'r gyllideb.

 

Amcangyfrifwyd mai cyfanswm y gwariant cyffredinol oedd £123.3m ac mai cyfanswm yr incwm oedd £124.9m, gan arwain i sefyllfa llif arian gadarnhaol o £1.6m.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2023 - 30 Medi 2023.

 

 

8.

CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 30 MEDI 2023 pdf eicon PDF 87 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed.  Nodwyd ar 30 Medi 2023 fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £6m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad Cysoni Arian Parod Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

 

9.

ADRODDIAD GWEINYDDU PENSIYNAU pdf eicon PDF 93 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a roddai ddiweddariad ar Weinyddu Pensiynau. Roedd yr adroddiad yn cynnwys diweddariadau ar y gweithgareddau yn y gwasanaeth Gweinyddu Pensiynau ac roedd yn cynnwys materion rheoleiddiol, y gofrestr torri amodau, i-Connect, cysoniad GMP a llif gwaith.

 

Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â'r cynnydd o ran cynnwys Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar i-connect, eglurodd y Rheolwr Pensiynau, er bod gan y Gwasanaeth Tân nifer gymharol fach o aelodau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, bod i-connect yn dibynnu ar dynnu data penodol iawn gan y cyflogwr y gellid ei lanlwytho a bod trafodaethau ynghylch cael hyn yn parhau.

 


Cyfeiriwyd at ddiweddariad McCloud/Sargeant, o ran cysoni a dilysu data, a  gofynnwyd faint o adnoddau ychwanegol oedd eu hangen ar gyfer y gofynion ymyrraeth.  Eglurodd y Rheolwr Pensiynau ei bod yn cymryd 1 awr ar gyfartaledd i drin achos ymddeol â llaw ac yn ddiweddar cymerodd 3 aelod o staff 3 diwrnod i'w gwblhau. Ar sail hyn, cydnabuwyd y byddai angen adnoddau ychwanegol a fyddai'n cael eu hystyried yn fuan yn dilyn adolygiad o nifer y cyfrifiadau y mae angen eu cwblhau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr Adroddiad Gweinyddu Pensiynau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi.  

 

 

10.

ADRODDIAD TORRI AMODAU pdf eicon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor yr Adroddiad Torri Amodau i'w ystyried mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed a baratowyd yn unol ag Adran 70 Deddf Pensiwn 2004, Côd Ymarfer rhif 14 a Pholisi Torri Amodau Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at y rhestr o achosion o dorri amodau a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad a oedd yn manylu ar yr achosion lle nad oedd cyfraniadau gweithwyr/cyflogwyr wedi dod i law mewn pryd. I'r perwyl hwn, cyfeiriodd Rheolwr y Trysorlys a Phensiynau at achos o dorri amodau a adroddwyd yn ddiweddar mewn perthynas â Burry Port Marina Ltd a oedd wedi methu'n rheolaidd dalu'r cyfraniadau gofynnol i'r Gronfa. Mewn diweddariad i'r Pwyllgor, cadarnhaodd yr adroddiad fod y Rheoleiddiwr Pensiynau hefyd wedi cael gwybod fod y Cyflogwr wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr ac amcangyfrifwyd mai'r cyfraniadau oedd yn ddyledus i'r Gronfa hyd yn hyn oedd £7,230.56. Rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor fod trafodaethau'n parhau rhwng y Gronfa a'r gweinyddwyr ynghylch y cyfraniadau oedd yn ddyledus.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.  

 

 

11.

COFRESTRE RISG pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y Gofrestr Risg, a oedd yn manylu ar yr holl risgiau gweithredol a strategol a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed, i'w hystyried. 

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y gofrestr risg wedi'i hadolygu ac nad oedd unrhyw newidiadau i risgiau unigol wedi'u nodi ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi adroddiad y gofrestr risg.

 

 

12.

CYNLLUN HYFFORDDI 2023-2024 pdf eicon PDF 86 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad i'w ystyried ynghylch y Cynllun Hyfforddi ar gyfer y cyfnod 2023-2024 a oedd yn manylu ar amserlen cyfarfodydd y pwyllgor, a digwyddiadau hyfforddi ar gyfer aelodau a swyddogion Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Cynllun Hyfforddi ar gyfer 2023-24.

 

 

 

13.

DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried diweddariad o gyfarfod Cyd-bwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru a gynhaliwyd ar 20 Medi 2023 a oedd yn cynnwys y canlynol:-

 

• Diweddariad y Cyd-bwyllgor Llywodraethu – 20 Medi 2023

• Adolygiad o Gynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru Ebrill – Mehefin 2023

• Diweddariad gan y Gweithredwr

• Crynodeb o Berfformiad Partneriaeth Pensiwn Cymru Ebrill – Mehefin 2023

                                                                         

Hefyd roedd crynodeb a sylwadau ynghylch perfformiad buddsoddi Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer Ch2 2023 (Ebrill - Mehefin 2023) wedi'u hatodi i'r adroddiad.

 

Gwnaed sylw bod £1.2bn (ar draws 8 cronfa Cymru) yn gyfran fach iawn o'r holl arian i'w ymrwymo i newid hinsawdd, a gofynnwyd a oedd unrhyw fwriad i gynyddu hyn.  Soniodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn y gallai fod cynnydd yn y dyfodol.  Eglurwyd ymhellach fod 2 is-gronfa ecwiti byd-eang arall o fewn Partneriaeth Pensiwn Cymru, sef Tyfu Byd-eang a Chyfleoedd Byd-eang a lansiwyd yn 2019 a bod asesiad cynaliadwyedd yn cael ei ystyried. Ychwanegodd yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fod y buddsoddiad mwyaf gan y Gronfa Tyfu Byd-eang a bod y rheolwyr wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran gostyngiadau carbon dros gyfnod y buddsoddiad.

 

Cyfeiriwyd at dudalen 6 yr Adolygiad o Gynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru Ch1 2023-24.  Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â'r term 'Cyfanswm i'w ailgodi' eglurodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn mai dyma'r cyfanswm i'w ailgodi ar yr 8 cronfa bensiwn yng Nghymru a bod pob cronfa yn derbyn anfoneb chwarterol.

 

Eglurodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn, mewn ymateb i ymholiad ynghylch buddsoddiadau gweithredol a goddefol a nodwyd ar dudalen 3 adolygiad Ch2 Cyd-bwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru, fod llawer mwy o fuddsoddiadau goddefol yn gyffredin ar ddechrau cyfuno buddsoddiadau yn gyffredinol, ond bod cronfeydd wedi lansio portffolios gweithredol ers hynny. Dros y blynyddoedd roedd Cronfa Bensiwn Dyfed wedi symud buddsoddiadau o fod yn rhai goddefol i fod yn rhai gweithredol drwy Bartneriaeth Pensiwn Cymru gan gynnwys ecwitïau byd-eang, credyd byd-eang a marchnadoedd preifat. At ddibenion amrywiaeth a risg, byddai lefel isel o fuddsoddiadau goddefol yn parhau i fod ar waith.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn diweddariad Partneriaeth Pensiwn Cymru ynghylch y Cyd-bwyllgor Llywodraethu.

 

 

14.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf. 

 

 

15.

ADRODDIAD YMGYSYLLTU ROBECO 1 EBRILL 2023 - 30 MEHEFIN 2023

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 14 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ymgysylltu Robeco am y cyfnod adrodd 1 Ionawr 2023 – 31 Mehefin 2023.  Roedd yr adroddiad yn rhoi ystadegau manwl mewn perthynas â gweithgareddau ymgysylltu a gynhaliwyd ar bortffolio Partneriaeth Pensiwn Cymru yn ystod y chwarter, a detholiad o astudiaethau achos o weithgarwch ymgysylltu a gynhaliwyd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Ymgysylltu Robeco am y cyfnod adrodd 1 Ionawr 2023 - 31 Mehefin 2023.

 

 

 

16.

ADOLYGIAD BENTHYCA GWARANNAU BYD-EANG HYD AR 30 MEHEFIN 2023

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 14 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol yn ymwneud â buddsoddiadau gan reolwyr y gronfa.

 

Cafodd y Pwyllgor i'w ystyried adroddiad ynghylch yr Adolygiad Benthyca Gwarannau Byd-eang fel yr oedd ar 30 Mehefin 2023, a nodai wybodaeth am fenthyca stoc a oedd wedi dechrau ym mis Mawrth 2020.  Roedd Northern Trust wedi darparu adolygiad o Berfformiad Benthyca Gwarannau ar gyfer Chwarter 2 2023 (y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2023)

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Adolygiad o Berfformiad a Pherthynas Benthyca Gwarannau Byd-eang ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2023.

 

 

17.

ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 30 MEDI 2023

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 14 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwyr buddsoddi ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 30 Medi 2023.  Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys cefndir y farchnad fyd-eang a materion i'w hystyried gan y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fel yr oedd ar 30 Medi 2023 a chymeradwyo'r canlynol, am y rhesymau a ddarperir yn yr adroddiad:

 

  • Bod y dyraniad credyd preifat o 5% yn cael ei ddyrannu i bortffolio Credyd Preifat Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru
  • Bod y galwadau cyfalaf o ran y £50m cyntaf am Gredyd Preifat Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cael eu hariannu o Bortffolio Ecwiti Goddefol y DU.

 

 

18.

ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 30 MEDI 2023

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 14 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Medi 2023 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a rheolwyr buddsoddi am y cyfnodau cyn i'r gronfa gychwyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Medi 2023.

 

 

19.

ADRODDIADAU'R RHEOLWR BUDDSODDI AR 30 MEDI 2023

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 14 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiadau’r rheolwyr buddsoddi a oedd yn nodi perfformiad pob rheolwr fel yr oedd ar 30 Medi 2023. 

 

·   BlackRock - Adroddiad Chwarterol 30 Medi 2023;

·   Schroders - Adroddiad Buddsoddi Ch3 2023;

·   Partners Group - Adroddiad Chwarterol Ch3 2023;

·   Cronfa Tyfu Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru –  30 Medi 2023;

·   Cronfa Credyd Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru – 30 Medi 2023

·   Cronfa Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy Partneriaeth Pensiwn Cymru - 30 Medi 2023.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi adroddiadau'r rheolwyr buddsoddi ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oeddent ar 30 Medi 2023.