Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed - Dydd Mercher, 23ain Tachwedd, 2022 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

3.

COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR Y

Dogfennau ychwanegol:

3.1

29 MEDI 2022 pdf eicon PDF 64 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 29 Medi 2022 yn gofnod cywir. 

 

 

3.2

11 HYDREF 2022 pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2022 yn gofnod cywir. 

 

 

4.

COFNODION BWRDD PENSIWN CRONFA BENSIWN DYFED 20 GORFFENNAF 2022 pdf eicon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod cofnodion cyfarfod Bwrdd Pensiwn Cronfa Bensiwn Dyfed ar 20 Gorffennaf, 2022 yn cael eu derbyn.  

 

 

5.

ADRODDIAD YNGHYLCH YR ARCHWILIAD O DDATGANIDADAU ARIANNOL 2021-22 pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Croesawydd y Pwyllgor Jason Blewitt, Cynrychiolydd Archwilio Cymru i'r cyfarfod a gyflwynodd yr Adroddiad ynghylch yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed, gan fanylu ar y materion a oedd yn codi o'r archwiliad yr oedd angen eu hadrodd o dan Safon Ryngwladol ar Archwilio 260. 

 

Nodwyd mai'r Archwilydd Cyffredinol sy'n gyfrifol am roi barn ynghylch a yw datganiadau ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed yn olwg gywir a theg ar ei sefyllfa ariannol ar 31 Mawrth 2022, a'i hincwm a'i gwariant yn ystod y flwyddyn honno. 

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod adroddiad archwilio diamod ynghylch y datganiadau ariannol wedi'i gyhoeddi a bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi ystyried yr adroddiad terfynol yn ei gyfarfod ar 21 Hydref 2022 [gweler Cofnod 3.1].

 

Roedd y Pwyllgor yn falch o nodi bod Archwilio Cymru yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar y cyfrifon. Yn ogystal, roedd y Pwyllgor yn falch o nodi nad oedd unrhyw gamddatganiadau wedi'u nodi yn y datganiadau ariannol a oedd yn dal heb eu cywiro.

 

Dymunai'r Pwyllgor ddiolch yn ddiffuant i Archwilio Cymru am wneud yr Archwiliad ac i dimau Gweinyddu a Buddsoddi y Gronfa Bensiwn am eu holl waith caled mewn archwiliad llwyddiannus.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol 2021–22 (ISA260).

 

 

6.

MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL 2022 - 30 MEDI 2022 pdf eicon PDF 113 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Monitro Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol o ran blwyddyn ariannol 2022/23. Nodwyd bod y sefyllfa bresennol, fel yr oedd ar 30 Medi 2022, yn rhagweld tanwariant o £3.8m o ran arian parod. 

 

O ran gwariant roedd tanwariant o £196k. Rhagwelwyd y byddai budd-daliadau sy'n daladwy yn £384k yn uwch na'r gyllideb a rhagwelwyd y byddai treuliau rheoli £580k yn is na'r gyllideb.

 

O ran incwm, roedd effaith net cyfraniadau ac incwm buddsoddi yn dangos cynnydd o £3.6m, yn bennaf o ganlyniad i ragweld incwm buddsoddi uwch na'r hyn roeddid wedi cyllidebu ar ei gyfer. 

Amcangyfrifwyd mai cyfanswm y gwariant cyffredinol oedd £107.6m ac mai cyfanswm yr incwm oedd £111.4m, gan arwain i sefyllfa llif arian gadarnhaol o £3.8m.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2022 a 30 Medi 2022.  

 

 

7.

CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 30 MEDI 2022 pdf eicon PDF 93 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed. 

 

Nodwyd ar 30 Medi, 2022 fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £1.3m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad Cysoni Arian Parod Cronfa Bensiwn Dyfed. 

 

 

8.

ADRODDIAD GWEINYDDU PENSIYNAU pdf eicon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a roddai ddiweddariad ar Weinyddu Pensiynau. Roedd yr adroddiad yn cynnwys diweddariadau ar y gweithgareddau yn y gwasanaeth Gweinyddu Pensiynau ac roedd yn cynnwys materion rheoleiddiol, prisio, datganiadau Blynyddol o fudd-daliadau, y gofrestr torri amodau, i-Connect, cysoniad GMP a llif gwaith.

 

Mewn ymateb i gais ynghylch y cynllun Pensiwn a chymhwysedd Clerciaid y Cynghorau Cymuned, eglurodd y Rheolwr Pensiynau y byddai angen i'r Cyngor Cymuned wneud cais i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn i'w gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr Adroddiad Gweinyddu Pensiynau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi. 

 

 

9.

ADRODDIAD TORRI AMODAU 2022-2023 pdf eicon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried. Nodwyd bod Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn pennu'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith. Roedd Côd Ymarfer Rhif 14, paragraffau 241 i 275, a gyhoeddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ym mis Ebrill 2015, yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch riportio'r achosion hyn o dorri'r gyfraith.

 

Cafodd Polisi Torri Amodau Cronfa Bensiwn Dyfed ei gymeradwyo gan Banel Cronfa Bensiwn Dyfed ym mis Mawrth 2016. O dan y polisi, roedd yn ofynnol i achosion o dorri'r gyfraith gael eu hadrodd i'r Rheoleiddiwr Pensiynau os oes achos rhesymol i gredu'r canlynol:

 

·   na chydymffurfir – neu na chydymffurfiwyd – â dyletswydd gyfreithiol sy'n berthnasol i'r gwaith o weinyddu'r cynllun;

 

·  bod yr anallu i gydymffurfio yn debygol o fod o arwyddocâd sylweddol i'r Rheoleiddiwr wrth iddo arfer unrhyw un o'i swyddogaethau.

 

Nododd y Pwyllgor fod ambell achos wedi bod ers y cyfarfod diwethaf lle nad oedd cyfraniadau gweithwyr/cyflogwr wedi'u derbyn ar amser. Nid oedd unrhyw adroddiad wedi'i anfon at y Rheoleiddiwr Pensiynau oherwydd nid oedd unrhyw oblygiadau i'r toriadau hynny.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed. 

 

 

10.

COFRESTR RISG pdf eicon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Gofrestr Risg yn ddogfen waith sy'n tynnu sylw at yr holl risgiau a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed. 

 

Dywedwyd bod y gofrestr risg wedi'i hadolygu ac nad oedd unrhyw newidiadau i risgiau unigol wedi'u nodi ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor.

 

Byddai'r risgiau yn parhau i gael eu hadolygu'n chwarterol, a byddai unrhyw newidiadau yn cael eu dwyn at sylw'r Pwyllgor.

 

Mewn ymateb i ymholiad a godwyd o ran effaith llif disgwyliedig o weithwyr dros y blynyddoedd nesaf ar y gyllideb, eglurodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol na fyddai effaith y gostyngiad yn nifer yr aelodau yn ddigon arwyddocaol iddi gael ei hamlygu ar y gofrestr risg.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo adroddiad y gofrestr risg.

 

 

11.

PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU - DIWEDDARIAD Y GWEITHREDWR pdf eicon PDF 111 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad diweddaru ar gerrig milltir a chynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru (WPP) gan gynnwys yr Is-gronfeydd canlynol:-

 

·       Cyfran 1 – Ecwiti Byd-eang

·       Cyfran 2 – Ecwiti y DU

·       Cyfran 3 - Incwm Sefydlog

·       Cyfran 4 – Marchnadoedd Datblygol

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y diweddariad gan Link a Russel ynghylch Partneriaeth Pensiwn Cymru. 

 

 

12.

CYNLLUN HYFFORDDI 2022-2023 pdf eicon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Derbyniodd y Pwyllgor y Cynllun Hyfforddi ar gyfer 2022-2023 i'w ystyried, a oedd yn darparu manylion am gyfarfodydd, digwyddiadau hyfforddi a'r aelodau a'r swyddogion y rhagwelwyd y byddent yn mynychu'r digwyddiadau.

 

Mewn ymateb i ymholiad a godwyd ynghylch cyfleoedd i'r Pwyllgor yn y dyfodol weld buddsoddiadau uniongyrchol, eglurodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn fod trafodaethau'n cael eu cynnal ar hyn o bryd i ymweld â swyddogion Schroders a'u buddsoddiadau yn Llundain.  Byddai manylion yn cael eu dosbarthu i Aelodau'r Pwyllgor maes o law.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo’r Cynllun Hyfforddi ar gyfer 2022/23. 

 

 

13.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

 

14.

ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 30 MEDI 2022

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 13 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 30 Medi, 2022.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys cefndir y farchnad fyd-eang a materion i'w hystyried.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fel yr oedd ar 30 Medi 2022. 

 

 

15.

ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 30 MEDI 2022

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 13 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Medi 2022 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau ers sefydlu'r gronfa.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Medi 2022. 

 

 

16.

ADRODDIADAU'R RHEOLWR BUDDSODDI AR 30 MEDI 2022

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 13 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiadau rheolwyr buddsoddi a oedd yn nodi perfformiad pob rheolwr fel yr oeddent ar 30 Medi 2022.

 

·         BlackRock - Adroddiad Chwarterol 30 Medi 2022

·         Schroders - Adroddiad Buddsoddi Ch3 2022

·         Partners Group - Adroddiad Chwarterol Ch3 2022

·         Cronfa Tyfu Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 30 Medi 2022

·         Cronfa Credyd Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 30 Medi 2022

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiadau'r rheolwr buddsoddi ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed.