Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|||||||||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||||||||
COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR Y 11EG TACHWEDD, 2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2024 yn gywir.
|
|||||||||||||
ADRODDIAD BWRDD PENSIWN CRONFA BENSIWN DYFED Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad y Bwrdd Pensiwn a gyflwynwyd gan Gadeirydd Bwrdd Pensiwn Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr eitemau a drafodwyd yng nghyfarfod y Bwrdd ar 8 Ionawr 2025.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Bwrdd Pensiwn Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Ionawr, 2025
|
|||||||||||||
MONITRO'R GYLLIDEB A'R SEFYLLFA O RAN ARIAN PAROD AR 31 RHAGFYR 2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad Monitro Cyllideb a Sefyllfa Arian Parod Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol ac arian parod ddiweddaraf o ran blwyddyn ariannol 2024/25. Nodwyd mai'r sefyllfa bresennol, fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2024, oedd gorwariant rhagamcanol o gymharu â chyllideb o £2m.
Dywedwyd mai'r gorwariant a ragwelwyd oedd £6.9m. Rhagwelwyd y byddai gorwariant o £178k ar bensiynau taladwy, £3.5m ar fuddion ymddeol ar ffurf cyfandaliadau a £4.1m ar daliadau i ymadawyr. Rhagwelwyd y byddai tanwariant o £836k ar dreuliau rheolwyr. Wrth osod y gyllideb, roedd lwfans o 0.5% wedi'i gynnwys ar gyfer y cynnydd mewn aelodaeth pensiynwyr, ond roedd y cynnydd gwirioneddol hyd at fis Rhagfyr ychydig yn uwch. Nodwyd bod taliadau mewn perthynas â buddion ymddeol ar ffurf cyfandaliadau a thaliadau i ymadawyr wedi bod yn uwch nag y rhagwelwyd. Mae'r taliadau hyn yn dibynnu ar nifer yr ymddeoliadau a'r ymadawyr drwy gydol y flwyddyn na ellir ei ragweld wrth osod y gyllideb. Felly, roedd y gyllideb ddrafft ar gyfer 2025-2026 yn cynnwys cynnydd yn y gyllideb ar gyfer y gwariant hwn. O ran ffioedd, roedd y costau hyd at fis Rhagfyr 2024 ychydig yn is na'r hyn a ragwelwyd wrth osod y gyllideb.
O ran incwm, rhagwelwyd y byddai cyfraniadau £2.4m yn fwy na'r hyn a gyllidebwyd, a oedd i'w briodoli'n bennaf i fwy o incwm ychwanegol gan gyflogwyr nag a ragwelwyd wrth osod y gyllideb. Rhagwelwyd y byddai trosglwyddiadau i mewn yn fwy na'r gyllideb o £5m gan fod yr incwm hyd yn hyn yn uwch na'r disgwyl, a rhagwelwyd y byddai incwm buddsoddi £2.5m yn is na'r gyllideb.
Amcangyfrifwyd mai cyfanswm y gwariant cyffredinol oedd £140.5m ac mai cyfanswm yr incwm oedd £138.5m, gan arwain at amrywiant negyddol yn erbyn y gyllideb o £2m.
Gofynnwyd pa ragdybiaethau oedd wedi'u gwneud mewn perthynas â chyfrifo'r gwahaniaeth mewn cyfandaliadau cyfnewid yn erbyn y gyllideb. Dywedodd y Swyddog Buddsoddiadau Pensiwn eu bod wedi dadansoddi'r data a'r tueddiadau am y 2-3 blynedd diwethaf gan arwain at gyllideb o £20m ar gyfer cyfandaliadau a ystyriwyd yn ddigonol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Monitro Cyllideb a Sefyllfa Arian Parod Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2024.
|
|||||||||||||
CYLLIDEB CRONFA BENSIWN DYFED 2025-2026 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2025-26 gan nodi bod y gyllideb gwariant wedi'i gosod ar £147.3m a'r gyllideb incwm ar £147.3m, gan arwain at gyllideb sero net a thrwy hynny rhoi hyblygrwydd i'r Gronfa ddefnyddio incwm buddsoddi yn seiliedig ar ofynion cyllidebol.
O ran lefelau gwariant, nododd y Pwyllgor fod y buddion sydd i'w talu wedi cael eu hamcangyfrif i fod yn £127.5m a oedd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cynnydd o 1.7% yn y pensiynau, ar sail Mynegai Prisiau Defnyddiwr mis Medi 2024, ynghyd â chynnydd o 1.65% ar gyfer aelodau gohiriedig ac aelodau sy'n bensiynwyr. Yn ogystal, roedd cynnydd yn y gyllideb o £8.1m hefyd wedi’i ddyrannu ar gyfer buddion ymddeol ar ffurf cyfandaliadau a thaliadau i ymadawyr.
Amcangyfrifwyd bod treuliau rheolwyr yn £12m, ac o blith hwn roedd £9.2m wedi cael ei glustnodi ar gyfer ffioedd rheolwyr buddsoddi.
Nodwyd yr amcangyfrifwyd bod cyfraniadau'n £112.2m gan gynnwys cyfraniadau cyflogwyr o £82m a chyfraniadau gweithwyr o £30.2m. Roedd 3% ychwanegol hefyd wedi cael ei gynnwys ar gyfer dyfarniadau cyflog a chynyddrannau am y flwyddyn.
Nodwyd ymhellach yr amcangyfrifwyd bod incwm buddsoddi yn £26.6m i gynnal cyllideb sero net felly nid oedd y gronfa yn cadw arian parod dros ben y gellid ei fuddsoddi. O 1 Ebrill 2025 byddai incwm a gynhyrchir o Gronfa Credyd Byd-eang PPC yn cael ei ddosbarthu fel arian parod i'r Gronfa yn hytrach na chael ei ailfuddsoddi.
Wrth gyfeirio at y dyfarniadau cyflog / cynyddrannau o 3% y cyllidebwyd ar eu cyfer, dywedodd y Swyddog Buddsoddiadau Pensiwn fod hwn yn amcangyfrif darbodus yn seiliedig ar y blynyddoedd diwethaf a'i fod yn unol â chyllideb y Cyngor.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2025-26.
|
|||||||||||||
ADRODDIAD GWEINYDDU PENSIYNAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Weinyddu Pensiynau. Roedd yr adroddiad yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y gweithgareddau yn y gwasanaeth Gweinyddu Pensiynau ac roedd yn cynnwys materion rheoleiddiol, y gofrestr torri amodau, i-Connect, cysoniad GMP a llif gwaith.
Mewn ymateb i'r siom a fynegwyd ynghylch y diffyg cynnydd a oedd wedi'i wneud o ran Heddlu Dyfed-Powys, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol ei bod yn y pen draw yn fater i'r cyflogwr weithio drwyddo ac a oedd y gwaith ar ei restr flaenoriaeth. Gallai amgylchiadau megis meddalwedd cyflogres gyfredol fod yn ffactor sy'n cyfrannu at y mater.
PENDERFNYWD YN UNFRYDOL nodi'r Adroddiad Gweinyddu Pensiynau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.
|
|||||||||||||
POLISÏAU CRONFA BENSIWN DYFED Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a pholisïau atodedig. Nodwyd bod y Rheoleiddiwr Pensiynau wedi cyhoeddi côd ymarfer newydd ar gyfer cynlluniau pensiwn, yn ystod 2024. Roedd y Côd Ymarfer Cyffredinol newydd yn disodli Côd Ymarfer 14 ar gyfer cynlluniau pensiwn gwasanaeth cyhoeddus ac yn cyfuno deg côd blaenorol gan y Rheoleiddiwr Pensiynau. Roedd y côd yn nodi un set o ddisgwyliadau clir, cyson ynghylch llywodraethu a gweinyddu cynlluniau i roi arweiniad i gyrff llywodraethu megis pwyllgorau pensiwn a byrddau pensiwn. I helpu i gydymffurfio â'r côd newydd, gofynnwyd i'r Pwyllgor gymeradwyo'r canlynol: · Polisi Gwybodaeth a Sgiliau · Strategaeth Weinyddu · Polisi Cyfathrebu · Polisi Cadw Data Personol · Polisi Cynllun yn Talu Gwirfoddol · Polisi Cwynion a Chanmoliaeth · Polisi Torri Amodau
PENDERFYNODD YN UNFRYDOL gymeradwyo Polisïau Cronfa Bensiwn Dyfed fel y'u nodir yn yr adroddiad.
|
|||||||||||||
CYNLLUN BUSNES 2025-2028 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2025-2028 i'w ystyried. Diben y cynllun oedd:
· Darparu gwybodaeth am y Gronfa a sut roedd yn cael ei gweithredu. · Egluro cefndir a strwythur llywodraethu'r Gronfa. · Amlinellu prif gyfrifoldebau'r Gronfa. · Cyflwyno dogfennau allweddol y Gronfa. · Tynnu sylw at strategaeth fuddsoddi'r Gronfa gan gynnwys dyrannu asedau strategol. · Darparu ystadegau allweddol ar gyfer y Gronfa. · Amlinellu'r gyllideb ariannol ar gyfer y flwyddyn nesaf. · Amlinellu blaenoriaethau ac amcanion busnes y Gronfa dros y tair blynedd nesaf.
Wrth gyfeirio at yr Egwyddor Graidd “Buddsoddi Cyfrifol: Rydym yn credu mewn buddsoddi cyfrifol a moesegol. Mae ein strategaeth fuddsoddi yn ymgorffori ystyriaethau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu i hyrwyddo cynaliadwyedd ac effaith gadarnhaol”, nodwyd nad oedd rhai buddsoddiadau o bosibl yn cyd-fynd â'r egwyddor hon. I gefnogi'r ddeiseb a gafwyd yn gynharach gan Undod â Phalesteina Sir Benfro, gofynnwyd a ellid ystyried dadfuddsoddi o Israel. Dywedodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn fod trafodaethau yn parhau ac y byddai rhagor o wybodaeth yn cael ei rhoi i'r Pwyllgor maes o law.
Cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod wedi derbyn y ddeiseb gan Undod â Phalesteina Sir Benfro yn gynharach yn y bore ac ymddiheurodd am beidio â sôn amdani ar ddechrau'r cyfarfod fel yr oedd wedi bwriadu ei wneud.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Cynllun Busnes Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2025-28.
|
|||||||||||||
ADRODDIAD TORRI AMODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor yr Adroddiad Torri Amodau i'w ystyried mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed a baratowyd yn unol ag Adran 70 Deddf Pensiwn 2004, Côd Ymarfer rhif 14 a Pholisi Torri Amodau Cronfa Bensiwn Dyfed.
Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at y rhestr o achosion o dorri amodau a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad a oedd yn manylu ar un achos lle nad oedd cyfraniadau wedi dod i law mewn pryd. Nid oedd unrhyw oblygiadau hirdymor yn gysylltiedig â'r achos hwn o dorri amodau. Nodwyd hefyd fod yr adroddiad wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu talu'n awtomatig ad-daliadau sy'n ddyledus ar gyfer y cyfnod Tachwedd 2024 i Fawrth 2025.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.
|
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor y Gofrestr Risg i'w hystyried a oedd yn manylu ar yr holl risgiau a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor mai ffocws yr adolygiad o'r gofrestr risg ar gyfer y cyfarfod hwn oedd y risgiau gweithredol. Nodwyd bod 17 o risgiau y cyfeirir atynt ar y gofrestr a bod risg newydd (017 – Seiberddiogelwch) wedi'i hychwanegu at y gofrestr ers y cyfarfod blaenorol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi adroddiad y gofrestr risg.
|
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||
Cynllun Hyfforddi 2024-2025 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Hyfforddi 2024/25 i'w hystyried a oedd yn manylu ar amserlen cyfarfodydd y pwyllgor, a digwyddiadau hyfforddi ar gyfer aelodau a swyddogion Cronfa Bensiwn Dyfed, ynghyd â'r cynllun arfaethedig.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Cynllun Hyfforddi ar gyfer 2024/25.
|
|||||||||||||
Cynllun Hyfforddi 2025-2026 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor Gynllun Hyfforddi 2025/26 i'w ystyried a oedd yn manylu ar amserlen cyfarfodydd y pwyllgor, a digwyddiadau hyfforddi ar gyfer aelodau a swyddogion Cronfa Bensiwn Dyfed, ynghyd â chynllun arfaethedig 2025-26.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Cynllun Hyfforddi ar gyfer 2025/26.
|
|||||||||||||
DIWEDDARIAD BUDDSODDI CYFRIFOL PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad diweddaru Buddsoddiadau Cyfrifol PPC Medi 2024 a oedd yn manylu ar weithgarwch Buddsoddiadau Cyfrifol diweddar ynghyd â gwybodaeth am yr Is-gronfeydd canlynol yr oedd Cronfa Bensiwn Dyfed wedi buddsoddi ynddynt:
· Twf Byd-eang · Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy · Credyd Byd-eang
Yn ogystal â'r uchod, roedd y wybodaeth ddiweddaraf hefyd yn darparu Crynodeb Stiwardiaeth ynghyd â'r atodiadau perthnasol rhif 1-4 yn yr adroddiad.
Roedd yr adroddiad wedi'i baratoi gan Ymgynghorydd Goruchwylio PPC (Hyman Robertson) ar y cyd â PPC.
Mewn ymateb i ymholiad am y diffyg cynnydd a ddangosir ar y graff bar, cadarnhaodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn fod cynnydd cyfyngedig wedi'i wneud yn ystod y cyfnod hwn ond bod y gwaith yn parhau a bod y ffigurau yn adroddiad mis Rhagfyr yn dangos gwelliant.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad diweddaru.
|
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad diweddaru Buddsoddiadau Cyfrifol PPC Rhagfyr 2024 a oedd yn manylu ar weithgarwch Buddsoddiadau Cyfrifol diweddar ynghyd â gwybodaeth am yr Is-gronfeydd canlynol yr oedd Cronfa Bensiwn Dyfed wedi buddsoddi ynddynt:
· Twf Byd-eang · Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy · Credyd Byd-eang
Yn ogystal â'r uchod, roedd y wybodaeth ddiweddaraf hefyd yn darparu Crynodeb Stiwardiaeth ynghyd â'r atodiadau perthnasol rhif 1-4 yn yr adroddiad.
Roedd yr adroddiad wedi'i baratoi gan Ymgynghorydd Goruchwylio PPC (Hyman Robertson) ar y cyd â PPC.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad diweddaru.
|
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Gwybodaeth Ddiweddaraf a Chynllun Busnes Cyd-bwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC). Roedd yr adroddiadau yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor o gyfarfod Cyd-bwyllgor Llywodraethu PPC a gynhaliwyd ar 12 Mawrth 2025 ac yn cynnwys:
· Crynodeb o'r eitemau ar yr agenda a'r trafodaethau · Adolygiad o Gynllun Busnes PPC 2024-2025 - Chwarter 3 (Ebrill – Rhagfyr 2024) · Cynllun Hyfforddi PPC 2025-26 · Cynllun Busnes PPC 2025-2028 (i'w gymeradwyo yn ystod y cyfarfod hwn) · Diweddariad gan y gweithredwr · Crynodeb o Berfformiad PPC Chwarter 4 2024 · Credyd Preifat Byd-eang PPC – Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Vintage 1 a 11
Nodwyd bod Cynllun Busnes PPC wedi'i ddrafftio yn unol ag Adran 6 o'r Cytundeb Rhwng Awdurdodau. Diben y cynllun yw:
· Egluro cefndir a strwythur llywodraethu PPC · Amlinellu blaenoriaethau ac amcanion PPC dros y tair blynedd nesaf · Cyflwyno polisïau a chynlluniau PPC · Amlinellu'r gyllideb ariannol ar gyfer cyfnod y Cynllun Busnes perthnasol · Crynhoi Buddsoddiadau ac Amcanion Perfformiad PPC
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
|
|||||||||||||
CPLlL: FIT FOR THE FUTURE - CYFLWYNIAD PPC I'R LLYWODRAETH Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cyflwyniad PPC i'r Llywodraeth ynghylch ymgynghoriad Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol: Addas ar gyfer y Dyfodol.
Fel rhan o ymgynghoriad Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol: Addas ar gyfer y Dyfodol, a gyhoeddwyd ar 14 Tachwedd 2024, gofynnwyd i'r cronfeydd gyflwyno cynnig, yn ogystal â'r ymateb i'r ymgynghoriad, yn nodi sut y byddent yn cyflawni'r model cyfuno arfaethedig a chwblhau'r gwaith o drosglwyddo'r holl asedau, gan gynnwys asedau etifeddol.
Nodwyd bod gr?p prosiect PPC (Project Snowdon) wedi'i sefydlu yn cynnwys swyddogion Adran 151 / ymarferwyr o'r wyth awdurdod a chynrychiolwyr o ddarparwyr gwasanaeth penodedig PPC (Hymans Robertson, Waystone, Russell Investments a Burges Salmon) i adolygu a datblygu'r cynnig. Hefyd cafodd swyddogion PPC sawl cyfarfod gyda Thrysorlys ei Fawrhydi a'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ynghylch dyfodol PPC a sut roedd yn bwriadu cyflawni amcanion y Llywodraeth.
Roedd y cynnig drafft wedi'i gyflwyno i'r Llywodraeth o fewn yr amserlen. Roedd y cyflwyniad hwn yn nodi'r achos busnes cymhellol i PPC gadw cronfa fuddsoddi annibynnol ar gyfer Cymru a bwrw ymlaen â chreu'r gofynion newydd arfaethedig ychwanegol gan y Llywodraeth ar gyfer y model gweithredu cronfa. Roedd hyn yn cyflawni'r ystod o amcanion yr oedd y Llywodraeth wedi'u nodi yn ei huchelgeisiau ar gyfer cynnydd y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, ac yn benodol y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru. Roedd PPC yn cynnig sefydlu cwmni rheoli buddsoddiadau annibynnol a awdurdodir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn unol â meini prawf y Llywodraeth a symud holl asedau PPC i gael eu rheoli gan y cwmni yn unol â'r amserlenni a amlinellwyd. Roedd y cyflwyniad yn dangos y gwerthusiad gwrthrychol o gynlluniau yn erbyn y meini prawf a nodwyd gan y Llywodraeth (Buddion Graddfa, Gwydnwch, Gwerth am Arian, Hyfywedd yn erbyn amserlen) a sut mai hwn oedd yr opsiwn gorau o gymharu â'r lleill.
Mewn ymateb i ymholiad am ble y byddai'r cwmni newydd yn debygol o fod wedi'i leoli, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol nad oedd unrhyw benderfyniad wedi'i wneud ond y gallai canol dinas Caerdydd fod yn lleoliad priodol er mwyn iddo ddenu'r sgiliau a ddymunir sydd eu hangen i weithredu'r cwmni newydd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi cyflwyniad PPC i'r Llywodraeth ynghylch ymgynghoriad Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol: Addas ar gyfer y Dyfodol.
|
|||||||||||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (NODER: Ar ôl i'r eitem hon ddod i ben, cafodd y Pwyllgor egwyl am 15 munud)
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|||||||||||||
ADRODDIAD YMGYSYLLTU ROBECO 1 GORFFENNAF 2024 - 30 MEDI 2024 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 16 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn er anfantais i aelodau'r gronfa.
Cafodd y Pwyllgor adroddiad ymgysylltu Robeco i'w ystyried ar gyfer y cyfnod adrodd 1 Gorffennaf 2024 – 30 Medi 2024. Roedd yr adroddiad yn rhoi ystadegau manwl mewn perthynas â gweithgareddau ymgysylltu a gynhaliwyd ar bortffolio PPC yn ystod y chwarter, a detholiad o astudiaethau achos o weithgarwch ymgysylltu a gynhaliwyd mewn perthynas ag Arferion Llafur mewn Byd ar ôl Covid-19.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiad Ymgysylltu Robeco ar gyfer y cyfnod adrodd 1 Gorffennaf 2024 - 30 Medi 2024.
|
|||||||||||||
ADRODDIAD YMGYSYLLTU ROBECO 1 HYDREF 2024 - 31 RHAGFYR 2024 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 16 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn er anfantais i aelodau'r gronfa.
Cafodd y Pwyllgor adroddiad ymgysylltu Robeco i'w ystyried ar gyfer y cyfnod adrodd 1 Hydref 2024 – 31 Rhagfyr 2024. Roedd yr adroddiad yn rhoi ystadegau manwl mewn perthynas â gweithgareddau ymgysylltu a gynhaliwyd ar bortffolio PPC yn ystod y chwarter, a detholiad o astudiaethau achos o weithgarwch ymgysylltu a gynhaliwyd mewn perthynas â Chyflymu tuag at Gytundeb Paris.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiad Ymgysylltu Robeco ar gyfer y cyfnod adrodd 1 Hydref 2024 - 31 Rhagfyr 2024.
|
|||||||||||||
ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 31 RHAGFYR 2024 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 16 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn er anfantais i aelodau'r gronfa.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a oedd yn rhoi gwybodaeth am berfformiad y rheolwyr buddsoddi ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2024. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys cefndir y farchnad fyd-eang a materion i'r Pwyllgor eu hystyried.
Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi manylion am 5 argymhelliad i'w cymeradwyo.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2024 a chymeradwyo'r argymhellion.
|
|||||||||||||
ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 31 RHAGFYR 2024 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 16 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn er anfantais i aelodau'r gronfa.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2024 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau ers i'r gronfa gychwyn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2024.
|
|||||||||||||
DIWEDDARIAD RUSSELL INVESTMENTS Cofnodion:
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad Russell Investments a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Gronfa Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy a'r Gronfa Twf Byd-eang (Ecwitïau) a'r Gronfa Credyd Byd-eang (Bondiau Incwm Sefydlog).
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi adroddiad diweddaru Russell Investments.
|