Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Julie Owens 01267 224088
Rhif | eitem | ||||
---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd R. James yn ystod y cyfarfod. |
|||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol. |
|||||
COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 26 MEHEFIN 2023 PDF 127 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor ar 26 Mehefin 2023 yn gofnod cywir. |
|||||
COFNODION BWRDD PENSIWN CRONFA BENSIWN DYFED 18 EBRILL 2023 PDF 112 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod cofnodion cyfarfod Bwrdd Pensiwn Cronfa Bensiwn Dyfed ar 18 Ebrill 2023 yn cael eu derbyn. |
|||||
RHAGARCHWILIAD O DDATGANIAD CYFRIFON 2022-23 PDF 111 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor Datganiad o Gyfrifon Cyn-archwilio Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2022-23 a oedd yn darparu gwybodaeth am y sefyllfa ariannol, perfformiad a hyblygrwydd ariannol y Gronfa am y cyfnod adrodd.
Rhoddwyd trosolwg i'r Pwyllgor ar y pwyntiau amlycaf yn yr adroddiad, a oedd yn ystyried a oedd y datganiad ariannol yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed ar 31 Mawrth 2023 a'r incwm a'r gwariant yn ystod y flwyddyn honno.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol wrth y Pwyllgor fod disgwyl i Archwilio Cymru orffen ei archwiliad erbyn diwedd Hydref 2023, ac yn dilyn hynny byddai'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ystyried Datganiad Cyfrifon Cronfa Bensiwn Dyfed.
Mewn ymateb i ymholiad ynghylch cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol, eglurwyd i'r Aelodau fod y ffigwr yn cynrychioli'r swm arian a dalwyd i mewn i'r Gronfa lle mae'r aelodau wedi defnyddio elfen o'u cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol i brynu buddion pensiwn ychwanegol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Datganiad Cyfrifon Cyn-archwilio Cronfa Bensiwn Dyfed 2022/23. |
|||||
MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL 2023 - 30 MEHEFIN 2023 PDF 117 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Monitro Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol o ran blwyddyn ariannol 2023/24. Nodwyd bod y sefyllfa bresennol, fel yr oedd ar 30 Mehefin 2023, yn danwariant o gymharu â'r gyllideb o £0.9m.
O ran gwariant, rhagwelid tanwariant o £1.3m ar Bensiynau Taladwy o achos yr amrywiant rhwng y cynnydd a amcangyfrifwyd a'r cynnydd gwirioneddol mewn aelodaeth pensiynwyr hyd yn hyn. Fodd bynnag, pwysleisiwyd y gallai'r ffigwr hwn amrywio yn ystod y flwyddyn.
Roedd effaith net y cyfraniadau a'r incwm buddsoddi £0.4m islaw'r gyllideb. I'r perwyl hwn, eglurwyd roeddid yn rhagweld byddai cyfraniadau £1.9m dros y gyllideb o ganlyniad i aelodau pensiynadwy ar y gyflogres, a gan fod yr incwm buddsoddi £2.3m islaw'r gyllideb roedd hynny'n gwneud iawn amdano.
Amcangyfrifwyd mai cyfanswm y gwariant cyffredinol oedd £121.5m ac mai cyfanswm yr incwm oedd £122.4m, gan arwain i sefyllfa llif arian gadarnhaol o £0.9m.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2023 hyd at 30 Mehefin 2023. |
|||||
CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 30 MEHEFIN 2023 PDF 105 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed. Nodwyd ar 30 Mehefin, 2023 fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £7.8m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad Cysoni Arian Parod Cronfa Bensiwn Dyfed. |
|||||
ADRODDIAD GWEINYDDU PENSIYNAU PDF 112 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a roddai ddiweddariad ar Weinyddu Pensiynau. Roedd yr adroddiad yn cynnwys diweddariadau ar y gweithgareddau yn y gwasanaeth Gweinyddu Pensiynau ac roedd yn cynnwys materion rheoleiddiol, y gofrestr torri amodau, i-Connect, cysoniad GMP a llif gwaith.
Cyfeiriwyd at ddiweddariad McCloud/Sargeant lle nodwyd bod cynnydd da'n cael ei wneud o ran cysoni a dilysu data a bod datrys ymholiadau hefyd wedi cychwyn. Mewn ymateb i'r Pwyllgor, cadarnhawyd bod y rheoliadau wedi cael eu cyflwyno ers cyhoeddi'r adroddiad, a bod cyflenwr y meddalwedd yn dal i wneud gwaith i adlewyrchu'r newidiadau yn y system bensiynau, ac a fyddai'n nodi'r gofynion ymyrraeth.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr Adroddiad Gweinyddu Pensiynau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi. |
|||||
ADRODDIAD TORRI AMODAU PDF 114 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor yr Adroddiad Torri Amodau i'w ystyried mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed a baratowyd yn unol ag Adran 70 Deddf Pensiwn 2004, Côd Ymarfer rhif 14 a Pholisi Torri Amodau Cronfa Bensiwn Dyfed.
Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at y rhestr o achosion o dorri rheolau a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad a oedd yn manylu ar yr achosion lle nad oedd cyfraniadau gweithwyr/cyflogwyr wedi dod i law mewn pryd. I'r perwyl hwn, cyfeiriodd Rheolwr y Trysorlys a Phensiynau at achos o dorri amodau a adroddwyd mewn perthynas â Chyflogwr a oedd wedi methu'n rheolaidd dalu'r cyfraniadau gofynnol i'r Gronfa. Mewn diweddariad i'r Pwyllgor, cadarnhaodd yr adroddiad fod y Rheoleiddiwr Pensiynau hefyd wedi cael gwybod fod y Cyflogwr wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr ac amcangyfrifwyd mai'r cyfraniadau oedd yn ddyledus i'r Gronfa hyd yn hyn oedd 7,230.56. Rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor fod trafodaethau'n parhau rhwng y Gronfa a'r gweinyddwyr ynghylch y cyfraniadau oedd yn ddyledus.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed. |
|||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor y Gofrestr Risg, a oedd yn manylu ar yr holl risgiau gweithredol a strategol a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed, i'w hystyried.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y gofrestr risg wedi'i hadolygu ac nad oedd unrhyw newidiadau i risgiau unigol wedi'u nodi ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD YN UNFYRDOL i nodi adroddiad y gofrestr risg. |
|||||
PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU: PDF 115 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bod y Pwyllgor yn cael i'w hystyried y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau a chynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru fel a ganlyn: |
|||||
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF GAN Y CYD-BWYLLGOR LLYWODRAETHU PDF 136 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd adroddiad Cyd-bwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru grynodeb o'r eitemau a ystyriwyd yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2023. Mewn ymateb i ymholiad ynghylch buddsoddi cyfrifol yng nghyd-destun risgiau newid hinsawdd, cadarnhaodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn fod hwn wedi bod yn faes blaenoriaeth i Gronfa Bensiwn Dyfed ers blynyddoedd lawer a bod momentwm wedi cyflymu ar draws Awdurdodau Cyfansawdd yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf. Canmolwyd yr Awdurdod gan y Pwyllgor am ei ymagwedd ragweithiol at fuddsoddi cyfrifol a monitro risgiau cysylltiedig â'r hinsawdd. Awgrymwyd bod swyddogion yn edrych ar gyfleoedd i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd a hyrwyddo ymhellach ymdrechion yr Awdurdod yn hyn o beth.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn diweddariad Partneriaeth Pensiwn Cymru ar y Cyd-bwyllgor Llywodraethu. |
|||||
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF GAN Y GWEITHREDWR PDF 496 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adolygodd y Pwyllgor adroddiad y gweithredwr a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gerrig milltir a chynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru mewn perthynas â'r Is-gronfeydd ynghyd â Diweddariad Corfforaethol ac Ymgysylltu, gan gynnwys y protocol ymgysylltu.
Wrth ystyried yr is-gronfa ecwiti, dywedwyd wrth y Pwyllgor, mewn ymateb i ymholiad, fod Cronfa Bensiwn Dyfed wedi dewis peidio â buddsoddi yn UK Opportunities ar sail y wybodaeth oedd ar gael adeg lansio'r is-gronfa ecwiti yn 2018-19, ac yn unol â dyhead risg Cronfa Bensiwn Dyfed. Yn ogystal, cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fod digon o sylw'n cael ei roi i Gronfa Bensiwn Dyfed drwy'r portffolio Passive.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y diweddariad gan Weithredwr Partneriaeth Pensiwn Cymru. |
|||||
CYNLLUN HYFFORDDI 2023-2024 PDF 103 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad i'w ystyried ynghylch y Cynllun Hyfforddi ar gyfer y cyfnod 2023-2024 a oedd yn manylu ar amserlen cyfarfodydd y pwyllgor, a digwyddiadau hyfforddi ar gyfer aelodau a swyddogion Cronfa Bensiwn Dyfed.
Cyfeiriwyd at Gynhadledd Flynyddol LAPFF a oedd i'w chynnal yn Bournemouth 6 – 8 Rhagfyr 2023. Yn dilyn trafodaeth, cytunwyd, pe bai llefydd ar gael, fyddai'r Pennaeth Gwasanaethau Ariannol yn mynychu gyda'r Cyng. N. Lewis i gynrychioli Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Cynllun Hyfforddi ar gyfer 2023-24. |
|||||
ADOLYGIAD O'R DYRANIAD ASEDAU STRATEGOL 2023 PDF 114 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 26 Mehefin 2023 (gweler cofnod rhif 13), rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a gyflwynai ganfyddiadau dyrannu asedau strategol portffolio buddsoddi Cronfa Bensiwn Dyfed. Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at Dabl 1 yr adroddiad a oedd yn cynnig pum portffolio amgen i'r Pwyllgor Pensiynau i optimeiddio risg ac elw yn unol ag amcanion a gofynion y Gronfa. Yn dilyn rhoi ystyriaeth fanwl i Ddadansoddiad Optimeiddio Portffolio yr adolygiad, ynghyd ag opsiynau ac ystyriaethau'r Portffolio, PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL FOD:
Opsiwn 1A (newid dyraniad 5% o Ecwiti i Gredyd Preifat) yn cael ei fabwysiadu am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad. |
|||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf. |
|||||
MEINI PRAWF GWERTHUSO - PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU CAFFAEL GWEITHREDWR Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 14 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
Adolygodd y Pwyllgor y meini prawf gwerthuso a'r pwysoliadau o ran proses gaffael gweithredwr Partneriaeth Pensiwn Cymru a oedd ar waith eisoes. Nodwyd bod y Gwahoddiad i Dendro i fod i gael ei roi ganol mis Hydref 2023.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r meini prawf gwerthuso a nodwyd yn yr adroddiad ar gyfer caffael Gweithredwr Partneriaeth Pensiwn Cymru. |
|||||
ADOLYGIAD O BERFFORMIAD BENTHYCA GWARANNAU NORTHERN TRUST 2022-23 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 14 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
Cafodd y Pwyllgor i'w ystyried adolygiad Perfformiad Benthyca Gwarannau Northern Trust ar gyfer 2022-23, a nodai wybodaeth oedd yn ymwneud â throsolwg o'r rhaglen, tueddiadau'r farchnad ac arsylwadau, dadansoddi perfformiad a dadansoddi cyfochrog.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adolygiad Perfformiad Benthyca Gwarannau Northern Trust 2022-23. |
|||||
ADRODDIAD YMGYSYLLTU ROBECO 1 IONAWR 2023 - 31 MAWRTH 2023 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 14 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ymgysylltu Robeco ynghylch y cyfnod 1 Ionawr 2023 – 31 Mawrth 2023 i'w ystyried. Roedd yr adroddiad yn rhoi ystadegau manwl mewn perthynas â gweithgareddau ymgysylltu a gynhaliwyd ar bortffolio'r Bartneriaeth yn ystod y chwarter, a detholiad o astudiaethau achos o'r gweithgareddau ymgysylltu wnaed.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Ymgysylltu Robeco am y cyfnod 1 Ionawr 2023 - 31 Mawrth 2023. |
|||||
ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 30 MEHEFIN 2023 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 14 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 30 Mehefin 2023. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys cefndir y farchnad fyd-eang a materion a ystyriwyd gan y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
|
|||||
ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 30 MEHEFIN 2023 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 14 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad Perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Mehefin 2023, a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau cyn i'r gronfa gychwyn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad Perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Mehefin 2023. |
|||||
ADRODDIADAU'R RHEOLWR BUDDSODDI AR 30 MEHEFIN 2023 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 14 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiadau'r rheolwr buddsoddi a oedd yn nodi perfformiad pob rheolwr fel yr oeddent ar 30 2023.
· BlackRock - Adroddiad Chwarterol 30 Mehefin 2023; · Schroders - Adroddiad Buddsoddi Ch2 2023; · Partners Group - Adroddiad Chwarterol Ch2 2023; · Cronfa Tyfu Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 30 Mehefin 2023; · Cronfa Credyd Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 30 Mehefin 2023.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiadau'r rheolwr buddsoddi ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed. |