Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed - Dydd Llun, 11eg Tachwedd, 2024 2.30 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor ei fod, wrth arfer ei swyddogaethau dewisol, wedi caniatáu i aelod o'r cyhoedd (Dr S. Conlan ar ran Ms S. Davies) ofyn y cwestiwn canlynol i Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed na fyddai'n cael ei drafod a bod ateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

Cwestiwn gan Dr Conlan (ar ran Ms Davies):-

 

Rwyf wedi derbyn ymateb gan Gadeirydd y Gronfa i'm cwestiwn ynghylch rhoi'r gorau i fuddsoddi mewn cwmnïau sy'n cynorthwyo torri cyfraith ryngwladol gan Israel.

 

Dywedodd wrthyf fod buddsoddiadau'r Gronfa yn Israel yn gyfanswm o tua £1.3 miliwn ac ychwanegodd, "mewn ymateb i honiadau bod y Gronfa wedi buddsoddi dros £64 miliwn mewn cwmnïau sy'n ymwneud â meddiannaeth ddiwydiannol, fasnachol a milwrol Israel ar dir Palesteina, nodaf fod mwyafrif ybuddsoddiadau hyn mewn cwmnïau nad ydynt wedi'u cynnwys ar gronfa ddata
Swyddfa Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Hawliau Dynol (OHCHR) o fentrau busnes sy'n ymwneud â gweithgareddau a restrir neu fentrau busnes sy'n ymwneud â gweithgareddau fel rhiant-gwmnïau."


Mae'n bwysig nodi mai'r cwmnïau hynny ar gronfa ddata OHCHR yw'r "...holl fentrau busnes sy'n ymwneud â rhai gweithgareddau penodol sy'n gysylltiedig ag aneddiadau Israel yn y tiriogaethau Palesteinaidd a feddiannir, gan gynnwys Dwyrain Jerwsalem."


Mae goresgyniad Gaza ac yna lladd ac anafu nifer helaeth o sifiliaid diniwed wedi newid y sail gyfreithiol a moesegol ar gyfer dewis y buddsoddiadau yn Israel y dylid rhoi'r gorau i fuddsoddi ynddynt.


Mae'r pwyntiau allweddol am ddyfarniad y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol (ICJ) ar oresgyniad Gaza yn cael eu mynegi'n dda gan Amnest Rhyngwladol: “Mae'r ICJ wedi cyhoeddi ei farn ac mae'r casgliad yn eglur: Mae meddiannaeth a chyfeddiant y tiriogaethau Palesteinaidd gan Israel yn anghyfreithlon, ac mae ei deddfau a'i pholisïau gwahaniaethol yn erbyn Palestiniaid yn torri'r gwaharddiad ar wahanu hiliol ac apartheid." Mae'r tiriogaethau Palesteinaidd a feddiannir yn cynnwys Gaza.


Mae Ymgyrch Cefnogi Palesteina wedi nodi bod gan Gronfa Bensiwn Dyfed
fuddsoddiadau o £64,438,687 mewn cwmnïau sydd 'naill ai'n
cynhyrchu arfau a thechnoleg filwrol a ddefnyddir gan Israel yn ei hymosodiadau ar Balestiniaid, yn darparu technoleg ac offer ar gyfer seilwaith meddiannaeth filwrol Israel, neu'n weithredol yn aneddiadau anghyfreithlon Israel, ar dir Palestina sydd wedi'i ddwyn’.

 

Er nad yw nifer o'r cwmnïau hyn wedi'u cynnwys ar restr Swyddfa Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Hawliau Dynol, mae Ymgyrch Cefnogi Palesteina wedi defnyddio cronfeydd data eraill sy'n cynnal proffiliau cwmnïau sy'n ymwneud yn fasnachol ag economi meddiannaeth Israel, er enghraifft Canolfan Ymchwil Annibynnol Who Profits (https://www.whoprofits.org/).  Er fy mod yn nodi bod Robeco yn ymgysylltu â'r cwmnïau y mae Cronfa Bensiwn Dyfed yn buddsoddi ynddynt i fynd i'r afael â materion amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu, gan gynnwys hawliau dynol, mae gan Gronfa Bensiwn Dyfed ei datganiad egwyddorion ei hun y credaf fod yn rhaid iddo fod yn sail i ymgysylltiad Robeco. Yn amlwg dylai mandad Robeco nawr roi pwys mawr ar ddyfarniad yr ICJ.


Felly, fy nghwestiwn i'r Pwyllgor yw:  A fyddai pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed yn ymrwymo i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 1.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

D. Thomas, P. Warlow, E. Williams

Cyffredinol

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

N. . Lewis (yn bresennol yn y cyfarfod y diwrnod hwnnw fel sylwedydd yn rhinwedd ei swydd fel dirprwy aelod enwebedig o’r Gronfa Bensiwn)

Cyffredinol

Buddiolwr Cronfa Bensiwn Dyfed

 

3.

COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR Y 19 MEDI 2024 pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 19 Medi 2024, gan eu bod yn gywir. 

 

4.

ADRODDIAD BWRDD PENSIWN CRONFA BENSIWN DYFED pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiadau'r Bwrdd Pensiwn a roddai ddiweddariad ynghylch yr eitemau a drafodwyd yng nghyfarfod y Bwrdd a gynhaliwyd ar 29 Hydref 2024.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Adroddiadau Bwrdd Pensiwn Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Hydref 2024 yn cael eu derbyn.

 

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL A CHYFRIFON AC ARCHWILIAD O ADRODDIAD DATGANIADAU ARIANNOL CRONFA BENSIWN DYFED 2023-24 pdf eicon PDF 100 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor i'w nodi Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2023-24 a roddai wybodaeth am Lywodraethu, Buddsoddiadau a Gweinyddiaeth y Gronfa, gan gynnwys:

 

• Adroddiadau Rheolaeth a Pherfformiad Ariannol

• Polisi Buddsoddi ac Adroddiadau Perfformiad

• Adroddiad Gweinyddu'r Gronfa

• Adroddiad Actiwaraidd

• Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Pensiwn

• Datganiad Cyfrifon

• Polisïau a Strategaethau

 

Nododd Aelodau'r Pwyllgor fod asedau net y cynllun ar 31 Mawrth 2024 yn £3,475m (31 Mawrth 2023: £3,143m). Adroddwyd bod y cynnydd o £332m yng ngwerth asedau net yn bennaf o ganlyniad i werth buddsoddiadau'r Gronfa yn cynyddu yn ystod y flwyddyn.

 

 

Mewn perthynas ag Adroddiad Archwilio Datganiadau Ariannol 2023-24, croesawodd y Pwyllgor i'r cyfarfod Jason Blewitt, Cynrychiolydd Archwilio Cymru a gyflwynodd yr adroddiad ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed yn manylu ar y materion a oedd yn codi o'r archwiliad ac yr oedd angen adrodd yn eu cylch o dan Safon Ryngwladol ar Archwilio (ISA) 260. 

 

Nodwyd mai'r Archwilydd Cyffredinol sy'n gyfrifol am roi barn ynghylch a yw datganiadau ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed yn olwg gywir a theg ar ei sefyllfa ariannol ar 31 Mawrth 2024, a'i hincwm a'i gwariant yn ystod y flwyddyn honno. 

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod adroddiad archwilio diamod ynghylch y datganiadau ariannol wedi'i gyhoeddi a bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi ystyried yr adroddiad terfynol yn ei gyfarfod ar 27 Medi 2024 [gweler cofnod 9].

 

Roedd y Pwyllgor yn falch o nodi bod Archwilio Cymru yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar y cyfrifon a fyddai'n cael ei chyhoeddi ar ôl i Lythyr Sylwadau'r Gronfa ddod i law.  Roedd y Pwyllgor hefyd yn falch o nodi nad oedd unrhyw gamddatganiadau wedi'u nodi yn y datganiadau ariannol a oedd yn dal heb eu cywiro, neu yr oedd angen eu haddasu.

 

Dymunai'r Pwyllgor ddiolch yn ddiffuant i Archwilio Cymru am wneud yr Archwiliad ac i'r timau Buddsoddi a Gweinyddu Pensiynau am eu holl waith caled mewn archwiliad llwyddiannus.

 

Cyfeiriwyd at Ragair y Cadeirydd yn yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2023-24, lle'r oedd yn braf nodi'r gostyngiad o 18% yn yr ecwiti Dwysedd Carbon Cyfartalog wedi'i Bwysoli(WACI).  Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Annibynnol fod y gostyngiad yn WACI eleni, yn wir, wedi rhagori ar y targed blynyddol o 7%.

 

Cyfeiriwyd at dudalen 85 yr adroddiad - Cyrff heb weithwyr pensiynadwy.  Gofynnwyd am eglurhad ynghylch pwrpas 'dim gweithwyr pensiynadwy'.  Eglurodd y Rheolwr Pensiynau fod llawer o'r achosion o 'ddim gweithwyr pensiynadwy / dim cyfranwyr gweithredol' wedi'u priodoli i swyddogaethau a arferai fod yn swyddogaethau'r awdurdod lleol a drosglwyddwyd i ddarparwyr eraill, lle byddai'r ffioedd pensiwn wedyn yn cael eu hailgodi ar yr awdurdod lleol mewn perthynas â phob unigolyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ac Adroddiad ynghylch Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed 2023-24.</AI5>

 

6.

MONITRO'R GYLLIDEB A'R SEFYLLFA O RAN ARIAN PAROD AR 30 MEDI 2024 pdf eicon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb a'r Sefyllfa Arian Parod ar 30 Medi 2024 mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed. 

 

Mewn perthynas ag elfen Monitro'r Gyllideb yr adroddiad, dywedwyd bod tanwariant o £55k ar ddiwedd mis Medi o gymharu â'r gyllideb.

 

Mewn perthynas â gwariant, rhagamcanwyd bod gorwariant o £2.5m. Rhagwelwyd tanwariant o £168k yn y pensiynau taladwy a £785k mewn costau rheoli. Nodwyd hefyd, wrth osod y gyllideb, bod lwfans o 0.5% wedi'i gynnwys ar gyfer y cynnydd yn aelodaeth pensiynwyr, fodd bynnag, roedd y cynnydd gwirioneddol hyd at fis Medi ychydig yn uwch.  O ran ffioedd, roedd costau'r chwarter cyntaf ychydig yn uwch na'r hyn a ragwelwyd wrth bennu'r gyllideb

 

O ran incwm, rhagwelwyd y byddai hynny'n fwy na'r gyllideb o £2.4m. Rhagwelwyd y byddai cyfraniadau £2.8m yn fwy na'r hyn a gyllidebwyd, i'w briodoli'n bennaf i fwy o incwm ychwanegol gan gyflogwyr nag a ragwelwyd wrth osod y gyllideb. Yn ogystal, rhagwelwyd y byddai tâl pensiynadwy gweithwyr ychydig yn uwch nag a ragwelwyd wrth bennu'r gyllideb gan arwain at ragweld cyfraniadau ychwanegol. Rhagwelwyd y byddai trosglwyddiadau i mewn yn fwy na'r gyllideb o £2.5m a rhagwelwyd y byddai incwm buddsoddi £2.9m yn is na'r gyllideb.

 

Amcangyfrifwyd mai cyfanswm y gwariant cyffredinol oedd £136.13m ac mai cyfanswm yr incwm oedd £133.1m, gan arwain at amrywiant cadarnhaol o £2.9k.

 

Nodwyd, mewn perthynas â sefyllfa arian parod y Gronfa, fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £5.9m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad Monitro'r Gyllideb a Sefyllfa Arian Parod Cronfa Bensiwn Dyfed.</AI6>

 

7.

ADRODDIAD GWEINYDDU PENSIYNAU pdf eicon PDF 93 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a roddai ddiweddariad ar weinyddu pensiynau. Roedd yr adroddiad yn cynnwys diweddariadau ar y gweithgareddau yn y gwasanaeth gweinyddu pensiynau ac roedd yn cynnwys materion rheoleiddiol, y gofrestr torri amodau, i-Connect, cysoniad GMP a llif gwaith.

 

Wrth gyflwyno'r adroddiad, tynnodd y Rheolwr Pensiynau sylw at y meysydd allweddol i'r Pwyllgor eu nodi.  Wrth gyfeirio at y Dangosfyrddau Pensiynau, sef y prosiect mawr presennol, eglurodd y Rheolwr Pensiynau wrth y Pwyllgor yr atgoffwyd y Pwyllgor, wrth gynnal yr ymarfer sicrhau ansawdd a pharu data, fod darparwyr y cynllun yn defnyddio dulliau gwahanol o nodi aelodau'r cynllun, e.e. roedd Cronfa Bensiwn Dyfed yn defnyddio'r rhif Yswiriant Gwladol ond gall cynlluniau pensiwn eraill ddefnyddio dyddiad geni, cyfeiriad, cyfenw, ac ati.

 

Yn ogystal, byddai adolygiad cynnydd o'r rhaglen dangosfwrdd yn cael ei gynnal er mwyn asesu a fyddai angen adnoddau ychwanegol i sicrhau y cydymffurfir â'r terfyn amser statudol, sef Hydref 2025.

 

Nododd y Pwyllgor fod Cyngor Cymuned y Betws wedi gofyn am gael bod yn gyflogwr cynllun o 1 Hydref 2024. Gosodwyd eu cyfradd cyfraniadau’r cyflogwr yn 22%.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr Adroddiad Gweinyddu Pensiynau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi.  

 

8.

ADRODDIAD TORRI AMODAU pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor yr Adroddiad Torri Amodau i'w ystyried mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed a baratowyd yn unol ag Adran 70 Deddf Pensiwn 2004, Côd Ymarfer rhif 14 a Pholisi Torri Amodau Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

Tynnwyd sylw’r Pwyllgor at y rhestr o doriadau a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad a nodwyd na fu unrhyw achosion o dderbyn cyfraniadau’n hwyr gan gyflogwyr ers cyfarfod blaenorol y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed. </AI8>

 

9.

CYNLLUN HYFFORDDI 2024-2025 pdf eicon PDF 86 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.

ADRODDIAD ARCHWILIO MEWNOL - LLYWODRAETHU A BUDDSODDIADAU CRONFA BENSIWN DYFED pdf eicon PDF 93 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Archwilio Mewnol terfynol er gwybodaeth mewn perthynas â Llywodraethu a Buddsoddiadau Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2023-24.

 

Pwrpas yr archwiliad oedd asesu i ba raddau y mae gweithdrefnau digonol ar waith i ddarparu rheolaeth effeithiol dros lywodraethu a buddsoddiadau Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

Roedd yr adroddiad archwilio yn rhoi gwybodaeth fanwl am y canlynol:

• Barn Gyffredinol

• Sgôr Sicrwydd

• Crynodeb o'r Argymhellion

• Canfyddiadau Allweddol a Chynllun Gweithredu

 

Nododd y Pwyllgor y farn gyffredinol, fel yr adroddwyd, fod strwythur llywodraethu Cronfa Bensiwn Dyfed yn ddigon cadarn i sicrhau goruchwyliaeth effeithiol o gyfeiriad strategol y Gronfa.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr Adroddiad Archwilio Mewnol - Llywodraethu a Buddsoddiadau Cronfa Bensiwn Dyfed 2023-2024.

 

11.

YMATEB Y PWYLLGOR PENSIWN I BENDERFYNIAD Y BWRDD PENSIWN MEWN PERTHYNAS Â GRWP CWMNÏAU BUTE pdf eicon PDF 99 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor, ar gyfer cymeradwyaeth, yr ymateb i benderfyniad y Bwrdd Pensiwn mewn perthynas â Gr?p Cwmnïau Bute.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r ymateb i benderfyniad y Bwrdd Pensiwn a wnaed yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mai 2024 a atodwyd i'r adroddiad.  Byddai'r ymateb yn cael ei gyflwyno'n ffurfiol i'r Bwrdd Pensiwn yn ei gyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo’r ymateb i'r cais a gafwyd gan y Bwrdd Pensiwn.

 

12.

DIWEDDARIAD CYD-BWYLLGOR LLYWODRAETHU PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 98 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor, er ystyriaeth, ddiweddariad o gyfarfod Cyd-bwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru a gynhaliwyd ar 18 Medi 2024 a roddai ddiweddariad ar y canlynol:

 

·       Llywodraethu

·       Gwaith sy'n cael ei wneud i ddatblygu is-gronfeydd

·       Gwasanaethau Gweithredwyr

·       Buddsoddiadau ac Adrodd

·       Cyfathrebu a Hyfforddiant

·       Adnoddau, Cyllideb a Ffioedd

·       Cynllun Hyfforddi

 

Hefyd wedi'i gynnwys oedd adroddiad y Gweithredwr a roddai ddiweddariad ar y canlynol:

 

·       Diweddariadau'r Farchnad

·       Diweddariad Busnes – Goruchwylio Trydydd Partïon Ch2 2024

·       Gwerthoedd Is-gronfeydd Partneriaeth Pensiwn Cymru ar 30 Mehefin 2024

·       Cipolwg ar Gronfa Mehefin 2024 – Ecwiti ac Incwm Sefydlog

·       Lansiadau a Newidiadau'r Gronfa

·       Diweddariad ac Ymgysylltu Corfforaethol Waystone

 

Hefyd roedd crynodeb a sylwadau ynghylch perfformiad buddsoddi Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer Ch2 2024 (Ebrill - Mehefin 2024), ynghyd ag adroddiad gan Russell Investments ynghylch Cronfa Credyd Preifat Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru, wedi'u hatodi i'r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y diweddariad o gyfarfod Cyd-bwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru a gynhaliwyd ar 18 Medi 2024. 

 

13.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

14.

ADRODDIAD YMGYSYLLTU ROBECO 1 EBRILL 2024 - 30 MEHEFIN 2024

Cofnodion:

FollowingYn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 13 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn er anfantais i aelodau'r gronfa.

 

Cafodd y Pwyllgor ar gyfer ystyriaeth adroddiad ymgysylltu Robeco am y cyfnod adrodd 1 Ionawr 2024 – 30 Mehefin 2024 a roddai ystadegau manwl mewn perthynas â gweithgareddau ymgysylltu a gynhaliwyd ar bortffolio'r Bartneriaeth yn ystod y chwarter a detholiad o astudiaethau achos o weithgarwch ymgysylltu a gynhaliwyd mewn perthynas â Thrawsnewid Cyfiawn mewn Marchnadoedd Datblygol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiad Ymgysylltu Robeco am y cyfnod adrodd 1 Ionawr 2024 - 31 Mawrth 2024.</AI14>

 the application of the public interest test it was UNANIMOUSLY RESOLVED, pursuant to the Act referred to in Minute Item 13 above, to consider this matter in private, with the public excluded from the meeting as disclosure would adversely impact upon the Pension Fund to the detriment of fund members.

 

Committee received for consideration the Robeco engagement report for the reporting period 1 January 2024 – 30 June 2024 that provided detailed statistics in relation to engagement activities undertaken on the WPP portfolio during the quarter, together with a selection of case studies of engagement activity undertaken in relation to Just Transition in Emerging Markets.

 

UNANIMOUSLY RESOLVED that the Robeco Engagement Report for the reporting period 1 January 2024 – 31 March 2024 be noted.

 

15.

ADOLYGIAD BENTHYCA GWARANNAU BYD-EANG HYD AT 30 MEHEFIN 2024

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 13 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn er anfantais i aelodau'r gronfa.

 

Cafodd y Pwyllgor adroddiad ar yr Adolygiad Perfformiad Benthyca Gwarannau ar 30 Mehefin 2024 i'w nodi.  Roedd adroddiad Ch2 2024 yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:-

 

  • Benthyca Gwarannau: Y Galw yn Ch 2
  • Crynodeb ynghylch Benthyca Gwarannau: Ch2 2024 o gymharu â Ch1 2024
  • Asedau Benthyciadwy, Cyfartaledd ar Fenthyciad a Refeniw Net Ch2 2024
  • Dadansoddiad Refeniw: Ch2 2024
  • Dadansoddiad Benthyca: Ch2 2024
  • Meincnodi Perfformiad Northern Trust

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys gwybodaeth mewn perthynas â buddsoddiadau a ddelir gan Dyfed yn y Gronfa Tyfu Byd-eang a'r Gronfa Credyd Byd-eang.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Adolygiad Perfformiad Benthyca Gwarannau ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2024.</AI15>

 

16.

ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 30 MEDI 2024

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 13 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn er anfantais i aelodau'r gronfa.

 

Cafodd y Pwyllgor adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 30 Medi 2024. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys cefndir y farchnad fyd-eang a materion i'r Pwyllgor eu hystyried.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi adroddiad yr Ymgynghorydd Annibynnol.</AI16>

 

17.

ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 30 MEDI 2024

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 13 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn er anfantais i aelodau'r gronfa.

 

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Medi 2024 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau ers i'r gronfa gychwyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Medi 2024.</AI17>

 

18.

ADRODDIADAU'R RHEOLWR BUDDSODDI AR 30 MEDI 2024

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 13 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith ar y Gronfa Bensiwn er anfantais i aelodau'r gronfa.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiadau'r rheolwyr buddsoddi a oedd yn nodi perfformiad pob rheolwr fel yr oedd ar 30 Medi 2024.

 

  • BlackRock - Adroddiad Chwarterol 30 Medi 2024;
  • Schroders - Adroddiad Buddsoddi Ch3 2024;
  • Partners Group - Adroddiad Chwarterol Ch3 2024;
  • Cronfa Tyfu Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 30 Medi 2024;
  • Cronfa Credyd Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 30 Medi 2024
  • Cronfa Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy Partneriaeth Pensiwn Cymru - 30 Medi 2024.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi adroddiadau'r Rheolwyr Buddsoddi ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oeddent ar 30 Medi 2024.