Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Julie Owens 01267 224088
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol. |
|||||||
COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR Y 27 MAWRTH 2024 PDF 123 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 27 Mawrth 2024 gan eu bod yn gywir. |
|||||||
COFNODION BWRDD PENSIWN CRONFA BENSIWN DYFED 14 MAI 2024 PDF 117 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod adroddiad cyfarfod Bwrdd Pensiwn Cronfa Bensiwn Dyfed a gynhaliwyd ar 14 Mai 2024 wedi'i dynnu'n ôl gyda'r bwriad o'i gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor. |
|||||||
ADRODDIAD BWRDD PENSIWN CRONFA BENSIWN DYFED PDF 114 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod adroddiad Bwrdd Pensiwn Cronfa Bensiwn Dyfed wedi'i dynnu'n ôl gyda'r bwriad o'i gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor. |
|||||||
CYNLLUN ARCHWILIO 2024 PDF 110 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd y Pwyllgor i'r cyfarfod Jason Blewitt o Archwilio Cymru a gyflwynodd Gynllun Archwilio 2024 ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn nodi cyfrifoldebau statudol yr archwilydd allanol ac yn cyflawni'r rhwymedigaethau o dan y Côd Ymarfer Archwilio. Nodai’r Cynllun Archwilio y gwaith archwilio sydd i'w wneud i fynd i'r afael â'r risgiau archwilio a nodwyd ynghyd â meysydd ffocws allweddol eraill yn ystod 2024. Nodai'r cynllun ffi archwilio amcangyfrifedig a hefyd rhoddai fanylion am y tîm archwilio a'r dyddiadau allweddol ar gyfer cyflawni gweithgareddau'r tîm archwilio a'r allbynnau arfaethedig.
Tynnwyd sylw’r Pwyllgor at y ffi archwilio amcangyfrifedig, lle nodwyd bod y cyfraddau ar gyfer 2024-25 wedi cynyddu 6.4% ar gyfartaledd o ganlyniad i bwysau chwyddiant na ellir ei osgoi a’r angen parhaus i fuddsoddi mewn ansawdd archwilio.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Cynllun Archwilio Manwl 2024. |
|||||||
SEFYLLFA GYLLIDEBOL DERFYNOL 2023-24 PDF 114 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor sefyllfa derfynol cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2023-24 fel yr oedd ar 31 Mawrth 2024 a ddangosodd danwariant o gymharu â'r gyllideb o £2.2m.
Nodwyd bod gorwariant o £5.6m oherwydd bod buddion ymddeol ar ffurf cyfandaliad £6.2m yn fwy na'r gyllideb a bod trosglwyddiadau allan £1.2m yn fwy na'r gyllideb. Yn gwrthbwyso'r gorwariant hwn oedd tanwariant o £1.1m mewn pensiynau taladwy, o £526k mewn buddion marwolaeth ar ffurf cyfandaliad, ac o £180k mewn treuliau rheoli. Mewn perthynas â phensiynau sy'n daladwy, adeg gosod y gyllideb ar gyfer 2023-24 roedd cynnydd o 2.2% wedi'i gynnwys i amcangyfrif y pensiynau ychwanegol a dalwyd ar aelodau oedd newydd ddod yn bensiynwyr am y flwyddyn a hyd yma roedd y cynnydd gwirioneddol mewn aelodau oedd yn bensiynwyr yn agosach at 1%.
Nododd y Pwyllgor fod incwm wedi bod £7.8m yn fwy na’r hyn a gyllidebwyd, a bod cyfraniadau £7.2m yn fwy na’r hyn a gyllidebwyd gan fod tâl pensiynadwy gweithwyr yn fwy nag a ragwelwyd wrth bennu’r gyllideb oherwydd dyfarniad cyflog uwch. Hefyd, roedd yr incwm ychwanegol a dderbyniwyd gan gyflogwyr yn uwch na'r hyn a ragwelwyd wrth bennu'r gyllideb. Roedd y trosglwyddiadau i mewn £2.5m yn fwy na'r gyllideb ac roedd yr incwm buddsoddi £1.9m yn is na'r gyllideb.
Yn gyffredinol, cyfanswm y gwariant oedd £128.4m a chyfanswm yr incwm oedd £130.6m.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Sefyllfa Derfynol Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Mawrth 2024. |
|||||||
CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 31 MAWRTH 2024 PDF 108 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed. Nodwyd fod Cyngor Sir Caerfyrddin, ar 31 Mehefin, 2024, yn cadw £6.3m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad Cysoni Arian Parod Cronfa Bensiwn Dyfed. |
|||||||
ADRODDIAD GWEINYDDU PENSIYNAU PDF 116 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad a roddai ddiweddariad ar Weinyddu Pensiynau. Roedd yr adroddiad yn cynnwys diweddariadau ar y gweithgareddau yn y gwasanaeth Gweinyddu Pensiynau ac roedd yn cynnwys materion rheoleiddiol, y gofrestr torri amodau, i-Connect, cysoniad GMP a llif gwaith.
Mewn ymateb i’r pryderon a godwyd gan y Pwyllgor ynghylch yr oedi a wynebai rhai sefydliadau mwy wrth drosglwyddo i’r system i-connect, eglurodd y Rheolwr Pensiynau mai cyfran fach o aelodaeth gyffredinol y cynllun oedd colegau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr Adroddiad Gweinyddu Pensiynau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi. |
|||||||
ADRODDIAD TORRI AMODAU PDF 117 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor yr Adroddiad Torri Amodau i'w ystyried mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed a baratowyd yn unol ag Adran 70 Deddf Pensiwn 2004, Côd Ymarfer rhif 14 a Pholisi Torri Amodau Cronfa Bensiwn Dyfed.
Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at y rhestr o achosion o dorri rheolau a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad a oedd yn manylu ar yr achosion lle nad oedd cyfraniadau gweithwyr/cyflogwyr wedi dod i law mewn pryd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed. |
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Roedd y gofrestr i'w hystyried yn canolbwyntio ar yr 8 risg Llywodraethu a Rheoleiddio a chadarnhawyd, yn dilyn adolygiad o'r gofrestr, nad oedd unrhyw newidiadau i risgiau unigol wedi'u nodi ers cyfarfod blaenorol y Pwyllgor.
Gofynnwyd a ddylai ‘pwysau gwleidyddol’ gael ei ymgorffori yn y gofrestr risg o ystyried y pwysau a roddir ar Gronfa Bensiwn Dyfed yn y maes hwn. Rhoddodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn wybod i'r Pwyllgor am y trefniadau monitro sydd mewn lle ar gyfer buddsoddiadau’r Gronfa a nododd nad oedd yn cael ei ystyried yn angenrheidiol i ymgorffori ‘pwysau gwleidyddol’ fel maes risg o fewn y gofrestr ar hyn o bryd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi adroddiad y gofrestr risg. |
|||||||
CYNLLUN HYFFORDDI 2024-2025 PDF 107 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Cyfeiriodd y Cynghorydd P. Cooper at ei bresenoldeb diweddar yng Nghynhadledd yr Awdurdod Lleol PLSA a gynhaliwyd 11-13 Mehefin 2024 a dywedodd fod yr hyfforddiant wedi bod yn ddiddorol ac yn llawn gwybodaeth ac y byddai'n helpu i gyflawni ei rôl ar Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Cynllun Hyfforddi ar gyfer 2024-2025. |
|||||||
DADANSODDIAD DWYSEDD CARBON AR 31 MAWRTH 2024 PDF 110 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y gweithgarwch a'r cynnydd o ran sefyllfa Ôl Troed Carbon y Gronfa i'w hystyried.
Roedd y diweddariad yn dangos y Dwysedd Carbon Cyfartalog Pwysedig ar gyfer portffolio ecwiti’r Gronfa, a oedd wedi gostwng 18% yn y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2024 ac a oedd yn cynrychioli gostyngiad o 15%. y flwyddyn dros y tair blynedd a hanner ers y llinell sylfaen ym mis Medi 2020.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r diweddariad ynghylch Ôl Troed Carbon mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed. |
|||||||
DIWEDDARIAD BUDDSODDI CYFRIFOL PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU - MAWRTH 2024 PDF 118 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad diweddaru Buddsoddiadau Cyfrifol Partneriaeth Pensiwn Cymru ar 31 Mawrth 2024 yn manylu ar weithgarwch Buddsoddiadau Cyfrifol diweddar ynghyd â gwybodaeth am yr Is-gronfeydd a ganlyn yr oedd Cronfa Bensiwn Dyfed wedi buddsoddi ynddynt: · Twf Byd-eang · Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy · Credyd Byd-eang
Yn ogystal â'r uchod, roedd y diweddariad hefyd yn darparu Crynodeb Stiwardiaeth ynghyd â'r atodiadau perthnasol rhif 1-4 yn yr adroddiad.
Wrth gyflwyno’r adroddiad, tynnodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn sylw'r Pwyllgor at y pwyntiau amlwg o ran adrodd ar hinsawdd, fframwaith hinsawdd a rhestr ffocws hinsawdd, polisi uwchgyfeirio, incwm sefydlog cynaliadwy, caffael darparwyr Pleidleisio ac Ymgysylltu (V&E) ac adroddiadau risg Hinsawdd ac Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu (ESG).
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad diweddaru. |
|||||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf. |
|||||||
ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 31 MAWRTH 2024 Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 31 Mawrth 2024. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys cefndir y farchnad fyd-eang a materion i'r Pwyllgor eu hystyried.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
|
|||||||
ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 31 MAWRTH 2024 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 15 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn er anfantais i aelodau'r gronfa.
Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Mawrth 2024 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau ers i'r gronfa gychwyn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Mawrth 2024. |
|||||||
ADRODDIADAU'R RHEOLWR BUDDSODDI AR 31 MAWRTH 2024 Cofnodion:
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiadau rheolwyr buddsoddi a oedd yn nodi perfformiad pob rheolwr fel yr oedd ar 31 Mawrth 2024.
· BlackRock - Adroddiad Chwarterol 31 Mawrth 2024; · Schroders - Adroddiad Buddsoddi Ch1 2024; · Partners Group - Adroddiad Chwarterol Ch1; · Cronfa Tyfu Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 31 Mawrth 2024; · Cronfa Credyd Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 31 Mawrth 2024 · Cronfa Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy Partneriaeth Pensiwn Cymru - 31 Mawrth 2024.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi adroddiadau'r rheolwyr buddsoddi ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oeddent ar 31 Mawrth 2024. |
|||||||
DIWEDDARIAD SCHRODERS Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 15 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn er anfantais i aelodau’r gronfa.
Derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad a baratowyd gan Schroders a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am fuddsoddiadau’r Gronfa. Bu'r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth ddiweddaraf am fusnes, Trosolwg ar y Farchnad Eiddo Tiriol, Trosolwg ar y Portffolio, Perfformiad a Strategaeth a gweithgareddau Cynaliadwyedd a Llywodraethu.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi cyflwyniad diweddaru Schroders. |