Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd R. James.
|
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.
|
|
COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 28 MEDI 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd y Pwyllgor Jason BlewiPENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 28 Medi 2023 yn gofnod cywir. tt o Archwilio Cymru i'r cyfarfod a gyflwynodd yr Adroddiad ynghylch yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed, gan fanylu ar y materion a oedd yn codi o'r archwiliad yr oedd angen eu hadrodd o dan Safon Ryngwladol ar Archwilio 260.
Nodwyd mai'r Archwilydd Cyffredinol sy'n gyfrifol am roi barn ynghylch a yw datganiadau ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed yn olwg gywir a theg ar ei sefyllfa ariannol ar 31 Mawrth 2023, a'i hincwm a'i gwariant yn ystod y flwyddyn honno.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod adroddiad archwilio diamod ynghylch y datganiadau ariannol wedi'i gyhoeddi a'i gymeradwyo gan yr Archwilydd Cyffredinol a bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi ystyried yr adroddiad terfynol yn ei gyfarfod ar 27 Hydref 2023.
Wrth gydnabod y mân gywiriadau a amlygwyd i'r Pwyllgor fel y nodwyd yn Atodiad 3, yn gyffredinol dywedwyd bod yr Adroddiad ynghylch yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol 2022-23 yn gadarnhaol.
Dymunai'r Pwyllgor ddiolch yn ddiffuant i Archwilio Cymru am wneud yr Archwiliad ac i'r Adran Cyllid am ei holl waith caled mewn archwiliad llwyddiannus.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr Adroddiad ynghylch yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol 2022–23.
|
|
ADRODDIAD YNGHYLCH YR ARCHWILIAD O DDATGANIDADAU ARIANNOL 2022-23 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd y Pwyllgor Jason Blewitt o Archwilio Cymru i'r cyfarfod a gyflwynodd yr Adroddiad ynghylch yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed, gan fanylu ar y materion a oedd yn codi o'r archwiliad yr oedd angen eu hadrodd o dan Safon Ryngwladol ar Archwilio 260.
Nodwyd mai'r Archwilydd Cyffredinol sy'n gyfrifol am roi barn ynghylch a yw datganiadau ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed yn olwg gywir a theg ar ei sefyllfa ariannol ar 31 Mawrth 2023, a'i hincwm a'i gwariant yn ystod y flwyddyn honno.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod adroddiad archwilio diamod ynghylch y datganiadau ariannol wedi'i gyhoeddi a'i gymeradwyo gan yr Archwilydd Cyffredinol a bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi ystyried yr adroddiad terfynol yn ei gyfarfod ar 27 Hydref 2023.
Wrth gydnabod y mân gywiriadau a amlygwyd i'r Pwyllgor fel y nodwyd yn Atodiad 3, yn gyffredinol dywedwyd bod yr Adroddiad ynghylch yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol 2022-23 yn gadarnhaol.
Dymunai'r Pwyllgor ddiolch yn ddiffuant i Archwilio Cymru am wneud yr Archwiliad ac i'r Adran Cyllid am ei holl waith caled mewn archwiliad llwyddiannus.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr Adroddiad ynghylch yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol 2022–23.
|
|
COFNODION BWRDD PENSIWN CRONFA BENSIWN DYFED 25 HYDREF 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod cofnodion cyfarfod Bwrdd Pensiwn Cronfa Bensiwn Dyfed ar 25 Hydref 2023 yn cael eu nodi.
|
|
ADRODDIAD BWRDD PENSIWN CRONFA BENSIWN DYFED - 25 HYDREF 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad y Bwrdd Pensiwn a gyflwynwyd gan Gadeirydd Bwrdd Pensiwn Cronfa Bensiwn Dyfed. Roedd yr adroddiad yn rhoi diweddariad ynghylch yr eitemau a drafodwyd yng nghyfarfod y Bwrdd ar 25 Hydref 2023.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Adroddiad Bwrdd Pensiwn Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Hydref, 2023 yn cael ei dderbyn.
|
|
MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL 2023 - 30 MEDI 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol o ran blwyddyn ariannol 2023/24. Nodwyd mai'r sefyllfa bresennol ar 30 Medi 2023 oedd tanwariant o'i gymharu â’r gyllideb o £1.6m.
Dywedwyd er mai'r gorwariant a ragwelwyd oedd £500k, bod tanwariant a ragwelwyd o £1.2m ar Bensiynau Taladwy. Yn ogystal, dywedwyd adeg pennu’r gyllideb ar gyfer 2023-24 bod cynnydd o 2.2% o ran aelodau newydd y pensiwn am y flwyddyn a hyd yma roedd y cynnydd gwirioneddol mewn aelodau pensiwn yn agosach at 1%.
O ran incwm, rhagwelwyd y byddai cyfraniadau yn £2.6m yn fwy na'r hyn a gyllidebwyd oherwydd bod cyflogres bensiynadwy aelod yn uwch na'r hyn a ragwelwyd wrth bennu’r gyllideb. Derbyniwyd incwm ychwanegol gan gyflogwyr a oedd yn uwch na'r hyn a ragwelwyd wrth bennu'r gyllideb. Rhagwelwyd y byddai trosglwyddiadau i mewn yn fwy na'r gyllideb o £500k a rhagwelwyd y byddai incwm buddsoddi £1m yn is na'r gyllideb. Felly, rhagwelwyd y byddai incwm £2.1m yn fwy na'r gyllideb.
Amcangyfrifwyd mai cyfanswm y gwariant cyffredinol oedd £123.3m ac mai cyfanswm yr incwm oedd £124.9m, gan arwain i sefyllfa llif arian gadarnhaol o £1.6m.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2023 - 30 Medi 2023.
|
|
CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 30 MEDI 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed. Nodwyd ar 30 Medi 2023 fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £6m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad Cysoni Arian Parod Cronfa Bensiwn Dyfed.
|
|
ADRODDIAD GWEINYDDU PENSIYNAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad a roddai ddiweddariad ar Weinyddu Pensiynau. Roedd yr adroddiad yn cynnwys diweddariadau ar y gweithgareddau yn y gwasanaeth Gweinyddu Pensiynau ac roedd yn cynnwys materion rheoleiddiol, y gofrestr torri amodau, i-Connect, cysoniad GMP a llif gwaith.
Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â'r cynnydd o ran cynnwys Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar i-connect, eglurodd y Rheolwr Pensiynau, er bod gan y Gwasanaeth Tân nifer gymharol fach o aelodau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, bod i-connect yn dibynnu ar dynnu data penodol iawn gan y cyflogwr y gellid ei lanlwytho a bod trafodaethau ynghylch cael hyn yn parhau.
Cyfeiriwyd at ddiweddariad McCloud/Sargeant, o ran cysoni a dilysu data, a gofynnwyd faint o adnoddau ychwanegol oedd eu hangen ar gyfer y gofynion ymyrraeth. Eglurodd y Rheolwr Pensiynau ei bod yn cymryd 1 awr ar gyfartaledd i drin achos ymddeol â llaw ac yn ddiweddar cymerodd 3 aelod o staff 3 diwrnod i'w gwblhau. Ar sail hyn, cydnabuwyd y byddai angen adnoddau ychwanegol a fyddai'n cael eu hystyried yn fuan yn dilyn adolygiad o nifer y cyfrifiadau y mae angen eu cwblhau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr Adroddiad Gweinyddu Pensiynau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi.
|
|
ADRODDIAD TORRI AMODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor yr Adroddiad Torri Amodau i'w ystyried mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed a baratowyd yn unol ag Adran 70 Deddf Pensiwn 2004, Côd Ymarfer rhif 14 a Pholisi Torri Amodau Cronfa Bensiwn Dyfed.
Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at y rhestr o achosion o dorri amodau a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad a oedd yn manylu ar yr achosion lle nad oedd cyfraniadau gweithwyr/cyflogwyr wedi dod i law mewn pryd. I'r perwyl hwn, cyfeiriodd Rheolwr y Trysorlys a Phensiynau at achos o dorri amodau a adroddwyd yn ddiweddar mewn perthynas â Burry Port Marina Ltd a oedd wedi methu'n rheolaidd dalu'r cyfraniadau gofynnol i'r Gronfa. Mewn diweddariad i'r Pwyllgor, cadarnhaodd yr adroddiad fod y Rheoleiddiwr Pensiynau hefyd wedi cael gwybod fod y Cyflogwr wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr ac amcangyfrifwyd mai'r cyfraniadau oedd yn ddyledus i'r Gronfa hyd yn hyn oedd £7,230.56. Rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor fod trafodaethau'n parhau rhwng y Gronfa a'r gweinyddwyr ynghylch y cyfraniadau oedd yn ddyledus.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor y Gofrestr Risg, a oedd yn manylu ar yr holl risgiau gweithredol a strategol a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed, i'w hystyried.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y gofrestr risg wedi'i hadolygu ac nad oedd unrhyw newidiadau i risgiau unigol wedi'u nodi ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi adroddiad y gofrestr risg.
|
|
CYNLLUN HYFFORDDI 2023-2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad i'w ystyried ynghylch y Cynllun Hyfforddi ar gyfer y cyfnod 2023-2024 a oedd yn manylu ar amserlen cyfarfodydd y pwyllgor, a digwyddiadau hyfforddi ar gyfer aelodau a swyddogion Cronfa Bensiwn Dyfed.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Cynllun Hyfforddi ar gyfer 2023-24.
|
|
DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried diweddariad o gyfarfod Cyd-bwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru a gynhaliwyd ar 20 Medi 2023 a oedd yn cynnwys y canlynol:-
• Diweddariad y Cyd-bwyllgor Llywodraethu – 20 Medi 2023 • Adolygiad o Gynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru Ebrill – Mehefin 2023 • Diweddariad gan y Gweithredwr • Crynodeb o Berfformiad Partneriaeth Pensiwn Cymru Ebrill – Mehefin 2023
Hefyd roedd crynodeb a sylwadau ynghylch perfformiad buddsoddi Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer Ch2 2023 (Ebrill - Mehefin 2023) wedi'u hatodi i'r adroddiad.
Gwnaed sylw bod £1.2bn (ar draws 8 cronfa Cymru) yn gyfran fach iawn o'r holl arian i'w ymrwymo i newid hinsawdd, a gofynnwyd a oedd unrhyw fwriad i gynyddu hyn. Soniodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn y gallai fod cynnydd yn y dyfodol. Eglurwyd ymhellach fod 2 is-gronfa ecwiti byd-eang arall o fewn Partneriaeth Pensiwn Cymru, sef Tyfu Byd-eang a Chyfleoedd Byd-eang a lansiwyd yn 2019 a bod asesiad cynaliadwyedd yn cael ei ystyried. Ychwanegodd yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fod y buddsoddiad mwyaf gan y Gronfa Tyfu Byd-eang a bod y rheolwyr wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran gostyngiadau carbon dros gyfnod y buddsoddiad.
Cyfeiriwyd at dudalen 6 yr Adolygiad o Gynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru Ch1 2023-24. Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â'r term 'Cyfanswm i'w ailgodi' eglurodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn mai dyma'r cyfanswm i'w ailgodi ar yr 8 cronfa bensiwn yng Nghymru a bod pob cronfa yn derbyn anfoneb chwarterol.
Eglurodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn, mewn ymateb i ymholiad ynghylch buddsoddiadau gweithredol a goddefol a nodwyd ar dudalen 3 adolygiad Ch2 Cyd-bwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru, fod llawer mwy o fuddsoddiadau goddefol yn gyffredin ar ddechrau cyfuno buddsoddiadau yn gyffredinol, ond bod cronfeydd wedi lansio portffolios gweithredol ers hynny. Dros y blynyddoedd roedd Cronfa Bensiwn Dyfed wedi symud buddsoddiadau o fod yn rhai goddefol i fod yn rhai gweithredol drwy Bartneriaeth Pensiwn Cymru gan gynnwys ecwitïau byd-eang, credyd byd-eang a marchnadoedd preifat. At ddibenion amrywiaeth a risg, byddai lefel isel o fuddsoddiadau goddefol yn parhau i fod ar waith.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn diweddariad Partneriaeth Pensiwn Cymru ynghylch y Cyd-bwyllgor Llywodraethu.
|
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|
ADRODDIAD YMGYSYLLTU ROBECO 1 EBRILL 2023 - 30 MEHEFIN 2023 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 14 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ymgysylltu Robeco am y cyfnod adrodd 1 Ionawr 2023 – 31 Mehefin 2023. Roedd yr adroddiad yn rhoi ystadegau manwl mewn perthynas â gweithgareddau ymgysylltu a gynhaliwyd ar bortffolio Partneriaeth Pensiwn Cymru yn ystod y chwarter, a detholiad o astudiaethau achos o weithgarwch ymgysylltu a gynhaliwyd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Ymgysylltu Robeco am y cyfnod adrodd 1 Ionawr 2023 - 31 Mehefin 2023.
|
|
ADOLYGIAD BENTHYCA GWARANNAU BYD-EANG HYD AR 30 MEHEFIN 2023 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 14 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol yn ymwneud â buddsoddiadau gan reolwyr y gronfa.
Cafodd y Pwyllgor i'w ystyried adroddiad ynghylch yr Adolygiad Benthyca Gwarannau Byd-eang fel yr oedd ar 30 Mehefin 2023, a nodai wybodaeth am fenthyca stoc a oedd wedi dechrau ym mis Mawrth 2020. Roedd Northern Trust wedi darparu adolygiad o Berfformiad Benthyca Gwarannau ar gyfer Chwarter 2 2023 (y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2023)
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Adolygiad o Berfformiad a Pherthynas Benthyca Gwarannau Byd-eang ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2023.
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 30 MEDI 2023 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 14 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwyr buddsoddi ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 30 Medi 2023. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys cefndir y farchnad fyd-eang a materion i'w hystyried gan y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fel yr oedd ar 30 Medi 2023 a chymeradwyo'r canlynol, am y rhesymau a ddarperir yn yr adroddiad:
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 30 MEDI 2023 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 14 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Medi 2023 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a rheolwyr buddsoddi am y cyfnodau cyn i'r gronfa gychwyn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Medi 2023.
|
|
ADRODDIADAU'R RHEOLWR BUDDSODDI AR 30 MEDI 2023 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 14 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiadau’r rheolwyr buddsoddi a oedd yn nodi perfformiad pob rheolwr fel yr oedd ar 30 Medi 2023.
· BlackRock - Adroddiad Chwarterol 30 Medi 2023; · Schroders - Adroddiad Buddsoddi Ch3 2023; · Partners Group - Adroddiad Chwarterol Ch3 2023; · Cronfa Tyfu Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru – 30 Medi 2023; · Cronfa Credyd Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru – 30 Medi 2023 · Cronfa Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy Partneriaeth Pensiwn Cymru - 30 Medi 2023.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi adroddiadau'r rheolwyr buddsoddi ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oeddent ar 30 Medi 2023.
|