Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|||||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion:
|
|||||||||
COFNOFION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 2OFED MEHEFIN, 2018 PDF 159 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 20 Mehefin, 2018 gan eu bod yn gywir.
|
|||||||||
ADRODDIAD YNGHYLCH YR ARCHWILIAD O DDATGANIADAU ARIANNOL 2017-18 PDF 57 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor Archwilio yn ystyried yr Adroddiad ynghylch yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed a baratowyd gan Swyddfa Archwilio Cymru sy'n rhoi manylion am y materion sy'n codi o'r archwiliad sy'n ofynnol o dan ISA 260.
Nodwyd bod yr Archwilydd Cyffredinol yn gyfrifol am roi barn ynghylch a yw datganiadau ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed yn rhoi golwg gywir a theg ar ei sefyllfa ariannol ar 31 Mawrth 2018, a'i hincwm a'i gwariant yn ystod y flwyddyn honno.
Nodwyd mai bwriad yr Archwilydd Cyffredinol yw cyhoeddi adroddiad archwilio diamod ar y datganiadau ariannol yn dilyn derbyn gan yr Awdurdod ei Lythyr Cynrychiolaeth, yn seiliedig ar yr hyn a nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor yn dilyn ei ystyriaeth, y byddai'r adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio ar 28Medi i'w gymeradwyo ffurfiol ac i Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Swyddog Adran 151 yr Awdurdod lofnodi'r Llythyr Cynrychiolaeth er mwyn ei awdurdodi.
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol at yr anawsterau staffio yn yr uned yn ystod y cyfnod o baratoi'r cyfrifon a'r broses archwilio, a mynegodd ei werthfawrogiad i'r staff am eu hymdrechion sylweddol i gyflwyno'r cyfrifon ac i Swyddfa Archwilio Cymru am ei hyblygrwydd yn ystod y broses archwilio
PENDERFYNWYD derbyn Adroddiad yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol 2017–18.
|
|||||||||
DATGANIAD CYFRIFON 2017-2018 PDF 60 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Datganiad Cyfrifon Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2017/18, a gynhyrchwyd yn unol â'r Côd Ymarfer ar Gadw Cyfrifon Awdurdodau Lleol yn y Deyrnas Unedig 2017-18, sy'n manylu ar y sefyllfa ariannol, perfformiad a hyfywedd ariannol ar gyfer y flwyddyn 2017-18 ynghyd â chanlyniadau stiwardiaeth rheoli h.y. – atebolrwydd rheolwyr o ran yr adnoddau sydd wedi'u hymddiried iddynt a sefyllfa’r asedau ar ddiwedd y cyfnod.
Nodwyd bod cyfanswm gwerth y Gronfa, fel yr oedd ar 31 Mawrth, 2018 yn £2.440bn, sy'n cynrychioli cynnydd yn yr asedau net o £97m o 2016/17 i 2017/18 gyda'r cynnydd yn cael ei briodoli yn bennaf i gynnydd yng ngwerth y farchnad o'r asedau buddsoddi. O ran gwariant y Gronfa, roedd y buddion sy'n daladwy a throsglwyddiadau wedi cynyddu o £2.4m i £82.5m gyda chyfraniadau a throsglwyddiadau i mewn yn cynyddu o £1.6m i £73.4m. Roedd y diffyg o £9m rhwng gwariant ac incwm wedi'i ddiwallu gan yr incwm buddsoddi.
Nodwyd bod aelodaeth gyfan y gronfa wedi cynyddu 555 o 49,959 yn 2016/17 i 46,514 yn 2017/18, sef cynnydd o 1.2%
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Datganiad Cyfrifon Cronfa Bensiwn Dyfed 2017/18.
|
|||||||||
MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL 2018 - 30 MEHEFIN 2018 PDF 59 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Monitro Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol o ran blwyddyn ariannol 2018/19.
Nodwyd bod y sefyllfa bresennol, ar 30 Mehefin, 2018 yn rhagweld tanwariant o £1,869k o ran arian parod. O ran gwariant, roedd yr effaith net o'r buddion sy'n daladwy a throsglwyddiadau allan yn cynrychioli tanwariant o £4.5m yn bennaf oherwydd natur aflywodraethus cyfandaliadau a throsglwyddiadau o'r Gronfa. Roedd tanwariant hefyd o ran treuliau rheolwyr o £0.3m.
Wrth ystyried incwm, gwelwyd tanwariant o £0.3m sy'n cynrychioli effaith net cyfraniadau, incwm buddsoddi a throsglwyddiadau i mewn. Yn gyffredinol, rhagwelwyd cyfanswm gwariant y Gronfa yn £81.6m a chyfanswm incwm yn £83.5m, sy'n cynrychioli sefyllfa llif arian cadarnhaol o £1.9m. Fodd bynnag, rhagwelwyd y byddai'r ffigurau hynny yn amrywio wrth i'r flwyddyn fynd rhagddi.
PENDERFYNWYD derbyn Adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed.
|
|||||||||
ADRODDIAD TORRI AMODAU PDF 63 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried.
Nododd y Pwyllgor fod Adran 70 o Ddeddf Pensiwn 2004 yn nodi dyletswydd gyfreithiol i adrodd am achosion o dorri'r gyfraith. Yn Rhif 14 o'r Côd Ymarfer, a gyhoeddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ym mis Ebrill 2015, mae paragraffau 241 i 275 yn darparu canllawiau ar sut i adrodd am yr achosion hyn. Cymeradwywyd Polisi Torri Amodau Cronfa Bensiwn Dyfed gan Banel Cronfa Bensiwn Dyfed ym mis Mawrth 2016.
O dan y polisi, roedd yn ofynnol i achosion o dorri'r gyfraith gael eu hadrodd i'r Rheoleiddiwr Pensiynau os oes achos rhesymol i gredu'r canlynol:
·
na chydymffurfir – neu
na chydymffurfiwyd – â dyletswydd gyfreithiol sy'n
berthnasol i'r gwaith o weinyddu'r cynllun; · bod yr anallu i gydymffurfio yn debygol o fod o arwyddocâd sylweddol i'r Rheoleiddiwr wrth iddo arfer unrhyw un o'i swyddogaethau.
Nododd y Pwyllgor fod nifer o achosion wedi bod ers y cyfarfod diwethaf lle nad oedd cyfraniadau cyflogai/cyflogwr wedi'u derbyn ar amser ond, erbyn hyn, roedd yr holl gyfraniadau yn gyfredol ac nid oedd achos wedi'i gyfeirio at y Rheoleiddiwr Pensiynau.
PENDERFYNWYD nodi’r Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.
|
|||||||||
DATGANIAD STRATEGAETH GYLLIDOL (FSS) PDF 54 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ar fabwysiadu Datganiad Strategaeth Gyllido ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed gan nodi strategaeth gyllido glir a thryloyw o ran sut yr oedd pob un o rwymedigaethau pensiwn y cyflogwr yn cael eu bodloni. Nodwyd mai amcan tymor hir Cyngor Sir Caerfyrddin, fel Awdurdod Gweinyddu'r Gronfa, oedd cyrraedd lefel ddiddyledrwydd o 100% dros gyfnod rhesymol o amser er mwyn cynnal digon o asedau i dalu'r holl fuddion sy'n codi pan fyddant yn ddyledus.
Tynnwyd sylw'r Pwyllgor yn benodol at Atodiad C i'r adroddiad ar fabwysiadu polisi terfynu y dylid ei roi ar waith pan fydd cyflogwr yn rhoi'r gorau i gymryd rhan yn y Gronfa.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Datganiad Strategaeth Gyllido
|
|||||||||
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(b) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 Cofnodion: Nid oedd dim materion brys i'w trafod.
|
|||||||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI Fod YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|||||||||
ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 30 MEHEFIN 2018 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 10 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).
Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Mehefin 2018 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau cyn i'r gronfa gychwyn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Mehefin 2018.
|