Agenda a Chofnodion

Panel yr Aelodau o ran Apeliadau Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol. - Dydd Mercher, 16eg Tachwedd, 2022 10.10 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224 088

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd K. Howell.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

3.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIAD SY'N YMWNEUD Â'R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

 

OS BYDD Y PANEL AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HON YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitem ganlynol yn cael ei chyhoeddi gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

4.

I YSTYRIED APÊL GAN YMGEISYDD J.T. YN ERBYN PENDERFYNIAD YR AWDURDOD SEF PEIDIO Â DARPARU CLUDIANT AM DDIM I'R YSGOL

Cofnodion:

UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol.Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth bersonol mewn perthynas â'r ymgeisydd. Byddai datgelu'r wybodaeth yn ategu tryloywder ac atebolrwydd o ran y broses o wneud penderfyniad, ond ar ôl cloriannu'r mater, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan fod angen sicrhau na fyddai modd adnabod yr ymgeisydd na'i deulu.

 

Nododd y Panel fod yr apêl a gyflwynwyd mewn perthynas â J.T. wedi cael ei thynnu'n ôl gan yr apelydd ar ôl cyhoeddi agenda'r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD nodi bod yr apêl gan yr ymgeisydd J.T. wedi cael ei thynnu yn ôl.