Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kelly Evans
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Rob Stewart (Cyngor Dinas a Sir Abertawe), y Cynghorydd James Gibson-Watt (Cyngor Sir Powys), y Cynghorydd Glynog Davies (Cyngor Sir Caerfyrddin), William Bramble (Prif Weithredwr Cyngor Sir Penfro), Tracey Meredith (Cyngor Dinas a Sir Abertawe), Mark Campion (Estyn), Matt Holder (Pennaeth Archwilio Mewnol, Sir Benfro), Dr Caroline Turner (Prif Weithredwr Cyngor Sir Powys), Cynghorydd Guy Woodham (Cyngor Sir Penfro).
|
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod. |
|
PENODI CADEIRYDD AC IS-GADEIRYDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd Cyd-bwyllgor ERW enwebiadau ar gyfer penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd ar gyfer y cyfarfod ar 17 Mai, 2023.
Penderfynwyd ethol yr Aelodau canlynol:-
3.1 Penodi'r Cynghorydd Darren Price yn Gadeirydd Cyd-bwyllgor ERW. 3.2 Penodi'r Cynghorydd David Simpson yn Is-gadeirydd Cyd-bwyllgor ERW.
|
|
CYNLLUN ARCHWILIO 2022 ARCHWILIO CYMRU CYD-BWYLLGOR EIN RHANBARTH AR WAITH Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Cyd-bwyllgor adroddiad a oedd yn amlinellu'r gwaith a wnaed gan Archwilio Cymru wrth gyflawni ei ddyletswyddau statudol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Cynllun Archwilio 2022 Archwilio Cymru, fel y nodwyd yn yr adroddiad.
|
|
YMHOLIADAU ARCHWILIO I'R RHEINY SY'N GYFRIFOL AM LYWODRAETHU A RHEOLI Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd y Cyd-bwyllgor yr ymateb i Archwilio Cymru o ran "Ymholiadau archwilio i'r rhai sy'n gyfrifol am lywodraethu a rheoli" ar gyfer 2021-22.
Mae'n ofynnol i Archwilio Cymru gynnal ei archwiliad ariannol yn unol â'r gofynion a nodir yn y Safonau Rhyngwladol ar Archwilio yn flynyddol. Mae'r ystyriaethau yn berthnasol i uwch-reolwyr ERW a'r rhai sy'n gyfrifol am lywodraethu sef, at ddibenion archwilio'r datganiadau ariannol, Cyd-bwyllgor ERW.
Penderfynwyd yn unfrydol gymeradwyo'r ymateb i Archwilio Cymru ar gyfer 2021-22, fel y'i nodir yn yr adroddiad.
|
|
BARN SICRWYDD FLYNYDDOL PENNAETH ARCHWILIO MEWNOL ERW AR GYFER 2021-22 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Cyd-bwyllgor adroddiad gan Bennaeth Archwilio Mewnol ERW ar y farn sicrwydd flynyddol ynghylch effeithlonrwydd Trefniadau Llywodraethu, Rheoli Mewnol, Rheoli Risgiau a Rheolaeth Ariannol ERW ar gyfer 2021-22.
Mae'r cynllun Archwilio Mewnol wedi'i gyflawni yn unol â'r amserlen y cytunwyd arni gan y Prif Weithredwr Arweiniol, y Cyfarwyddwr Arweiniol, y Prif Swyddogion Dros Dro, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro.
Gwnaed nifer o argymhellion yn yr adolygiad ar gyfer 2021-22 a blynyddoedd blaenorol sydd wedi'u cynnwys yn Natganiad Llywodraethu Blynyddol 2021-22, y dylid eu defnyddio i lywio trefniadau ar gyfer gweithio mewn partneriaeth yn y dyfodol.
Penderfynwyd yn unfrydol nodi Barn Sicrwydd Flynyddol Pennaeth Archwilio Mewnol ERW 2021-22.
|
|
DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL ERW 2021-22 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Cyd-bwyllgor adroddiad a oedd yn cynnwys canfyddiadau'r adolygiad blynyddol o drefniadau llywodraethu ar gyfer ERW am 2021-22.
Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor fod Datganiad Llywodraethu Blynyddol ERW wedi'i ysgrifennu ar adeg benodol, ac er bu nifer o newidiadau dilynol mewn ymateb i ddod ag ERW i ben a chreu Partneriaeth, nid oedd Datganiad Llywodraethu Blynyddol ERW wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu'r newidiadau.
Dywedwyd wrth y Cyd-bwyllgor fod Datganiad Llywodraethu Blynyddol ERW yn cynnwys un Mater Llywodraethu Sylweddol a thair blaenoriaeth ar gyfer gwella, gyda'r camau a gynlluniwyd i'w cymryd fel rhan o adolygiad Archwilio Mewnol Blynyddol Partneriaeth ar gyfer 2022-23.
Penderfynwyd yn unfrydol gymeradwyo Datganiad Llywodraethu Blynyddol ERW am 2021-22.
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Cyd-bwyllgor ystyriaeth i adroddiad a roddai ddiweddariad ar Ddatganiad Cyfrifon ERW ar gyfer 2021-22.
Hysbyswyd y Cyd-bwyllgor fod ERW wedi cyhoeddi ei Ddatganiad Cyfrifon drafft ar gyfer 2021-22, ar 12 Rhagfyr 2022 gyda'r bwriad o'u harchwilio a'u cymeradwyo erbyn 17 Mai 2023. Cyfeiriodd y swyddog A151 at y newidiadau i'r dyddiadau cau a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Pandemig Covid a materion annisgwyl eraill.
Dywedodd y swyddog A151, oherwydd newidiadau staffio, diffyg profiad staff, gwaith dysgu ynghylch y system FIMS newydd, a llwyth gwaith yn gwrthdaro ar ran ERW ac Archwilio Cymru yn arwain at broses archwilio hirach na'r arfer, ni chydymffurfiwyd â'r dyddiad cau o 31 Ionawr 2023. Cyhoeddwyd datganiad ar wefan ERW yn nodi'r rhesymau dros beidio â chydymffurfio a'r camau oedd i'w cymryd i sicrhau cydymffurfiaeth cyn gynted â phosibl.
Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor fod yr Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu cyflwyno barn ddiamod ar gyfrifon ERW 2021-22.
Gofynnwyd nifer o gwestiynau ynghylch yr adroddiad yn cynnwys y canlynol:
Dosbarthu cronfeydd wrth gefn a balansau, ac mewn ymateb i ymholiad gan Gyngor Sir Powys, dywedodd y Swyddog A151 fod y ffigurau yn yr adroddiad yn seiliedig ar gyfraniadau gan yr Awdurdodau Lleol yn ystod blwyddyn ariannol 2021-22. Roedd y cyfraniadau yn seiliedig ar 80% o niferoedd disgyblion ac 20% ar nifer yr ysgolion. Gan fod Cyngor Sir Powys yn aelodau o ERW am 5 mis yn 2021-22 a Chynghorau eraill am y flwyddyn gyfan, dosbarthwyd yr arian ar y sail hon.
Dywedodd y Swyddog A151 fod angen penderfynu ar y dosbarthiad heddiw i gwblhau Datganiad Cyfrifon 2022-23 ar gyfer Partneriaeth yn y dyfodol.
Er bod Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro ac Abertawe yn cytuno â'r dosraniadau a nodwyd yn yr adroddiad, roedd Powys yn anghytuno. Gofynnwyd i'r Cyd-bwyllgor gymeradwyo'r argymhellion.
Penderfynwyd yn unfrydol fod:- 8.1 Datganiad Cyfrifon ERW ar gyfer 2021-2022 yn cael ei gymeradwyo. 8.2 Datganiad Cyfrifon ERW ar gyfer 2021-2022 yn cael ei lofnodi gan Swyddog A151 ERW a Chadeirydd Cyd-bwyllgor ERW.
Penderfynwyd drwy benderfyniad y mwyafrif (gyda Phowys yn anghytuno) fod: 8.3 dosbarthiad cronfeydd wrth gefn a balansau ERW, £0.143m i Gyngor Sir Powys ac £1.492m i Partneriaeth, yn cael ei gymeradwyo
|
|
CYTUNDEB CYD-BWYLLGOR ERW - GWEITHRED AMRYWIO Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Er ystyriaeth, cafodd y Cyd-bwyllgor Weithred Amrywio ddrafft i Gytundeb 2014, yn amlinellu'r trefniadau i bob un o'r aelod-gynghorau presennol dynnu'n ôl o ERW ac ar gyfer diddymu ERW.
Tynnwyd sylw'r Cyd-bwyllgor at dudalen 129 a chrynodeb o bwrpas y Weithred Amrywio.
Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor fod Cyngor Sir Powys wedi cynnig rhai newidiadau i'r Weithred Amrywio ond nid yw'r rhain yn sylweddol a rhagwelir y bydd pob Cyngor yn gallu cytuno ar y fersiwn derfynol. O ystyried na ellid cyflwyno drafft terfynol cytunedig gerbron y Cyd-bwyllgor heddiw, cynigiwyd gwneud y newidiadau canlynol (mewn bold) i'r argymhellion yn yr adroddiad. Bod y Cyd-bwyllgor yn:
1. Cymeradwyo mewn egwyddor delerau'r Weithred Amrywio ddrafft a atodir i'r adroddiad hwn. 2. Nodi bwriad pob un o'r aelod-gynghorau presennol i gytuno ar delerau terfynol ac ymrwymo i'r Weithred Amrywio ar yr amod bod pob cyngor yn cael y gymeradwyaeth ofynnol yn unol â'u cyfansoddiadau priodol. Wedi hynny, bydd pob un o'r Cynghorau yn cyflwyno rhybudd i dynnu'n ôl o ERW i hwyluso'r broses o ddiddymu ERW.
Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor y byddai'r Weithred Amrywio ddiwygiedig yn cael ei hanfon at gynrychiolwyr cyfreithiol pob awdurdod i'w chymeradwyo ganddynt.
Nodwyd bod angen trosglwyddo'r brydles ar gyfer Y Llwyfan yn ffurfiol i Sir Gaerfyrddin, gan ei bod dal yn enw Powys. Dywedwyd wrth y Cyd-bwyllgor fod y gwaith ar drosglwyddo'r brydles yn mynd rhagddo ond bod y gwaith yn gymhleth oherwydd rhesymau cyfreithiol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-
9.1 cymeradwyo mewn egwyddor y Weithred Amrywio ddrafft, sydd ynghlwm wrth yr adroddiad 9.2 nodi bwriad pob un o'r aelod-gynghorau presennol i gytuno ar y telerau terfynol ac ymrwymo i'r Weithred Amrywio, ar yr amod bod pob cyngor yn cael y gymeradwyaeth ofynnol yn unol â'u cyfansoddiadau priodol. Wedi hynny, bydd pob un o'r Cynghorau yn cyflwyno rhybudd i dynnu'n ôl o ERW i hwyluso'r broses o ddiddymu ERW.
|
|
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd dim materion brys i'w trafod.
|