Agenda a Chofnodion

Panel Heddlu a Throseddu Dyfed Powys - Dydd Gwener, 26ain Ionawr, 2024 10.30 yb

Lleoliad: Neuadd y Sir, Cyngor Sir Benfro - Hwlffordd, SA61 1TP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kelly Evans  01267 224178

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSONOLDEB A MATERION PERSONOL

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Liz Rijenberg (Cyngor Sir Powys), y Cynghorydd Elizabeth Evans, Cyngor Sir Ceredigion a'r Cynghorydd Dot Jones (Cyngor Sir Caerfyrddin). Hefyd derbyniwyd ymddiheuriadau gan Carys Morgans (Pennaeth y Staff, Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu).

 

Bu i'r Cadeirydd, ar ran y Panel, estyn gair o gydymdeimlad yn dilyn marwolaeth y Cyn-gynghorydd Jim Jones.

 

Bu i'r Cadeirydd longyfarch y Cynghorydd Simon Hancock (Cyngor Sir Penfro) ar ôl iddo gael ei MBE yn ddiweddar.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Cofnodion:

 

 

Yr Aelod

Rhif yr Eitem ar yr Agenda

Buddiant

Y Cynghorydd S Hancock

Pob eitem ar yr agenda

Buddiant personol - Mae aelod o'r teulu yn gweithio fel Swyddog Heddlu yn Heddlu Dyfed-Powys

 

3.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 27 HYDREF 2023 pdf eicon PDF 98 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a gynhaliwyd ar 27 Hydref, 2023 gan eu bod yn gywir.

 

4.

MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI)

Cofnodion:

27 Hydref 2023 - cofnod rhif 6 – mewn ymateb i ymholiad, dywedodd y Comisiynydd fod y digwyddiad Drws Agored ym Mhencadlys yr Heddlu wedi bod yn llwyddiant, ac roedd tua 150 o bobl yn bresennol o Gynghorau Tref a Chymuned.

 

5.

PRAESEPT YR HEDDLU 2024-2025 pdf eicon PDF 91 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorydd S. Hancock wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

 

Rhoddodd y Panel ystyriaeth i adroddiad y Comisiynydd ar braesept arfaethedig yr Heddlu am 2024/2025. Dywedwyd wrth y Panel y gallai wneud y penderfyniad naill ai i gymeradwyo, gwrthod, neu roi feto i'r praesept arfaethedig yn y cyfarfod, ac ar ôl hynny byddai'n rhaid iddo roi gwybod i'r Comisiynydd am ei benderfyniad. Gallai'r penderfyniad i gymeradwyo neu wrthod gael ei wneud gan fwyafrif syml ond roedd yn rhaid i bleidlais feto gael ei gwneud gan fwyafrif o ddwy ran o dair o aelodaeth y Panel cyfan. Byddai hyn yn golygu y byddai'n rhaid i ddeg aelod o'r panel oedd yn bresennol yn y cyfarfod gefnogi'r feto. Dywedwyd pe bai'r Panel yn dewis rhoi feto ni fyddai'r Comisiynydd yn gallu cyflwyno'r praesept arfaethedig a byddai'n rhaid iddo gyhoeddi ymateb i adroddiad y Panel, gan nodi praesept arfaethedig arall, erbyn 15 Chwefror 2023.  Ni fyddai'r Panel yn gallu rhoi feto i'r praesept arfaethedig diwygiedig, dim ond penderfynu ei gymeradwyo neu ei wrthod.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Keith Evans (Arweinydd y Panel o ran Cyllid) gyflwyniad ar waith craffu Is-gr?p Cyllid y Panel ar gynnig praesept 2024/25.

 

Dywedodd fod y cyllid a gafwyd gan y Comisiynydd yn dod yn bennaf o setliad grant y Swyddfa Gartref, ynghyd â chyfraniadau llai gan Lywodraeth Cymru a grantiau penodol eraill. Mae cyllid y Swyddfa Gartref yn ddibynnol ar gynnal nifer penodol o swyddogion yr Heddlu, ac felly nid yw lleihau nifer y swyddogion i wneud arbedion yn opsiwn realistig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Evans ei fod yn cymeradwyo'r adroddiad, a oedd yn cynnig cynyddu'r praesept £1.62 bob mis ar eiddo Band D sy'n cyfateb i gynnydd o 6.2% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mae'r praesept yn cynnig gwerth am arian ac mae'n dal i fod yr isaf yng Nghymru. Diolchodd i'r Comisiynydd a'r Prif Gwnstabl am drefnu seminar cyllid a oedd yn cefnogi craffu ar yr adroddiad.

 

Diolchodd y Panel i'r Cynghorydd Evans a'r Comisiynydd am eu hadroddiadau manwl, llawn gwybodaeth.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch adnoddau o fewn yr Heddlu, dywedodd y Comisiynydd wrth yr aelodau fod yr Heddlu'n effeithlon o ran adnoddau.  Mae cynnydd o 20% wedi bod mewn adnoddau staff ar draws yr Heddlu ac mae buddsoddiad sylweddol wedi cael ei wneud ers 2016.  Roedd ymgynghoriad mewnol ynghylch newidiadau i'r model gweithredu'n mynd rhagddo ar hyn o bryd.  Cafodd yr aelodau wybod bod Swyddog Cadw Staff o fewn yr Heddlu yn cynnal cyfweliadau ymadael â'r rhai sy'n gadael yr Heddlu.  Mae'r Swyddog Cadw Staff yn rhyngweithio â swyddogion er mwyn deall yn well pam y gallai swyddogion fod eisiau gadael yr Heddlu.

 

Nodwyd bod y Comisiynydd wedi gwneud sylwadau o ran yr argymhellion ynghylch y trafodaethau am fformiwla ariannu'r Swyddfa Gartref yn San Steffan a'r Senedd.

 

Codwyd ymholiad ynghylch cynnydd mewn troseddau gwledig.  Dywedodd y Comisiynydd wrth yr aelodau am y Strategaeth Troseddau Gwledig o fewn yr Heddlu a'r tîm Troseddau Gwledig yn Aberteifi.  Dywedodd y Comisiynydd fod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.