Lleoliad: Siambr- Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Julie Owens 01267 224088
Rhif | eitem | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSONOLDEB A MATERION PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.</AI1> |
||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANT Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 26 IONAWR 2024 PDF 83 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2024 gan eu bod yn gywir. |
||||||||||
MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 26 Ionawr 2024 - cofnod 5: dywedodd y Comisiynydd ei fod wedi cyfarfod â'r Prif Weinidog a'i gyd-weinidogion uwch i drafod y goblygiadau cyllidebol i blismona yng Nghymru sy'n deillio o setliad presennol y gyllideb a chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2024/25. |
||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [NODER: Roedd y Cynghorydd S. Hancock, wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ac arhosodd yn y cyfarfod gan gymryd rhan wrth i'r Pwyllgor ystyried yr eitem a phleidleisio arni.]
Bu'r Panel yn ystyried adroddiad a oedd yn nodi canfyddiadau asesiad Effeithlonrwydd, Effeithiolrwydd a Chyfreithlondeb yr Heddlu (PEEL) o Heddlu Dyfed-Powys. Roedd yr asesiad yn nodi bod yr heddlu'n 'ddigonol' mewn 6 chategori ac 'angen gwella' mewn 2 gategori ac yn nodi meysydd o arfer da lle'r oedd gwelliannau eisoes wedi'u gwneud, ynghyd â meysydd lle’r oedd angen gwelliannau pellach.
Rhoddwyd ystyriaeth i ymateb y Comisiynydd i'r asesiad PEEL a oedd yn manylu ar y gwaith a wnaed i fynd i'r afael â'r meysydd sy'n peri pryder ac yn nodi'r camau pellach a gynlluniwyd.
Cyfeiriwyd at y cyhoeddiad diweddar y byddai cyllid Llywodraeth y DU sy'n gyfanswm o £1m yn cael ei ddarparu i Heddlu Dyfed Powys i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rhoddodd y Comisiynydd sicrwydd y byddai'r cyllid yn cael ei ddefnyddio'n briodol, ar ddull sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn unol â'r telerau ac amodau cyllido grant er budd cymunedau ledled ardal y llu.
Mewn ymateb i ymholiad ynghylch digwyddiadau cam-drin domestig, eglurodd y Comisiynydd fod polisïau a gweithdrefnau cadarn ar waith, fodd bynnag, roedd angen hyfforddiant a datblygiad parhaus i sicrhau cysondeb wrth weithredu a chyflwyno'r gweithdrefnau.
Rhoddwyd sicrwydd y byddai gwelliant parhaus yn cael ei yrru gan y strwythurau llywodraethu sefydledig o fewn y llu a monitro meysydd arferion gorau yn barhaus.
Mynegodd y Comisiynydd, mewn ymateb i ymholiad, ei fod yn derbyn yr adroddiad asesu annibynnol yn llawn gan hefyd gydnabod natur oddrychol y dyfarniadau. Yn benodol, roedd y Comisiynydd yn siomedig bod perfformiad yn y categori 'datblygu gweithlu cadarnhaol' yn gofyn am welliant gan fod yr heddlu wedi cael achrediad safon Aur y Wobr Buddsoddwyr mewn Pobl yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac yn anelu am yr achrediad Platinwm. Rhoddwyd gwybod i'r Panel bod Swyddog Cadw Staff wedi'i benodi mewn ymdrech i leihau cyfraddau trosiant staff a bod amrywiaeth o fesurau yn cael eu hastudio i wella iechyd a llesiant gweithwyr.
Roedd yr asesiad o'r farn bod angen gwella'r categori 'amddiffyn pobl sy'n agored i niwed' a nodwyd y byddai hwn yn faes ffocws i'r llu wrth symud ymlaen. Ar ben hynny, teimlai'r Comisiynydd fod angen buddsoddiad ychwanegol yn y system teleffoni o fewn y categori 'ymateb i'r cyhoedd'. Yn hyn o beth, fe wnaeth Aelodau'r Panel gyfleu adborth gan y cyhoedd ynghylch hyd sylweddol yr alwad i’r system teleffoni awtomataidd 101. Eglurodd y Comisiynydd fod angen y system brysbennu i asesu natur brys y galwadau ac felly byddai adnoddau'n cael eu defnyddio cyn gynted â phosibl i'r rhai sydd angen cymorth ar frys.
Mynegwyd pryder o ran yr ôl-groniad sylweddol mewn prosesu gwiriadau DBS. Wrth gydnabod y pryderon, tynnodd y Comisiynydd sylw at y ffaith fod y sefyllfa'n gwella a dywedodd am ei fwriad i godi'r mater yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd Plismona. Dywedwyd y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
||||||||||
MYND I'R AFAEL Â THWYLL A SEIBERDROSEDDU PDF 89 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: Roedd y Cynghorydd S. Hancock, wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ac arhosodd yn y cyfarfod gan gymryd rhan wrth i'r Pwyllgor ystyried yr eitem a phleidleisio arni.]
Bu'r Panel yn ystyried adroddiad ar dwyll a seiberdroseddu, a ddarparwyd gan y Comisiynydd ar gais y Panel i roi sicrwydd ar y cynnydd a wnaed ers 2019 ac i ymhelaethu ar y wybodaeth a gynhwyswyd yn adroddiad blynyddol diwethaf y Comisiynydd ynghylch y mater.
Nododd y Comisiynydd y cyd-destun cenedlaethol gan roi diweddariad cynhwysfawr ar y gwaith parhaus o fewn y Llu i fynd i'r afael â bygythiadau mewn perthynas â thwyll, blacmel rhywiol, twyll cwmnïau cludo, seiberdroseddu, ac ymchwiliad ariannol. Rhoddwyd crynodeb i Aelodau'r Panel hefyd o ran cyfathrebu, cefnogaeth a straeon llwyddiannus wrth fynd i'r afael â'r mater.
Rhoddodd y Comisiynydd sicrwydd i Aelodau'r Panel ei fod yn hyderus yn arbenigedd Tîm Troseddau Economaidd Heddlu Dyfed-Powys a oedd wedi ymrwymo i ddiogelu cymunedau drwy fynd i'r afael â heriau cymhleth yn effeithiol. Tynnwyd sylw at waith y tîm gyda dioddefwyr agored i niwed a’i fod wedi cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol a'i fod yn parhau i gael ei barchu'n fawr gan HMICFRS (Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi). Pwysleisiodd y Comisiynydd er bod cynnydd yn cael ei wneud yn unol â blaenoriaeth 2 (Atal Niwed) Cynllun yr Heddlu a Throseddu, byddai angen adolygu adnoddau'r adran yn rheolaidd o ystyried esblygiad parhaus twyll a seiberdroseddu.
Mewn ymateb i ymholiadau, darparodd y Comisiynydd grynodeb o rôl a chyfranogiad yr asiantaethau allanol arbenigol wrth ymchwilio i achosion cymhleth o dwyll a nodwyd gan heddluoedd lleol. Pwysleisiwyd y byddai dull sy'n canolbwyntio ar y dioddefwr, ynghyd â buddsoddiad mewn gweithgarwch atal yn gwella gwytnwch yn y maes hwn.
Mewn ymateb i ymholiad, rhoddodd y Comisiynydd drosolwg o'r mesurau sydd ar waith i fynd i'r afael â thwyll etholiadol.
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad. |
||||||||||
PROTOCOL PLISMONA - ADRODDIAD PERFFORMIAD PDF 90 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: Roedd y Cynghorydd S. Hancock, wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ac arhosodd yn y cyfarfod gan gymryd rhan wrth i'r Pwyllgor ystyried yr eitem a phleidleisio arni.]
Bu'r Panel yn ystyried adroddiad perfformiad mewn perthynas â'r Protocol Plismona ar gyfer Ch3 blwyddyn ariannol 2023-24. Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cynnydd a wnaed mewn perthynas â 50 o gamau a gyflwynwyd i fesur cydymffurfiaeth â'r pwerau a'r dyletswyddau a nodir yng Ngorchymyn Protocol Plismona 2011.
Mewn ymateb i ymholiad, mynegodd y Comisiynydd ei siom bod cyllid ar gyfer y fenter 'Strategaeth Gyffuriau - Penderfyniadau y Tu Allan i'r Llys' wedi'i dynnu'n ôl a nododd fod gwaith yn mynd rhagddo i sefydlu a ellid cyflawni unrhyw weithgarwch yn y maes gwaith pwysig hwn.
Rhoddodd y Comisiynydd grynodeb o rôl y Rheolwr Cyllid Allanol a nododd fod cyfleoedd pellach i gynhyrchu incwm a nawdd cymaint â phosibl yn faes ffocws wrth symud ymlaen. Cyfeiriwyd hefyd at Fwrdd y Gronfa Ffyniant Gyffredin lle nododd y Comisiynydd y byddai cadarnhad yn cael ei roi i'r Panel ynghylch pa ranbarthau o'r Bwrdd y byddai cynrychiolaeth o Swyddfa'r Comisiynydd arnynt.
Roedd y Comisiynydd, mewn ymateb i sylwadau a wnaed, yn cydnabod bod angen rhagor o waith i gryfhau cysylltiadau â chymunedau drwy gyfrwng gweithgareddau plismona ac ymgysylltu cymunedol. Rhoddwyd gwybod i Aelodau'r Panel am fwriad y Llu i gyflwyno Strategaeth Atal Troseddau newydd yr Heddlu a Chynllun Plismona Bro a rhoddwyd sicrwydd y byddai cynnydd yn y maes hwn yn cael ei ystyried yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd Plismona.
Eglurodd y Comisiynydd wrth Aelodau'r Panel y gallai dioddefwyr troseddau wneud cais am iawndal ariannol drwy'r Cynllun Digolledu am Anafiadau Troseddol, byddai fforffediad elw troseddau yn cael ei rannu â'r Trysorlys a'r Lluoedd Heddlu er mwyn ail-fuddsoddi mewn cymunedau.
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad. |
||||||||||
CYNLLUN BUSNES SWYDDFA'R COMISIYNYDD HEDDLU A THROSEDDU - ADRODDIAD CYNNYDD PDF 84 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: Roedd y Cynghorydd S. Hancock a Mrs H. Thomas wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ac arhosont yn y cyfarfod gan gymryd rhan wrth i'r Pwyllgor ystyried yr eitem a phleidleisio arni.]
Bu'r Panel yn ystyried adroddiad a oedd yn crynhoi'r cynnydd a wnaed gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys yn ystod Chwarter 3 2023/24 wrth gyflawni gofynion ei Gynllun Busnes. Rhoddwyd gwybod i Aelodau'r Panel fod y Cynllun Busnes yn cyd-fynd â'r blaenoriaethau a amlinellir yng Nghynllun yr Heddlu a Throseddu ar gyfer 2021/2025.
Roedd yr adroddiad yn manylu ar y 51 o gamau gweithredu, 2 ohonynt wedi'u categoreiddio fel statws coch, 29 yn statws oren ac 20 yn statws gwyrdd. Nododd yr adroddiad fod penderfyniad wedi'i wneud i ohirio un cam i'r Cynllun Busnes nesaf.
Cyfeiriwyd at Faes Blaenoriaeth 3 sy'n ymwneud â System Cyfiawnder Effeithiol. Rhoddodd y Comisiynydd grynodeb o ymdrechion yr Heddlu i gyflwyno Canolfan i Fenywod, drwy ddull partneriaeth, fel rhan o'i werthusiad o ddull y system o ran menywod yn troseddu.
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.</AI8> |
||||||||||
PENDERFYNIADAU A WNAED GAN Y COMISIYNYDD HEDDLU A THROSEDDU PDF 84 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: Roedd y Cynghorydd S. Hancock, wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ac arhosodd yn y cyfarfod gan gymryd rhan wrth i'r Pwyllgor ystyried yr eitem a phleidleisio arni.]
Bu'r Panel yn ystyried adroddiad ynghylch y penderfyniadau a wnaed gan y Comisiynydd rhwng 17 Hydref a 7 Chwefror 2024.
Cymeradwyodd y Panel y fenter Ymgyrch Tinsel fel modd o ymgysylltu â dinasyddion agored i niwed a chefnogi cymunedau ac awgrymwyd y dylid codi'r mater yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd Plismona gyda'r bwriad o ymestyn y fenter ar draws ardal y Llu.
PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn. |