Agenda a Chofnodion

Panel Heddlu a Throseddu Dyfed Powys - Dydd Gwener, 27ain Hydref, 2023 10.30 yb

Lleoliad: Siamber- Neuadd y Sir, Aberaeron - Aberaeron. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSONOLDEB A MATERION PERSONOL

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Liz Rijenberg (Cyngor Sir Powys)

 

Estynnodd y Cadeirydd, ar ran y Panel, gydymdeimlad â Mrs Helen Thomas yn dilyn marwolaeth ei brawd.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Cofnodion:

Aelod

Rhif yr Eitem ar yr Agenda

Buddiant

Y Cynghorydd S Hancock

Pob eitem ar yr agenda

Mae aelod o'r teulu yn gweithio fel Swyddog Heddlu yn Heddlu Dyfed-Powys

Mrs H. Thomas

 

Aelod o'r teulu yn gweithio i Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar Gyflog Teg a'r Fforwm Ieuenctid

 

3.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 14 GORFFENNAF 2023 pdf eicon PDF 117 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2023 gan eu bod yn gywir.

 

4.

MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI)

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion yn y cyfarfod.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBUDD GAN AELODAU'R CYHOEDD I'R COMISYNYDD

Cwestiwn gan yr Athro Roffe

Gomisiynydd, mae cynlluniau parhaus y Swyddfa Gartref i ddefnyddio Gwesty Parc y Strade yn Llanelli i gartrefu ceiswyr lloches yn parhau i ddenu cryn sylw yn y cyfryngau ac yn cael effaith ar gydlyniant cymunedol. A fyddech cystal â rhoi amlinelliad o’r ymgysylltiad rydych wedi'i gael gyda'r Swyddfa Gartref ynghylch y mater hwn a pha gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau nad yw Heddlu Dyfed-Powys yn cael ei roi mewn sefyllfa anfanteisiol mewn perthynas â’r gost o blismona'r lleoliad a'i berthynas â'r gymuned leol?

 

Cwestiwn gan Mrs Helen Thomas

Gomisiynydd, mae'r cynnydd diweddar yn genedlaethol o ran lladrata o siop wedi denu cryn sylw yn y cyfryngau. A yw Dyfed-Powys wedi gweld cynnydd tebyg a pha gamau rydych wedi'u cymryd, naill ai ar wahân i'r Prif Gwnstabl neu ar y cyd ag ef, i fynd i'r afael â'r broblem hon?

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd Keith Evans

Gomisiynydd, mae adroddiadau diweddar wedi tynnu sylw at y peryglon y mae defnyddio e-sigaréts yn eu peri i bobl ifanc. Pa rôl sydd gan swyddogion cyswllt yr heddlu ag ysgolion, yn eich barn chi, wrth fynd i'r afael â'r mater hwn a pha gamau eraill rydych wedi'u cymryd neu’n bwriadu eu cymryd i helpu i fynd i'r afael â'r broblem hon?

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd Keith Evans

Gomisiynydd, bydd y terfyn cyflymder cenedlaethol newydd o 20mya yng Nghymru dim ond yn effeithiol os caiff ei orfodi'n briodol. A ydych yn fodlon bod gennych ddigon o adnoddau i wneud hyn? A ydych wedi cael unrhyw drafodaethau gyda'r Prif Gwnstabl ynghylch y dull y bydd yr heddlu’n ei ddefnyddio o ran y gwaith hwn?

Cofnodion:

5.1 Cwestiwn gan yr Athro Roffe

 

Gomisiynydd, mae cynlluniau parhaus y Swyddfa Gartref i ddefnyddio Gwesty Parc y Strade yn Llanelli i gartrefu ceiswyr lloches yn parhau i ddenu cryn sylw yn y cyfryngau ac yn cael effaith ar gydlyniant cymunedol. A fyddech cystal â rhoi amlinelliad o’r ymgysylltiad rydych wedi'i gael gyda'r Swyddfa Gartref ynghylch y mater hwn a pha gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau nad yw Heddlu Dyfed-Powys yn cael ei roi mewn sefyllfa anfanteisiol mewn perthynas â’r gost o blismona'r lleoliad a'i berthynas â'r gymuned leol?

 

Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu

Cyhoeddodd y Swyddfa Gartref ar 10 Hydref, 2023 fod cynlluniau ar gyfer defnyddio Gwesty Parc y Strade ar gyfer ceiswyr lloches yn cael eu tynnu'n ôl. 

 

Roedd llythyr wedi ei anfon i'r Swyddfa Gartref yn gofyn am atebion i’r cwestiynau ar y diwydrwydd dyladwy a gyflawnwyd wrth ddewis y safle.

 

Roedd ffigurau ar gost plismona oddeutu £300,000 ac mae sylwadau ynghylch ad-daliadau i'w cynnal yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ar 8 Tachwedd, 2023.

 

Dywedodd y Comisiynydd wrth y Panel, y byddai hefyd yn ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cartref i ddarparu tystiolaeth o'r profiad.

 

Mae'r tîm cyswllt ysgolion yn ymgysylltu â chymunedau i gyfleu negeseuon cadarnhaol i wrthweithio’r elfennau negyddol y mae plant ifanc yn eu gweld ar gyfryngau cymdeithasol.

 

 

5.2 Cwestiwn gan Mrs Helen Thomas

 

Gomisiynydd, mae'r cynnydd diweddar yn genedlaethol o ran lladrata o siop wedi denu cryn sylw yn y cyfryngau. A yw Dyfed-Powys wedi gweld cynnydd tebyg a pha gamau rydych wedi'u cymryd, naill ai ar wahân i'r Prif Gwnstabl neu ar y cyd ag ef, i fynd i'r afael â'r broblem hon?

 

Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu

Mae cynnydd cenedlaethol mewn troseddu, oherwydd yr argyfwng costau byw a gweithgarwch troseddu cyfundrefnol a difrifol. Er mwyn helpu i dargedu gweithgarwch troseddol, yr asedau fydd strwythur teledu cylch cyfyng sefydledig a system adnabod rhifau cofrestru cerbydau cywir.

 

Mae ailstrwythuro ar waith i gael mwy o swyddogion a fydd yn weladwy mewn trefi.

 

 

5.3 Cwestiwn gan y Cynghorydd Keith Evans

 

Gomisiynydd, mae adroddiadau diweddar wedi tynnu sylw at y peryglon y mae defnyddio e-sigaréts yn eu peri i bobl ifanc.  Pa rôl sydd gan swyddogion cyswllt yr heddlu ag ysgolion, yn eich barn chi, wrth fynd i'r afael â'r mater hwn a pha gamau eraill rydych wedi'u cymryd neu’n bwriadu eu cymryd i helpu i fynd i'r afael â'r broblem hon?

 

Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu

Mae swyddogion cyswllt yn gweithio gydag ysgolion gan fod cynnydd yn y defnydd.  Mae e-sigaréts wedi cael eu gwahardd i rai dan 18 oed, ond mae'n broblem yn enwedig i blant oedran ysgol.

 

Yn ystod Fforwm Ieuenctid diweddar ym Mharc y Strade, siaradodd pobl ifanc â'r Comisiynydd a'r Prif Gwnstabl gan godi materion ynghylch cyffuriau. Mae canlyniadau'r arolwg yn ystod y digwyddiad wedi cael eu cynnwys yng ngwaith y Prif Gwnstabl.

 

 

5.4 Cwestiwn gan y Cynghorydd Keith Evans

 

Gomisiynydd, bydd y terfyn cyflymder cenedlaethol newydd o 20mya yng Nghymru  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

PROTOCOL PLISMONA - ADRODDIAD PERFFORMIAD pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd Hancock wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Panel yn ystyried adroddiad perfformiad mewn perthynas â'r Protocol Plismona ar gyfer Ch2 blwyddyn ariannol 2023-24.  Er mwyn dangos cydymffurfiaeth â Gorchymyn Protocol Plismona 2011, datblygwyd gwiriad i gwmpasu 50 o feysydd gweithredu.  Mae'r gwiriadau yn cael eu cwblhau bob chwarter, i ddangos cynnydd parhaus.

 

Dyma'r sylwadau a godwyd a sut yr ymatebwyd iddynt:-

 

  • Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd y Comisiynydd y bydd stondin gan yr Heddlu yn y Sioe Frenhinol y flwyddyn nesaf.

 

  • Bydd galw am ragor o wybodaeth am dargedau ar gyfer lleihau effeithiau amgylcheddol.

 

  • Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd y Comisiynydd i'r panel y bydd seminar cyllid yn cael ei chynnal ar 28 Tachwedd.

 

  • Bydd digwyddiad drws agored yn cael ei gynnal ym Mhencadlys yr Heddlu yn yr hydref i ymgysylltu â Chynghorau Tref a Chymuned.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

7.

ADRODDIAD "DEEP DIVE" - STELCAN AC AFLONYDDU pdf eicon PDF 111 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd Hancock wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Cafodd y Panel adroddiad Archwiliad Dwfn, yn craffu ar sut roedd Heddlu Dyfed-Powys yn rheoli rhai oedd yn stelcio ac aflonyddu.  Roedd hwn yn faes pwysig ar gyfer gweithgarwch craffu, a oedd yn cyfrannu at y blaenoriaethau plismona a nodir yn y Cynllun Heddlu a Throseddu.

 

Dyma'r sylwadau a godwyd a sut yr ymatebwyd iddynt:-

 

  • Rhoddodd y Panel ganmoliaeth i'r adroddiad a holl waith caled y swyddogion wrth baratoi'r wybodaeth.

 

  • Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd y Comisiynydd y bydd cyllid ar gyfer y swydd yn cael ei rannu 50/50, rhwng Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a'r gyllideb brif ffrwd.

 

  • Cadarnhaodd y Comisiynydd fod cronfa ddata newydd yn cael ei defnyddio i adrodd am ddigwyddiadau ar un system, er mwyn gwella'r broses o gofnodi troseddau.

 

  • Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd y Comisiynydd y byddai'n rhoi copi o'r adroddiad i Heddlu Trafnidiaeth Prydain.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad

 

8.

CYNLLUN BUSNES SWYDDFA'R COMISIYNYDD HEDDLU A THROSEDDU pdf eicon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd Hancock wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Panel yn ystyried adroddiad yn amlinellu sut y byddai Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn cyflawni blaenoriaethau y Cynllun Heddlu a Throseddu 2021/2025.

 

Dyma'r sylwadau a godwyd a sut yr ymatebwyd iddynt:-

 

  • Rhoddwyd gwybod i'r Panel fod y canlynol ‘Defnydd o Gyffuriau Anghyfreithlon’, a ddaeth yn dilyn adroddiad Archwilio Dwfn 2019, wedi'i ohirio, oherwydd y system adrodd newydd.  Bydd yn cael ei gynnwys yn y cynllun nesaf.

 

  • Dywedodd y Comisiynydd wrth y Panel, y bydd y swydd gydweithredol gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i gefnogi a hwyluso gwella cysylltiadau â sefydliadau academaidd, gan ddod ag ymchwil ac ymarfer at ei gilydd, yn ased i ddarparu Llu Heddlu modern a deinamig.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad

 

9.

PENDERFYNIADAU A WNAED GAN COMISIYNYDD YR HEDDLU A THROSEDDU pdf eicon PDF 100 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd Hancock wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Panel yn ystyried adroddiad ynghylch y penderfyniadau a wnaed gan y Comisiynydd rhwng 29 Mehefin a 16 Hydref 2023.  Dywedodd y Comisiynydd fod yr adroddiad yn cynnwys penderfyniadau nad oedd wedi cael eu cynnwys mewn adroddiad blaenorol.

 

Dyma'r sylwadau a godwyd a sut yr ymatebwyd iddynt:-

 

  • Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd y Comisiynydd wrth y Panel, bod y blaen swyddfa yng Ngorsaf Heddlu Caerfyrddin, ar gau dros dro oherwydd prinder staff.  Bydd swydd wag yn cael ei hysbysebu i lenwi'r swydd a bydd y swyddfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am-4pm.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.