Agenda a Chofnodion

Panel Heddlu a Throseddu Dyfed Powys - Dydd Gwener, 14eg Gorffennaf, 2023 2.00 yp

Lleoliad: Siambr- Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

PENODI CADEIRYDD AC IS-GADEIRYDD Y PANEL pdf eicon PDF 102 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

 

1.1   Penodi'r Athro Ian Roffe yn Gadeirydd y Panel tan Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Panel 2024

 

1.2   Penodi'r Cynghorydd Keith Evans yn Is-gadeirydd y Panel tan Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Panel 2024

 

2.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB A MATERION PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd Les George (Cyngor Sir Powys).

 

3.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Yr Aelod

Rhif yr Eitem ar yr Agenda

Buddiant

Y Cynghorydd S. Hancock

Pob eitem ar yr agenda

Mae aelod o'r teulu yn gweithio fel Swyddog Heddlu yn Heddlu Dyfed-Powys

Y Cynghorydd D. Jones

Eitem 9

Cyllid Dolen Teifi

 

Y Cynghorydd K. Evans

Eitem 9

Cyllid Dolen Teifi

 

 

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 19 MAI 2023 pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a gynhaliwyd ar 19 Mai 2023 gan eu bod yn gywir

5.

MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion yn y cyfarfod.

 

6.

CWESTIYNAU A RHYBUDD GAN AELODAU'R CYHOEDD I'R COMISIYNYDD

Cwestiwn gan yr Athro Ian Roffe

 

Yng nghyfarfodydd blaenorol y panel mae'r Comisiynydd wedi nodi ei waith y tu allan i ardal Dyfed Powys, gan gynnwys gr?p awyr cenedlaethol yr heddlu, prosiect cyfathrebu digidol y Swyddfa Gartref a bwrdd plismona Cymru gyfan.  Gall arwain a chydweithio fod o fudd i'r ardal hon yn ogystal ag ardaloedd Heddluoedd eraill. A allai'r Comisiynydd roi adolygiad cyfredol o'i gysylltiad â grwpiau allanol o'r fath ar hyn o bryd, y prif faterion y mae pob gr?p yn rhoi sylw iddynt ac unrhyw oblygiadau posibl i lywodraethu plismona yn ardal Dyfed Powys?

 

Cwestiwn â Rhybudd gan yr Athro Ian Roffe

 

Mae aelodau'r panel wedi dod ar draws achosion amrywiol lle mae aelodau o'r cyhoedd wedi bod yn anfodlon ar ymatebion Heddlu Dyfed-Powys i alwadau 101.

 

A yw'r Comisiynydd yn ymwybodol o broblemau yn ymwneud â'r gwasanaeth 101 a sut mae'n mynd ati i sicrhau ymatebion mwy amserol a phriodol i'r cyhoedd?

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd Keith Evans

 

Yn ddiweddar, cysylltodd aelod o'r cyhoedd â mi i gwyno am sut yr oedd yr heddlu wedi delio â gwrthdrawiad traffig ffordd yr oedd hi wedi bod yn rhan ohono. Er fy mod wedi gallu cyfeirio'r unigolyn hwn at yr heddlu ei hun yn yr achos hwn, a wnewch chi amlinellu, er budd aelodau mwy newydd o'r Panel ac aelodau o'r cyhoedd a allai fod yn gwylio, eich rôl ym mhroses gwynion yr heddlu, yr oruchwyliaeth yr ydych yn ei harfer o ran sut mae'r heddlu'n ymdrin â chwynion, a beth ddylai'r cyhoedd ei wneud os ydynt yn dymuno gwneud cwyn yn erbyn swyddog heddlu.

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd Liz Rijnenberg

 

Mae Timau Plismona yn y Gymdogaeth yn hanfodol i lwyddiant holl flaenoriaethau'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu. Mae gwybodaeth anecdotaidd yn dangos y gall effeithiolrwydd y timau hyn o ran gwelededd a'r gallu i ymateb amrywio o ardal i ardal.

O ystyried y gwaith diweddar i ad-drefnu'r timau hyn a'r cyfle i wella safon y gwasanaeth, sut mae'r Comisiynydd yn sicrhau ei hun am y canlynol:

 

1.    Bod digon o adnoddau wedi'u darparu ar gyfer y trefniadau newydd.

2.    Bod strwythurau ar waith i sicrhau bod y Timau Plismona yn y Gymdogaeth yn ymatebol ac yn gyson ar yr un pryd o ran sut y byddant yn cydgysylltu ac yn cyfathrebu â'r holl randdeiliaid ac, yn bwysig iawn, dioddefwyr troseddau ar draws yr ardaloedd.

3.       Sut y bydd effeithiolrwydd y timau yn cael ei fonitro a'i werthuso.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1 Cwestiwn gan yr Athro Ian Roffe

 

Yng nghyfarfodydd blaenorol y panel mae'r Comisiynydd wedi nodi ei waith y tu allan i ardal Dyfed Powys, gan gynnwys gr?p awyr cenedlaethol yr heddlu, prosiect cyfathrebu digidol y Swyddfa Gartref a bwrdd plismona Cymru gyfan.  

Gall arwain a chydweithio fod o fudd i'r ardal hon yn ogystal ag ardaloedd Heddluoedd eraill. A allai'r Comisiynydd roi adolygiad cyfredol o'i gysylltiad â grwpiau allanol o'r fath ar hyn o bryd, y prif faterion y mae pob gr?p yn rhoi sylw iddynt ac unrhyw oblygiadau posibl i lywodraethu plismona yn ardal Dyfed Powys?

 

Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu

Dywedodd y Comisiynydd wrth y Panel fod Comisiynwyr yng Nghymru a Lloegr yn dod at ei gilydd mewn gwahanol gyfarfodydd yn ystod y flwyddyn.  Mae pob Comisiynydd yn cyflawni swyddogaeth, i rannu'r baich o ran rhyw weithgaredd.  Cafwyd adolygiad o drefniadau llywodraethu Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu dair blynedd yn ôl, a amlygodd rai argymhellion a newidiadau a oedd eu hangen yn y strwythur, gan arwain at benodi Cadeirydd Annibynnol.

 

Rhoddodd y Comisiynydd wybod i'r Panel am y gwahanol fforymau a phaneli y mae'n gysylltiedig â hwy, h.y. sefydlu Bwrdd Gwasanaethau Digidol yr Heddlu, Cyngor Staff yr Heddlu, Cymdeithas Bwrdd Heddlu a Throseddu, Bwrdd Partneriaeth Cymru, cadeirydd Plismona Cymru yn ystod Covid, arweinydd trais yn erbyn menywod a merched, wedi rhoi tystiolaeth yn ddiweddar yn y Pwyllgor Materion Cymreig, wedi datblygu fforwm ieuenctid i rymuso pobl ifanc ac ar hyn o bryd mae'n ymwneud â'r digwyddiad ceiswyr lloches yn Llanelli.

 

Rhoddodd y Comisiynydd sicrwydd i'r Panel ei fod yn cynnal trafodaethau rheolaidd â'r Heddlu yngl?n â'r ceiswyr lloches yn Llanelli a'i fod yn monitro'r sefyllfa'n ofalus iawn.  Nododd y Comisiynydd ei bod yn sefyllfa ddeinamig iawn a'i bod yn cael effaith ar y llu.

 

 

6.2 Cwestiwn â Rhybudd gan yr Athro Ian Roffe

 

Mae aelodau'r panel wedi dod ar draws achosion amrywiol lle mae aelodau o'r cyhoedd wedi bod yn anfodlon ar ymatebion Heddlu Dyfed-Powys i alwadau 101.

 

A yw'r Comisiynydd yn ymwybodol o broblemau yn ymwneud â'r gwasanaeth 101 a sut mae'n mynd ati i sicrhau ymatebion mwy amserol a phriodol i'r cyhoedd?

 

 

Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu

Dywedodd y Comisiynydd wrth y Panel fod tua 500 o ddigwyddiadau yn cael eu cofnodi bob dydd dros y ffôn.  Un o'r materion allweddol yw trosiant staff ar gyfer cyfathrebu'r heddlu.  Mae'r galw ar staff yn cynyddu a throsiant yw 17%.  Buddsoddwyd yn y system teleffoni a ddylai wella a symleiddio'r broses gofnodi.  Mae angen adnoddau ychwanegol i weithredu'r adran teleffoni.  Bydd y data perfformiad ynghylch ateb galwadau yn cael ei anfon at y Panel er gwybodaeth.  Eglurodd y Comisiynydd wrth y Panel fod problem recriwtio ar hyn o bryd.

 

Mewn ymateb i ymholiad yngl?n ag oedi pan fydd galwyr yn gofyn am ddefnyddio'r Gymraeg, dywedodd y Comisiynydd y byddai'n ymchwilio i'r mater hwn ac yn ymateb ar ôl ei gyfarfod gyda'r Prif Gwnstabl yn yr wythnos ganlynol.

 

Gofynnodd y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y COMISIYNYDD HEDDLU A THROSEDDU pdf eicon PDF 114 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd S. Hancock wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Panel yn ystyried Adroddiad Blynyddol 2022-2023 y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, a fyddai'n cael ei lansio yn y Sioe Frenhinol eleni.

 

Diolchodd y Panel i'r Comisiynydd am yr holl waith caled a wnaed i lunio'r adroddiad hawdd ei ddeall.

 

Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd y Comisiynydd nad oedd sicrwydd ynghylch dyfodol cyllid ar gyfer y gwahanol wasanaethau a nodir yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Comisiynydd wrth y Panel fod darparwr gwasanaeth newydd wedi cael ei ailgomisiynu.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr Adroddiad Blynyddol.

 

8.

PROTOCOL PLISMONA - ADRODDIAD PERFFORMIAD pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd S. Hancock wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Panel yn ystyried adroddiad perfformiad mewn perthynas â'r Protocol Plismona ar gyfer Ch1 blwyddyn ariannol 2023-24.

 

Dywedodd y Comisiynydd wrth y panel fod cynnydd mewn perthynas â 2 gam gweithredu gwyrdd a bod gostyngiad mewn perthynas â 2 gam gweithredu ambr. Roedd y gwelliannau ym maes cyllid allanol a chyflwyno polisïau a gweithdrefnau newydd mewn perthynas â chyllid allanol sydd wedi gweld cynnydd yn y cyllid a gafwyd ac a ddyrannwyd. Bydd rhagor o waith yn cael ei wneud i fireinio rhywfaint o'r gwaith a wnaed yn y chwarter diwethaf gyda'r bwriad o sicrhau bod mwy o feysydd gwell mewn gwyrdd.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

9.

PENDERFYNIADAU A WNAED GAN GOMISIYNYDD YR HEDDLU A THROSEDDU pdf eicon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd S. Hancock, y Cynghorydd D. Jones a'r Cynghorydd K. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Panel yn ystyried adroddiad ynghylch y penderfyniadau a wnaed gan y Comisiynydd rhwng 10 Mai a 29 Mehefin 2023.  Dywedodd y Comisiynydd fod yr adroddiad yn cynnwys penderfyniad nad oedd wedi cael ei gynnwys mewn adroddiad blaenorol.

 

Nodwyd bod gwall teipio ar dudalen 122, swm y gynhadledd oedd £3750.

 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

10.

CYNLLUN BUSNES SWYDDFA'R COMISIYNYDD HEDDLU A THROSEDDU pdf eicon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd S. Hancock wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

 

Bu'r Panel yn ystyried adroddiad yn amlinellu sut y bydd Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn cyflawni blaenoriaethau'r Comisiynydd ar gyfer 2023/24.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad

 

11.

NEWIDIADAU I'R GORCHYMYN PROTOCOL PLISMONA pdf eicon PDF 102 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd S. Hancock wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Panel yn ystyried adroddiad a oedd yn amlinellu sut mae'r newidiadau yn effeithio ar y berthynas rhwng y Swyddfa Gartref, y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Prif Gwnstabliaid a Phaneli Heddlu a Throseddu.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

12.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PANEL HEDDLU A THROSEDDU pdf eicon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd S. Hancock wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Panel yn ystyried Adroddiad Blynyddol 2022-2023 y Panel.

 

Diolchodd y Panel i Robert Edgecombe am yr holl waith caled y mae staff wedi'i wneud wrth lunio'r adroddiad.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Panel y byddai copïau papur o'r adroddiad yn cael eu rhoi i lyfrgelloedd.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr Adroddiad Blynyddol.