Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin J Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd F. Akhtar a'r Cynghorydd S. Matthews.
|
|||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.
Gwnaed y datganiad canlynol ynghylch buddiant
|
|||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Cofnodion: Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.
|
|||||||
CYFRIF CYLLIDEB REFENIW TAI A LEFELAU RHENTI TAI AR GYFER 2020/21 PDF 357 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor Gyllideb y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) a Lefelau'r Rhenti Tai ar gyfer 2020/21 a gyflwynir fel rhan o'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb. Roedd yn tynnu ynghyd y cynigion diweddaraf yn y cyllidebau refeniw a chyfalaf ar gyfer Cyfrif Refeniw Tai 2020/23 a fydd yn cael eu cyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol a'r Cyngor er mwyn iddynt benderfynu yn eu cylch.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod yr adroddiad wedi cael ei baratoi gan ystyried y cynigion diweddaraf a oedd yn rhan o Gynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai, sef y prif gyfrwng cynllunio ariannol ar gyfer darparu a chynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (STSG+) ar gyfer y dyfodol. Roedd y buddsoddiad arfaethedig a geir yn y cynllun busnes presennol wedi cyflawni STSG+ erbyn 2015 (i'r cartrefi hynny lle'r oedd tenantiaid wedi cytuno i gael y gwaith), wedi darparu buddsoddiad i gynnal STSG+ ac wedi parhau â'r buddsoddiad yn Ymrwymiad yr Awdurdod i Dai Fforddiadwy.
O ran pennu Rhenti Tai, atgoffwyd y Pwyllgor gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod yr Awdurdod wedi mabwysiadu Polisi Cysoni Rhent Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ar 24 Chwefror 2015 am gyfnod o bedair blynedd hyd at 2018/19. Roedd Llywodraeth Cymru wedi darparu polisi interim ar gyfer 2019/20 wrth iddi aros am ganlyniadau'r Adolygiad o'r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy. Yn dilyn yr arolygiad hwnnw, roedd Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cadw'r polisi am 5 mlynedd ychwanegol o 2020/21 i 2024/25, gyda rhai gofynion ychwanegol/diwygiedig. Y cynnydd blynyddol yn y rhent am y cyfnod diwygiedig fyddai'r Mynegai Prisiau Defnyddwyr ac 1% yn fwy, gan ddefnyddio lefel Mynegai Prisiau Defnyddwyr o fis Medi'r flwyddyn flaenorol. Wrth roi'r polisi hwnnw ar waith ar gyfer 2020/21, roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi gwybod i awdurdodau lleol ym mis Rhagfyr 2019 y byddai'r cynnydd yn y rhenti targed yn cyfateb i 1.7% o Fynegai Prisiau Defnyddwyr ac 1% yn fwy, sy'n dod i gyfanswm o 2.7%, ac ar gyfer y rheiny sydd o dan y rhent targed, byddai cynnydd o hyd at £2 yr wythnos yn cael ei weithredu hyd nes y bydd y rhent targed wedi'i gyrraedd. Fodd bynnag, byddai cyfanswm yr amlen rhent yn cynyddu 2.7% (£2.36) ar y mwyaf o £87.41 i £89.77.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, petai'r Pwyllgor am gymeradwyo cynigion y gyllideb, y byddai lefel gwariant o £50.1m ar gyfer Cyfrif Refeniw Tai 2020/21, a'r rhaglen gyfalaf fyddai £34.7m ar gyfer 2020/21, £35.2m ar gyfer 2021/22 a £31.4m ar gyfer 2022/23.
Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:- · Cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod defnyddio Mynegai Prisiau Defnyddwyr i gyfrifo cynnydd rhent yn cael ei bennu gan Lywodraeth Cymru ac nad oedd gan awdurdodau lleol ryddid i amrywio hynny i gymhwyso'r Mynegrif Prisiau Adwerthu yn ei le. · Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch cyflwyno Credyd Cynhwysol a'i effaith ar ôl-ddyledion rhent, dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel mai dim ond cynnydd bychan a fu yn gyffredinol yn yr ôl-ddyledion rhent, a oedd yn is na'r hyn a ddisgwyliwyd ac yn cymharu'n ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|||||||
SAFON TAI SIR GAERFYRDDIN A MWY (STSG+) CYNLLUN BUSNES 2020-23 PDF 1 MB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (NODER: Gan ei fod wedi datgan buddiant yn yr eitem hon eisoes, cyfrannodd y Cynghorydd K. Lloyd at y drafodaeth ond nid oedd wedi pleidleisio ar y mater yn unol ag amodau ei ollyngiad a roddwyd gan Bwyllgor Safonau'r Cyngor)
Cafodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (STSG+) 2020-23, a oedd â phwrpas triphlyg. Yn gyntaf, eglurai weledigaeth a manylion STSG+ dros y tair blynedd nesaf a'r hyn yr oedd y Safon yn ei olygu i'r tenantiaid. Yn ail, roedd yn cadarnhau'r proffil ariannol, ar sail y rhagdybiaethau presennol ar gyfer cyflawni STSG+ dros y tair blynedd nesaf ac yn drydydd, lluniai gynllun busnes ar gyfer y cais blynyddol i Lywodraeth Cymru am Lwfans Atgyweiriadau Mawr ar gyfer 2020/21, a oedd yn cyfateb i £6.1 miliwn.
Nododd y Pwyllgor fod y Cynllun hefyd yn amlygu mor bwysig oedd i'r Cyngor gefnogi ei denantiaid a'i breswylwyr ym mhopeth y mae'n ei wneud, gan nodi'r tair thema allweddol ganlynol o ran cynigion buddsoddi yn y dyfodol:-
- Thema 1 – Cefnogi Tenantiaid a Phreswylwyr; - Thema 2 – Buddsoddi yn ein Cartrefi a'r Amgylchedd - gan gynnwys datblygu Model Tai Datgarboneiddio Sir Gaerfyrddin - Thema 3 - Darparu rhagor o dai
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad: · Cyfeiriwyd at gynigion y Cyngor i wario bron i £52m dros y tair blynedd nesaf ar adeiladu rhagor o dai gan gysylltu ag adfywio a chanolbwyntio ar ddatblygiadau arfaethedig yn ward T?-isa, y Pentref Llesiant, canol y dref a threfi gwledig allweddol. O ystyried lansiad diweddar menter 'Deg Tref' y Cyngor, gofynnwyd am ragor o eglurhad ynghylch sut y byddai'r rhaglen adeiladu tai newydd yn cysylltu â'r fenter honno.
Cadarnhaodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel y byddai rhaglenni adeiladu tai yn y dyfodol yn cyd-fynd â'r fenter honno. Roedd y cam adeiladu cyntaf, fel y nodwyd uchod, wedi cael ei ddatblygu ar sail y tir sydd ar gael. · Cyfeiriwyd at ddatblygiad model datgarboneiddio Sir Gaerfyrddin a gofynnwyd am ragor o eglurhad ynghylch faint o ddylanwad oedd gan y Cyngor ar landlordiaid preifat a chymdeithasol o ran datgarboneiddio eu heiddo.
Dywedodd y Pennaeth Cartrefi, o ran landlordiaid cymdeithasol, y gellid mynd i'r afael â hynny mewn sawl ffordd, gan gynnwys gosod amodau ar Lwfans Atgyweiriadau Mawr Llywodraeth Cymru a dyrannu Grant Tai Cymdeithasol y Cyngor. Byddai annog landlordiaid preifat i gwblhau gwaith o'r fath yn anoddach. Fodd bynnag, efallai fod modd i'r awdurdod gynnig cymelliadau drwy ei bolisi gosod tai cymdeithasol ac ati. Gallai Llywodraeth Cymru hefyd ddeddfu a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid preifat gwblhau gwaith datgarboneiddio. · Gofynnwyd cwestiwn ynghylch Rhaglen Profi Radon y Cyngor a chadarnhaodd y Pennaeth Eiddo, er ei bod yn anstatudol, ei bod yn cael ei chyflawni yn unol ag arferion gorau fel landlordiaid cymdeithasol ac iechyd a diogelwch eu tenantiaid. Dywedodd y byddai perchnogion tai preifat yn cael eu cyfeirio at gyrff priodol i gael cyngor ynghylch profi eu heiddo. · Cyfeiriwyd at safon adeiladu tai newydd a dywedwyd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|||||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 31 KB Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor restr o eitemau i'w hystyried yn ei gyfarfod nesaf ym mis Ebrill 2020.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y rhestr o'r eitemau i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ym mis Ebrill 2020.
|