Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Cymunedau ac Adfywio - Dydd Gwener, 12fed Chwefror, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Matthew Hughes 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd J. Thomas a’r Cynghorydd M. Gravell (yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio a Hamdden).

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau personol.

3.

DATGAN CHWIP WAHARDDEDIG

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

5.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 326 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd rhestr i’r Pwyllgor o’r eitemau a fyddai’n cael eu hystyried yn y cyfarfod nesaf oedd i’w gynnal ar 24ain Mawrth 2016.

 

Penderfynwyd yn unfrydol nodi’r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol.

 

6.

SAFON TAI SIR GAERFYRDDIN A MWY (CHS+) 'CYFLAWNI'R HYN SYDD O BWYS' pdf eicon PDF 384 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Gynllun Rhaglen Safon Tai Sir Gaerfyrddin ar gyfer 2016-2019. Dwedwyd wrth yr aelodau y cafodd rhaglen Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy ei seilio ar waith rhaglen flaenorol Safon Tai Sir Gaerfyrddin, a gwblhawyd yn 2015, er mwyn cynnal a gwella ar y gwaith a wnaed eisoes. Tair agwedd allweddol ar y Cynllun oedd:

 

·         Cynorthwyo tenantiaid a thrigolion gyda materion megis Diwygio Lles, sicrhau bod gwasanaethau’n gywir, arbed arian i denantiaid yn y cartref, cynhwysiant digidol a heneiddio’n egnïol

·         Buddsoddi mewn tai i gynnal safonau

·         Darparu rhagor o dai i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy

 

Croesawyd y Cynllun gan y Pwyllgor, gan ddiolch i Bennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd a’i staff am y gwaith rhagorol a gyflawnwyd eisoes a’r cymorth parhaus a ddarperir gan swyddogion i denantiaid y Cyngor.

 

Codwyd y materion canlynol mewn perthynas â’r adroddiad:

 

Cyfeiriwyd at y rhaglen o atgyweirio tai a chyfeiriwyd at dai penodol yn yr un stadau yn cael eu hatgyweirio neu’u hail-rendro ac eraill heb gael hynny. Hysbyswyd y Pwyllgor gan Bennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd y câi’r rhaglen ail-rendro ei chynnal ar sail angen a fyddai’n awgrymu pam fod rhai tai wedi’u cwblhau ac eraill heb. Hysbysodd y Pwyllgor fod adolygiad o’r rhaglen rendro / paentio yn cael ei gynnal gan Adran yr Amgylchedd ac mai hanfodol yw cyfathrebu ag aelodau lleol ar faterion o’r fath. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn ar fuddsoddi yn y stoc dai bresennol, atgoffwyd y Pwyllgor gan Bennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd bod gan yr Awdurdod ddyletswydd gyfreithiol i gynnal y tai a ddiweddarwyd o dan raglen flaenorol Safon Tai Sir Gaerfyrddin ar y lefel hon yn ogystal â gwella ‘fforddiadwyedd’ y tai drwy eu gwneud yn rhatach i’w rhedeg drwy osod bylbiau golau sy’n effeithlon ar ynni er enghraifft. Byddai unrhyw welliannau neu ailosodiadau a gaiff eu nodi gan swyddogion yn ystod y ‘gwiriadau tai’ blynyddol yn cael eu cynnwys ar raglen waith barhaus. Roedd yr Awdurdod hefyd yn ceisio newid neu drawsnewid tai nad oeddynt yn addas at anghenion presennol yn ogystal â gwella golwg y stadau eu hunain.  

 

Gofynnwyd pa mor aml y câi’r monitorau Carbon Monocsid eu gwirio. Atgoffwyd y Pwyllgor gan Bennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd mai Cyngor Sir Caerfyrddin oedd yr Awdurdod cyntaf i gynnwys monitorau Carbon Monocsid yn y safon, a oedd yn uwch na’r gofynion cenedlaethol. Hysbysodd y Pwyllgor fod y monitorau hyn, ynghyd â larymau mwg ac offer fel boeleri a thanau, yn cael eu gwirio’n flynyddol.

 

Gofynnwyd am eglurhad o’r rheswm dros gynyddu’r ddarpariaeth i ddileu dyledion drwg gan fod yr adroddiad hefyd yn nodi bod ôl-ddyledion rhent wedi gostwng yn ystod y 12 mis diwethaf. Hysbyswyd y Pwyllgor gan Bennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd fod y ddarpariaeth hon i ddileu dyledion drwg ar gael i gynorthwyo tenantiaid a allai fod yn ei chael yn anodd talu eu rhent er mwyn iddynt barhau yn eu cartrefi. Y bwriad oedd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

CYNLLUN DARPARU TAI FFORDDIADWY pdf eicon PDF 610 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r Cynllun Darparu Tai Fforddiadwy drafft a roddai fanylion sut y bwriadai’r Awdurdod ddarparu rhagor o dai. Roedd hefyd yn amlinellu ba adnoddau a ddefnyddid. Nododd y Pwyllgor fod y rhaglen gychwynnol yn anelu i ddarparu rhagor na 1,000 o dai fforddiadwy ychwanegol yn ystod y pum mlynedd nesaf, gyda chyfanswm o fwy na £60m o fuddsoddiad.

 

Codwyd y materion canlynol mewn perthynas â’r adroddiad a’i atodiadau:

 

Awgrymwyd bod gwahaniaeth rhwng yr hyn sydd ei ‘angen’ ar drigolion y sir a’r hyn sydd ei ‘eisiau’ arnynt ac y dylai cynigion i ddarparu tai fforddiadwy gael eu hasesu’n ofalus ar gyfer gwahanol ardaloedd. Meddai Pennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd nad oedd digon o adnoddau ar gael i ariannu dymuniadau pawb, ond mai targedu cymorth lle mae’r angen fwyaf, mewn ardaloedd trefol a gwledig, fyddai ffordd yr Awdurdod o weithredu. Ond awgrymodd, er bod yr angen a fynegwyd yn cyfateb i ffigurau’r boblogaeth mewn rhai ardaloedd, y teimlai’r swyddogion na chaiff yr angen ei fynegi’n ddigonol mewn ardaloedd eraill a bod angen gwaith pellach i sicrhau bod y data mor gywir â phosibl.

 

Gofynnwyd pa effaith fyddai’r gwahanol fodelau darparu tai fforddiadwy yn ei gael ar denantiaid. Atgoffwyd y Pwyllgor gan Bennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd, yn dilyn newidiadau diweddar, fod gan denantiaid awdurdodau lleol a chymdeithasau tai cymdeithasol yr un math o gontract ond nad oedd hyn yn berthnasol i rai sy’n rhentu yn y sector preifat. Meddai y gallai’r Awdurdod Lleol ddarparu tai gwirioneddol fforddiadwy ar rent petai’r eiddo o dan ei reolaeth, pa bynnag ffordd y cawsant eu hadeiladu neu’u prynu. Er hyn, byddai Llywodraeth Cymru yn fuan yn ei gwneud yn ofynnol i renti awdurdodau lleol gyd-fynd â rhenti cymdeithasau tai cymdeithasol a byddai hyn yn golygu cynnal rhai sgyrsiau anodd gyda thenantiaid tai yn y dyfodol agos.  

 

Awgrymwyd mai’r model darparu delfrydol fyddai i’r Awdurdod Lleol adeiladu rhagor o dai newydd ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor. Cytunodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Dai, ond er mwyn gwneud i’r adnoddau sydd ar gael ymestyn yn bellach, roedd defnyddio modelau gwahanol a ‘meddwl y tu allan i’r bocs’ yn cynnig cyfleoedd gwahanol i’r Awdurdod wneud y defnydd gorau o’i arian. Byddai adeiladu’n fewnol yn cynnig cwmpas cyfyngedig iawn i’r Awdurdod i fenthyg ymhellach yn sgil cyfyngiadau ariannol a orfodir arno gan Lywodraeth Cymru. Cyfeiriodd at ymweliad diweddar â Sir y Fflint i weld enghraifft o fodel cwmni masnachu lleol a nododd bod ymweliadau pellach â Birmingham ac Ealing wedi’u trefnu ar gyfer y dyfodol agos. 

 

Mynegwyd pryder na chaiff yr un cymorth ei gynnig, efallai, i denantiaid cymdeithasau tai cymdeithasol â’r hyn a gynigir i denantiaid y Cyngor, yn arbennig mewn perthynas â rheoli ôl-ddyledion rhent ac ati. Atgoffwyd y Pwyllgor gan Bennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd y caiff Cymdeithasau Tai Cymdeithasol eu rheoleiddio gan Lywodraeth Cymru ond bod eu rhenti, yn y pen draw, yn uwch na rhenti awdurdodau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

EGLURHAD AM BEIDIO A CHYFLWYNO ADRODDIADAU CRAFFU pdf eicon PDF 208 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r eglurhad a ddarparwyd am beidio â chyflwyno adroddiad ar raglenni a ariennir gan yr UE ac a ariennir yn allanol.

 

PENDERFYNWYD nodi’r eglurhad am beidio â chyflwyno’r adroddiad.

9.

DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU’R PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU pdf eicon PDF 295 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD derbyn y diweddariad sy’n rhoi manylion y cynnydd mewn perthynas â gweithrediadau, ceisiadau neu atgyfeiriadau a ddeilliodd o gyfarfodydd craffu blaenorol.

10.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR Y 15FED O IONAWR 2016 pdf eicon PDF 401 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar ddydd Gwener 15fed Ionawr 2016 fel cofnod cywir.