Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Cymunedau ac Adfywio - Dydd Llun, 14eg Medi, 2015 3.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bernadette Dolan 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr T. Devichand, G. Thomas a Meryl Gravell (Yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio a Hamdden).

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

4.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL. pdf eicon PDF 237 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd rhestr i'r Pwyllgor o'r eitemau fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 9 Tachwedd 2015.

 

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol.

 

5.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2015/16 pdf eicon PDF 348 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiadau Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf mewn perthynas â'r Gwasanaethau Adfywio a Hamdden a'r Gwasanaethau Tai am y cyfnod diwedd blwyddyn ar gyfer blwyddyn ariannol 2015/16.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Gofynnwyd am y sefyllfa ddiweddaraf ynghylch siop a Llethr Sgïo Pen-bre. Dywedodd Pennaeth Chwaraeon a Hamdden y gostyngwyd lefel y stoc dros y 2 flynedd diwethaf ac y cyfyngwyd ar y math i'r un a ddefnyddir yn uniongyrchol ar y llethr. Roedd hyn wedi helpu o ran maint yr elw.

 

Gofynnwyd am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch Harbwr Porth Tywyn. Dywedodd Pennaeth Chwaraeon a Hamdden iddo gwrdd ag Adran yr Amgylchedd i ddatblygu'r tendr ar gyfer y gwaith carthu yn yr harbwr mewnol a gytunwyd yn ddiweddar gan y Bwrdd Gweithredol.  Gofynnodd y Pwyllgor am i adroddiad y Bwrdd Gweithredol gael ei ddosbarthu iddynt.

 

Gofynnwyd pam roedd yr Awdurdod yn cynnal canolfannau hamdden y tu allan i'r 3 brif dref o ystyried costau uchel eu cynnal. Dywedodd Pennaeth Chwaraeon a Hamdden fod y cyfleusterau eraill yn darparu gwasanaeth gwerthfawr i gymunedau lleol yn yr ardaloedd pellaf megis Sanclêr a Chastellnewydd Emlyn.

 

Yn ateb i gwestiwn ynghylch bod swyddi gwag yn y Gwasanaethau Tai yn effeithio'n andwyol ar allu'r staff, dywedodd y Cyfarwyddwr nad oedd ef yn gwybod am unrhyw broblemau ond y byddai'n holi'r tîm rheoli ac yn ymateb ar ôl y cyfarfod.

 

Gofynnwyd am ragor o wybodaeth ynghylch y prosiect cyfalaf Stryd Cyfleoedd yn Llanelli. Dywedodd Rheolwr Dros Dro Datblygu Economaidd y sicrhawyd cyllid o £1 filiwn dros 3 blynedd gan Lywodraeth Cymru. Roedd y cam cyntaf yn cynnwys prynu 3 eiddo yng nghanol y dref a fyddai'n cael eu hailfodelu i ddarparu eiddo masnachol llai ar y lloriau gwaelod a phreswylfeydd fforddiadwy ar y lloriau uchaf. Byddai'r gwaith yn dechrau yn 2016.

 

Gofynnwyd am ragor o fanylion ynghylch y posibilrwydd y byddai gorwariant o £1.1 filiwn yn Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross Hands. Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol - Adfywio a Pholisi y rhagamcanwyd gwerth y tir yn wreiddiol ar ddechrau'r broses Gorchymyn Prynu Gorfodol ar sail y defnydd tir a ddyrannwyd yn y Cynllun Datblygu Unedol. Ers hynny roedd hyn wedi cael ei herio gan y perchnogion ac roedd yr Awdurdod yn cyd-drafod â'r perchnogion a'r Prisiwr Rhanbarthol er mwyn cytuno ar y telerau terfynol.

 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad

 

6.

DEWISIADAU RHEOLI ERAILL MEWN PERTHYNAS Â HAMDDEN pdf eicon PDF 587 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ar ganlyniadau adolygiad o'r holl ddewisiadau rheoli posibl ar gyfer portffolio'r cyfleusterau hamdden a diwylliant. Roedd y Pwyllgor yn cael ei ofyn i ystyried ac i roi sylwadau ar y dewisiadau arfaethedig, yn bennaf er mwyn ceisio llunio partneriaeth â Sefydliad Dosbarthu Dielw (NPDO) presennol neu hybrid ar gyfer y Gwasanaethau Chwaraeon, Hamdden a Theatr. 

 

Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y £191k o arbedion y cyfeiriwyd atynt yn yr adroddiad. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol mai'r swm hwn fyddai'r arbedion yn y trethi wrth drosglwyddo'r gwasanaethau ond byddai'r Awdurdod yn ceisio cael llawer mwy o ostyngiad yn y gost.  Roedd angen profi'r farchnad er mwyn sicrhau y byddai modd cyflawni'r arbedion costau. Byddai cyfle i graffu ar y manylion maes o law.

 

Gofynnwyd am ragor o wybodaeth ynghylch fforddiadwyedd cael canolfan hamdden newydd yn Llanelli. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod cyfuniad o ffactorau a bod potensial o gael hyd at £9 miliwn o gyllid o Gyd-fenter Llanelli. Dylai model Dylunio Adeiladu Gweithredu a Chynnal a Chadw leihau'r costau gweithredu i'r eithaf a'r gobaith oedd y byddai benthyciadau heb eu cynnal yn cyllido'r gweddill yn ogystal ag unrhyw arbedion refeniw. Hefyd byddai Canolfan newydd yn rhoi cyfle i ddarparu amrywiaeth o gyfleusterau dan do o safon nad oeddynt ar gael yn y rhan honno o'r sir ar hyn o bryd, sef cyrchfan yn hytrach na chanolfan hamdden draddodiadol.

 

Yn ateb i gwestiwn ychwanegol ynghylch methiant yn y gorffennol o ran trefniadau rheoli gan gyflenwyr allanol ar gyfer y ganolfan bresennol, dywedodd Pennaeth Chwaraeon a Hamdden fod y trefniadau hynny yn rhai a oedd o dan gontract rheoli haearnaidd ac anhyblyg iawn gyda chwmni masnachol.  Bellach roeddynt yn chwilio am gontract oedd yn canolbwyntio ar ganlyniadau tymor hwy gyda chyfle i gynllunio buddsoddiadau dros gyfnod hwy. Hefyd byddai'n bosibl pennu'r strwythur codi tâl cychwynnol a'i gysylltu â chost chwyddiant yn ogystal â chanlyniadau megis lefelau cyfranogiad. Hefyd byddai trefniadau monitro'n cael eu rhoi ar waith. Mantais arall llunio partneriaeth ag NPDO presennol oedd y byddai ganddynt eisoes systemau, gweithdrefnau a chymorth swyddfa gefn a fyddai wedi'u teilwra ar gyfer hamdden.  Hefyd byddai'n lleihau'r risgiau i'r Awdurdod oherwydd byddai gan NPDO a fyddai'n bod eisoes hanes o lwyddo ym maes rhedeg gwasanaethau o'r fath.

 

Cyfeiriwyd at y gwasanaethau a eithriwyd o'r cynnig a gofynnwyd pam roedd y rhain yn cynnwys hawliau tramwy cyhoeddus. Nododd Pennaeth Chwaraeon a Hamdden fod yr agweddau cyfreithiol o'r gwasanaeth hwn wedi trosglwyddo i Adran yr Amgylchedd yn Ebrill 2015.

 

Cyfeiriwyd at y gwasanaethau oedd yn weddill a mynegwyd pryderon y dylai ymchwil i fodelau rheoli eraill ddechrau cyn gynted ag y bo modd o ystyried bod angen gwneud arbedion sylweddol yn y blynyddoedd i ddod. Byddai angen symud ymlaen yn ofalus o ystyried natur y gwasanaethau hynny ac er mwyn bod yn hyderus y gellid darparu gwasanaethau cynaliadwy o safon uchel. Roedd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol yn cytuno â hyn. Byddai'n rhaid i'r Awdurdod wybod yn iawn beth y byddai'n gofyn i'r farchnad  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

EGLURHAD YNGHYLCH PEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIADAU CRAFFU pdf eicon PDF 124 KB

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr eglurhad dros beidio â chyflwyno adroddiad Fframwaith Contractwyr Newydd ac ymagwedd Sir Gaerfyrddin at y Cynllun Trwyddedu Cenedlaethol ar gyfer Landlordiaid Preifat.

 

PENDERFYNWYD nodi'r rheswm dros beidio â chyflwyno'r adroddiad.

 

8.

LLOFNODI BOD COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 22AIN O FEHEFIN 2015 YN GOFNOD CYWIR pdf eicon PDF 236 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22ain Mehefin 2015 yn gofnod cywir.

 

9.

LLOFNODI BOD COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR CRAFFU AR Y CYD - CYMUNEDAU A GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD 23ain GORFFENNAF 2015, YN GOFNOD CYWIR pdf eicon PDF 312 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y cyd rhwng y Pwyllgor Cymunedau a'r Pwyllgor Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a gynhaliwyd ar 23ain Gorffennaf 2015 yn gofnod cywir.