Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr B. Jones a G. B. Thomas ac Aelodau'r Bwrdd Gweithredol L.M.Stephens (Y Dirprwy Arweinydd), P.M. Hughes (Diogelu'r Cyhoedd) a P. Hughes Griffiths (Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth).
|
|||||||||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion:
|
|||||||||||||
DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.
|
|||||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Cofnodion: Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.
|
|||||||||||||
ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL 2016/17 CYNLLUN DATBLYGU LLEOL SIR GAERFYRDDIN PDF 339 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (NODER: Roedd y Cynghorwyr D.Cundy ac S.L. Davies eisoes wedi datgan diddordeb anariannol yn yr eitem hon o ran y cyfeiriadau ar dudalen 73 i geisiadau cynllunio S/34991 a S/22242
Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Monitro Blynyddol 2016/17 i'w ystyried ynghylch gweithrediad Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin, a luniwyd yn unol â gofynion Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 a Rheoliadau Cynllun Datblygu Lleol 2016. Nodwyd mai hwn oedd yr ail adroddiad a gynhyrchwyd gan yr Awdurdod, yn dilyn mabwysiadu'r Cynllun Datblygu Lleol yn ffurfiol ar 10 Rhagfyr, 2014, a byddai'n cael ei gyflwyno maes o law i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref 2017.
Nododd y Pwyllgor yn dilyn cwblhau'r Adroddiad Monitro Blynyddol, roedd y Cyngor yn cael ei argymell i gynnal adolygiad o Gynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin cynllun a byddai angen i'r cynllun:-
- Ystyried a mynd i'r afael â'r diffyg tir sydd ar gael ar gyfer tai ac ystyried yr ymyriadau angenrheidiol, - Paratoi rhagor o dystiolaeth ar oblygiadau a chywirdeb amcanestyniadau aelwydydd a phoblogaeth is-genedlaethol 2014 a'u hystyried yng ngoleuni'r adolygiad, - Ystyried dosbarthu a chyflenwi tai a llwyddiant, neu fel arall, y strategaeth, neu ei helfennau o ran bodloni gofynion tai a nodwyd.
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:- · Cyfeiriwyd at y ffaith fod y Cyngor yn cynnal dadl ar yr adroddiad ym mis Medi, cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru, a gofynnwyd am eglurhad ynghylch sut y gallai aelodau etholedig gyflwyno sylwadau ar yr Adroddiad Monitro Blynyddol ac unrhyw adolygiad o'r Cynllun Datblygu Lleol.
Cadarnhaodd y Rheolwr Blaen-gynllunio, o ran yr Adroddiad Monitro Blynyddol, er y byddai aelodau etholedig yn cael cyfle i drafod hynny yn y Cyngor gallent hefyd gyflwyno sylwadau yn uniongyrchol i'r adran naill ai'n unigol neu, ar sail trafodaeth wleidyddol. O ran yr argymhelliad i adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol, petai'n cael ei fabwysiadu gan y Cyngor, byddai ymgynghoriad cyhoeddus eang yn cael ei gynnal. Byddai rôl/sylwadau aelodau etholedig yn ganolog i'r broses adolygu ynghyd â sylwadau partïon eraill â diddordeb gan gynnwys datblygwyr, cyrff y sector cyhoeddus, cynghorau tref a chymuned a'r cyhoedd.
Wrth gyfeirio at yr Adroddiad Monitro Blynyddol, dywedodd y Pennaeth Cynllunio er bod y cynnwys yn ffeithiol, rôl yr aelodau etholedig wrth ei fabwysiadu oedd holi ynghylch yr ystadegau a oedd yn sail i gynhyrchu'r adroddiad. O ran adolygiad arfaethedig y Cynllun Datblygu Lleol, roedd cyfranogiad aelodau etholedig yn hanfodol i'r broses adolygu gyfan. · Mewn ymateb i gwestiwn ar argaeledd tir ar gyfer datblygu tai a chynnwys safleoedd o fewn y Cynllun Datblygu Lleol, cynghorwyd y Pwyllgor bod y meini prawf ar gyfer cynnwys safleoedd yn fwy llym na'r hyn a fu gyda pherchnogion/datblygwyr tir blaenorol yn gorfod profi'r bwriad o hwyluso'r datblygiad. Yn unol â hynny, os nad oedd y bwriad yn dod i'r amlwg, ni fyddai presenoldeb safle yn y cynlluniau datblygu presennol neu flaenorol, yn ddigon i gyfiawnhau ei gynnwys o dan yr adolygiad. · Cyfeiriwyd at ganfyddiadau'r Astudiaeth ar y Cyd o ran Tir ar gyfer Tai 2017 a oedd yn dangos ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|||||||||||||
ARDOLL SEILWAITH CYMUNEDOL SIR CAERFYRDDIN ADRODDIAD AR GYNNYDD A DIWEDDARIAD PDF 443 KB Cofnodion: Yn dilyn Cofnod 8 o'i gyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Medi, 2016, cafodd y Pwyllgor adroddiad cynnydd ar y gwaith paratoi a gyflawnwyd ar y broses o fabwysiadu Ardoll Seilwaith Cymunedol ar gyfer Sir Gaerfyrddin, yn unol â phenderfyniad y Cyngor ar 13 Ionawr 2016.
Tynnwyd sylw'r Pwyllgor gan y Rheolwr Blaen-gynllunio at y sefyllfa genedlaethol o ran yr Ardoll Seilwaith Cymunedol, lle'r oedd Llywodraeth y DU yn ystyried canfyddiadau adolygiad annibynnol cenedlaethol a oedd yn cynnwys argymhelliad i'w ddisodli gyda model hybrid. Byddai hyn yn golygu mabwysiadu cyfuniad o Dariff Seilwaith Lleol lefel isel ac Adran 106 ar gyfer datblygiadau mawr. Er mai hwn oedd y sefyllfa yn Lloegr, roedd y sefyllfa yn wahanol yng Nghymru, oherwydd o dan ddarpariaethau Deddf Cymru 2017, roedd y penderfyniad ynghylch Ardoll Seilwaith Cymunedol yn fater a gafodd ei datganoli. Byddai'r pwerau dros hyn yn cael eu trosglwyddo i Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2018 a byddai hefyd yn ofynnol cyhoeddi Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau i alluogi Gweinidogion Cymru i addasu deddfwriaeth sy'n bodoli eisoes. Petai Gweinidogion o'r farn ei bod yn briodol i ail-lunio'r Rheoliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol, roedd yn bosibl y byddai angen rheoliadau pellach i hwyluso'r gwelliannau hynny.
Dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio gan nad oedd safbwynt Llywodraeth Cymru ynghylch yr Ardoll Seilwaith Cymunedol yn glir o ran a oedd am symud ymlaen i'w mabwysiadu, ei diwygio neu roi'r gorau iddi, fel y nodir yn rheoliad, ystyriwyd na ddylid paratoi Ardoll Seilwaith Cymunedol ar gyfer Sir Gaerfyrddin am y tro, hyd nes i Lywodraeth Cymru gadarnhau ei sefyllfa. Petai'r Cyngor yn cefnogi'r dull gweithredu hwnnw, roedd y gofynion presennol o ran Cytundebau Adran 106 a chyfraniadau datblygwyr yn parhau'n berthnasol ac yn parhau i gael eu gweithredu er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â pholisi'r Cynllun Datblygu Lleol ac yn hynny o beth, sicrhau y byddai gan ddatblygwyr, cymunedau a'r cyhoedd eglurder ynghylch unrhyw gyfraniadau y dylid ceisio amdanynt gan unrhyw ddatblygiad. Byddai cyfraniadau o'r fath hefyd yn berthnasol i Reoliadau'r Ardoll Seilwaith Cymunedol, gan gynnwys cyfuno cyfyngiadau hefyd.
Nodwyd y byddai adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor pan fyddai cyfeiriad clir ynghylch dyfodol yr Ardoll Seilwaith Cymunedol ar gael, yr hyn fyddai'n ei disodli neu unrhyw newidiadau i Reoliadau'r Ardoll Seilwaith Cymunedol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL A'R CYNGOR Y DYLID:
|
|||||||||||||
LLOFNODI YN GOFNODAU CYWIR COFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 30AIN MAWRTH, 2017 PDF 258 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 30 Mawrth 2017 gan eu bod yn gywir.
|