Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Cymunedau ac Adfywio - Dydd Iau, 1af Gorffennaf, 2021 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr D.C. Evans a H.I. Jones 

 

2.

PENODI CADEIRYDD Y PWYLLGOR AR GYFER FLWYDDYN 2021/22

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd F. Akhtar yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021/22. 

3.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

Cafwyd y datganiadau canlynol o fuddiant

 

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Math o Fuddiant

J Gilasbey

7 - Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Craffu - Cymunedau ac Adfywio 2020/21

Eitem 2.10 yn yr adroddiad - Aelod o'r Teulu yn un o denantiaid y Cyngor

J Gilasbey

8 - Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu - Cymunedau ac Adfywio 2020/21

Blaenraglen Waith y Bwrdd Gweithredol – Mae ysgol yn ei ward yn cael ei nodi yn yr adroddiad

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNGOR SIR CAERFYRDDIN pdf eicon PDF 337 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a gyflwynwyd gan y Cynghorydd A Davies (Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig) ar Adroddiad Blynyddol y Cyngor ar gyfer 2020/21, a luniwyd yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Nodwyd bod effaith Covid-19 ar wasanaethau'r cyngor wedi golygu na fu'n bosibl eleni i'r adroddiad weithredu naill ai fel adroddiad cynnydd ar berfformiad neu fel cymharydd ag awdurdodau lleol eraill. Roedd felly yn rhoi sylw i'r camau a gymerwyd gan y Cyngor i gefnogi ei drigolion, ei gymunedau a'i fusnesau drwy gydol y pandemig.

 

Roedd yr adroddiad yn cyfeirio yn ei dro at bob un o 15 Amcan Llesiant y Cyngor ac yn asesu'r cynnydd a'r addasiadau a wnaed yn ystod y flwyddyn. Canolbwyntiodd yr aelodau ar yr adrannau canlynol yn y ddogfen sy'n berthnasol i gylch gorchwyl y Pwyllgor:

 

·       Trosolwg o flwyddyn Covid-19 gan gynnwys ymatebion ac effeithiau allweddol

·       AMCAN LLESIANT 2. Helpu plant i ddilyn ffyrdd iach o fyw

·       AMCAN LLESIANT 6. Creu mwy o swyddi a thwf ledled y sir

·       AMCAN LLESIANT 7. Cynyddu faint o dai rhent a thai fforddiadwy sydd ar gael

·       AMCAN LLESIANT 8. Helpu pobl i fyw bywydau iach (mynd i'r afael ag ymddygiad peryglus a gordewdra)

·       AMCAN LLESIANT 14. Hyrwyddo'r iaith Gymraeg a Diwylliant

·       Atodiadau

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

·       Cyfeiriwyd at y cynnydd a gofnodwyd mewn gordewdra yn ystod plentyndod o 26.8% yn 2017/18 i 30.4% yn 2018/19 a gofynnwyd am eglurhad ynghylch y rhesymau dros y cynnydd siomedig.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden, er bod y cynnydd yn siomedig, y dylid cydnabod ei fod yn gysylltiedig â chyfnod adrodd 2018/19, a bod pandemig Covid wedi cael effaith ar y broses o lunio ystadegau mwy diweddar ac felly roedd y sefyllfa bresennol yn aneglur. Er nad oedd esboniad clir a diffiniadwy ynghylch y cynnydd, roedd o ganlyniad i gyfuniad ehangach o ffactorau na dim ond hamdden ac roedd yr awdurdod, ar y cyd â'i bartneriaid, yn gweithio i leihau'r cyfraddau hynny.

·       Cyfeiriwyd at y ddarpariaeth o ystafelloedd dosbarth/ardaloedd dysgu awyr agored mewn ysgolion newydd a adeiladwyd gan yr awdurdod ac a oedd y Cyngor yn darparu cymorth ariannol tuag at eu darparu mewn ysgolion gwledig bach presennol.

 

Dywedodd y Pennaeth Hamdden fod unrhyw gyllid uniongyrchol ar gyfer gwelliannau i ysgolion yn cael ei ddarparu o dan Raglen Moderneiddio Addysg y Cyngor. Roedd honno'n rhaglen dreigl gyda gwelliannau'n cael eu gwneud wrth i gyllid ddod i law. Fodd bynnag, roedd ysgolion yn arloesol yn eu hymagwedd at ddysgu yn yr awyr agored a oedd yn cynnwys, er enghraifft, ymweliadau â pharciau a ffermydd ac ati.

 

Rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf hefyd am y gwaith sy'n cael ei wneud gan y Gwasanaethau Hamdden i ddarparu gweithgareddau hamdden awyr agored drwy fynd â chyfleusterau fel y wal ddringo i ysgolion unigol/ardaloedd i ategu'r cyfleusterau a ddarperir yng Nghanolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn. Ochr yn ochr â'r ddarpariaeth honno, roedd cynllun peilot yn cael  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

POLISI YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL A THORRI AMODAU TENANTIAETH 2021 pdf eicon PDF 320 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Dai ar gynigion i'r Cyngor fabwysiadu Polisi ar gyfer Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Thorri Amodau Tenantiaeth. Roedd hyn ar gyfer prosesu cwynion ynghylch Ymddygiad Gwrthgymdeithasol gan y Tîm Cymdogaethau yn yr adran Diogelu'r Amgylchedd. Rhoddodd yr adroddiad enghreifftiau o ymddygiad gwrthgymdeithasol a'u trefn blaenoriaeth yn y tri chategori canlynol:-

 

-        Categori A – Achosion brys neu ddifrifol - trin â'r rhain cyn gynted ag y bo'n bosibl (anelu at gysylltu o fewn 24 awr)

-        Categori B - Materion Difrifol - anelu at gysylltu cyn pen 5 diwrnod gwaith

-        Categori C - Lefel Isel - anelu at gysylltu cyn pen 10 diwrnod gwaith.

 

Rhoddwyd sylw i'r mater canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·       Mewn ymateb i gwestiwn, rhoddodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel sicrwydd i'r Pwyllgor, lle'r oedd tenantiaid yn wrthgymdeithasol, ei bod yn bwysig gwneud pob ymdrech i ymgysylltu â hwy a'u cefnogi i fynd i'r afael ag unrhyw faterion a allai fod ganddynt. Fodd bynnag, pe bai pob dull i fynd i'r afael â'r materion yn methu, efallai mai troi allan fyddai'r unig ddewis sydd ar gael, ond gallai hynny arwain at y tenantiaid yn cyflwyno eu hunain i'r Cyngor yn ddigartref.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL argymell i'r Bwrdd Gweithredol/Cyngor fod y Polisi ar gyfer Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Thorri Amodau Tenaniaeth 2021 yn cael ei gymeradwyo.

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU AC ADFYWIO 2020/21 pdf eicon PDF 302 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd J Gilasbey wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)

 

Cafodd y Pwyllgor ei Adroddiad Blynyddol ar y gwaith a gyflawnwyd yn ystod blwyddyn y cyngor 2020/21 yn dilyn y nifer llai o gyfarfodydd a gynhaliwyd o fis Tachwedd 2020 i fis Ebrill 2021 oherwydd y pandemig coronafeirws. Nodwyd bod yr adroddiad wedi'i baratoi'n unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor a'i fod yn rhoi trosolwg o'r rhaglen waith a'r materion allweddol dan sylw, gan gynnwys hefyd unrhyw faterion a gyfeiriwyd at neu gan y Bwrdd Gweithredol, adolygiadau Gorchwyl a Gorffen a sesiynau datblygu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

8.

BLAENRAGLEN WAITH Y PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU AC ADFYWIO AR GYFER 2021/22 pdf eicon PDF 306 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd J Gilasbey wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)

 

Bu'r Pwyllgor, yn unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor, yn ystyried ei Flaenraglen Waith ddrafft ar gyfer 2021/22 a oedd yn nodi manylion materion ac adroddiadau i'w hystyried yn ystod blwyddyn y cyngor.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod wedi cynnal ymweliadau â Chanolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn, Canolfan Hamdden Sanclêr a'r Gât, Sanclêr o'r blaen. Awgrymwyd y dylid darparu adroddiadau diweddaru ar y sefyllfa bresennol ynghylch y cyfleusterau hynny mewn un o gyfarfodydd y Pwyllgor a oedd wedi'u trefnu ar gyfer mis Tachwedd neu fis Rhagfyr 2021

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Blaenraglen Waith Ddrafft 2021/22 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar gynnwys adroddiadau diweddar ar yr uchod yn ei gyfarfodydd ym mis Tachwedd neu fis Rhagfyr.

9.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 280 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 30 Medi 2021.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o eitemau a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 30 Medi 2021.

10.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 12 EBRILL 2021 pdf eicon PDF 243 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion: