Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin J Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr D.C. Evans a B. Jones.
Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Alan Speake i'w gyfarfod cyntaf wedi iddo gael ei benodi yn ddiweddar yn aelod o'r Pwyllgor, gan gymryd lle'r Cynghorydd Aled Vaughan Owen. |
|||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.
Gwnaed y datganiad canlynol ynghylch buddiant personol:-
|
|||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Cofnodion: Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law. |
|||||||
YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2020/21 TAN 2022/23 PDF 297 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth y Gyllideb Refeniw 2020/21 hyd 2022/23 a oedd wedi ei chymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn y cyfarfod ar 6 Ionawr 2020. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2020/2021, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2021/2022 a 2022/2023 yn seiliedig ar ragamcanion gwariant y swyddogion, gan ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 16 Rhagfyr 2019.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol er bod y setliad dros dro a gyhoeddwyd yn cynrychioli cynnydd o 4.3% fel cyfartaledd ledled Cymru ar setliad 2019/20, fod Sir Gaerfyrddin wedi cael cynnydd o 4.4% (£11.548m) gan gymryd y Cyllid Allanol Cyfun i £274.159m ar gyfer 2020/21. Fodd bynnag, roedd cyfrifoldebau newydd a throsglwyddiadau i'r setliad, gan gynnwys Pensiynau a Chyflogau Athrawon, a oedd yn cael eu hariannu'n rhannol yn unig o fewn y setliad, yn cyfrif am tua £5.8m neu hanner y cynnydd cyffredinol mewn cyllid.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion am Grantiau Penodol i Wasanaethau Llywodraeth Cymru, a ddarparwyd ynghyd â'r setliad dros dro ar lefel Cymru gyfan, ac roedd llawer ohonynt yn aros ar lefel weddol debyg i 2018/19.
Cyfeiriodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol at y pwysau gwariant cynyddol ar y gyllideb, fel y nodwyd yn adran 3.4 yr adroddiad, a dywedodd er bod y pwysau hynny yn £13m, mai cyfanswm y gwerth ar gyfer twf, yn seiliedig ar y wybodaeth gyfredol, oedd dim ond £7.4m. Roedd tipyn o'r pwysau yn dod o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Craffu - Cymunedau ac yn cynnwys cynigion ynghylch datgarboneiddio, y Cynllun Datblygu Lleol a'r rhaglen Clefyd Coed Ynn. Roedd swm o £325,000 hefyd wedi cael ei gynnwys yn y rhaglen i fynd i'r afael â'r diffyg hanesyddol rhwng y rhagolwg a'r gwir incwm yn yr is-adran gynllunio.
Yn gryno, roedd y cynigion ynghylch y gyllideb yn cymryd bod yr holl gynigion o ran arbedion yn cael eu cyflawni'n llawn, ynghyd â nodi a chyflawni'r diffyg yng nghynigion arbedion blynyddoedd ariannol 2021/22 a 2022/23. Byddai angen nodi gostyngiadau pellach mewn costau a/neu gytuno ar gynnydd mwy yn y dreth gyngor er mwyn mantoli'r gyllideb ar gyfer y ddwy flynedd diwethaf. At hynny, o ystyried maint y pwysau a'r bwlch a ragwelir yn y gyllideb, roedd y cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor wedi parhau ar lefelau'r cynllun ariannol tymor canolig (MTFP) blaenorol o 4.89% ym mhob un o'r tair blynedd ariannol, a oedd yn cynnig rhywfaint o liniaru ar y cynigion ar gyfer arbedion.
I gloi, dywedwyd wrth y Pwyllgor, oherwydd yr oedi o ran derbyn y setliad dros dro a'r ffaith na fydd setliad terfynol Llywodraeth Cymru yn cael ei gyhoeddi tan 25 Chwefror 2020, y byddai'r Cyngor Sir yn gosod ei gyllideb derfynol ar 3 Mawrth 2020.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth ac a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl:
· Atodiad A(i) – Crynodeb o'r arbedion effeithlonrwydd ar gyfer y meysydd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|||||||
CYNLLUN BUSNES DRAFFT ADRAN CYMUNEDAU 2020 - 2023 PDF 258 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried Cynllun Busnes Drafft 2020 – 2023 yr Adran Cymunedau mewn perthynas â'r gwasanaethau hynny sydd o fewn ei faes gorchwyl h.y. Gwasanaethau Tai a Gwasanaethau Hamdden. Nodwyd y byddai rhagor o waith yn cael ei wneud ar y drafft ar ôl cael sylwadau ac ymgysylltu â'r pwyllgor craffu, aelodau etholedig a grwpiau staff.
Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad: · Cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden, mewn ymateb i gwestiwn ar ‘fuddsoddi er mwyn arbed’ yn 5 canolfan hamdden y Cyngor i leihau'r defnydd o ynni, mai costau ynni ar gyfer gwresogi pyllau nofio oedd y gost fwyaf a wynebai'r canolfannau. Er mwyn mynd i'r afael â'r rheiny, roedd pob canolfan wedi cael ei hasesu'n annibynnol gan yr Ymddiriedolaeth Garbon ac roedd trafodaethau ar y gweill i weld pa waith ychwanegol y gellid ei wneud i wella mesurau a gyflwynwyd yn flaenorol ar gyfer lleihau ynni. Roedd y mesurau blaenorol hynny wedi cynnwys gosod gorchuddion pwll nofio yn y 5 pwll, yn ogystal â phaneli solar yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin o dan y cynllun 'buddsoddi er mwyn arbed'. Fodd bynnag, gyda chynnydd o £70,000 mewn costau ynni, roedd angen mesurau lleihau pellach i wrthbwyso'r cynnydd hwnnw.
Dywedodd y Pennaeth Eiddo fod y Cyngor ar hyn o bryd yn trafod buddsoddiadau mewn technoleg gyda'i ymgynghorwyr ynni 'Ameresco' er mwyn lleihau'r defnydd o ynni yn ei eiddo, gan gynnwys pyllau nofio, a allai gynnwys paneli solar a gwelliannau o ran goleuadau. Rhagwelwyd y byddai'r gwaith hwnnw'n dechrau'n ddiweddarach yn 2020. · Mewn ymateb i gwestiwn ar y cyfeirnod risg SS600018 yn ymwneud â diogelwch cyfranogwyr, yn enwedig o amgylch ardaloedd d?r, cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden ei fod yn cwmpasu'r risgiau y mae'n rhaid i'r Adran eu hystyried o ran y potensial i bobl foddi a chynnal ac adolygu mesurau i leihau'r risg honno. Er enghraifft, er bod achubwyr bywydau hyfforddedig ar ddyletswydd bob amser yn holl ganolfannau hamdden y Cyngor, mae'r ddarpariaeth honno'n anoddach mewn perthynas ag ardaloedd morol ac ardaloedd d?r eraill. O ran traethau a reolir gan yr awdurdod ym Mhen-bre/Cefn Sidan, mae'r RNLI yn darparu achubwyr bywydau yn ystod misoedd yr haf. Mae'r Adran yn cydnabod y risg sy'n deillio o weithgareddau d?r ac mae'n cael ei monitro yn barhaus. · Cyfeiriwyd at elfen y gwasanaethau diwylliannol yn y cynllun busnes sy'n ymwneud â datblygu'r Stordy a chyflawni cynllun trawsnewid yr amgueddfeydd. Gofynnwyd am sicrwydd na fyddai unrhyw ddwy amgueddfa yn cael eu cau ar yr un pryd heb fod dewisiadau eraill ar gael.
Dywedodd y Pennaeth Hamdden fod y gwaith adeiladu wedi'i gwblhau mewn perthynas â'r Stordy a bod y cyfnod sychu o 12 wythnos yn mynd rhagddo ar hyn o bryd er mwyn sicrhau bod yr amodau'n briodol ar gyfer yr archifau a fydd yn cael eu storio. Rhagwelwyd y byddai'r adeilad yn agor tua diwedd gwanwyn 2020.
O ran cynllun trawsnewid yr amgueddfeydd, byddai pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau na fydd unrhyw gyfleusterau ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|||||||
CYNLLUN BUSNES ADRANNOL Y PRIF WEITHREDWR 2020/2023 PDF 250 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (SYLWER: Roedd y Cynghorydd A. Davies wedi datgan buddiant yn gynharach yn yr elfen o'r adroddiad sy'n ymwneud â phortffolio gwledig y Cyngor)
Bu’r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad ar Gynllun Busnes 2020/23 Adran y Prif Weithredwr mewn perthynas â'r Is-adran Adfywio sydd o fewn ei faes gorchwyl.
Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:
· Cyfeiriwyd at y ffaith bod cyllid ar gael gan yr UE a gofynnwyd am eglurhad ynghylch a fyddai'r Cyngor yn gwneud cais am grantiau i hwyluso datblygiadau newydd o fewn ei safleoedd diwydiannol i greu cyfleoedd gwaith.
Cadarnhaodd y Pennaeth Adfywio, gan fod ganddo bortffolio diwydiannol mawr, fod y Cyngor bob amser yn archwilio ffyrdd o hawlio arian grant lle bynnag y bo modd, yn ogystal â defnyddio Cynllun Buddsoddi er mwyn Arbed y Cyngor a'r Grant Datblygu Eiddo. Roedd ymchwiliadau hefyd yn cael eu cynnal i ddichonoldeb targedu'r Fenter 10 Tref i ddarparu cyfleoedd gwaith.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Economaidd, er y byddai cyllid yr UE yn dod i ben yn 2025, fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gweithio ar ddau gynllun cyfnewid ar gyfer cronfeydd strwythurol yr UE, sef 'Cronfa Ffyniant Gyffredin' y DU a 'Chronfa Buddsoddi Cymru’ Llywodraeth Cymru.
Dywedodd fod trafodaethau'n cael eu cynnal gyda Llywodraeth Cymru am gyllid gan Gronfa Fuddsoddi Cymru i adlewyrchu anghenion lleol a rhanbarthol ac am iddo gael ei ddatganoli i'r rhanbarthau. Roedd gwaith hefyd yn cael ei wneud, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Aberystwyth, i ddarparu tystiolaeth ddogfennol o'r angen am Gronfa Wledig i Gymru. · Mewn ymateb i gwestiwn ar flaenoriaeth 10 ac ystad ffermydd y Cyngor, cadarnhaodd y Cynghorydd D. Jenkins nad oedd gan y Bwrdd Gweithredol unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i waredu unrhyw ran o'r ystad ffermydd. Roedd y flaenoriaeth yn ymwneud yn unig ag archwilio sut y gallai'r Cyngor gael y budd mwyaf posibl o'r ystad, e.e. darparu unedau cychwyn a chynyddu cyfleoedd datblygu/arallgyfeirio i'r eithaf, yn enwedig mewn perthynas â chynhyrchu ynni adnewyddadwy.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Cynllun Busnes Adran y Prif Weithredwr 2020/2023 yn cael ei dderbyn. |
|||||||
CYNLLUN BUSNES ADRANNOL YR AMGYLCHEDD 2020/2023 PDF 257 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad ar Gynllun Busnes 2020/2023 Adran yr Amgylchedd mewn perthynas â'r gwasanaethau hynny sydd o fewn ei faes gorchwyl h.y. Gwasanaethau Cynllunio ac Eiddo, gan amlinellu'r blaenoriaethau ar gyfer yr adran dros gyfnod y Cynllun.
Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Cyfeiriwyd at y cais twf o £100,000 i fynd i'r afael â chlefyd coed ynn yn y Sir a cheisiwyd eglurhad ynghylch lle y byddai hynny'n cael ei ddefnyddio ac a oedd yn ddigonol i fynd i'r afael â'r clefyd ledled y Sir ac i blannu coed newydd.
Mewn perthynas â phlannu coed, dywedodd y Pennaeth Cynllunio y byddai'r gost yn cael ei thalu ar hyn o bryd o'r cyllidebau presennol a bod arian cyfatebol ar gael ar gyfer hynny. Y flaenoriaeth ar hyn o bryd i'r Cyngor yw nodi lleoliadau lle y gellid canfod coed ynn ar ei eiddo a byddai'r rhan fwyaf o'r cyllid yn cael ei ddefnyddio i ariannu'r rhaglen honno a phenodi swyddog cydgysylltu. Er nad yw union gost ailblannu yn hysbys ar hyn o bryd, bydd angen ystyried hynny, ynghyd ag unrhyw drefn cynnal a chadw wedi hynny, yn rhan o gynigion ar gyfer y gyllideb yn y dyfodol.
Dywedodd hefyd fod nifer mawr o goed sydd wedi'u heffeithio ar dir preifat trydydd parti ac mai un o swyddogaethau'r swyddog cydgysylltu fyddai cysylltu â pherchnogion tir preifat ynghylch eu rhwymedigaethau o ran trin/symud/ailblannu.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Cynllun Busnes Adran yr Amgylchedd 2020/2023 yn cael ei dderbyn. |
|||||||
CANLYNIADAU AROLWG TENANTIAID Y CYNGOR (STAR) (2019) PDF 513 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor ganlyniadau arolwg diweddar tenantiaid y Cyngor (STAR) 2019 a gomisiynwyd gan y Cyngor ac a gynhaliwyd ar ei ran gan ARP Research. Arolygwyd tua 5,000 o denantiaid, a derbyniwyd dros 2,000 o ymatebion i'r 8 maes cwestiynau safonol a ddefnyddiwyd ar draws y tenantiaid tai i gael meincnod mewn perthynas â darparwyr tai eraill. Y prif ymatebion i'r arolwg oedd y cyfraddau bodlonrwydd canlynol:-
- 82% - gwasanaethau'r Cyngor, - 79% - ansawdd cartrefi; - 77% - gwerth yr arian o ran rhent - 76% - gwerth yr arian o ran y tâl gwasanaeth; - 64% - yn gwrando ac yn gweithredu ar safbwyntiau - 75% - gwaith atgyweirio a gwaith cynnal a chadw cyffredinol; - 79% - y gwaith trwsio diwethaf - 85% - y gymdogaeth fel lle i fyw - 66% - gwasanaeth cynnal tiroedd - 58% - delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi'r camau nesaf i'w cymryd mewn ymateb i ganfyddiadau'r arolwg.
Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:
· Mewn ymateb i gwestiwn ar y sgôr o 58% ar gyfer delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, dywedodd y Rheolwr Ymgysylltu a Phartneriaeth ei bod yn sgôr anodd i'w mesur ac y byddai trafodaethau yn cael eu cynnal gyda thenantiaid a'r heddlu yn awr i archwilio materion a nodwyd gan yr arolwg.
Cadarnhaodd Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod yr is-adran yn buddsoddi adnoddau ychwanegol yn ei thîm ymddygiad gwrthgymdeithasol a fyddai bellach yn mynd i'r afael â'r materion a nodwyd gan yr arolwg. Fodd bynnag, roedd yn rhaid cydnabod, er nad oedd sicrhau cyfradd fodlonrwydd uchel yn y dangosydd hwn yn hawdd, y byddai'r is-adran yn parhau i geisio gwella'r gyfradd. · O ran cwestiwn ar berfformiad y Cyngor o'i gymharu â darparwyr tai eraill, adroddwyd bod Llywodraeth Cymru yn coladu data ar ei pherfformiad ar hyn o bryd ac y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi ym mis Ebrill. Roedd y Cyngor hefyd yn edrych ar ddichonoldeb dod yn aelod o glwb meincnodi lle y gallai asesu ei safle gyda darparwyr eraill o ran darpariaeth tai a chost y ddarpariaeth honno. Un o'r ffactorau a ddylanwadodd ar gymariaethau cost â chymdeithasau tai oedd oedran y stoc, gan fod stoc cymdeithasau, ar gyfartaledd, yn sylweddol iau na stoc awdurdodau lleol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn canlyniadau STAR 2019. |
|||||||
SAFONAU LLYFRGELLOEDD CYHOEDDUS CYMRU 2017-2020 PDF 153 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad ynghylch Asesiad Blynyddol Gwasanaethau Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin 2018/19, a luniwyd yn unol â gofynion Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964, a osododd ddyletswydd statudol ar yr holl Awdurdodau Llyfrgelloedd Cyhoeddus i 'ddarparu gwasanaeth llyfrgell cynhwysfawr ac effeithiol' ac ar Weinidogion Cymru i 'oruchwylio a hyrwyddo'r gwaith o wella' gwasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru. Yn unol â'r gofyniad hwnnw, roedd Llywodraeth Cymru wedi cwblhau ei asesiad o ffurflen flynyddol Gwasanaethau Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin ar gyfer 2018/19 yn erbyn y 6ed Fframwaith Asesu Ansawdd, a bodlonodd Sir Gaerfyrddin bob un o'r 12 hawliad craidd yn llawn. O blith y 10 dangosydd ansawdd oedd â thargedau, roedd Sir Gaerfyrddin wedi cyflawni naw yn llawn a'r llall wedi'i fodloni'n rhannol, ac roedd yn un o ddim ond pedwar awdurdod sydd wedi cyflawni'r lefel honno.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|||||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2019/20 PDF 299 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiadau Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2019/20 y Gwasanaethau Tai, Adfywio, Cynllunio a Hamdden ar gyfer y cyfnod hyd at 31 Hydref 2019. Nodwyd y rhagwelid gorwariant o £342k yn y gyllideb refeniw, tanwariant o £1,728k yn y gyllideb gyfalaf, a thanwariant o £333k yn y Cyfrif Refeniw Tai.
Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-
· Mewn perthynas â chwestiwn ar y swm a ragwelwyd o £55k o werthiant uwch na rhagolwg y gyllideb o ran incwm yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Aman, cadarnhawyd bod hyn wedi'i briodoli i gryn dipyn o waith a wnaed ar wella ardaloedd gwlyb a sych y ganolfan, gan arwain at gynnydd mewn lefelau aelodaeth. · O ran cwestiwn ar yr oedi wrth ddatblygu un cynllun tai â chymorth yn Llanelli, cadarnhaodd Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel nad oedd yr oedi wedi arwain at gynnydd mewn costau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf. |
|||||||
DIWEDDARIAD GWEITHREDU CRAFFU PDF 292 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad a nodai'r hyn a wnaed mewn perthynas â'r ceisiadau neu atgyfeiriadau a oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. |
|||||||
EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU PDF 97 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr eglurhad a roddwyd dros beidio â chyflwyno dau adroddiad craffu.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad nad oedd wedi'i gyflwyno. |
|||||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 31 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried rhestr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 5 Chwefror 2020.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol, ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor sydd i'w gynnal ym mis Chwefror 2020. |
|||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 19EG TACHWEDD 2019 PDF 248 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2019 yn gywir. |