Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant.
|
|
COFNOD PENDERFYNIADAU - 14 GORFFENNAF 2016 Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 14 Gorffennaf 2016 yn gofnod cywir.
|
|
LLWYBR TROED CYHOEDDUS 9/6, HAZELWELL HOUSE, HENDY-GWYN AR DAF. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar gais am wyro Llwybr Troed Cyhoeddus Cofrestredig 9/6o dan Adran 119 o Ddeddf Priffyrdd 1980. Roedd y swyddogion wedi dod i'r casgliad fod y cais yn bodloni'r meini prawf a bennwyd yn y Ddeddf uchod, sef ei bod yn hwylus fod cwrs y llwybr yn cael ei wyro er budd perchennog y tir a groesir gan y llwybr, nad oedd y gwyriad arfaethedig llawer yn llai cyfleus i'r cyhoedd, nac ychwaith yn effeithio'n andwyol ar fwynhad y cyhoedd o'r llwybr yn ei gyfanrwydd.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais a gwneud y Gorchymyn Gwyro Llwybr Cyhoeddus priodol yn unol ag adran 119 o Ddeddf Priffyrdd 1980.
|
|
CYMORTH ARIANNOL O'R GRONFA GRANT GANLYNOL: GRANT CRONFA'R DEGWM Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa'r Degwm yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:
Ymgeisydd Dyfarniad Clwb Rygbi Sanclêr £10,000.00 Eglwys San Mihangel, Gelli Aur £3,000.00 Opera Ieuenctid Caerfyrddin a'r Cylch £3,000.00
|