Lleoliad: Ystafell 65 - Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Catherine Gadd 01267 224088
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant. |
|
GRANTIAU CYSYLLTIEDIG Â THRAFNIDIAETH LLYWODRAETH CYMRU 2017-18 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a fanylai ar y cynigion oedd wedi'u cyflwyno i Lywodraeth Cymru am y Gronfa Trafnidiaeth Leol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017-18. Pwysleisiwyd mai pwrpas y cynigion oedd sicrhau bod y prosiectau economaidd allweddol yn cael eu cyflawni'n llwyddiannus fel y manylir yng Nghynllun Trafnidiaeth Lleol y Cyngor. Roedd y prosiectau'n cynnwys cefnogi datblygiad economaidd a helpu i hwyluso symud nwyddau a phobl yn ddiogel.
Esboniodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth y cafwyd datblygiadau pellach a bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cyhoeddiadau cynnar yn amlinellu'r prosiectau a fyddai'n cael eu hariannu. Cafodd Cyngor Sir Caerfyrddin y dyfarniad uchaf o gyllid. Estynnodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ei longyfarchiadau i'r swyddogion am y gwaith yr oeddynt wedi'i gyflawni yn sicrhau'r cyllid hwn.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cynnig oedd wedi'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru am y Gronfa Trafnidiaeth Leol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017-18, yn unol â'r adroddiad.
|
|
SHOPMOBILITY CAERFYRDDIN Cofnodion: Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad ynghylch cefnogi Shopmobility Caerfyrddin drwy grant pellach o £13,596 am gyfnod o 12 mis gan gychwyn ym mis Medi 2017. Esboniwyd bod Shopmobility yn un o brif flaenoriaethau Strategaeth Barcio Integredig y Cyngor. Roedd y Cyngor wedi cefnogi Cynllun Shopmobility Caerfyrddin ers 2011 ac roedd y trefniadau cyllido presennol yn dod i ben eleni. Nodwyd bod y Gr?p yn cael incwm drwy godi tâl a thrwy gynnal gweithgareddau i godi arian. Fodd bynnag, roedd yn dibynnu'n bennaf ar gefnogaeth ariannol gan y Cyngor.
PENDERFYNWYD rhoi grant pellach o £13,596 i gynorthwyo Shopmobility Caerfyrddin am gyfnod o 12 mis arall, yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad.
|
|
SHOPMOBILITY LLANELLI Cofnodion: Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad ynghylch cefnogi Shopmobility Llanelli drwy grant pellach o £14,000 ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017/18 gan gychwyn ar 1 Ebrill 2017. Pwysleisiwyd bod Shopmobility yn un o brif flaenoriaethau Strategaeth Barcio Integredig y Cyngor. Roedd y Cyngor wedi cefnogi Cynllun Shopmobility Llanelli ers 2011 ac roedd y trefniadau cyllido presennol yn dod i ben eleni. Nodwyd bod y Gr?p yn cael incwm drwy godi tâl a thrwy gynnal gweithgareddau i godi arian. Fodd bynnag, roedd yn dibynnu'n bennaf ar gefnogaeth ariannol gan y Cyngor.
Holodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol am lefel yr aelodaeth yng Nghynllun Llanelli ac esboniwyd bod demograffig economaidd-gymdeithasol Llanelli yn wahanol i Gaerfyrddin. Byddai swyddogion yn ymgymryd â thrafodaethau pellach â'r Gr?p ynghylch cynyddu aelodaeth a chreu incwm.
PENDERFYNWYD cynorthwyo Shopmobility Llanelli drwy grant pellach o £14,000 ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017/18.
|
|
COFNOD PENDERFYNIADAU - 25AIN IONAWR 2017 Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi ei gynnal ar 25 Ionawr 2017, gan ei fod yn gywir. |