Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S.M. Allen, J.K. Howell a T. Devichand.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
DATGAN CHWIP WAHARDDEDIG Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD Cofnodion: Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.
|
|
STRATEGAETH GTCH 2015-18 PDF 159 KB Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn edrych ar y cynnydd a wnaed wrth weithredu Strategaeth TGCh y Cyngor ar gyfer 2015-18, fel y'i cymeradwywyd gan y Bwrdd Gweithredol yn ei gyfarfod ar 15 Rhagfyr 2014, mewn perthynas â'r pum thema ganlynol:
Thema 1 – Rhoi gwell mynediad i ddinasyddion i wasanaethau'r Cyngor; Thema 2 – Hyrwyddo Cynhwysiad Digidol; Thema 3 – Cefnogi Effeithlonrwydd Busnes; Thema 4 – Rhannu gwybodaeth ac 'uno' gwasanaethau; Thema 5 – Cefnogi Ysgolion ac Addysg.
Nododd
y Pwyllgor fod Bwrdd Llywio Trawsnewid Digidol wedi'i sefydlu ym
mis Medi 2016 ac y cytunwyd bod angen adolygu'n sylweddol
Strategaeth TGCh 2015-18 yng ngoleuni
technolegau datblygol newydd. Hefyd nodwyd y byddai Strategaeth
Trawsnewid Digidol newydd [gweler cofnod 6 isod] yn cael ei
hysgrifennu a fyddai'n disgrifio blaenoriaethau a dyheadau
strategol y Cyngor o ran y maes digidol. Hwn, felly, oedd yr
adroddiad diweddaru olaf ynghylch Strategaeth TGCh 2015-18. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|
STRATEGAETH TRAWSNEWID DIGIDOL 2017 - 2020 PDF 168 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Strategaeth Trawsnewid Digidol arfaethedig 2017-2020 sy'n disgrifio blaenoriaethau a dyheadau strategol y Cyngor o ran y maes digidol ac yn rhoi braslun o'r hyn y mae'r Cyngor yn bwriadu ei wneud i wireddu ei weledigaeth ar gyfer Sir Gaerfyrddin Ddigidol. Roedd y Strategaeth, y gofynnir i'r Bwrdd Gweithredol ei chymeradwyo yn ei gyfarfod ar 2 Mai 2017, yn rhoi eglurder ynghylch y canlynol: · Ein gweledigaeth ddigidol ar gyfer Sir Gaerfyrddin; · Beth yw Strategaeth Trawsnewid Digidol; · Adeiladu Sylfeini Digidol yn Sir Gaerfyrddin; · Meysydd Blaenoriaeth Allweddol: o Gwasanaethau Digidol i Gwsmeriaid; o Gweithlu Digidol; o Cymunedau a Busnesau Digidol; o Cydweithio Digidol; · Y Prosiectau allweddol sydd i'w cyflawni; · Yr Adnoddau sydd eu hangen i gyflawni'r weledigaeth ddigidol.
Codwyd y materion canlynol wrth ystyried y Strategaeth:
· Ceir cyfeiriadau at drigolion a gweithlu'r Cyngor yn y Strategaeth a mynegwyd y farn y dylai fod cyfeiriad hefyd at aelodau etholedig. Cytunodd y Pennaeth TGCh i roi ystyriaeth i hyn cyn bod y strategaeth yn cael ei chymeradwyo'n derfynol; · Mynegwyd y gobaith na fyddai digideiddio cynyddol yn arwain at gyswllt a rhyngweithio llai personol rhwng y Cyngor a'r cyhoedd; · Er i'r Strategaeth gael ei chroesawu, mynegwyd pryder bod y ddarpariaeth band eang mewn ambell i fan yn y Sir yn parhau'n wael. Atebodd y Pennaeth TGCh ei fod wrthi'n mynd ar drywydd y mater hwn, gan gynnwys y ddarpariaeth band eang i ysgolion, gyda BT. Ystyrid bod gan Lywodraeth Cymru rôl i'w chwarae hefyd o ran rhoi pwysau ar BT i gyflwyno band eang cyflym iawn drwy'r wlad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Strategaeth yn amodol ar gynnwys cyfeiriad at aelodau etholedig.
|
|
EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU PDF 67 KB Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad "peidio â chyflwyno".
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 22 Mawrth 2017 gan eu bod yn gywir.
|