Lleoliad: Chamber, County Hall, Carmarthen
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb oddi wrth y Cynghorydd A.G. Morgan.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol.
|
|
DATGAN CHWIP WAHARDDEDIG Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Cofnodion: Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.
|
|
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 102 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 22 Mawrth 2017.
|
|
POLISI A STRATEGAETH RHEOLI'R TRYSORLYS 2017-18 PDF 148 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Polisi a Strategaeth arfaethedig Rheoli'r Trysorlys 2017/18 [a gafodd ei ystyried, hefyd, gan y Bwrdd Gweithredol yn ei gyfarfod ar 6 Chwefror 2017] ac atgoffwyd yr aelodau fod yn rhaid i'r Cyngor, o dan ofynion Côd Ymarfer diwygiedig CIPFA ynghylch Rheoli'r Trysorlys, feddu ar Bolisi Rheoli'r Trysorlys a oedd yn manylu ar bolisïau ac amcanion ei weithgareddau o ran rheoli'r trysorlys. Fe'u hatgoffwyd hefyd fod yn rhaid i'r Cyngor gymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys yn flynyddol cyn dechrau'r flwyddyn ariannol yr oedd yn ymwneud â hi. Hefyd, dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2003, roedd yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo ei Ddangosyddion Darbodaeth o ran Rheoli'r Trysorlys ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mewn ymateb i ymholiad, cytunodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol i ddosbarthu'r manylion ynghylch sgorio blaenoriaethau yn achos y prosiectau newydd oedd wedi'u cynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ddiweddaraf. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2017/18 a'r atodiadau cysylltiedig.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Chwarterol ynghylch Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys am y cyfnod 1Ebrill – 31 Rhagfyr 2016 [a gafodd ei ystyried, hefyd, gan y Bwrdd Gweithredol yn ei gyfarfod ar 6 Chwefror 2017] i sicrhau bod y gweithgareddau a wnaed yn gyson â gofynion Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2015-16 a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 23 Chwefror, 2016.
Rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol wybod i'r Pwyllgor fod buddsoddiadau'r Cyngor, dros y cyfnod monitro o 9 mis, wedi rhagori 0.22% ar gyfradd 7 niwrnod LIBID ac wedi rhoi llog gros o £0.232m, sef £110k yn fwy na'r hyn a fyddai wedi'i ennill o dan gyfradd LIBID.
Mewn ymateb i ymholiad, cytunodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol i ymchwilio i weld a oedd awdurdodau lleol eraill yn defnyddio meincnodau tebyg i fonitro eu swyddogaeth Rheoli’r Trysorlys.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiadmonitro.
|
|
ASESIAD LLESIANT SIR GAERFYRDDIN 2016/17 PDF 159 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â'r broses ymgynghori statudol, bu'r Pwyllgor yn ystyried Asesiad Llesiant Sir Gaerfyrddin 2016/17 [a gafodd ei adrodd, hefyd, i'r Bwrdd Gweithredol yn ei gyfarfod ar 6 Chwefror 2017] a oedd wedi ei baratoi a'i gymeradwyo gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin o dan ofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Rhoddodd yr Asesiad drosolwg o natur a sefyllfa llesiant yn Sir Gaerfyrddin; rhoddodd sylw i ddylanwad cadarnhaol a negyddol llesiant a thynnodd sylw at bwyntiau ysgogi posibl neu feysydd oedd yn peri pryder. Er bod yr Asesiad wedi'i strwythuro yn ôl camau bywyd, pwysleisiwyd bod yn rhaid deall, asesu, mesur a gwella llesiant yn Sir Gaerfyrddin mewn modd hyblyg, ac roedd yr adroddiad yn rhoi sylfaen ar gyfer adeiladu darlun cliriach o lesiant yn awr ac yn y dyfodol. O ran casgliadau'r Asesiad am dlodi, cyfeiriwyd at waith Panel Ymgynghorol yr Awdurdod ynghylch Trechu Tlodi a'r anawsterau a gafodd wrth asesu tlodi mewn ardaloedd gwledig, yr oedd yn hysbys ei fod yn bodoli. Yn benodol, gwnaed y sylw fod angen rhoi pwyslais ar blant bach sy'n byw mewn tlodi mewn ardaloedd gwledig, a rhieni'r plant hyn, gan fod mentrau megis Dechrau'n Deg yn tueddu i fod yn llai hygyrch. Nodwyd bod disgwyl i Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, gyhoeddi datganiad ynghylch rhaglenni tlodi Llywodraeth Cymru. Mynegwyd y farn y dylai'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gynnal ymchwil penodol ynghylch materion sy'n effeithio ar blant yn gyffredinol, gan ystyried ffordd o fyw a deiet. O ran y pryderon a fynegwyd yn yr asesiad ynghylch Newid Hinsawdd, cytunodd y swyddogion i gynnwys, yn yr ymateb i'r ymgynghoriad, yr angen i gydnabod cyfraniad Sir Gaerfyrddin at leihau'r effeithiau diolch i nifer y safleoedd ynni amgen sy'n cynnwys technolegau gwynt a haul. Cyfeiriwyd at yr heriau y tynnodd yr Asesiad sylw atynt, a'r cyfraniad y gallai aelodau etholedig ei wneud wrth helpu i weld beth yw'r anghenion yn eu cymunedau lleol. Cytunodd y Swyddogion i gael cadarnhad ynghylch yr union resymau am y bwlch o 18 mlynedd rhwng disgwyliad oes y rheiny sy'n hanu o'r cymunedau lleiaf difreintiedig a'r rheiny o'r cymunedau mwyaf difreintiedig. Cytunwyd hefyd i roi sylw i'r awgrym bod angen egluro'n well y 5 cam a restrwyd o dan y pennawd ‘Beth sy'n digwydd yn awr?’. Awgrymwyd y dylid rhoi pwyslais hefyd ar anghenion oedolion ifanc, y mae llawer ohonynt wedi penderfynu symud o Sir Gaerfyrddin. Cytunodd swyddogion i ddarparu manylion y tair Ysgol Uwchradd o Sir Gaerfyrddin y cyfeiriwyd atynt yn y Rhestr Termau a ddefnyddiwyd yn yr asesiad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Asesiad Llesiant Sir Gaerfyrddin 2016/17.
|
|
EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU PDF 69 KB Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad "peidio â chyflwyno".
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL 9.1 nodi'r adroddiad;
9.2 gohirio ystyried Adroddiad Blynyddol 2016 y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus tan ar ôl yr etholiadau sydd i ddod.
|
|
LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 11EG IONAWR 2017 PDF 175 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 11 Ionawr 2017 gan eu bod yn gywir.
|