Agenda a Chofnodion

CYLLIDEB, Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau - Dydd Llun, 27ain Ionawr, 2020 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S.M. Allen, K. Madge a E. Williams.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

A. Davies

 

9 - Cynllun Busnes Adran y Gwasanaethau Corfforaethol 2020/23;

Ei chwaer yng nghyfraith yw'r Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol.

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

4.

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2020/21 TAN 2022/23 pdf eicon PDF 294 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth Cyllideb Refeniw 2020/21 hyd at 2022/23 a oedd wedi ei chymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn y cyfarfod ar 6 Ionawr 2020. Roedd yr adroddiad a oedd yn darparu'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2020/2021, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2021/2022 a 2022/2023, yn seiliedig ar ragamcanion ynghylch gofynion gwariant y swyddogion ac yn ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 16 Rhagfyr 2019. Roedd hefyd yn adlewyrchu cynigion presennol yr adrannau ar gyfer arbedion. Byddai'r effaith ar wariant adrannol yn dibynnu ar y setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru a'r gyllideb derfynol ganlyniadol a fabwysiedir gan y Cyngor Sir.

 

Roedd y cynigion ynghylch y gyllideb, fel y'u cyflwynwyd yn yr adroddiad, yn golygu cyflawni'n llawn y cynigion o ran arbedion a gyflwynwyd, ynghyd â nodi a chyflawni'r diffyg yng nghynigion arbedion 2021-22 a 2022-23. Byddai angen nodi gostyngiadau pellach mewn costau a/neu gytuno ar gynnydd mwy yn y dreth gyngor er mwyn mantoli'r gyllideb ar gyfer y ddwy flynedd ddiwethaf.

O ystyried maint y pwysau a'r bwlch a ragwelir yn y gyllideb, mae'r cynnydd yn y Dreth Gyngor wedi parhau ar y lefelau cynllun ariannol tymor canolig (MTFP) blaenorol o 4.89% ym mhob un o'r tair blynedd ariannol, sy'n cynnig rhywfaint o liniaru o leiaf ar y cynigion ar gyfer arbedion yr oedd angen i'r Cyngor eu hystyried.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:

·         Yn dilyn cyhoeddi'r grant Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd o £7.2m ledled Cymru, doedd dim sôn eto yngl?n â faint y byddai'n cael ei ddyrannu i Gyngor Sir Caerfyrddin;

·         O ran y cynnydd a ragwelir mewn balansau ysgolion â diffyg (£3m) rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod cynlluniau unigol i fynd i'r afael â diffyg yn cael eu datblygu a'u cytuno gyda rhai ysgolion, gyda'r bwriad o sicrhau sefydlogrwydd ariannol. Fodd bynnag, ystyrid bod y setliad cyllideb yn fwy ffafriol i ysgolion na adrannau'r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo'r Crynhoad Taliadau.

 

5.

RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD 2020/21-2024/25 pdf eicon PDF 410 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd, a roddai olwg gychwynnol i'r aelodau ar y Rhaglen Gyfalaf Bum Blynedd o 2020/21 tan 2024/25. Roedd yr adroddiad yn sail i'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb gyda'r Pwyllgorau Craffu a phartïon perthnasol eraill ac unrhyw adborth, ynghyd â'r setliad terfynol, yn cyfrannu i'r adroddiad terfynol ynghylch y gyllideb a fyddai'n cael ei gyflwyno i'r aelodau yn mis Mawrth 2020.
Roedd y rhaglen gyfalaf arfaethedig yn cynnig gwariant cyfalaf o ryw £255m dros y 5 mlynedd nesaf ac roedd y cynigion cyllido cyfredol yn cynnwys cyllid allanol o £129m. Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at y setliad amodol a gafwyd gan Lywodraeth Cymru a oedd yn nodi cyllid cyfalaf o £11.834 miliwn ar gyfer yr Awdurdod yn 2020-21. Roedd y cyllid yn cynnwys benthyca â chymorth heb ei neilltuo o £5.909 miliwn a Grant Cyfalaf Cyffredinol o £5.925 miliwn. I grynhoi, sefyllfa gyffredinol y rhaglen gyfalaf oedd ei bod yn cael ei chyllido am y 5 mlynedd rhwng 2020/21 a 2024/25.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:

·         Rhoddwyd gwybod i'r aelodau nad oedd unrhyw fanylion prosiect penodol hyd yn hyn o ran y £500k o fenthyca heb gymorth newydd a oedd wedi ei ddyrannu i brosiectau datgarboneiddio;

·         O ran Rhaglen Adnewyddu'r Fflyd dros bum mlynedd, cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol i weld a oedd unrhyw ffynonellau cyllid ar sail yr amgylchedd yn cael eu harchwilio;

·         Cadarnhawyd bod y cyllid yn y gyllideb Adfywio ar gyfer Canolfan Hamdden Llanelli yn ymwneud â'r ganolfan arfaethedig yn y datblygiad llesiant;

·         Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol i ddosbarthu manylion am yr arian wrth gefn;

·         Mewn ymateb i gwestiwn, nododd y Pennaeth Eiddo yr ymgynghorwyd â phob Pennaeth Gwasanaeth cyn cael gwared ar unrhyw ysgol a oedd wedi cau. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r rhaglen gyfalaf bum mlynedd 2020/21 – 2024/25.

 

6.

POLISI A STRATEGAETH RHEOLI'R TRYSORLYS 2020-21 pdf eicon PDF 255 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Polisi a Strategaeth arfaethedig Rheoli'r Trysorlys 2020/21 a fyddai'n cael eu hystyried gan y Bwrdd Gweithredol ar 24 Chwefror 2020, ac atgoffwyd yr aelodau fod yn rhaid i'r Cyngor, o dan ofynion Côd Ymarfer diwygiedig CIPFA ynghylch Rheoli'r Trysorlys, feddu ar Bolisi Rheoli'r Trysorlys a oedd yn manylu ar bolisïau ac amcanion ei weithgareddau o ran rheoli'r trysorlys. Fe'u hatgoffwyd hefyd fod yn rhaid i'r Cyngor gymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys yn flynyddol cyn dechrau'r flwyddyn ariannol yr oedd yn ymwneud â hi. Hefyd, dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2003, roedd yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo ei Ddangosyddion Darbodaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer y flwyddyn ganlynol. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol y byddai disgwyl i'r Cyngor gael benthyg £29m ar gyfer y prosiectau a arweinid gan Sir Gaerfyrddin ym mhartneriaeth Bargen Ddinesig Bae Abertawe o 2020-21 i 2022-23.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2020/21 a'r atodiadau cysylltiedig.

 

7.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2019/20 pdf eicon PDF 298 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol fel yr oeddent ar 31 Hydref 2019 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2019/20. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys atodiad a oedd yn rhoi manylion Monitro Arbedion 2019-20.

 

Mewn ymateb i sylw yn ymwneud â'r gorwariant yn yr is-adran Marchnata a'r Cyfryngau, nodwyd bod y gwasanaeth yn cael ei addasu ar hyn o bryd. Hefyd mae ffrydiau incwm wedi cael eu colli gan bartneriaid allanol megis ERW ac roedd trefniadau partneriaeth eraill yn cael eu hystyried. Yn ogystal, y gobaith oedd y byddai penodi Rheolwr Masnachol yn helpu i gynhyrchu incwm.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

8.

CYNLLUN BUSNES ADRANNOL Y PRIF WEITHREDWR 2020/2023 pdf eicon PDF 254 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Adran y Prif Weithredwr 2020-23 a oedd yn amlinellu blaenoriaethau'r adran a sut yr oedd yn cefnogi'r Pum Ffordd o Weithio a 7 nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:

·         Nodwyd bod yr Awdurdod yn parhau i weithio'n agos gyda chydweithwyr ym maes Iechyd i ddatblygu'r Canolfannau Cymunedol Integredig a sicrhau bod y dechnoleg ddigidol ddiweddaraf yn cael ei defnyddio;

·         Mewn ymateb i ymholiad yn ymwneud â phryd y byddai'r Prif Gynllun Adfywio Cymunedol yn cael ei gyhoeddi, dywedwyd bod y gwaith dal yn mynd rhagddo a bod yr aelodau lleol yn rhan ohono;

·         Cytunodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol i ddosbarthu manylion yngl?n â'r rhaglen ddatblygu a oedd yn cael ei chyflwyno [gyda chyllid gan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru] er mwyn sicrhau bod Rheolwyr yn mynd i'r afael â materion yn ymwneud ag iechyd meddwl yn well yn y gweithle;

·         Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor na fyddai unrhyw gostau ychwanegol yn gysylltiedig â'r broses o gyflwyno brand corfforaethol newydd;

·         Rhoddwyd sicrwydd i'r Aelodau bod y gwaith o chwilio am leoliad addas ar gyfer Hwb yng Nghanol Tref Caerfyrddin dal yn mynd rhagddo.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Cynllun.

 

9.

CYNLLUN BUSNES ADRANNOL GWASANAETHAU CORFFORAETHOL 2020/2023 pdf eicon PDF 253 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd A. Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei thrafod.)

 

Ystyriodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Adran y Gwasanaethau Corfforaethol 2020-23 a oedd yn amlinellu blaenoriaethau'r adran a sut yr oedd yn cefnogi'r Pum Ffordd o Weithio a 7 nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

O ran y cynllun prawf i gau'r cyfrifon yn gynharach, rhagwelid y byddai'r cyfrifon a archwiliwyd yn cael eu rhoi gerbron y Pwyllgor Archwilio ym mis Gorffennaf.

 

Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol i gael cadarnhad y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol ynghylch a oedd y sesiynau Cymorthfeydd Caffael yn fuddiol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Cynllun.

 

 

10.

CYNLLUN BUSNES ADRANNOL YR AMGYLCHEDD 2020/2023 pdf eicon PDF 251 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried darnau o Gynllun Busnes Adran yr Amgylchedd 2020-23 yn ymwneud â'r Is-adran Eiddo a oedd yn berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor. Roedd y darnau o'r Cynllun yn amlinellu blaenoriaethau'r adran a sut yr oeddent yn cefnogi 5 Ffordd o Weithio a 7 nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:

 

·         O ran bylchau sgiliau, a oedd yn rhwystro'r broses o recriwtio mewn rhai rhannau o'r Timau Cynnal a Chadw Eiddo a Dylunio Eiddo, roedd yr Adran yn rhagweithiol trwy ddatblygu rhaglenni graddedigion a phrentisiaethau a, lle bo angen, defnyddio ymgynghorwyr allanol neu gymorth gan asiantaeth. Roedd adnoddau hefyd yn cael eu rhannu gydag awdurdodau lleol eraill. Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol fod angen rhoi gwybod i blant ysgol yngl?n â'r opsiynau gyrfa sydd ar gael gydag awdurdodau lleol a'u buddion. 

·         Yn sgil problemau yn ymwneud â recriwtio staff, bernid bod diffyg trafnidiaeth gyhoeddus addas hefyd wedi cyfrannu at y broblem. Awgrymwyd mai mater i Bwyllgor Craffu yr Amgylchedd byddai hwn. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

10.1 nodi'r cynllun;

10.2 gofyn i Bwyllgor Craffu yr Amgylchedd ystyried modd i sicrhau gwelliannau i Gynllun Trafnidiaeth ar y cyd De-orllewin Cymru gyda'r bwriad o fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin.

 

 

11.

CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL 2020-2024 (DRAFFT) pdf eicon PDF 253 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y fersiwn drafft o'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-24 a oedd yn amlinellu sut roedd y Cyngor yn mynd i gyflawni ei ddyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a'r Dyletswyddau Penodol i Gymru. Roedd angen i'r Awdurdod gyhoeddi'r cynllun newydd cyn 1 Ebrill 2020. Roedd y strategaeth ddrafft yn cynnwys pedwar o amcanion allweddol y bydd y Cyngor yn gweithio tuag atynt ac yn rhoi adroddiad yn eu cylch yn flynyddol;

 

·         Bod yn gyflogwr blaenllaw;

·         Bod anghenion a hawliau pobl â nodweddion gwarchodedig yn dylanwadu ar y modd y caiff y gwasanaeth i'w lunio;

·         Cymunedau Cydlynus a Diogel a oedd yn wydn, yn deg ac yn gyfartal; 

·         Gwella mynediad i'n gwasanaethau a'n hamgylchedd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo.

 

12.

ADRODDIAD AR GYSYLLTEDD DIGIDOL A CHYNLLUN GWEITHREDU pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad a Chynllun Gweithredu Cysylltedd Digidol a oedd yn crynhoi'r sefyllfa bresennol ledled Sir Gaerfyrddin o ran Cysylltedd Digidol a phrosiectau arfaethedig yn y dyfodol a oedd â'r potensial i wella cysylltedd digidol a hwyluso'r defnydd pellach o seilwaith digidol ledled y Sir.

          Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â chymorth i gymunedau sydd â chysylltedd gwael o ran rhyngrwyd a signalau symudol, dywedodd y Rheolwr Trawsnewid Busnes Digidol fod cyllid ar gael i grwpiau cymunedol o ystod o ffynonellau ac roedd eu manylion ar gael gan Swyddog Cysylltedd Digidol y Cyngor;

                                        

 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Adroddiad a'r Cynllun Gweithredu.

 

13.

COFNODION BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS (BGC) SIR GÂR - MEDI 2019 pdf eicon PDF 347 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin a gynhaliwyd ar 12 Medi 2019.Roedd yn ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fod Pwyllgor Craffu Llywodraeth Leol penodol yn cael ei benodi i graffu ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Yn Sir Gaerfyrddin, penodwyd Pwyllgor Craffu – Polisi ac Adnoddau y Cyngor fel y Pwyllgor Craffu perthnasol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 12 Medi 2019.

14.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 262 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 18 Mawrth 2020.

 

15.

COFNODION - 2 RHAGFYR, 2019 pdf eicon PDF 223 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 2 Rhagfyr 2019 gan eu bod yn gywir.