Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin Davies
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S.M. Allen a J. Edmunds.
|
|||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA Cofnodion:
|
|||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD Cofnodion:
Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.
|
|||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYNGOR SIR CAERFYRDDIN AR GYFER 2018/19 PDF 440 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol Drafft y Cyngor ar gyfer 2018/19 ynghyd ag adroddiadau manwl ynghylch yr Amcanion Llesiant perthnasol sydd o fewn maes gorchwyl y Pwyllgor, sef:
· Amcan Llesiant 5 - Mynd i'r afael â thlodi; · Amcan Llesiant 14 - Hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru; · Amcan Llesiant 15 - Adeiladu Gwell Cyngor a Gwneud Gwell Defnydd o Adnoddau.
Nodwyd ei bod yn ofynnol o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) i'r Awdurdod gyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar berfformiadau blaenorol erbyn diwedd mis Hydref bob blwyddyn.
Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:- · Mewn ymateb i bryder bod cynnydd sylweddol wedi bod yng nghanran y mesurau sydd wedi gostwng, cydnabuwyd bod cyllidebau llai'n bendant yn cael effaith ar ddarpariaeth gwasanaethau, a'r farn mewn rhai achosion oedd bod angen gosod targedau mwy cyraeddadwy yn unol â hynny; Amcan Llesiant 5 · Rhoddwyd sicrwydd i'r aelodau bod yr awdurdod yn gwneud popeth y gallai i leihau effaith Credyd Cynhwysol ar hawlwyr budd-daliadau; · Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau TGCh a Pholisi Corfforaethol i gadarnhau'r sefyllfa bresennol o ran yr Hwb arfaethedig yng Nghaerfyrddin; · Nodwyd bod yr awdurdod yn cyfathrebu â darparwyr y trydydd sector i osgoi dyblygu darpariaeth gwasanaeth; · Er bod llwyddiant Apêl Hamperi Bwyd Nadolig yn cael ei groesawu, y farn oedd y dylai'r cynllun gael ei estyn i wyliau'r haf pan fydd plant yn absennol o'r ysgol am gyfnod hwy a bydd angen cymorth ar rai teuluoedd o hyd. Cyfeiriwyd at Raglen Gwella Gwyliau'r Haf, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, sy'n darparu prydau, addysg a gweithgareddau corfforol am ddim i blant ledled Cymru a chytunodd y Swyddog Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth i gadarnhau a oedd unrhyw fodd o estyn y cynllun yn Sir Gaerfyrddin; Amcan Llesiant 14 · Mewn ymateb i ymholiad ynghylch pam yr oedd canran y disgyblion Cyfnod Sylfaen a gafodd asesiad athro/athrawes yn y Gymraeg wedi gostwng, dywedwyd ei bod hi'n bosibl bod nifer wirioneddol y disgyblion wedi cynyddu ond byddai angen cadarnhau hyn; · Rhoddwyd gwybod i'r aelodau na fyddai modd gwybod yn sicr a oedd nifer y siaradwyr Cymraeg yn y Sir yn cynyddu neu'n gostwng nes bod canlyniadau'r cyfrifiad nesaf yn 2021 yn cael eu cyhoeddi; · Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau TGCh a Pholisi Corfforaethol i ofyn i'r Pennaeth Hamdden gadarnhau nifer yr ymwelwyr ag amgueddfeydd a lleoliadau celf/theatrau'r Sir yn 2018/19 o gymharu â 2017/18;
Amcan Llesiant 15 · Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau TGCh a Pholisi Corfforaethol i gadarnhau gyda'r Tîm Datblygu Trefniadaeth pa gefnogaeth a gynigir drwy'r rhwydwaith Gwelliant Parhaus; · Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau TGCh a Pholisi Corfforaethol i gadarnhau gyda'r Pennaeth Eiddo y sefyllfa o ran gwerthu Nant y Ci a 5-7 Heol Spilman, Caerfyrddin, gan nad oedd yr arwyddion 'Ar Werth' yno mwyach. · Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau TGCh a Pholisi Corfforaethol i rannu pryderon ynghylch casglu gwastraff a thipio anghyfreithlon yn ardal Llanelli â Phennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff. Cyfeiriwyd yn benodol at y bagiau a gafodd eu labelu gan gasglwyr gwastraff na chafodd eu casglu, sy'n cael eu torri ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL 2018-19 PDF 302 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gan gyfeirio at gofnod 9 y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2015, bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2018-19 a oedd yn manylu ar sut yr oedd y Cyngor wedi gweithredu ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol a chyflawni ei ddyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a'r Dyletswyddau Penodol i Gymru. Dosbarthwyd copïau o 'Atodiad 1' fel y'i cyfeiriwyd ato ar dudalen 'Cynnwys' ar Adroddiad yn y cyfarfod gan ei fod wedi'i hepgor ar gam.
Cytunodd y Swyddog Polisi a Phartneriaeth rannu â'r Adain Caffael a'r Is-adran Rheoli Pobl sylw y dylid gwneud pob ymdrech i sicrhau nad oes unrhyw gyflenwr/contractwr/is-gontractwr y Cyngor yn cyflogi gweithwyr drwy gontractau dim oriau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod yr adroddiad, yn amodol ar gynnwys 'Atodiad 1', yn cael ei gymeradwyo.
|
|||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL AR YR IAITH GYMRAEG 2018-19 PDF 300 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gan gyfeirio at gofnod 7 y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Hydref 2016, bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Blynyddol mewn perthynas â'r Iaith Gymraeg a chydymffurfio â Safonau'r Gymraeg yn ystod 2018-19. Roedd yr Adroddiad wedi cael ei lunio er mwyn cydymffurfio â threfniadau monitro Comisiynydd y Gymraeg.
Cytunodd y Swyddog Polisi a Phartneriaeth i rannu â'r Is-adran Cynllunio bryder sydd wedi'u ailadrodd ynghylch colli enwau lleoedd Cymraeg, ac ymholiad ynghylch a fyddai modd llunio polisi cadarn o ran hynny.
Mewn ymateb i sylw, dywedodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth fod rhagor o gymorth ar gael erbyn hyn i alluogi staff i wella'u sgiliau o ran yr iaith Gymraeg a bod fframwaith wedi'i sefydlu ar gyfer pennu lefelau Cymraeg ar gyfer swyddi a hysbysebir.
PENDERFYNWYD YN UNFRYFOL argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod yr Adroddiad Blynyddol ynghylch yr Iaith Gymraeg 2018-19 yn cael ei gymeradwyo.
|
|||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL STRATEGAETH TRAWSNEWID DIGIDOL A STRATEGAETH TECHNOLEG DDIGIDOL 2019 PDF 234 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol Strategaeth Trawsnewid Digidol a Strategaeth Technoleg Ddigidol 2019 yn unol â'r ymrwymiadau a nodir yn Strategaeth Trawsnewid Digidol 2017-2020, a gymeradwywyd gan y Bwrdd Gweithredol ym mis Mai 2017, a Strategaeth Trawsnewid Digidol 2018-2021, a gymeradwywyd gan y Bwrdd Gweithredol ym mis Mai 2018. Roedd y ddwy strategaeth yn cynnwys ymrwymiad i lunio adroddiad blynyddol.
Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad: · Nodwyd mai dim ond 47% o aelwydydd yn manteisio ar yr opsiwn i gael band eang cyflym iawn er ei fod ar gael yn 87% o'r sir. Roedd cymunedau'n cael eu hysbysu am y cyllid sydd ar gael i wella cysylltedd ac roedd swydd swyddog cysylltedd digidol yn cael ei sefydlu i gynorthwyo o ran hynny; · Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau TGCh a Pholisi Corfforaethol i rannu â'r Adran Addysg bryder ynghylch anallu rhai disgyblion i wneud gwaith cartref oherwydd materion cysylltedd a chadarnhau sut yr oedd ysgolion yn ymdrin â'r mater hwn; · Mewn ymateb i sylw, cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau TGCh a Pholisi Corfforaethol ei bod hi'n bwysig sicrhau bod seilwaith TG a chysylltedd ar gyfer y Pentref Llesiant arfaethedig yn gallu hwyluso'r holl gynlluniau ar gyfer y lleoliad yn y dyfodol; · Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod modd defnyddio gwefan y Cyngor ar yr holl ddyfeisiau symudol, yn wahanol i wefannau rhai asiantaethau Llywodraeth - mae hyn yn hynod bwysig ar gyfer defnyddwyr 'Fy Nghyfrif'; · Roedd gwaith i ymgysylltu â'r sector iechyd a'r trydydd sector yn mynd yn ei flaen; · Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau TGCh a Pholisi Corfforaethol i ystyried y posibilrwydd o gynnwys y trydydd sector yn y gwaith o uwchraddio'r Diogelwch Haen Cludo (TLS).
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Adroddiad Blynyddol Strategaeth Trawsnewid Digidol a Strategaeth Technoleg Ddigidol 2019.
|
|||||||
STRATEGAETH DDIGIDOL AR GYFER YSGOLION - ADRODDIAD BLYNYDDOL 2019 PDF 132 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol y Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion 2019, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion Cyngor Sir Caerfyrddin 2018-2021. Mae'r strategaeth yn manylu ar weledigaeth y Cyngor, yn seiliedig ar yr egwyddorion cyffredinol a'r meysydd o ran blaenoriaethau allweddol ar gyfer darparu Gwasanaethau TGCh i ysgolion ledled Sir Gaerfyrddin. Ym mhob un o'r meysydd blaenoriaeth allweddol, cymeradwywyd nifer o brosiectau a chanlyniadau allweddol, ac mae'r Adroddiad Blynyddol yn nodi'r cynnydd a wnaed dros y 12 mis diwethaf.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion 2019.
|
|||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A'R DANGOSYDD DARBODAETH 2018-2019 PDF 298 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Blynyddol a restrai weithgareddau rheoli'r trysorlys a ddigwyddodd yn ystod 2018-2019 yn unol â Pholisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2018-2019 a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 21 Chwefror 2018.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad.
|
|||||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2018/19 PDF 296 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2018/19. Nodwyd bod swyddogion yn parhau i ystyried ffyrdd o leihau'r blwch rhwng gorffen adroddiadau monitro a'u cyflwyno i'r Pwyllgor.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|||||||
DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU'R PWYLLGOR CRAFFU POLISI AC ADNODDAU PDF 269 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYDYN UNFRYDOL nodi'r adroddiad a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, neu'r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu.
|
|||||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 290 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y rhestr o eitemau i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf i'w gynnal ar 10 Hydref 2019 yn cael eu derbyn yn amodol ar gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am Fargen Ddinesig Bae Abertawe/ y Pentref Llesiant.
|
|||||||
COFNODION - 13EG MEHEFIN 2019 PDF 334 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2019 gan eu bod yn gywir.
|