Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD Cofnodion: Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.
|
|
BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS SIR GÂR ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN LLESIANT 2018-19 PDF 441 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Mr Barry Liles, Pennaeth Coleg Sir Gâr a Chadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, a gyflwynodd Adroddiad Blynyddol 2018-19 y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Hwn oedd adroddiad blynyddol cyntaf Cynllun Llesiant Sir Gaerfyrddin ac roedd yn cynnwys gwybodaeth am y cynnydd a wnaed yn ystod 2018-19 ar ôl i'r cynllun gael ei gyhoeddi ym mis Mai 2018. Roedd llawer o'r cynnydd hyd yn hyn wedi canolbwyntio ar sefydlu a datblygu cynlluniau prosiect ar gyfer cyfres o Grwpiau Cyflawni a oedd wedi cael y dasg o wneud cynnydd yn erbyn camau gweithredu'r Cynllun Llesiant yn y tymor byr. Darparodd yr adroddiad wybodaeth am: · Strwythur y BGC · Gweithio Rhanbarthol · Pum ffordd o weithio · Adroddiadau cynnydd y Gr?p Cyflawni · Partneriaeth Cymunedau Mwy Diogel · Ardaloedd Datblygu Dywedodd Mr Liles fod y gwahaniaeth rhwng cyllid y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol yn destun pryder. Roedd yn ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fod pwyllgor craffu llywodraeth leol yn gyfrifol am gadw golwg a chraffu ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac yn Sir Gaerfyrddin nodwyd mai'r Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau oedd y pwyllgor craffu arweiniol.
Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad: · Roedd Mr Liles yn cytuno â'r farn y dylid gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y bwyd sy'n cael ei fwyta yn Sir Gaerfyrddin yn cael ei gynhyrchu a'i gyflenwi'n lleol. Ychwanegodd fod pecynnu bwyd hefyd yn fater sy'n cael ei ystyried, yn enwedig pan fo bwyd lleol yn cael ei gludo allan o'r Sir i gael ei becynnu; · Mewn perthynas â sylw yn nodi y dylid annog a hyrwyddo entrepreneuriaeth, cyfeiriodd yr Arweinydd at lwyddiant Bwrsariaeth y Goleudy o ran hyrwyddo ac annog twf busnesau bach / canolig. Cyfeiriwyd hefyd at y mentrau a'r lle sydd ar gael yn yr Egin i ddatblygu'r diwylliant a'r diwydiant creadigol; · Mewn ymateb i sylw, rhoddodd Mr Liles sicrwydd i'r Pwyllgor fod ymrwymiad cyfartal gan yr holl bartneriaid a gynrychiolir ar y BGC; · Dywedodd Mr Liles fod pryder ynghylch canlyniad posibl Brexit ond yn yr un modd y gallai hefyd arwain at gyfleoedd newydd; · Croesawyd y gwaith a oedd yn cael ei wneud gan y BGC ond anogwyd y partneriaid i roi blaenoriaeth i fynd i'r afael â materion yn ymwneud ag arwahanrwydd a'r ddibyniaeth gynyddol ar fanciau bwyd.
Ar hynny diolchodd y Cadeirydd i Mr Liles am ddod i'r cyfarfod.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Blynyddol 2018-19 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin.
|
|
COFNODION BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS (BGC) SIR GÂR PDF 313 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin a gynhaliwyd ar 25 Mawrth 2019.Roedd yn ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fod Pwyllgor Craffu Llywodraeth Leol penodol yn cael ei benodi i graffu ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Yn Sir Gaerfyrddin, penodwyd Pwyllgor Craffu – Polisi ac Adnoddau y Cyngor fel y Pwyllgor Craffu perthnasol. Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod y cofnodion: · O ran y cyfeiriad at gr?p seilwaith trafnidiaeth ym Mhowys, dywedwyd wrth y Pwyllgor nad oedd gr?p o'r fath yn bodoli ar hyn o bryd yn Sir Gaerfyrddin ond bod y BGC wedi trafod materion yn ymwneud â datblygu trafnidiaeth gymunedol. Awgrymwyd y gallai cynghorau tref a chymuned, efallai, gyfrannu rhagor at ddarpariaeth trafnidiaeth leol yn eu hardaloedd. Dywedodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth, er bod mynediad at wasanaethau yn fater a godwyd, fod darparu cyfleusterau lleol yr un mor berthnasol i drafnidiaeth. Mae cynlluniau rhannu ceir hefyd yn cael eu datblygu. Cyfeiriwyd at lwyddiant y cynllun Bwcabus o ran mynd i'r afael ag arwahanrwydd mewn ardaloedd gwledig; · Croesawyd y sylw a wnaed gan Rob Quin, a gofnodwyd yng nghofnodion y BGC, 'y bu’n aelod o sawl BGC ac nad oedd yr un o’r lleill yn gweithio cystal â hwn oherwydd lefel yr ymroddiad a’r arbenigedd a ddangoswyd gan aelodau’; · Nodwyd bod cynrychiolydd CAVS ar y BGC yn arwain y Gr?p Cyflawni Cysylltiadau Cryf gyda golwg ar ddatblygu Strategaeth Wirfoddoli; · O ran materion tai, nodwyd bod y BGC yn rhan o broses y Cynllun Datblygu Lleol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 25 Mawrth 2019.
|
|
ADRODDIAD MONITRO ABSENOLDEB SALWCH - BLWYDDYN LAWN/CHWARTER 4 2018/19 PDF 248 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gan gyfeirio at gofnod 7.2 o'r cyfarfod ar 21 Mawrth 2018, rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn darparu data ynghylch absenoldeb salwch ar gyfer cyfnod cronnol Chwarter 4 blwyddyn ariannol 2018/19 ynghyd â chrynodeb o gamau gweithredu. Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol [Rheoli Pobl], er y methwyd y targed corfforaethol o ran absenoldeb salwch ar gyfer 2018/19 o drwch blewyn, fod y canlyniadau ar y cyfan yn galonogol gan fod cyfraddau absenoldeb salwch wedi gostwng. Yn ogystal, roedd sylw yn cael ei rhoi i'r ychydig achosion o beidio â rhoi gwybod am salwch a dangosodd data Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod yr awdurdod yn ôl pob tebyg yn y 5ed neu'r 6ed safle o blith y 22 awdurdod lleol yng Nghymru o ran y nifer lleiaf o ddiwrnodau a gollwyd oherwydd salwch. O ran yr awdurdodau lleol sy'n 'perfformio'n well ', y farn oedd y dylid ystyried y ffaith bod rhai o'r awdurdodau hynny yn allgontractio gwasanaethau y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn eu cadw. Pwysleisiwyd bod Cronfa Ddysgu Undebau Cymru wedi cadarnhau ei bwriad i argymell model Sir Gaerfyrddin ar gyfer cynyddu ymwybyddiaeth o iechyd meddwl i Lywodraeth Cymru fel model arfer gorau i awdurdodau eraill ei efelychu. Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad: · Cyfeiriwyd at yr angen i atal anfon e-byst sy'n gysylltiedig â gwaith y tu allan i oriau swyddfa arferol ac yn enwedig yn hwyr yn y nos neu'n gynnar yn y bore o achos pryderon y gallai hyn beri straen i'r anfonwr a'r derbynnydd. Atebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol [Rheoli Pobl] drwy ddweud fod y mater eisoes wedi'i godi yng nghyfarfod y Tîm Rheoli Corfforaethol ac y byddai'n codi'r mater unwaith eto o achos y pryder a fynegwyd; · Ystyriwyd bod angen codi proffil y Tîm Iechyd Galwedigaethol a bod angen codi ymwybyddiaeth o'i waith ardderchog ymhlith y staff; · Cytunodd y Rheolwr Llesiant Gweithwyr i estyn gwahoddiadau i aelodau etholedig i ymgymryd â Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl; · Nodwyd, er y dylid croesawu'r gostyngiad yn lefelau absenoldeb salwch y staff, bod y lefel yn dal yn uwch na phob cymharydd yn y sector dielw. Ail-bwysleisiodd y Rheolwr Llesiant Gweithwyr rôl y Fforwm Herio ac Adolygu a oedd wedi cyfweld y rhan fwyaf o Benaethiaid Gwasanaeth ynghylch rheoli salwch gan bwysleisio arfer da lle y bo'n briodol. Gofynnwyd hefyd pam nad oedd y Gwasanaeth Iechyd wedi'i gynnwys fel cymharydd uniongyrchol; · Dywedodd y Rheolwr Llesiant Gweithwyr fod y Tîm Iechyd Galwedigaethol wedi rhoi cymorth i staff mewn ysgolion arbennig a bod absenoldebau wedi lleihau'n sylweddol; · Cytunodd y swyddogion i ddosbarthu proffil is-adrannol, gan gynnwys data absenoldeb salwch ynghyd â data arall ynghylch rheoli pobl, megis costau goramser, costau asiantaeth ac ati, pan fo Pennaeth Gwasanaeth yn cael ei wahodd i gyfarfod y Pwyllgor Craffu – Polisi ac Adnoddau i drafod monitro perfformiad absenoldeb salwch; · Cytunodd swyddogion y gellid darparu'r ffigurau o ran nifer y gweithwyr o bob adran a oedd wedi mynd i'r Ganolfan Iechyd Galwedigaethol fel canrannau ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2018/19 PDF 297 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod ac i adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2018/19 fel yr oeddent ar 28 Chwefror 2019. Mewn rhai meysydd o'r gyllideb, yn enwedig yn yr Adran Cymunedau, nodwyd bod ad-drefnu gwasanaethau wedi helpu i leihau costau ond bod hynny wedi cynyddu pwysau megis camau i gadw pobl yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod hwy. O ran yr Is-adran Pobl H?n, nodwyd bod defnyddio asiantaethau yn galluogi'r Adran Cymunedau i recriwtio staff yn gyflymach ond nid oedd unrhyw gost ychwanegol i'r Awdurdod. Mewn ymateb i'r targed incwm parcio anghyraeddadwy, atgoffwyd y Pwyllgor fod y Cyngor wedi cytuno i beidio â chodi ffioedd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|
EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU PDF 121 KB Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad "peidio â chyflwyno".
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.
|
|
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 158 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 18 Gorffennaf 2019.
|
|
COFNODION - 26 EBRILL, 2019 PDF 232 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2018 yn gofnod cywir.
|