Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr F. Akhtar, K. Broom a T.A.J. Davies.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD Cofnodion: Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law. |
|
PENTREF LLESIANT A GWYDDOR BYWYD LLANELLI PDF 474 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gan gyfeirio at Gofnod 6 yng nghofnodion y cyfarfod diwethaf bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn darparu datganiad sefyllfa ynghylch Pentref Llesiant a Gwyddor Bywyd Llanelli.Roedd yr adroddiad yn cynnwys: · y wybodaeth ddiweddaraf am y gwariant presennol; · y wybodaeth ddiweddaraf am y camau sydd wedi eu cymryd o ran Achos Busnes y Fargen Ddinesig; · manylion ynghylch terfynu'r Cytundeb Cydweithio; · canfyddiadau'r adolygiad cyfreithiol annibynnol a oedd wedi asesu cadernid a chydymffurfiaeth mewn perthynas â'r prosesau caffael a llywodraethu; · canfyddiadau Adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru a oedd wedi asesu'r ffordd yr oedd yr Awdurdod wedi rheoli'r broses, risg a llywodraethu ac o ran diogelu arian cyhoeddus; · y wybodaeth ddiweddaraf am Adolygiad y Cyd-bwyllgor a'r Cyd-adolygiad Llywodraeth ynghylch y Fargen Ddinesig; · y cynnydd o ran datblygu'r dyluniad cysyniadol ar gyfer cam un a'r camau nesaf. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod ymateb y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru i'r Adolygiad Annibynnol ynghylch Bargen Ddinesig Bae Abertawe wedi dod i law ers dosbarthu'r papurau ar gyfer y cyfarfod, ynghyd ag Adroddiad Mawrth 2019 yr Adolygiad Mewnol o Drefniadau Llywodraethu Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Byddai'r ddau yn cael eu hystyried yn fanwl gan y Bwrdd Gweithredol a Chyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe ac wedyn byddent yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau.
Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad: · roedd yr Aelodau'n croesawu canfyddiadau'r adolygiad cyfreithiol annibynnol ac Adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru; · mewn ymateb i ymholiad, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod y costau ar gyfer gwaith paratoi'r pridd a wnaed yn Llynnoedd Delta yn 2017 wedi cael eu cynnwys yng nghynllun gwreiddiol y Cyd-fenter er mwyn hwyluso datblygiad nad oedd wedi cael ei nodi yn y dyfodol; · o ran rôl y Pwyllgor i graffu ar y Fargen Ddinesig, ystyriwyd bod angen eglurhad er mwyn osgoi dyblygu gwaith Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe yr oedd y Cadeirydd yn gwasanaethu arno; · mynegwyd pryder ei bod yn ymddangos bod camsyniad cyhoeddus bod y Pentref Llesiant yn brosiect gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn unig er ei fod yn cynnwys cyrff sector cyhoeddus eraill; · mynegodd y swyddogion a'r Aelodau siom a phryder fod Adroddiad yr Adolygiad Mewnol o Drefniadau Llywodraethu Bargen Ddinesig Bae Abertawe wedi cael sylw gan y wasg cyn i'r Cyd-bwyllgor gael cyfle i'w ystyried; · mynegwyd pryderon ynghylch faint o amser y mae swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei roi i'r Fargen Ddinesig yn ei chyfanrwydd a'r pwysau ar adain gyfathrebu yr Awdurdod o ran gorfod gwneud iawn am adroddiadau anghywir gan y wasg ac ymateb i geisiadau am wybodaeth gan y cyfryngau. Diolchwyd i'r swyddogion am y diweddariad cynhwysfawr.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
4.1 bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn; 4.2 bod trefniadau'n cael eu gwneud i gynnal sesiwn briffio i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r holl Aelodau am y Fargen Ddinesig gan roi pwyslais ar brosiect y Pentref Llesiant; 4.3 bod diweddariad arall yn cael ei roi yn y cyfarfod nesaf.
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Chwarterol ynghylch Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys am y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Rhagfyr 2018 i sicrhau bod y gweithgareddau a wnaed yn gyson â gofynion Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2018-2019 a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 21 Chwefror, 2018.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad monitro.
|
|
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2018/19 PDF 149 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod ac i adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol fel yr oeddent ar 31 Rhagfyr 2018 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2018/19.
Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad: · Cytunodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, mewn ymateb i ymholiad, i ddosbarthu manylion yr arbedion rheoli sydd wedi cael eu rhoi ar waith ym mhob rhan o'r Awdurdod; · Rhoddwyd gwybod i'r aelodau bod cyllid ychwanegol ar gyfer pensiynau athrawon bellach wedi dod i law gan y Llywodraeth ganolog; · Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol nad oedd yn ymddangos bod unrhyw gysylltiad rhwng swyddi gwag ac absenoldeb salwch yn ei adran. Fodd bynnag, roedd heriau recriwtio mewn rhai meysydd; · Awgrymwyd y dylid cyfeirio'r ffaith na ellid cynyddu'r ffïoedd cynllunio i wrthsefyll y diffyg yn yr incwm gan eu bod yn cael eu pennu ar lefel genedlaethol, at y Pwyllgor Craffu priodol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|
ADRODDIAD MONITRO PERFFORMIAD CORFFORAETHOL CWARTER 3 - 1AF EBRILL I'R 31AIN RHAGFYR 2018 PDF 164 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg ar y cynnydd a wnaed o ran y camau gweithredu a'r mesurau yn y Strategaeth Gorfforaethol Newydd ar gyfer 2018-2023 i gyflawni'r Amcanion Llesiant ar gyfer 2018/19 dyddiedig 31 Rhagfyr 2018 ac a oedd wedi'u dadansoddi gan y Pwyllgor Craffu.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.
|
|
ADRODDIAD MONITRO PERFFORMIAD ADRANNOL CWARTER 3 - 1AF EBRILL I'R 31AIN RHAGFYR 2018 PDF 150 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar y cynnydd a wnaed o ran y camau gweithredu a'r mesurau yn y Strategaeth Gorfforaethol Newydd ar gyfer 2018-2023 i gyflawni'r Amcanion Llesiant ar gyfer 2018/19 a oedd yn berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor, dyddiedig 30 Mehefin 2018.
Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Dywedwyd wrth yr Aelodau, mewn perthynas â'r nod o gwblhau Hyfforddiant Craffu erbyn gwanwyn 2019, fod sesiwn Hyfforddiant Craffu i'r Holl Aelodau gan y Ganolfan Craffu Cyhoeddus yn cael ei gynnal ar 29 Mawrth 2019. Roedd gwaith ar y gweill hefyd i adolygu meysydd gorchwyl y Pwyllgorau Craffu; · Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol na fyddai eiddo gwag y Cyngor yn cael ei waredu oni bai bod y cynigion yn realistig; · Cyfeiriwyd at y ffaith bod tîm TIC yn ceisio meithrin ei sgiliau a'i gapasiti ei hun fel bod llai o angen i ddibynnu ar ymgynghorwyr allanol; · Cytunodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol i gael gwybod i ba raddau yr oedd cwmnïau lleol yn cael eu hannog i wneud cais am gontractau adeiladu a gwastraff; · Rhoddwyd sicrwydd i'r Aelodau fod y rhaglen gweithio ystwyth yn mynd rhagddo'n dda a bod yr adborth gan staff wedi bod yn gadarnhaol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. |
|
DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU'R PWYLLGOR CRAFFU POLISI AC ADNODDAU PDF 121 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYDYN UNFRYDOL nodi'r adroddiad a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, neu'r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu.
|
|
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 92 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y rhestr o eitemau i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf i'w gynnal ar 26 Ebrill 2019 yn cael eu derbyn yn amodol ar gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y Pentref Llesiant.
|
|
LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 6ED CHWEFROR 2019 PDF 164 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Chwefror, 2019 yn gofnod cywir.
|