Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | |||
---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriad gan G.B. Thomas.
|
||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
||||
LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR GOFNODION CYFARFOD A GYNHALWYD AR: Dogfennau ychwanegol: |
||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd sylw bod y cofnodion yn nodi'n anghywir bod M. Dodd yn Gynghorydd.
PENDERFYNWYD, yn amodol ar y diwygiad, fod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2022 yn cael eu llofnodi'n gofnod cywir.
|
||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd 2022 yn gywir.
|
||||
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD EDWARD THOMAS Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Edward Thomas o Gyngor Sir Caerfyrddin am ollyngiad o dan ddarpariaethau'r Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â busnes o ran 30 Stryd y Bont, Llandeilo sydd mewn cyflwr gwael.
Dywedwyd bod cais am ollyngiad yn cael ei wneud gan fod gan y Cynghorydd Thomas fuddiant personol a rhagfarnol yn y mater hwn yn rhinwedd paragraff 10 (2)(a) o Gôd Ymddygiad yr Aelodau fel aelod lleol dros Landeilo a Dyffryn Cennen a 30 Stryd y Bont, Llandeilo, sy'n ffinio â'i eiddo.
Nododd yr Aelodau nad oedd cais y Cynghorydd Edwards am ollyngiad er mwyn ymarfer unrhyw swyddogaethau gweithrediaeth neu gabinet mewn perthynas â'r eiddo, a phe byddai'r mater yn cael ei drafod mewn cyfarfod o'r Cyngor neu'r Cabinet, y byddai'n datgan buddiant ac ni fyddai'n cymryd rhan mewn unrhyw bleidlais.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod gollyngiad yn cael ei ganiatáu o dan Reoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 er mwyn galluogi'r Cynghorydd Edward Thomas fel yr aelod lleol dros Landeilo a Dyffryn Cennen i SIARAD A CHYFLWYNO SYLWADAU YSGRIFENEDIG mewn perthynas â materion o ran 30 Stryd y Bont, Llandeilo a bod y gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd y tymor etholiadol presennol.
|
||||
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD RUSSELL SPARKS Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Russell Sparks o Gyngor Sir Caerfyrddin am ollyngiad o dan ddarpariaethau'r Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â busnes o ran darparu gwasanaethau hamdden yn y Sir, yn enwedig darparu pyllau nofio a gwersi nofio gan y Cyngor.
Dywedwyd bod cais am ollyngiad yn cael ei wneud gan fod gan y Cynghorydd Sparks fuddiant personol a rhagfarnol yn y mater hwn yn rhinwedd paragraff 10 (2)(a) o Gôd Ymddygiad yr Aelodau gan ei fod yn darparu gwasanaethau hamdden yn y Sir, yn enwedig yn y ddarpariaeth o byllau nofio a gwersi nofio gan y Cyngor.
Wrth ystyried y ffaith bod y Cynghorydd Sparks yn darparu gwersi nofio yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin, roedd Aelodau o'r farn na ddylai gollyngiad ymestyn i unrhyw fusnes y Cyngor ymwneud yn uniongyrchol â phwll nofio Canolfan Hamdden Caerfyrddin na'r ddarpariaeth o wersi nofio yn y pwll hwnnw.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod gollyngiad yn cael ei ganiatáu o dan Reoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 er mwyn galluogi'r Cynghorydd Russell Sparks i SIARAD A CHYFLWYNO SYLWADAU YSGRIFENEDIG YN UNIG OND NID PLEIDLEISIO yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas ag unrhyw fusnes cyngor ac nad yw'r gollyngiad yn ymestyn i unrhyw fusnes cyngor o ran pwll nofio Canolfan Hamdden Caerfyrddin nac i'r ddarpariaeth o wersi nofio yn y pwll hwnnw.
|
||||
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD A. R. BRAGOLI Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Sylwer: · Cafodd yr eitem hon ei hystyried ar ôl eitem 7 ar yr agenda. · Roedd y Cynghorydd Rob James wedi datgan buddiant personol yn yr eitem hon yn gynharach felly gadawodd y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei hystyried].
Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais a gyflwynodd gan y Cynghorydd Andrew Ronald Bragoli o Gyngor Tref Llanelli am ollyngiad o dan ddarpariaethau'r Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â busnes o ran ystafelloedd newid Pen-y-gaer.
Dywedwyd bod cais am ollyngiad yn cael ei wneud gan fod gan y Cynghorydd Bragoli fuddiant personol a rhagfarnol yn y mater hwn yn rhinwedd paragraff 10 (2)(a) o Gôd Ymddygiad yr Aelodau gan ei fod yn aelod o gr?p cymunedol o'r enw Caru Lliedi sy'n gweithio gyda'r Cyngor Tref ar hyn o bryd mewn perthynas â chais am grant ar gyfer yr ystafelloedd newid.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod gollyngiad yn cael ei ganiatáu o dan Reoliadau 2 (c), (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 er mwyn galluogi'r Cynghorydd Andrew Ronald Bragoli i SIARAD A CHYFLWYNO SYLWADAU YSGRIFENEDIG YN UNIG OND NID PLEIDLEISIO yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Llanelli mewn perthynas ag unrhyw fusnes cyngor o ran Ystafelloedd Newid Pen-y-gaer.
|
||||
PENDERFYNIADAU DIWEDDAR Y PANEL DYFARNU Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [Sylwer: Cafodd yr eitem hon ei hystyried cyn eitem 6 ar yr agenda.]
Bu'r Pwyllgor yn ystyried tri adroddiad ar wahân a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Banel Dyfarnu Cymru yn manylu ar ei ganfyddiadau yn achosion
· y Cyn-Gynghorydd Gordon Lewis.
Nododd y Pwyllgor nad yw'r 3 dan sylw bellach yn gwasanaethu fel cynghorwyr ond bod Panel Dyfarnu Cymru wedi rhoi cyfnodau gwahardd yn amrywio rhwng 1 a 3 blynedd.
Wrth gyfeirio at achos y cyn-Gynghorydd Dowson, amlygwyd pwysigrwydd cynnwys cyfeiriad at y defnydd o gyfryngau cymdeithasol mewn hyfforddiant Côd Ymddygiad a gofynnwyd am i hyn gael ei gynnwys yn yr hyfforddiant Côd Ymddygiad a ddarperir gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
||||
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriwyd at Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a'r gofyniad i ysgrifennu at Arweinwyr Gr?p presennol i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r dyletswyddau newydd a osodwyd arnynt o dan y Ddeddf fel y trafodwyd yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2022 [Cofnod 5 yn cyfeirio]. Gofynnwyd a oedd y llythyr yn cael ei ysgrifennu. Wrth roi sicrwydd i aelodau'r Pwyllgor bod yr arweinwyr gr?p yn gwbl ymwybodol o'u dyletswyddau yn unol â'r Ddeddf, cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol fod llythyr drafft wedi'i baratoi a'i fod yn y broses o gael ei gwblhau.
Wrth sôn y byddai'n fuddiol i'r Pwyllgor dderbyn cynnydd ar ei gamau gweithredu, cynigiwyd bod cofrestr gweithredu dreigl a oedd yn rhoi statws cynnydd ar bob un o'r camau a godwyd mewn cyfarfod o'r Pwyllgor Safonau yn cael eu cynnwys ar agenda arferol pob cyfarfod Pwyllgor fel eitem agenda safonol. Eiliwyd y cynnig hwn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod cofrestr gweithredu yn cael ei chynnwys ar agenda arferol pob cyfarfod Pwyllgor fel eitem agenda safonol.
|