Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Janine Owen 01267 224030
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd E.
Schiavone,
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
DATGANIAD CYFRIFON CYNGOR SIR CAERFYRDDIN |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol (ISA 260) ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin 2018-19 a oedd yn crynhoi canfyddiadau'r archwiliad a gynhaliwyd. Nododd y Pwyllgor fod yr adroddiad yn nodi barn yr Archwilydd Cyffredinol ynghylch y datganiadau ariannol ac a ydynt yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol Cyngor Sir Caerfyrddin ar 31 Mawrth 2019 a'r incwm a'r gwariant ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben.
Nodwyd hefyd mai bwriad yr Archwilydd Cyffredinol oedd cyhoeddi adroddiad archwilio anghymwys ynghylch y datganiadau ariannol ar ôl i'r Awdurdod roi Llythyr Sylwadau i Swyddfa Archwilio Cymru, a fyddai'n cael ei gymeradwyo ar agenda y cyfarfod.
Cydnabuwyd y gwaith caled a'r ymrwymiad wrth baratoi cyfrifon y Cyngor Sir gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a'r Pwyllgor.
Roedd y Pwyllgor yn cydnabod bod y camddatganiadau wedi'u cywiro gan y rheolwyr fel y nodwyd gydag esboniadau yn Atodiad 3.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am rai materion a gododd o'r archwiliad, gan gynnwys:
· Rhwymedigaeth pensiwn ychwanegol (McCloud) · Darparu Papurau Gwaith · Prisio Asedau
Nododd y Pwyllgor ei bod yn debygol y byddai'r Cyngor yn wynebu heriau sylweddol wrth gwrdd â therfynau amser o ran cyflwyno cyfrifon yn y dyfodol. Nodwyd mai un o'r heriau allweddol fyddai'r tebygolrwydd posibl y byddai angen i'r Awdurdod ddatblygu Cyfrifon Gr?p y flwyddyn nesaf ar ôl i'r tri chwmni a grëwyd yn ddiweddar gan y Cyngor ehangu o ran maint. Er mwyn helpu'r Cyngor i barhau i ddarparu cyfres o ddatganiadau ariannol o ansawdd uchel a chyfres lawn o bapurau gwaith ategol y flwyddyn nesaf yn unol â therfynau amser cau'r cyfrifon, byddai Swyddfa Archwilio Cymru yn gweithio'n agos gyda swyddogion yn ystod yr hydref i ddysgu gwersi gan brosesau paratoi cyfrifon ac archwilio 2018-19.
Codwyd yr ymholiadau canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-
Mewn ymateb i nifer o ymholiadau a godwyd mewn perthynas â'r mater o brisio asedau a nodwyd, eglurodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol ynghyd â Swyddog Archwilio Cymru gefndir a natur y mater i'r Pwyllgor. Gwnaed sylw gan ddweud er y dylid bod wedi sefydlu prosesau a fyddai wedi osgoi'r mater hwn, roedd y Pwyllgor yn dawel ei feddwl bod hyn wedi'i nodi yn ystod proses archwilio.
O ran monitro materion sylweddol a godwyd, cynigiwyd y dylid dychwelyd adroddiad diweddaru ynghylch prisiadau asedau i'r Pwyllgor ei ystyried mewn 6 mis. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL; 3.1.1 dderbyn yr
adroddiad;
|
|
LLYTHYR CYNRYCHIOLAETH I SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU CYNGOR SIR GAR PDF 478 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod yn ofynnol gan Swyddfa Archwilio Cymru, yn unol â'r Datganiad Safonau Archwilio (SAS440 - Sylwadau Rheolwyr), fod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol yn llunio Llythyr Sylwadau yn flynyddol, a bod y llythyr hwn yn cael ei lofnodi gan y Swyddog hwnnw a Chadeirydd y Pwyllgor Archwilio. Ar ben hyn, roedd Swyddfa Archwilio Cymru yn gofyn bod y Pwyllgor sy'n gyfrifol am gymeradwyo'r cyfrifon o dan Reoliad 8 o'r Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio yn cydnabod ymateb Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol yn ffurfiol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gydnabod y Llythyr Sylwadau i Swyddfa Archwilio Cymru a baratowyd gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol.</AI5> |
|
YMHOLIADAU ARCHWILIO AR GYFER Y RHEINY SY'N GYFRIFOL AM LYWODRAETHU A RHEOLAETH PDF 428 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dosbarthwyd adroddiad i'r Pwyllgor yn manylu ar ymatebion a gafwyd i geisiadau a wnaed gan Swyddfa Archwilio Cymru i'r rheolwyr a'r Pwyllgor Archwilio er mwyn i Swyddfa Archwilio Cymru fodloni'r gofynion a nodir yn y Safonau Rhyngwladol ar Archwilio (ISAs) i gael ystyriaeth a dealltwriaeth ffurfiol yr Awdurdod ar nifer o feysydd llywodraethu sy'n effeithio ar archwiliad o'r datganiadau ariannol. Roedd yr ystyriaethau hyn yn berthnasol i reolwyr y Cyngor a'r 'rhai sy'n gyfrifol am lywodraethu' (Pwyllgor Archwilio). Roedd y wybodaeth a ddarparwyd yn cyfrannu at ddealltwriaeth Swyddfa Archwilio Cymru o'r Cyngora'i brosesau busnes ac yn cefnogi gwaith y Swyddfa Archwilio i ddarparu barn archwilio ar ddatganiadau ariannol 2018-19.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r ymatebion i'r ceisiadau a wnaed gan Swyddfa Archwilio Cymru a'r Pwyllgor Archwilio fel y manylir yn yr adroddiad.</AI6>
|
|
DATGANIAD CYFRIFON 2018-2019 PDF 495 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Datganiad Cyfrifon yr Awdurdod ar gyfer 2018/19, a luniwyd yn unol â Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 a ddaeth â holl drafodion ariannol yr Awdurdod ar gyfer y flwyddyn ynghyd, yn ogystal â manylu ar asedau a rhwymedigaethau'r Awdurdod fel yr oeddent ar 31 Mawrth 2019.
Nododd y Pwyllgor fod nifer o ddiwygiadau wedi'u gwneud i'r cyfrifon, fel y nodwyd yn eitem 3.1 yn gynharach ar yr agenda (Adroddiad ynghylch Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol Swyddfa Archwilio Cymru), a oedd yn cynnwys egluro rhai nodiadau datgelu. Roedd y Pwyllgor yn cydnabod bod yr holl newidiadau y cytunwyd arnynt gyda Swyddfa Archwilio Cymru wedi'u hadlewyrchu yn y Datganiad o Gyfrifon a gyflwynwyd i'w cymeradwyo.
Dywedwyd nad oedd unrhyw newid wedi bod i falansau Cronfa'r Cyngor ar y cronfeydd cyffredinol na'r cronfeydd wrth gefn am y flwyddyn, ac nid oedd newid i falans y Cyfrif Refeniw Tai ar ddiwedd y flwyddyn.
Dywedwyd hefyd fod yr Awdurdod wedi cadw gwariant net cyffredinol Cronfa'r Cyngor yn is na'r gyllideb wreiddiol, gan arwain at drosglwyddiad o'r Cyfrif Refeniw o £539k i falansau Cronfa'r Cyngor a bod y trosglwyddiad o £5.8m a gynlluniwyd o falansau'r Cyfrif Refeniw Tai wedi digwydd yn ystod y flwyddyn. Ar ddyddiad y fantolen, roedd balansau cyffredinol Cronfa'r Cyngor yn £10.4m, y Cyfrif Refeniw Tai yn £14.3m ac roedd diffyg o £393k yn y balansau a ddelir gan ysgolion o dan Reoli Ysgolion yn Lleol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Datganiad Cyfrifon Cyngor Sir Caerfyrddin 2018/19.
|
|
CYFRIFLEN CRONFA BENSIWN DYFED |
|
ADRODDIAD DATGANIADAU ARIANNOL - CRONFA BENSIWN DYFED PDF 395 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch yr archwiliad a gynhaliwyd o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn ystyried a oedd y datganiad ariannol yn rhoi golwg gywir a theg ar sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed ar 31 Mawrth, 2019 a'i hincwm a'i gwariant yn ystod y flwyddyn honno.
Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at yr adroddiad manwl lle roedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi barnu nad oedd dim camddatganiadau wedi eu clustnodi yn y datganiadau ariannol a oedd yn dal heb eu cywiro. Roedd nifer o fân gamddatganiadau wedi'u cywiro gan y rheolwyr.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. |
|
LLYTHYR CYNRYCHIOLAETH I SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU CRONFA BENSIWN DYFED PDF 390 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Hysbyswyd y Pwyllgor ei bod yn ofynnol gan Swyddfa Archwilio Cymru, yn unol â'r Datganiad Safonau Archwilio (SAS440 – Sylwadau Rheolwyr) fod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol yn llunio Llythyr Sylwadau yn flynyddol, a bod y llythyr hwn yn cael ei lofnodi gan y Swyddog hwnnw a Chadeirydd y Pwyllgor Archwilio. Yn ogystal, roedd yn ofynnol gan Swyddfa Archwilio Cymru i'r Pwyllgor sy'n gyfrifol am gymeradwyo'r cyfrifon o dan Reoliad 8 o'r Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio i gydnabod yr ymateb yn ffurfiol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Llythyr Sylwadau i Swyddfa Archwilio Cymru gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a Chadeirydd y Pwyllgor Archwilio i Swyddog Archwilio Cymru - Cronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei gydnabod.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd y Pwyllgor wedi cael ymatebion yr Awdurdod i Swyddfa Archwilio Cymru ar nifer o feysydd llywodraethu sy'n effeithio ar archwiliad y datganiadau ariannol. Roedd yr ystyriaethau hyn hefyd yn berthnasol i reolwyr Cronfa Bensiwn Dyfed a'r 'rhai sy'n gyfrifol am lywodraethu' (Pwyllgor Archwilio). Roedd y wybodaeth a ddarparwyd yn cyfrannu at ddealltwriaeth Swyddfa Archwilio Cymru o Gronfa Bensiwn Dyfed a'i phrosesau busnes gan gefnogi ei waith o ddarparu barn archwilio ar gyfer datganiadau ariannol 2017-18.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r ymatebion i'r ceisiadau a wnaed i'r rheolwyr a'r Pwyllgor Archwilio fel y manylir yn yr adroddiad.</AI11>
|
|
CYFRIFLEN CRONFA BENSIWN DYFED 2018-2019 PDF 394 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â darpariaethau Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014, cafodd Datganiad Cyfrifon 2018/19 a oedd yn ymwneud â Chronfa Bensiwn Dyfed ac a oedd wedi'i archwilio, ei roi gerbron y Pwyllgor i'w gymeradwyo. Roedd y Datganiad yn dwyn ynghyd holl drafodion ariannol y Gronfa Bensiwn am y flwyddyn, ac roedd yn rhoi manylion am ei hasedau a'i rhwymedigaethau fel yr oeddent ar 31 Mawrth 2019.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Datganiad Cyfrifon 2018/19 Cronfa Bensiwn Dyfed, wedi'u harchwilio.
|
|
DATGANIAD ARIANNOL AWDURDOD HARBWR PORTH TYWYN 2018-19 PDF 400 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Ddatganiad Ariannol Awdurdod Harbwr Porth Tywyn 2018-19, a luniwyd yn unol â Deddf Harbyrau 1964, a nodai ei bod yn ofynnol i bob Awdurdod Harbwr Statudol lunio datganiad blynyddol o gyfrifon ynghylch gweithgareddau'r harbwr.
Yn unol â Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014, roedd y cyfrifon hynny ar ffurf cyfrif incwm a gwariant blynyddol ar wahân a datganiad balansau. Cost net gweithgareddau'r harbwr yn 2018-19 oedd £533k ac roedd yr holl weithgareddau'n cael eu cyllido'n llawn gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Roedd yr asedau sefydlog a ddelir ar 31 Mawrth 2019 yn dod i gyfanswm o £975k. Y gost net o £558k (2017-18 £332k). Roedd y cynnydd o £201k yn bennaf yn ymwneud â chynnydd o £325k mewn gwariant cyfalaf wedi'i wrthbwyso gan ostyngiad o £124k mewn costau gweithredu net.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn a chymeradwyo Datganiad Cyfrifon Awdurdod Harbwr Porth Tywyn 2018-19.
|
|
FFURFLEN FLYNYDDOL / ARCHWILIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU 2018/19 PDF 399 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor Ffurflen/Archwiliad Blynyddol 2018/19 Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) i'w hystyried a'u cymeradwyo. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod cymeradwyaeth derfynol o'r ffurflen flynyddol wedi'i harchwilio a'r adroddiad archwilio ar gyfer 2018/19 wedi'i dirprwyo gan y Cyd-bwyllgor i Bwyllgor Archwilio'r awdurdod cynnal (Cyngor Sir Caerfyrddin) ar gyfer 2018/19 yn unig, oherwydd amseriad cyfarfod nesaf Cyd-bwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru. Nododd y Pwyllgor fod gofyn bod y cyfrifon yn cael eu paratoi ar ffurf ffurflen flynyddol ar gyfer y Cyd-bwyllgorau sydd ag incwm a gwariant o dan £2.5 miliwn. Gan mai costau cyd-lywodraethu oedd £2.3 miliwn ar gyfer 2018/19, paratowyd ffurflen flynyddol ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r ffurflen flynyddol wedi'i harchwilio a'r adroddiad archwilio ar gyfer 2018/19 ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru.
|
|
YSTYRIED Y DOGFENNAU CANLYNOL PARATOWYD GAN SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU:- Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Mr Jason Garcia, Sara Leahy, Alison Lewis, Kate Harvard ac Ann Marie Harkin o Swyddfa Archwilio Cymru i'r cyfarfod.
|
|
ADRODDIADAU LLEOL SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU. PDF 181 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiadau lleol Swyddfa Archwilio Cymru yngl?n â'r canlynol:
· Adroddiad Gwella Blynyddol – Cyngor Sir Caerfyrddin 2018-19 · Adolygiad o Drefniadau Rheoli Risg - Cyngor Sir Caerfyrddin
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiadau Lleol Swyddfa Archwilio Cymru.
|
|
ADRODDIADAU CENEDLAETHOL SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU. PDF 181 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Cenedlaethol ynghylch y Gronfa Gofal Integredig, a gafodd ei chyhoeddi'n ddiweddar gan Swyddfa Archwilio Cymru.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Cenedlaethol Swyddfa Archwilio Cymru.
|
|
Y DIWEDDARAF YNGHYLCH AR CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2019/20 PDF 373 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn cynnwys:-
Credydwyr Budd-daliadau Tai Arian Parod a Banc
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Archwilio Mewnol 2018/19.
|
|
BLAENRHAGLEN GWAITH PWYLLGOR ARCHWILIO PDF 380 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Flaenraglen Waith Flynyddol a oedd yn rhoi manylion am yr eitemau disgwyliedig ar agenda cylch cyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio 2019/20.
Cynigiwyd y dylid ychwanegu diweddariadau ynghylch cwmnïau hyd braich y Cyngor at y Flaenraglen Waith. Dywedodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol y byddai'r rhain yn cael eu cynnwys ym Mlaenraglen Waith 2019/20 y Pwyllgor Archwilio fel y gofynnwyd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
9.1 gymeradwyo'r Flaenrhaglen Waith;
9.2 cynnwys diweddariadau ynghylch cwmnïau hyd braich Cyngor Sir Caerfyrddin ym Mlaenrhaglen Waith 2019/20 y Pwyllgor Archwilio.
|
|
ADRODDIADAU CYNNYDD |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad ynghylch y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran mynd i'r afael â'r 9 argymhelliad a oedd wedi deillio o Adolygiad y Cyngor o Reoli Perfformiad Pobl. Roedd hyn yn cael ei fonitro gan Fwrdd Llywodraethu'r Strategaeth Pobl a oedd wedi'i gadeirio gan y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant. Roedd y Bwrdd yn gyfrifol am lunio cynllun gweithredu manwl ac roedd gwaith wedi'i wneud i flaenoriaethu'r meysydd hynny a oedd wedi'u hamlygu megis Gwastraff a Hamdden.
O ran y diweddariad a roddwyd ar gyfer Argymhelliad 1, codwyd ymholiad ynghylch y ffaith nad oedd y diweddariad wedi cynnwys unrhyw wybodaeth bod yr adolygiad wedi'i gwblhau, a bod hynny'n peri pryder o ran ei natur risg uchel. Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol – Pobl a Pherfformiad, yn absenoldeb y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant, ei fod yn rhan annatod o'r gr?p risg corfforaethol a rhoddodd sicrwydd i'r Pwyllgor fod y gr?p hwn yn monitro'r gwaith sy'n cael ei wneud.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
10.1.1 dderbyn yr adroddiad
a nodi'r cynnydd a oedd yn cael ei wneud 10.1.2 cyflwyno adroddiad cynnydd i'r Pwyllgor mewn 12 mis.
|
|
ARCHWILIAD MEWNOL PARC GWLEDIG PENBRE 2018/19 PDF 397 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad cryno ynghylch Archwiliad Mewnol 2018/19 o Barc Gwledig Pen-bre, a oedd yn cynnwys canfyddiadau ac argymhellion yr archwiliad.
Roedd Cwmpas yr adolygiad a gynhaliwyd yn ymwneud â'r systemau a'r gweithdrefnau sydd ar waith i asesu'r canlynol:
· I ba raddau y mae'r argymhellion y cytunwyd arnynt yn yr adroddiad Archwilio Mewnol blaenorol wedi'u gweithredu; · I ba raddau yr oedd yr incwm a oedd yn ddyledus wedi'i gasglu'n llawn, ei fancio'n brydlon a'i gyfrifo'n gywir yn unol â gofynion Rheolau'r Gweithdrefnau Ariannol; · I ba raddau y mae trefniadau digonol ar waith ar gyfer caffael nwyddau, gwasanaethau a'r system rhwystr newydd; ac · I ba raddau y mae trefniadau digonol ar waith ar gyfer diogelu asedau'r Awdurdod.
Nododd y Pwyllgor fod yr adolygiad wedi arwain at sgôr sicrwydd derbyniol a'r gwelliannau parhaus a nodwyd o ran prosesau gweinyddu yn y Parc.
Dywedwyd bod hyfforddiant staff sylweddol wedi'i gynnal ar gyfer gweithdrefnau gweithredol ac ariannol ers i'r strwythur rheoli newydd gael ei roi ar waith, a bod llawer o'r materion archwilio a nodwyd yn flaenorol wedi cael sylw.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|
ARCHWILIAD MEWNOL CANOLFAN SGÏO 2018/19 PDF 384 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad cryno ynghylch Archwiliad Mewnol 2018/19 y Ganolfan Sgïo ym Mharc Gwledig Pen-bre a oedd yn cynnwys canfyddiadau ac argymhellion yr archwiliad.
Mae Parc Gwledig Pen-bre yn cynnwys un o'r atyniadau awyr agored mwyaf poblogaidd yng Nghymru. Mae'r Ganolfan Sgïo yn rhan annatod o lwyddiant y Parc Gwledig, sy'n cynnwys llethr sgïo, rhedfa dobogan, pwynt llogi beiciau a chaffi.
Cynhaliwyd adolygiad o'r Ganolfan Sgïo ar y systemau a'r gweithdrefnau sydd ar waith i asesu'r canlynol:
· I ba raddau y mae'r argymhellion y cytunwyd arnynt yn yr adroddiad Archwilio Mewnol blaenorol wedi'u gweithredu; · I ba raddau yr oedd yr incwm a oedd yn ddyledus wedi'i gasglu'n llawn, ei fancio'n brydlon a'i gyfrifo'n gywir yn unol â gofynion Rheoliadau'r Gweithdrefnau Ariannol; · I ba raddau y mae trefniadau digonol ar waith ar gyfer caffael nwyddau a gwasanaethau; · I ba raddau y mae trefniadau digonol ar waith ar gyfer diogelu asedau'r Awdurdod; · I ba raddau yr oedd gwerthu stoc y siop yn gyflawn/dan reolaeth; · Bod yr holl staff perthnasol wedi bod yn destun Gwiriad Datgelu a Gwahardd; · Bod rotâu staff yn cyd-fynd â'r taflenni amser a gyflwynwyd.
Er y dywedwyd bod adolygiad 2018/19 o'r Ganolfan Sgïo wedi arwain at raddfa sicrwydd isel, nododd y Pwyllgor fod yr adolygiad wedi nodi nifer o feysydd, lle'r oedd angen gwneud gwelliannau, yn ymwneud yn bennaf â'r canlynol: Rheolaeth dros fynediad i'r tiliau, cofnodi incwm a chymodi, a chadw arian parod; Cadw dogfennau i roi tystiolaeth o benderfyniadau caffael.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
10.3.1 dderbyn yr adroddiad 10.3.2 cyflwyno adroddiad cynnydd i'r Pwyllgor mewn 6 mis.
|
|
SIARTER ARCHWILIO MEWNOL PDF 384 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor Siarter Archwilio Mewnol y Cyngor a ddiweddarwyd i'w hystyried. Nododd yr Asesiad Ansawdd Allanol, a gynhaliwyd ar Wasanaeth Archwilio Mewnol y Cyngor yn 2018, fod angen diweddaru'r Siarter Archwilio Mewnol er mwyn sicrhau ei fod yn cyd-fynd â gofynion Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus.
Dywedwyd mai'r cam gweithredu y cytunwyd arno i fynd i'r afael â'r argymhelliad hwn oedd y byddai'r Siarter Archwilio Mewnol yn cael ei hadolygu a'i diwygio erbyn mis Medi 2019.
Diben y Siarter oedd diffinio'r swyddogaeth Archwilio Mewnol ac esbonio ei phwrpas, ei hawdurdod a'i chyfrifoldebau.
Nododd y Pwyllgor fod y Siarter wedi'i llunio yn unol â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus ac y byddai'r Siarter Archwilio Mewnol yn cael ei hadolygu bob dwy flynedd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Siarter Archwilio Mewnol diweddaraf Cyngor Sir Caerfyrddin.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor Lawlyfr Grantiau wedi'i ddiweddaru a oedd yn amlinellu fframwaith yr Awdurdod o ran rheoli grantiau, ac a oedd yn cynnwys pedwar cam allweddol o ran datblygu'r prosiect, cynnig arian grant, cyflawni'r prosiect a ariannir drwy grant hyd at ddiwedd y prosiect.
Roedd y Llawlyfr Grantiau yn cefnogi Rheolau'r Weithdrefn Ariannol sydd â'r nod o gynorthwyo ac arwain staff. Mae'r Llawlyfr Grantiau yn nodi dull mabwysiedig yr Awdurdod o ddatblygu a chyflawni'r holl brosiectau a ariannir gan grantiau. Mae'n gweithio ar y cyd â Phecyn Cymorth Rheoli Prosiectau'r Awdurdod i ddarparu canllaw hollgynhwysol.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod yr Awdurdod yn cael grantiau gan nifer o ffynonellau cyllido a bod y Llawlyfr Grantiau wedi'i adolygu a'i ddiweddaru'n ddiweddar i adlewyrchu'r gofynion rheoli grantiau presennol, er mwyn bodloni rhwymedigaethau cyffredinol y corff cyllido, prosesau a gweithdrefnau mewnol, a gofynion archwilio.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Llawlyfr Grantiau wedi'i ddiweddaru.
|
|
COFNODION GRWPIAU PERTHNSAOL I'R PWYLLGOR ARCHWYLIO PDF 357 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y cofnodion canlynol:-
· Cofnodion y Gr?p Llywio Rheoli Risg – 30 Gorffennaf 2019 · Cofnodion y Gr?p Llywodraethu Corfforaethol – 13 Mawrth 2019
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf 2019 gan eu bod yn gywir.
|