Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Gwener, 16eg Gorffennaf, 2021 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhian Lloyd  01267 224088

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

APOLOGIES FOR ABSENCE.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd B.A.L. Roberts.

 

2.

DECLARATIONS OF PERSONAL INTERESTS.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

A.G. Morgan

8.1 – Diffygion a Gwargedion Ysgolion

Cadeirydd y Llywodraethwyr mewn ysgol sy'n wynebu diffyg ariannol

T. Higgins

8.1 – Diffygion a Gwargedion Ysgolion

Llywodraethwr Awdurdod Addysg Lleol yn Ysgol T?-croes

G. John

8.1 – Diffygion a Gwargedion Ysgolion

Llywodraethwr Awdurdod Addysg Lleol yn Ysgol Tre Ioan

E. Williams

8.1 – Diffygion a Gwargedion Ysgolion

Llywodraethwr Awdurdod Addysg Lleol yn Ysgol Llangynnwr

B. Thomas

8.1 – Diffygion a Gwargedion Ysgolion

Llywodraethwr Awdurdod Addysg Lleol yn Ysgol y Felin ac Ysgol Ffederal Bryngwyn a Glanymôr

K. Davies

8.1 – Diffygion a Gwargedion Ysgolion

Llywodraethwr Awdurdod Addysg Lleol yn Ysgol Saron ac Ysgol Dyffryn Aman

K. Broom

8.1 – Diffygion a Gwargedion Ysgolion

Llywodraethwr Awdurdod Addysg Lleol yn Ysgol y Strade ac Ysgol Trimsaran

 

 

3.

APPOINTMENT OF CHAIR FOR THE 2021/22 MUNICIPAL YEAR

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOLbenodi'r Cynghorydd T. Higgins yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021/22.

 

 

4.

APPOINTMENT OF VICE-CHAIR FOR THE 2021/22 MUNICIPAL YEAR

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd G. Morgan yn Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021/22.

 

 

5.

INTERNAL AUDIT PLAN UPDATE 2020/21 AND 2021/22 pdf eicon PDF 370 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd oedd yn cael ei wneud o ran gweithredu'r Cynllun Archwilio Mewnol.

 

Adroddiad A: Adroddiadau Cynnydd ynghylch Cynllun Archwilio Mewnol 2020/21 a 2021/22

Adroddiad B:Crynodeb o'r Adroddiadau Terfynol wedi'u cwblhau ynghylch Systemau Ariannol Allweddol (Y Gyflogres / Y Brif System Gyfrifyddu a Rheoli'r Trysorlys)

Adroddiad C: Argymhellion Blaenoriaeth 1 mewn perthynas ag Adolygiadau o Systemau ac Archwiliadau Sefydliadau Eraill (Fframwaith Coedyddiaeth)

 

Cwestiynau a Sylwadau a godwyd:-

·         Gofynnwyd am eglurhad ynghylch Adroddiad B mewn perthynas â'r gyflogres sy'n dangos posibilrwydd helaeth ar gyfer eleni.  Dywedodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol y treuliwyd 40 niwrnod ar yr adolygiad hwn; gan helaethu'r hyn oedd o dan sylw a dod i'r casgliad bod y rhan fwyaf o'r mesurau rheoli ar waith.  Roedd y materion a nodwyd yn ymwneud â gordaliadau o ran goramser, sydd bellach wedi'u had-dalu, a gweithwyr priodol yn cael defnyddio'r system fel "Goruchwyliwr”;

·         Gofynnwyd am y Brif System Gyfrifyddu, sy'n un o swyddogaethau hanfodol yr Awdurdod, a dywedodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth fod angen diweddaru llawlyfr y gyllideb ac y bydd yn dod gerbron y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn ddiweddarach;

·         Gofynnwyd a oedd tystiolaeth ynghylch "nad oedd profion o sampl o 10 o drosglwyddiadau ariannol a glustnodwyd i gadarnhau cymeradwyo 3 o drosglwyddiadau ariannol, ar gael", a dywedodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol fod hyn wedi'i nodi, bod pryderon wedi'u hadrodd i'r adran, bod camau'n cael eu cymryd gan dîm Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol a bod systemau ar waith i oresgyn y mater.  Roedd y trosglwyddiadau ariannol hyn yn benodol o fewn categorïau'r deiliaid cyllidebau ac ystyriwyd eu bod yn llai o risg;

·         Roedd pryderon sylweddol ynghylch rheoli contractau o dan Adroddiad C.  Dywedodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol fod hyn oherwydd bod diffyg prosesau yn y meysydd hyn.  Mae adolygiad mewnol wedi'i gynnal ar yr hyn oedd angen ei roi ar waith i fynd i'r afael â'r mater a gwnaeth yr adran ragor o welliannau i'r system; erbyn hyn disgwylir i'r contractwyr gyflwyno taflenni amser llawn a thystiolaeth o beiriannau wedi'u hurio fel bod ad-daliadau'n cael eu cyfrif.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod ceisiadau am swyddi'n cael eu sianeli drwy'r Uned Cymorth Busnes yn electronig ac yna'n cael eu dosbarthu'n unol â hynny, a'u bod yn manylu ar y gwaith sydd i'w wneud ac nad oes unrhyw waith yn dechrau cyn i Archeb Brynu ddod i law.  Gofynnodd yr Aelodau fod adolygiad archwilio mewnol dilynol yn cael ei gynnal a bod y canfyddiadau'n cael eu hadrodd i'r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu;

·         Gofynnwyd am gymhwysedd y tîm a osododd rubanau coch ar "goed afiach" nad ydynt yn afiach.  Cadarnhaodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol eu bod yn cael eu "clustnodi" oherwydd iechyd a diogelwch y cyhoedd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

6.

ANNUAL INTERNAL AUDIT REPORT 2020/21 pdf eicon PDF 446 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi barn ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd amgylchedd rheoli'r Cyngor ar gyfer y flwyddyn o fis Ebrill 2020 i fis Mawrth 2021, yn seiliedig ar y gwaith a wnaed yng Nghynllun Archwilio Mewnol 2020/21, fel y cytunwyd gan y Pwyllgor Archwilio.

 

Nododd y Pwyllgor fod y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol o'r farn fod gan yr Awdurdod, ar y cyfan, amgylchedd rheoli derbyniol ar waith. Ceir trefniadau llywodraethu clir sydd â chyfrifoldebau rheoli a strwythurau pwyllgorau pendant ar waith. Mae'r fframwaith rheoli yn gadarn ar y cyfan ac yn cael ei weithredu'n eithaf cyson.  Mae gan yr Awdurdod Gyfansoddiad sefydledig, ac mae wedi datblygu polisïau a chymeradwyo Rheolau Gweithdrefn Ariannol sy'n rhoi cyngor ac arweiniad i'r holl staff ac aelodau.  O ganlyniad, roedd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol yn fodlon fod gwaith sicrwydd digonol wedi ei gyflawni i'w galluogi i ddod i gasgliad rhesymol ynghylch digonolrwydd ac effeithiolrwydd amgylchedd rheoli mewnol yr Awdurdod.

 

Lle bo gwendidau wedi eu nodi drwy adolygiadau archwilio mewnol, gwnaed gwaith gyda'r rheolwyr i gytuno ar gamau unioni priodol ac amserlen ar gyfer gwella.

 

Dywedodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol fod y Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn rhan o'r datganiad cyfrifon blynyddol gan nodi i ba raddau y cydymffurfir ag egwyddorion ac arferion llywodraethu da, gan gynnwys sut y mae effeithiolrwydd y gwaith llywodraethu wedi'i fonitro ac yn nodi'r camau gweithredu ar gyfer newidiadau arfaethedig yn y flwyddyn i ddod. Anfonir copi at bob aelod fel y gellir mynegi unrhyw bryderon.

 

Codwyd y cwestiynau a'r sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Gofynnwyd a oedd cymhariaeth â'r flwyddyn flaenorol yn Nhabl 1:  Dywedodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth fod Dadansoddiad o'r Argymhellion ar gael ac y byddai'n cael ei rannu â'r Pwyllgor.

  

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r gofynion statudol, fod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

 

7.

FORWARD WORK PROGRAMME pdf eicon PDF 427 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei Flaenraglen Waith flynyddol a oedd yn manylu ar yr adroddiadau a fydd yn cael eu cyflwyno i'w hystyried yn ystod cylch cyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio 2021/22.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Blaenraglen Waith y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar gyfer 2021/22. 

 

 

 

8.

PROGRESS REPORTS

Dogfennau ychwanegol:

8.1

SCHOOLS' DEFICITS AND SURPLUSES pdf eicon PDF 370 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorwyr A.G. Morgan, T. Higgins, G. John, E. Williams, B. Thomas, K. Davies a K. Broom wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, a bu iddynt aros yn y cyfarfod tra oedd dan sylw).

 

Bu i'r Pwyllgor ystyried yr Adroddiad Cynnydd yn ymwneud â Diffygion a Gwargedion Ysgolion a oedd yn manylu ar y wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth a sefyllfa'r Awdurdod Lleol o ran ysgolion a gynhelir sy'n wynebu neu'n rhagweld diffyg yn y gyllideb.  Mae'n dilyn cyflwyniad blaenorol a wnaed i'r Pwyllgor Archwilio.  Mae'r adroddiad yn ystyried y gweithdrefnau sy'n ymwneud â rheoli diffygion a gwargedion o ran cyllidebau Ysgolion er mwyn sicrhau bod cyllidebau'n cael eu cyflwyno a'u hadrodd yn brydlon, ac yn unol â Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010 a'r Cynllun ar gyfer Ariannu Ysgolion.

 

Cydnabyddir bod y 17 mis diwethaf wedi cael effaith sylweddol ar ysgolion ac ar wasanaethau ledled Sir Gaerfyrddin. O ganlyniad, mae cyllidebau ysgolion wedi'u heffeithio'n sylweddol ac amharwyd yn ddifrifol ar allu'r Tîm Cyllid, gyda chymorth gan y Tîm Gwella Ysgolion, i gefnogi a herio ysgolion.

 

Codwyd y cwestiynau a'r sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Gofynnwyd am eglurhad ynghylch un ysgol yn benodol a oedd yn elfen sylweddol o'r diffyg a gofynnwyd a ellir rhannu hynny. Dywedwyd bod gan yr ysgol dan sylw dipyn llai o ddiffyg yn ystod y flwyddyn honno a'i bod yn rhagweld y bydd o fewn y gyllideb yn ystod y flwyddyn ariannol hon.  Fodd bynnag, mae ysgol uwchradd arall yn wynebu pwysau ariannol sylweddol oherwydd bod nifer y disgyblion yn cwympo;

·         Holwyd ynghylch effaith gweddill yr ysgol ar y cronfeydd corfforaethol wrth gefn.  Dywedodd Cyfrifydd y Gr?p fod gweddillau ar gael fel y gallant ddefnyddio'r cyllid neu gynllunio ar gyfer adfer diffyg ariannol dros nifer o flynyddoedd ac ychwanegodd fod cronfeydd wrth gefn ysgolion ar wahân i gronfeydd corfforaethol wrth gefn ac na ellir eu defnyddio mewn mannau eraill gan eu bod yn gysylltiedig â'r ysgolion;

·         O ran y trosiant mewn 3 blynedd ariannol, roedd diffyg net o £393,000 yn 2018/19 gan gynyddu i £2m yn 2019/20 gyda thanwariant o £9m yn 2020/21 gan roi gwarged net o £7m.  Dywedodd y Pennaeth Addysg a Chynhwysiant fod y gweddillau dros ben yn bennaf oherwydd bod ysgolion wedi'u cau neu wedi lleihau'r adegau roeddynt ar agor, ynghyd â chyfleustodau, adnoddau ac arbedion gwasanaeth cyflenwi ynghyd â grantiau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru;

·         Gofynnwyd am yr heriau a guddiwyd gan arian ychwanegol yn dod i mewn yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

·         Byddai'n fuddiol pe gellid cael adroddiad tebyg ymhen blwyddyn gan fod heriau ariannol yn parhau mewn rhai ysgolion (rhai bach yn bennaf).  Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol y bydd y newid o ran gweddillau ariannol ysgolion yn cael ei gynnwys yn y Datganiad Cyfrifon.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr Adroddiad Cynnydd ynghylch Diffygion a Gwargedion Ysgolion.

 

 

9.

ANNUAL ANTI-FRAUD AND ANTI-CORRUPTION REPORT 2020/21 pdf eicon PDF 381 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i'r Pwyllgor ystyried Adroddiad Atal Twyll ac Arferion Llwgr Blynyddol 2020/21 sy'n rhoi crynodeb o weithgareddau swyddogaeth Atal Twyll y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020/21.  Mae'n nodi bod gan Gyngor Sir Caerfyrddin ymagwedd dim goddefgarwch tuag at bob math o dwyll, arferion llwgr a dwyn, yn y cyngor ac o ffynonellau allanol.  Cydnabyddir y gall twyll: 

 

-       danseilio safonau'r gwasanaethau cyhoeddus y mae’r Cyngor yn ceisio eu cyrraedd;

-       lleihau’r adnoddau a'r gwasanaethau sydd ar gael i breswylwyr Sir Gaerfyrddin; ac

-       arwain at ganlyniadau o bwys sy’n lleihau hyder y cyhoedd yn y Cyngor.

 

Mae Llywodraethu Corfforaethol da yn mynnu bod yn rhaid i’r Awdurdod ddangos yn glir ei fod wedi ymrwymo i fynd i’r afael â thwyll ac arferion llwgr ac y bydd yn ymdrin yn gyfartal â chyflawnwyr o’r tu mewn (aelodau a gweithwyr) ac o’r tu allan i’r Cyngor. 

 

Dywedodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol fod sesiynau ymwybyddiaeth o dwyll gyda'r Heddlu wedi'u cynnal gydag aelodau o'r Tîm Rheoli Corfforaethol, y Bwrdd Gweithredol, y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a'r staff, gan gynnwys y Tîm Archwilio Mewnol.  Mae tudalen bwrpasol ar gael ar y Fewnrwyd mewn perthynas â thwyll ac ar hyn o bryd mae'r tîm yn edrych ar fodiwl e-ddysgu i gynyddu ymwybyddiaeth ymysg y staff.

 

Mae'r Awdurdod yn cymryd rhan yn ymarfer y Fenter Twyll Genedlaethol (NFI), lle mae data, gan gynnwys data ynghylch y Gyflogres, Credydwyr ac ati, yn cael ei baru'n genedlaethol bob 2 flynedd i nodi twyll unigol posibl. 

 

Rhoddwyd sylw i'r sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Byddai'n arfer da gweld cymhariaeth o flwyddyn flaenorol bob amser.  Dywedodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol y byddai hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr adroddiad y flwyddyn nesaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Atal Twyll ac Arferion Llwgr Blynyddol 2020/21.

 

 

 

10.

COMPLAINTS POLICY pdf eicon PDF 396 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Polisi Cwynion sy'n nodi bod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a'i Awdurdod Safonau Cwynion wedi lansio Polisi Pryderon a Chwynion Enghreifftiol newydd yn ffurfiol ar 30 Medi 2020 (ynghyd â'r canllawiau cysylltiedig):

 

https://www.ombwdsmon.cymru/awdurdod-safonau-cwynion/

 

Rhoddwyd 6 mis i awdurdodau lleol o'r dyddiad uchod i weithredu'r Polisi/y broses newydd hon a chyflwyno dogfen wedi'i diweddaru i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.  Cydymffurfiodd y Cyngor â'r dyddiad cau hwn a chymeradwywyd Polisi Cwynion newydd gan y Bwrdd Gweithredol ar 22 Mawrth 2021.  Yn dilyn hyn, cyflwynwyd y polisi i'r Awdurdod Safonau Cwynion er mwyn cadarnhau cydymffurfio â'r gofynion. Yna ysgrifennodd Pennaeth yr Awdurdod Safonau Cwynion at y Prif Weithredwr a'r Arweinydd ar 26 Mai 2021 yn cadarnhau bod Polisi Cwynion y Cyngor yn cydymffurfio â'r gofynion.

 

Nid yw'r polisi newydd yn gwyro'n sylweddol oddi wrth ein Gweithdrefn Cwynion a Chanmoliaeth flaenorol a'n prosesau o ran ymdrin â chwynion.  Serch hynny, mae'r newidiadau allweddol yn cynnwys:

 

·        Ymrwymiad i ad-dalu achwynwyr mewn rhai amgylchiadau – yn benodol, lle bu'n rhaid i berson dalu am wasanaeth y dylai'r Cyngor fod wedi'i ddarparu. Gallai hyn gael goblygiadau ariannol mewn achosion lle gallai hyn godi, ond mae'n anodd mesur hyn.

·        Gofyniad i gyflwyno gwell adroddiadau;

·         Ymrwymiad i roi gwybod i uwch-reolwyr am bob cwyn 'ddifrifol';

·         Nodir yn y ddogfen ganllaw y dylai'r cwynion na ellir eu datrys yng Ngham 1 (ymateb anffurfiol) o fewn 10 niwrnod gwaith symud ymlaen i Gam 2. Fodd bynnag, nid yw'n glir ar hyn o bryd a fyddai'r Ombwdsmon yn gorfodi hyn yn llym, o ystyried geiriad y canllawiau.  Bydd hyn yn parhau i gael ei adolygu.

 

Mae trefniadau i weithredu'r gofynion hyn yn mynd rhagddynt.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y Polisi Cwynion canlynol.

 

 

11.

TO CONSIDER THE FOLLOWING DOCUMENTS PREPARED BY AUDIT WALES:-

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i Mr Jason Garcia o Archwilio Cymru

 

11.1

AUDIT WALES WORK PROGRAMME UPDATE pdf eicon PDF 255 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i Mr Jason Garcia o Archwilio Cymru.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth ddiweddaraf am Raglen Waith Archwilio Cymru.

 

Cwestiynau a sylwadau a godwyd:-

·         Gofynnwyd a yw'r adolygiad o'r gwasanaethau cynllunio yn Adolygiad Cymru Gyfan neu'n benodol i Sir Gaerfyrddin?  Cadarnhaodd Archwilio Cymru mai gwaith lleol i Sir Gaerfyrddin yw hwn a bod asesiad risg yn cael ei gynnal yn fewnol a rhaglen waith yn cael ei datblygu sy'n parhau i nodi gwaith yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y wybodaeth ddiweddaraf am Raglen Archwilio Cymru yn cael ei derbyn.

 

 

12.

CARMARTHENSHIRE COUNTY COUNCIL STATEMENT OF ACCOUNTS 2020/21 pdf eicon PDF 314 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â darpariaethau Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y'u diwygiwyd 2018), derbyniodd y Pwyllgor i'w gymeradwyo Ddatganiad Cyfrifon 2020/21 o ran Cyngor Sir Caerfyrddin. Roedd y Datganiad yn dwyn ynghyd holl drafodion ariannol yr Awdurdod am y flwyddyn, a hefyd roedd yn rhoi manylion asedau a rhwymedigaethau'r Awdurdod fel yr oeddynt ar 31 Mawrth 2021.

 

Nodwyd bod yr Awdurdod wedi cadw at gyllideb gwariant net cronfa gyffredinol y Cyngor yn ystod 2020/21. 

 

O ganlyniad i gyllid grant ychwanegol sylweddol a gafwyd gan Lywodraeth Cymru cyn diwedd y flwyddyn, ynghyd â chostau ychwanegol oedd yn gysylltiedig â COVID 19 ac incwm a gollwyd yn cael ei ad-dalu i raddau helaeth o dan gynllun caledi Llywodraeth Cymru; o ganlyniad i wasanaethau'n cael eu hoedi neu eu lleihau oherwydd y cyfyngiadau symud ac o ganlyniad i swyddi gwag yn ystod y flwyddyn, cafwyd sefyllfa alldro sydd wedi caniatáu i'r Awdurdod drosglwyddo £814,000 i'w gronfeydd cyffredinol.

 

Wrth baratoi'r cyfrifon, gwnaed trosglwyddiadau i mewn ac allan o'r cronfeydd wrth gefn sydd wedi'u clustnodi fel a ganlyn:-

 

-       Y Gronfa Ymddeol Gorfforaethol

-       Y Gronfa Datblygiadau Mawr

-       Cyllid cyfalaf Rhaglen Moderneiddio Addysg

-       Cronfa wrth gefn y Fargen Ddinesig

 

Gofynnwyd i'r Pwyllgor gymeradwyo'r symudiadau hyn yn ôl-weithredol a chymeradwyo creu cronfeydd wrth gefn ar gyfer Caledi COVID-19, Adfer Economaidd, Costau Etholiadol y Cyngor Sir, Canolfan Ailgylchu Nantycaws, Cynllun Cynaliadwyedd HWB Ysgolion a Threfniadaeth Ysgolion.

 

Roedd llif ychwanegol sylweddol o gyllid gyda chymorth Llywodraeth Cymru o ran darparu ar gyfer gwariant a hynny nid yn unig i systemau ond hefyd i wneud taliadau i fusnesau ledled y sir. Rhoddodd Llywodraeth Cymru gefnogaeth drwy nifer o ddulliau gan gynnwys £23m ar wariant cyffredinol a £10m ar golli incwm.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

12.1

bod Datganiad Cyfrifon Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2020/21 yn cael eu derbyn;

12.2

Cymeradwyo'n ôl-weithredol y trosglwyddiadau o'r Cronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd ac iddynt.  Yn enwedig y trosglwyddiadau i:

Y Gronfa Ymddeol Gorfforaethol

Y Gronfa Datblygiadau Mawr

Cyllid Cyfalaf Rhaglen Moderneiddio Addysg

Y Fargen Ddinesig

12.3

Cymeradwyo'r cynllun i sefydlu'r cronfeydd wrth gefn canlynol:

Caledi yn sgil Covid-19

Adferiad Economaidd

Costau Etholiadol y Cyngor Sir

Canolfan Ailgylchu Nantycaws

Cynllun Cynaliadwyedd HWB Ysgolion

Cronfa Trefniadaeth Ysgolion

 

 

 

13.

BURRY PORT HARBOUR FINANCIAL STATEMENT 2020-21 pdf eicon PDF 463 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Datganiad Ariannol Harbwr Porth Tywyn 2020-21, a luniwyd yn unol â Deddf Harbyrau 1964, a nodai ei bod yn ofynnol i bob Awdurdod Harbwr Statudol lunio datganiad blynyddol o gyfrifon ynghylch gweithgareddau'r harbwr. 

 

Roedd y cyfrifon ar ffurf cyfrif incwm a gwariant blynyddol ar wahân a datganiad ynghylch gweddillau. 

 

O 1 Ebrill 2018 ymlaen, roedd yr Awdurdod wedi rhoi prydles hirdymor i The Marine & Property Group Ltd, a gymerodd gyfrifoldeb dros gynnal a rheoli Harbwr Porth Tywyn ac o ganlyniad roedd llawer llai o weithgaredd ar y datganiad.

 

Cost net gweithgareddau'r harbwr yn 2020/21 oedd £803,000 (2019-20 £76,000) ac roedd yr holl weithgareddau'n cael eu cyllido'n llawn gan Gyngor Sir Caerfyrddin.  Roedd yr asedau sefydlog a ddelir ar 31 Mawrth 2020 yn dod i gyfanswm o £925,000. Roedd cynnydd o £727,000 yn y gost o flwyddyn i flwyddyn yn bennaf yn ymwneud â chynnydd o £731,000 mewn gwariant cyfalaf, hynny yw arian a wariwyd ar waliau'r harbwr, a gostyngiad o £16,000 mewn costau gweithredu wedi'i wrthbwyso gan ostyngiad o £12,000 mewn incwm.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Datganiad Cyfrifon Awdurdod Harbwr Porth Tywyn 2020-21.

 

 

14.

CODE OF CORPORATE GOVERNANCE pdf eicon PDF 691 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad y Côd Llywodraethu Corfforaethol sy'n cynnwys y systemau a’r prosesau, y diwylliannau a’r gwerthoedd hynny sy’n cyfarwyddo ac yn rheoli’r Cyngor ynghyd â’r modd y mae'n atebol i’w ddinasyddion ac yn ymgysylltu â nhw.

 

Mae'r Côd Llywodraethu Corfforaethol yn nodi dull Cyngor Sir Caerfyrddin o gyflawni a chynnal llywodraethu corfforaethol da.  Mae'r Côd hwn wedi'i ddiweddaru a'i adolygu gan y Gr?p Llywodraethu Corfforaethol i gydnabod polisïau a phrosesau sy'n unol ag egwyddorion Fframwaith y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) a Chymdeithas Prif Weithredwyr ac Uwch-reolwyr Awdurdodau Lleol (SOLACE) sef 'Delivering Good Governance in Local Government' (Nodiadau Esboniadol i Awdurdodau Cymru, Argraffiad 2016 – Cyhoeddwyd ym mis Medi, 2016).  Mae'r fframwaith hwn yn clustnodi 7 prif egwyddor llywodraethu da sy'n ategu gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad y Côd Llywodraethu Corfforaethol.

 

 

15.

MINUTES OF RELEVANT GROUPS TO THE GOVERNANCE & AUDIT COMMITTEE:- pdf eicon PDF 377 KB

Dogfennau ychwanegol:

15.1

RISK MANAGEMENT STEERING GROUP - 29TH APRIL 2021 pdf eicon PDF 157 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion cyfarfod y Gr?p Llywio Rheoli Risg a gynhaliwyd ar 29 Ebrill 2021.

 

 

 

15.2

GRANTS PANEL - 26TH FEBRUARY 2021 pdf eicon PDF 154 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion cyfarfod y Panel Grantiau a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2021.

 

 

15.3

CORPORATE GOVERNANCE GROUP - 16TH FEBRUARY AND 30TH MARCH 2021 pdf eicon PDF 177 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion cyfarfod y Gr?p Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 16 Chwefror a 30 Mawrth 2021.

 

 

16.

TO SIGN AS A CORRECT RECORD THE MINUTES OF THE AUDIT COMMITTEE HELD ON THE 26TH MARCH 2021. pdf eicon PDF 325 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 26 Mawrth 2021 gan eu bod yn gywir.