Agenda a Chofnodion

From 13/12/2019, Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Gwener, 24ain Ionawr, 2020 10.00 yb, WEDI SYMUD

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

3.

Y DIWEDDARAF YNGHYLCH AR CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2019/20 pdf eicon PDF 234 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd oedd yn cael ei wneud o ran gweithredu'r Cynllun Archwilio Mewnol.

 

Roedd rhan A o'r adroddiad yn cynnwys adroddiad cynnydd manwl ar Gynllun Archwilio 2019/20 ynghyd ag Argymhellion Matrics Sgorio. Roedd Rhan B yn grynodeb o adroddiadau terfynol wedi'u cwblhau ar gyfer 2019/20 ynghylch y prif systemau ariannol (Ebrill 2018 hyd y heddiw) ac roedd Rhan C yn cynnwys adolygiadau a oedd wedi'u cwblhau er mis Ebrill 2018 lle'r oedd gan y systemau un neu ragor o Wendidau Rheoli Sylfaenol neu lle'r oedd adolygiadau yr oedd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol wedi cytuno y dylid eu rhoi gerbron y Pwyllgor. Roedd yr adolygiadau a gwblhawyd yn ymwneud â Rheoli Eiddo a Diffygion a Gwargedion Ysgolion.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Adfywio y camau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r argymhellion sy'n deillio o'r adolygiad archwilio yn ymwneud â Rheoli Eiddo.

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant amlinelliad o'r camau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r argymhellion sy'n deillio o'r adolygiad archwilio yn ymwneud â Diffygion a Gwargedion Ysgolion. Roedd y rhain yn cynnwys cyfarfodydd â Phenaethiaid, cyfarfodydd ag ysgolion unigol, sesiynau briffio ag ymgynghorydd her, cyllidebau ysgolion fel eitem sefydlog ar agendâu'r Tîm Rheoli Adrannol ac adborth rheolaidd i'r Prif Weithredwr. Cydnabuwyd bod angen cefnogi Penaethiaid a darparu hyfforddiant ariannol, yn enwedig mewn ysgolion llai ac o dan amgylchiadau lle mae'n fwyfwy anodd i ddenu ymgeiswyr am swyddi Penaethiaid.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

3.1 dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Archwilio Mewnol 2019/20;

 

3.2 fod diweddariadau yn cael eu darparu mewn 6 mis ynghylch y cynnydd o ran mynd i'r afael â'r argymhellion sy'n ymwneud ag adolygiadau archwilio Rheoli Eiddo a Diffygion a Gwargedion Ysgolion.

 

4.

BLAENRHAGLEN GWAITH pdf eicon PDF 343 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Flaenraglen Waith a oedd yn rhoi manylion am yr eitemau disgwyliedig ar agenda cylch cyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio 2019/20.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y Flaenraglen Waith.

 

5.

COFRESTR RISG CORFFORAETHOL CYNGOR SIR CAERFYRDDIN pdf eicon PDF 293 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried ac yn adolygu'r Gofrestr Risg Gorfforaethol a oedd yn cael ei chadw er mwyn gwerthuso'r risgiau strategol allweddol y mae'r Cyngor yn eu hwynebu.

Cytunodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad mewnol a gynhaliwyd yn ymwneud â phrosesau gorfodi.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

6.

ARCHWILIAD MEWNOL GRANT RHAGLEN CEFNOGI POBL 2019/20 pdf eicon PDF 348 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Archwiliad Mewnol 2019/20 o'r Grant Rhaglen Cefnogi Pobl. Diben y grant oedd darparu cymorth sy'n gysylltiedig â thai i helpu pobl agored i niwed i fyw mor annibynnol ag y bo modd. Daethpwyd i'r casgliad yn yr adolygiad, a gynhaliwyd i sicrhau y cydymffurfiwyd yn llawn â thelerau ac amodau'r grant yn ymwneud â'r Grant Cefnogi Pobl, fod cynnydd parhaus yn cael ei wneud mewn perthynas â rheoli, gweinyddu a monitro trefniadau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

7.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM GYNLLUN GWEITHREDU AMGUEDDFEYDD SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 250 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan gyfeirio at gofnod 9.1 o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf 2019, rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Gweithredu Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin a oedd yn adolygu cynnydd yn erbyn y pedwar argymhelliad a wnaed gan yr Adain Archwilio Mewnol yn adolygiad 2016/17, a gofnodwyd fel 26 cam gyda dangosyddion llwyddiant mesuradwy. Mae adolygiadau Archwilio Mewnol dilynol wedi cydnabod ymdrechion a'r cynnydd cadarnhaol a wnaed gan y gwasanaeth i oresgyn diffygion drwy ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd.

 

Dywedwyd bod y meysydd rheoli casgliadau yr oedd angen gwneud cynnydd pellach yn eu cylch yn rhannu nodwedd gyffredin o ran bod yn gyd-ddibynnol â'r heriau hirdymor yr oedd y gwasanaeth amgueddfeydd yn ei chael yn anodd ymdrin â hwy oherwydd cyfyngiadau o ran y staff a'r cyfleusterau presennol. Byddai cynnydd yn parhau i gael ei wneud gyda'r adnoddau sydd ar gael wrth barhau i archwilio ateb mwy boddhaol i wella safonau rheoli asedau treftadaeth yr awdurdod ar sail datblygu yn y dyfodol.

 

Cytunodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol i ddosbarthu copi o'r archwiliad diweddaraf o'r gwasanaeth amgueddfeydd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

7.1 dderbyn yr adroddiad a nodi'r cynnydd;

 

7.2 cyflwyno adroddiad cynnydd pellach i'r Pwyllgor mewn 12 mis.

 

8.

CYNNYDD O RAN ARGYMHELLION YR ADRODDIAD RHEOLEIDDIO pdf eicon PDF 290 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn amlinellu'r cynnydd a wnaed o ran argymhellion yr adroddiad rheoleiddiol. Byddai'r argymhellion yn cael eu monitro a'u cofnodi bob chwarter ar gyfer y Pwyllgor Craffu.

 

Cytunodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol i ddarparu manylion am y sefyllfa bresennol o ran yr adolygiadau o strwythur y pwyllgor trosolwg a chraffu a sut mae Llywodraeth Leol yn defnyddio data.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

9.

DOGFENNAU A LUNIWYD GAN SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU:-

9.1

LLYTHYR ARCHWILIO BLYNYDDOL CYNGOR SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 340 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Llythyr Archwiliad Blynyddol 2018/19 a baratowyd gan yr Archwilydd Cyffredinol yn unol â'i gyfrifoldebau statudol o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.

 

Roedd y Llythyr Archwiliad Blynyddol yn ymdrin â'r gwaith a oedd wedi'i wneud gan Swyddfa Archwilio Cymru ers cyhoeddi'r llythyr diwethaf ac yn crynhoi'r negeseuon allweddol yn sgil y gwaith a wnaed i gyflawni cyfrifoldebau'r Archwilydd Cyffredinol a'r hyn yr oedd yn ystyried y dylid eu dwyn i sylw'r Awdurdod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Llythyr Archwiliad Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru.

 

9.2

CYNGOR SIR GAERFYRDDIN MEMO CYFRIFON TERFYNOL pdf eicon PDF 338 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Memo Cyfrifon Terfynol Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin yn 2018/19 a oedd yn rhoi crynodeb o'r negeseuon allweddol a godai o'r gwaith cyfrifon terfynol a wnaed.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

 

9.3

ADRODDIADAU LLEOL SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU pdf eicon PDF 164 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad lleol Swyddfa Archwilio Cymru ar y canlynol:

 

·         Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol: Cynyddu faint o dai rhent a thai fforddiadwy sydd ar gael.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Lleol Swyddfa Archwilio Cymru.

 

9.4

ADRODDIADAU CENEDLAETHOL SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU pdf eicon PDF 262 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiadau Cenedlaethol canlynol a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Swyddfa Archwilio Cymru:

 

·      Y ‘drws blaen’ i ofal cymdeithasol i oedolion;

·      Cronfa Gofal Integredig - Archwiliad o Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru;

·      Adolygiad o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus;

·      Cynnydd o ran rhoi’r Ddeddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar waith.

  PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiadau Cenedlaethol Swyddfa Archwilio Cymru a nodwyd uchod.

 

10.

COFNODION GRWPIAU PERTHNSAOL I'R PWYLLGOR ARCHWYLIO pdf eicon PDF 354 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y cofnodion canlynol:-

 

·         Cofnodion y Gr?p Llywio Rheoli Risg – 8 Tachwedd 2019

·         Cofnodion y Panel Grantiau –1 Hydref 2019.

 

11.

COFNODION - 13 MEDI, 2019 pdf eicon PDF 471 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 13 Medi, 2019 gan eu bod yn gywir.