Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Julie Owens 01267 224088
Rhif | eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P. Cooper, S.A. Curry, A. Davies, C.A. Davies, S. Godfrey-Coles, W.T. Evans, J.P. Hart, J.D. James ac A.C. Jones. |
|||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||||||||
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD (OS OES RHAI) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: · Mynegodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau cynhesaf i'r Cynghorydd Ann Davies ar ei llwyddiant yn cael ei hethol yn Aelod Seneddol Caerfyrddin.
· Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr amryw ddigwyddiadau yr oedd ef a'i gydymaith wedi bod ynddynt ar draws y sir ers dechrau ei gyfnod yn y swydd. Roedd y rhain yn cynnwys nifer o seremonïau Ethol Maer yng Nghwmaman, Cydweli, Llandeilo, Llanelli a Llanymddyfri, digwyddiadau coffa D-Day yn Llanelli a'r Garnant, cyngherddau'r Lleng Brydeinig Frenhinol a Dementia yn Llandeilo, a hefyd cwrdd â chwpwl oedd yn dathlu eu pen-blwydd priodas Ddiemwnt (60 o flynyddoedd) ym Maesybont. Cyfeiriodd y Cadeirydd at ei ymweliad ag Arddangosfa Gelf Diwrnod Rhyngwladol y Plant a Phobl Ifanc yn Llanelli, yn ogystal â'i bresenoldeb yn Amgueddfa Wlân Cymru yn Drefach Felindre ac yn nathliadau 25 mlynedd Gerddi Aberglasne.
· Cyfeiriodd y Cadeirydd at ddigwyddiad arloesol iawn yr oedd wedi bod ynddo yng nghwmni dros fil o ddisgyblion cynradd ym maes Sioe'r Siroedd Unedig, Nant-y-ci. Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr oedd wedi'i drefnu, i gynyddu ymwybyddiaeth ac amlygu i blant bwysigrwydd athroniaeth 'o'r fferm i'r fforc'. Hefyd bu i'r Cynghorydd H. Jones ganmol y digwyddiad, a oedd wedi'i gynnal fel rhan o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, er mwyn galluogi plant ysgol i ddysgu am gynhyrchu bwyd lleol, pwysigrwydd ffermio, a chynnal amgylchedd iach.
· Cyfeiriodd y Cadeirydd at lwyddiannau Clwb Rygbi Llanymddyfri, a ddaeth yn Bencampwyr Clybiau Cymru ar 11 Mai 2024 ar ôl ennill rownd derfynol yr Uwch Gynghrair yn erbyn Clwb Rygbi Casnewydd. Roedd Clwb Rygbi Llanymddyfri hefyd wedi gorffen ar frig tabl Uwch Gynghrair Indigo ac wedi ennill Cwpan Cymru yn Stadiwm Principality ar 7 Ebrill 2024.
· Estynnodd y Cadeirydd ei ddymuniadau gorau i'r Porthmyn a Chwins Caerfyrddin a fyddai'n cystadlu yng nghystadleuaeth newydd Super Rugby Cymru yn ystod tymor 2024-25, a hefyd fe wnaeth longyfarch Clwb Rygbi Castellnewydd Emlyn a Chlwb Rygbi Llangennech yn dilyn eu dyrchafiad i'r Uwch Gynghrair.
· Canmolodd y Cadeirydd ysgolion Sir Gaerfyrddin oedd wedi bod yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd 2024.
· Dymunodd y Cadeirydd wellhad buan ar ran y Cyngor i'r Cynghorydd Tyssul Evans yn dilyn cyfnod o salwch yn ddiweddar.
· Bu i'r Cynghorydd R. Sparks longyfarch Opera Ieuenctid Caerfyrddin a'r Cylch ar gael eu hanrhydeddu â Gwobr y Brenin am Wasanaethau Gwirfoddol, i gydnabod eu cyfraniad rhagorol i ddarparu cyfleoedd theatr gerdd i bobl ifanc yn ardal Gorllewin Cymru.
· Mynegodd y Cynghorydd A.G. Morgan eiriau o longyfarchiadau i Miss Ruby Davies, disgybl yn Ysgol Gynradd Dyffryn y Swistir, ar ennill yr adrodd unigol i ddysgwyr blwyddyn 5/6 yn Eisteddfod yr Urdd. Roedd agwedd bositif Ruby a'i phresenoldeb bywiog ar y llwyfan wedi gwneud cryn argraff ar lawer. Estynnwyd dymuniadau gorau'r Cyngor i Ruby yn rownd derfynol yr ?yl ffilm fer ryngwladol i bobl ifanc a phlant. |
|||||||||||||
CYHOEDDIADAU GAN YR ARWEINYDD, AELODAU'R CABINET NEU'R PRIF WEITHREDWR (OS OES RHAI) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni wnaethpwyd unrhyw gyhoeddiadau. |
|||||||||||||
LLOFNODI YN GOFNODION CYWIR COFNODION CYFARFODYDD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR Y:- Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor oedd wedi'i gynnal ar 8 Mai, 2024 gan eu bod yn gywir. |
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Codwyd nad oedd cofnod yn y cofnodion o ymddiheuriad am absenoldeb M. J. A. Lewis.
PENDERFYNWYD yn amodol ar y newid uchod, y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor oedd wedi'i gynnal ar 22 Mai, 2024 gan eu bod yn gywir. |
|||||||||||||
PENODI SWYDDOG MONITRO PDF 90 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: Gan ei fod wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, gadawodd Mr S. P. Murphy y cyfarfod tra bo'r Cyngor yn ei hystyried ac yn pleidleisio arni.]
Cafodd y Cyngor adroddiad, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu, a nodai argymhelliad Pwyllgor Penodiadau 'B' ar 29 Mai 2024 i benodi Mr. Steve Murphy fel Pennaeth y Gyfraith, Llywodraethu a Gwasanaethau Sifil, a hynny o 1 Mehefin ymlaen yn dilyn ymddeoliad Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith (a'r Swyddog Monitro) ar 31 Mai 2024. Atgoffwyd y Cyngor fod Mr Murphy wedi'i benodi'n Swyddog Monitro dros dro, ac, o'r herwydd, roedd yn ofynnol i'r Cyngor yn awr benodi Swyddog Monitro parhaol yn ffurfiol i gyflawni ei rôl statudol yn unol â'r darpariaethau yn Adran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 ac i sicrhau cydymffurfiaeth ag Erthygl 11 (Swyddogaethau'r Swyddog Monitro) o Gyfansoddiad y Cyngor.
PENDERFYNWYD:
|
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990, fel y'u diwygiwyd, a Llywodraeth Leol Cymru (mesur) 2011, bu'r Cyngor yn ystyried adroddiad yn manylu ar ganlyniad adolygiad o aelodaeth Pwyllgorau Craffu, Pwyllgorau Rheoleiddio a phwyllgorau eraill y Cyngor yn dilyn cael gwybod fod y Cynghorydd D. Nicholas wedi symud o Gr?p Plaid Cymru i fod yn aelod o'r Gr?p Annibynnol.
PENDERFYNWYD, o ganlyniad i newidiadau i gyfansoddiad gwleidyddol cyffredinol y Cyngor:
|
|||||||||||||
YSTYRIED ARGYMHELLION Y CABINET MEWN PERTHYNAS Â'R EITEMAU CANLYNOL Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor bod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 29 Ebrill 2024 (gweler cofnod 9), wedi ystyried adroddiad ar y Cyngor yn ymgynghori ynghylch dogfennau drafft Canllawiau Cynllunio Atodol Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018-2033 o ran: · Safleoedd o Bwys ar gyfer Cadwraeth Natur) · Mannau Agored: Gofynion ar gyfer Integreiddio Mannau Agored o fewn Datblygiadau Preswyl Newydd; a'r · Iaith Gymraeg
Roedd dogfennau'r Canllawiau Cynllunio Atodol drafft yn rhoi eglurder ychwanegol ar feysydd polisi thematig penodol i gefnogi'u gweithrediad, yn darparu arweiniad, ac yn ymhelaethu ar bolisïau a darpariaethau'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig adeg ei fabwysiadu.
Trodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau sylw'r Cyngor at y Canllaw Cynllunio Atodol ynghylch y Gymraeg a geisiai gryfhau statws yr iaith Gymraeg ym maes cynllunio. Atgoffwyd y Cyngor, yn sgil canlyniadau'r cyfrifiad diweddar a dyheadau Llywodraeth Cymru i gyrraedd 1m o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ei fod wedi penderfynu dynodi Sir Gaerfyrddin gyfan yn ardal o sensitifrwydd ieithyddol o yn y CDLl oedd i ddod. Yn unol â hynny, barnwyd nad oedd y graddau o sensitifrwydd seiliedig ar bwysoliadau trothwy y cyfeirir atynt ym mharagraff 6.13 a thabl 6.1 o'r ddogfen yn berthnasol ar gyfer ymgynghori ac felly; er mwyn osgoi unrhyw amwysedd ar y mater, cynigiwyd symud yr adrannau hyn i Atodiad A y ddogfen, at ddibenion gwybodaeth yn unig.
PENDERFYNWYD, yn amodol ar gynnwys y newidiadau uchod, dderbyn argymhellion canlynol y Cabinet:
|
|||||||||||||
DERBYN ADRODDIADAU CYFARFODYDD Y CABINET A GYNHALIWYD AR Y:- Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 29 Ebrill, 2024. |
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 13 Mai, 2024. |
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Mehefin, 2024. |
|||||||||||||
YSTYRIED Y RHYBUDD O GYNNIG CANLYNOL:- Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||
RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORWYR EDWARD THOMAS AC ANDREW DAVIES “Mae Rheilffordd Calon Cymru yn gweithredu gwasanaeth hanfodol rhwng ardaloedd gwledig ar y llinell o Abertawe i'r Amwythig. Fodd bynnag, mae wedi dioddef o ganlyniad i danfuddsoddiad ers degawdau ac ar hyn o bryd mae'n gweithredu gan ddefnyddio hen stoc annibynadwy ac mae oedi rheolaidd o ran trenau a rhai'n cael eu canslo. Pan fydd y gwasanaeth yn gweithredu'n llawn, mae'n gymorth enfawr i'r trigolion a'r ymwelwyr ac mae hefyd yn darparu teithio diogel a chynaliadwy.
Yn gynharach eleni datgelodd Trafnidiaeth Cymru gynlluniau i leihau nifer y gwasanaethau ar Reilffordd Calon Cymru o bump i bedwar y dydd, a bydd gwaredu dau wasanaeth gyda'r hwyr i Lanymddyfri a Llandrindod hefyd yn cael ei gynnig o fis Rhagfyr 2024.
Mae'r Cyngor yn credu y gallai'r penderfyniad i leihau'r gwasanaeth hwn, a'r diffyg buddsoddiad mewn stoc dros y degawd diwethaf beryglu dyfodol tymor hir y rheilffordd.
Mae'r Cyngor yn mynegi pryder am ddiffyg buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn gwasanaethau rheilffyrdd yn Sir Gaerfyrddin, sy'n hollol groes i fuddsoddiad mewn rheilffyrdd yn ne-ddwyrain Cymru.
Mae'r Cyngor hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ar unwaith y penderfyniad a wnaed gan Drafnidiaeth Cymru i leihau'r gwasanaeth ar Reilffordd Calon Cymru ac i ystyried y lefel anghyfartal o fuddsoddi mewn trafnidiaeth ledled cefn gwlad Cymru”. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr E. G. Thomas ac A. Davies:-
“Mae Rheilffordd Calon Cymru yn gweithredu gwasanaeth hanfodol rhwng ardaloedd gwledig ar y llinell o Abertawe i'r Amwythig. Fodd bynnag, mae wedi dioddef o ganlyniad i danfuddsoddiad ers degawdau ac ar hyn o bryd mae'n gweithredu gan ddefnyddio hen stoc annibynadwy ac mae oedi rheolaidd o ran trenau a rhai'n cael eu canslo. Pan fydd y gwasanaeth yn gweithredu'n llawn, mae'n gymorth enfawr i'r trigolion a'r ymwelwyr ac mae hefyd yn darparu teithio diogel a chynaliadwy.
Yn gynharach eleni datgelodd Trafnidiaeth Cymru gynlluniau i leihau nifer y gwasanaethau ar Reilffordd Calon Cymru o bump i bedwar y dydd, a bydd gwaredu dau wasanaeth gyda'r hwyr i Lanymddyfri a Llandrindod hefyd yn cael ei gynnig o fis Rhagfyr 2024.
Mae'r Cyngor yn credu y gallai'r penderfyniad i leihau'r gwasanaeth hwn, a'r diffyg buddsoddiad mewn stoc dros y degawd diwethaf beryglu dyfodol tymor hir y rheilffordd.
Mae'r Cyngor yn mynegi pryder am ddiffyg buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn gwasanaethau rheilffyrdd yn Sir Gaerfyrddin, sy'n hollol groes i fuddsoddiad mewn rheilffyrdd yn ne-ddwyrain Cymru.
Mae'r Cyngor hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ar unwaith y penderfyniad a wnaed gan Drafnidiaeth Cymru i leihau'r gwasanaeth ar Reilffordd Calon Cymru ac i ystyried y lefel anghyfartal o fuddsoddi mewn trafnidiaeth ledled cefn gwlad Cymru”.
Eiliwyd y cynnig.
Rhoddwyd cyfle i gynigwyr ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.
Gwnaed nifer o sylwadau yn mynegi cefnogaeth i'r Cynnig.
PENDERFYNWYD cefnogi'r Rhybudd o Gynnig a'i gyfeirio i'r Cabinet. |
|||||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd. |
|||||||||||||
CYFLWYNO DEISEB Noder:Er mwyn cael eu hystyried mewn cyfarfod ffurfiol rhaid i bob deiseb gynnwys 50 o lofnodion etholwyr cofrestredig ar gyfer copïau papur a 300 o lofnodion etholwyr cofrestredig ar gyfer e-ddeisebau. Mae cyfanswm Llofnodion Etholiadol Sir Gaerfyrddin hyd at y trothwy o 300 wedi'u dilysu. Nid ydym wedi gwirio'r llofnodion wedi hynny.
“ADEILADU YSGOL NEWYDD AR GYFER YSGOL HEOL GOFFA
Rydym ni, y sawl sydd wedi llofnodi isod, yn deisebu i Gyngor Sir Caerfyrddin dynnu ei benderfyniad yn ôl i beidio bellach â chodi ysgol arbenigol newydd ar gyfer Ysgol Heol Goffa y mae ei hangen arni'n druenus!
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cytuno'n flaenorol, wedi cael caniatâd cynllunio a hefyd eisoes wedi dechrau'r gwaith paratoi i adeiladu ysgol newydd ar gyfer Heol Goffa, ond mae bellach wedi cyflwyno hysbysiad i ddweud nad yw bellach yn bwrw ymlaen â'r cynlluniau a'i fod yn rhoi'r gorau i'r cyfan! Dechreuodd y cynlluniau yn 2018 i adeiladu ysgol newydd gan nad yw'r adeilad presennol bellach yn addas ac nid oes rhagor o gapasiti ganddo. Mewn gwirionedd, mae'r ysgol y tu hwnt i’w chapasiti. Nid yw'r Cyngor wedi blaenoriaethu'r plant a'u hanghenion a'u llesiant a'r ffaith bod angen cyfleusterau addysgol newydd arnynt yn druenus ac mae'n rhoi straen ychwanegol ar addysg a chael y cymorth sydd ei angen ar blant y dyfodol! Byddai'r ysgol newydd wedi darparu llawer mwy o gymorth a chyfleusterau ar y safle. Mae'n warthus bod y Cyngor hyd yn oed yn gallu meddwl ei bod yn iawn gwneud y penderfyniad hwn ond eto mae'n gallu darparu adeiladau a chyfleusterau newydd i ysgolion eraill o fewn y sir! Mae angen i Gyngor Sir Caerfyrddin fod yn atebol am ei benderfyniadau hurt a thynnu'n ôl yr hyn y mae wedi'i benderfynu a pharhau â'r cynlluniau gwreiddiol! Mae ei honiad o ran "caledi ariannol" yn ddwli llwyr, gan ei fod yn adeiladu canolfan lesiant a chanolfan hamdden newydd sbon ac roedd yr ysgol i fod yn rhan o'r cynlluniau hynny!” Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Gan fod y Cynghorwyr D. Cundy a L. D. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon eisoes, nid oeddent yn bresennol yn y cyfarfod tra bo'r Cynghorwyr yn ei hystyried ac yn pleidleisio arni.]
Croesawodd y Cadeirydd i'r cyfarfod Ms A. Evans, a oedd wedi cael gwahoddiad i gyflwyno'r ddeiseb ganlynol ynghylch Ysgol Heol Goffa, ac annerch y Cyngor yn ei chylch, fel a ganlyn:
“Rydym ni, y sawl sydd wedi llofnodi isod, yn deisebu i Gyngor Sir Caerfyrddin dynnu ei benderfyniad yn ôl i beidio bellach â chodi ysgol arbenigol newydd ar gyfer Ysgol Heol Goffa y mae ei hangen arni'n druenus!
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cytuno'n flaenorol, wedi cael caniatâd cynllunio a hefyd eisoes wedi dechrau'r gwaith paratoi i adeiladu ysgol newydd ar gyfer Heol Goffa, ond mae bellach wedi cyflwyno hysbysiad i ddweud nad yw bellach yn bwrw ymlaen â'r cynlluniau a'i fod yn rhoi'r gorau i'r cyfan! Dechreuodd cynlluniau yn ôl yn 2018 i adeiladu ysgol newydd gan nad yw'r adeilad presennol bellach yn addas ac nid oes lle ynddi i ragor. Mewn gwirionedd, mae'r ysgol y tu hwnt i’w chapasiti. Nid yw'r Cyngor wedi blaenoriaethu'r plant a'u hanghenion a'u llesiant a'r ffaith bod angen cyfleusterau addysgol newydd arnynt yn druenus ac mae'n rhoi straen ychwanegol ar addysg a chael y cymorth sydd ei angen ar blant y dyfodol! Byddai'r ysgol newydd wedi darparu llawer mwy o gymorth a chyfleusterau ar y safle. Mae'n warthus bod y Cyngor hyd yn oed yn gallu meddwl ei bod yn iawn gwneud y penderfyniad hwn ond eto mae'n gallu darparu adeiladau a chyfleusterau newydd i ysgolion eraill o fewn y sir! Mae angen i Gyngor Sir Caerfyrddin fod yn atebol am ei benderfyniadau hurt a thynnu'n ôl yr hyn y mae wedi'i benderfynu a pharhau â'r cynlluniau gwreiddiol! Mae ei honiad o ran "caledi ariannol" yn ddwli llwyr, gan ei fod yn adeiladu canolfan lesiant a chanolfan hamdden newydd sbon ac roedd yr ysgol i fod yn rhan o'r cynlluniau hynny!”
Amlinellodd Ms. Evans i'r Cyngor y rhesymeg dros y ddeiseb.
Ymatebodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg i'r ddeiseb ac egluro, oherwydd cost tendro'r prosiect, na allai'r cynllun presennol ar gyfer Ysgol Heol Goffa fynd yn ei flaen. Gan hynny, roedd adolygiad annibynnol o'r ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) bresennol yn Llanelli wedi'i gomisiynu, a fyddai'n ystyried barn dysgwyr, rhieni, staff, llywodraethwyr, a rhanddeiliaid ehangach er mwyn datblygu opsiynau wedi'u costio'n llawn i'w hystyried.
Gwnaed nifer o sylwadau a gefnogai'r ddeiseb, a gwnaed datganiadau a amlinellai ymrwymiad y Cabinet i gydweithio i lunio cynllun i ddiwallu anghenion disgyblion ADY yn Llanelli.
Cadarnhawyd bod y mater y cyfeiriwyd ato yn y ddeiseb yn swyddogaeth weithredol ac o'r herwydd fod y Cyngor ond yn gallu cyfeirio'r mater at y Cabinet i'w ystyried.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gyfeirio'r ddeiseb at y Cabinet i'w hystyried yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 10.16. |
|||||||||||||
CWESTIYNAU GAN YR AELODAU (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan aelodau. |
|||||||||||||
CYMERADWYO'R NEWID CANLYNOL I UN O'N CYNRYCHIOLWYR AR BANEL HEDDLU A THROSEDDU DYFED-POWYS:- Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||
MAE'R GRWP LLAFUR WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD MICHAEL THOMAS I GYMRYD LLE'R CYNGHORYDD DOT JONES AR BANEL HEDDLU A THROSEDDU DYFED-POWYS Sylwer:Mae'r penodiad hwn yn amodol ar gael ei gadarnhau gan y Swyddfa Gartref. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn amodol ar gadarnhad y Swyddfa Gartref, fod y Cynghorydd Michael Thomas yn cymryd lle'r Cynghorydd Dot Jones ar Banel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys. |
|||||||||||||
COFNODION ER GWYBODAETH (AR GAEL AR Y WEFAN) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd fod y cofnodion a amlinellwyd ar yr agenda o dan 15.1 – 15.16 ar gael er gwybodaeth ar wefan y Cyngor. |