Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir, Cyngor Sir - Dydd Mercher, 22ain Mai, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Nodyn:

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L.R. Bowen, P. Cooper, A. Davies, W.R.A. Davies, Ll. M. Davies, S. Godfrey-Coles, J. D. James, G. R. Jones, H. Jones, M. J. A. Lewis, G.B. Thomas ac A. Vaughan-Owen.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

 

 

3.

MATERION PERSONOL / CYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD YMADAWOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cynghorydd Louvain Roberts, sef y cadeirydd a oedd yn ymddeol, westeion nodedig, Cynghorwyr, staff a ffrindiau i'r cyfarfod. Soniodd am ei blwyddyn yn y swydd a'r digwyddiadau a'r dathliadau roedd wedi'u mynychu gyda'i chydymaith, Mrs Vanessa Rees.

 

Diolchodd y Cadeirydd a oedd yn ymddeol i'r Prif Weithredwr, Wendy Walters, Linda Rees-Jones, Gaynor Morgan ac Eira Evans am eu cefnogaeth, eu cyngor ac arweiniad proffesiynol cyson dros y flwyddyn ddiwethaf.  Diolchodd i'r Cynghorwyr Annibynnol am yr enwebiad ac i'r Cynghorydd Sharen Davies a'r Cynghorydd Jason Hart am eu cefnogaeth a'u cymorth cyson i godi £6,000 ar gyfer ei helusennau enwebedig - Hosbis T? Bryngwyn, Ymatebwr Cyntaf Pen-bre a Phorth Tywyn a Chanolfan Deulu Sant Paul.  Yn ogystal, estynnwyd cydnabyddiaeth a diolch i adran Chwaraeon Actif y Cyngor am y cyfraniadau hael.

 

Diolchodd i'w gyrwyr ymroddedig Jeff Jones ac Andrew Smith. Talodd deyrnged i'w chydymaith, Mrs Vanessa Rees, a diolchodd iddi'n ffurfiol am ei chefnogaeth. Yn olaf, dymunodd yn dda i'r Darpar Gadeirydd, y Cynghorydd Handel Davies, a'i gydymaith, Mrs Margaret Davies, yn ei flwyddyn yn y swydd. 

 

 

4.

CYHOEDDIADAU GAN YR ARWEINYDD, AELODAU'R CABINET NEU'R PRIF WEITHREDWR (OS OES RHAI)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw gyhoeddiadau.

 

 

5.

ETHOL CADEIRYDD Y CYNGOR AM FLWYDDYN Y CYNGOR 2024-2025

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd ei gynnig gan Gadeirydd y llynedd, y Cynghorydd B.A.L Roberts, a'i eilio gan y Cynghorydd D. Price a PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cynghorydd H. Davies yn cael ei ethol yn Gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin am Flwyddyn y Cyngor 2024/25.

 

Estynnodd y Cynghorydd Roberts ei llongyfarchiadau i'r Cynghorydd H. Davies ar gael ei ethol.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Handel Davies ei ddatganiad yn derbyn y swydd, ac fe'i harwisgwyd â'r Gadwyn Swyddogol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Davies i'r holl Gynghorwyr am eu cefnogaeth wrth ei benodi'n Gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at ei flwyddyn yn y swydd yn cynrychioli'r Cyngor. Talodd y Cynghorydd Davies deyrnged hefyd i'r Cadeirydd oedd yn ymddeol, y Cynghorydd B.A.L. Roberts a chyflwynodd albwm o ffotograffau a Chrogdlws Cyn-gadeirydd iddi ynghyd â thusw o flodau. Manteisiodd y Cynghorydd Davies ar y cyfle i ddymuno'n dda i Mrs Linda Rees-Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith ar ei hymddeoliad a diolchodd iddi ar ran holl aelodau'r Cyngor am ei blynyddoedd lawer o wasanaeth.

 

Talwyd teyrngedau i'r Cadeirydd oedd yn ymddeol gan y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Gr?p Plaid Cymru, y Cynghorydd Jane Tremlett, Arweinydd y Gr?p Annibynnol, a'r Cynghorydd Deryk Cundy, Arweinydd y Gr?p Llafur. Talodd y Prif Weithredwr, ar ran y Tîm Rheoli Corfforaethol, deyrnged hefyd i'r Cadeirydd oedd yn ymddeol.

 

 

6.

ETHOL IS-GADEIRYDD Y CYNGOR AM FLWYDDYN Y CYNGOR 2024 -25

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiwyd gan y Cynghorydd D. Cundy, ac eiliwyd gan y Cynghorydd T. Higgins a PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cynghorydd Dot Jones yn cael ei hethol yn Is-gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin am Flwyddyn y Cyngor 2024/25.

 

Arwisgwyd y Cynghorydd Dot Jones â'r Gadwyn Swyddogol gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Handel Davies, a gwnaeth ei datganiad yn derbyn y swydd. Mynegodd yr Is-gadeirydd ei gwerthfawrogiad i'r Cyngor ar ei phenodiad.

Cyflwynwyd Cadwyn y Swydd i gydymaith yr Is-gadeirydd, Dr Gary Jones, gan Mrs Margaret Davies Cydymaith y cyn Is-gadeirydd

Estynnodd y Cadeirydd longyfarchiadau i'r Is-gadeirydd a'i Chydymaith ar eu penodiadau.  

 

 

7.

PENODI AELODAU I BWYLLGORAU CRAFFU, RHEOLEIDDIO, APHWYLLGORAU ERAILL AR GYFER BLWYDDYN Y CYNGOR2024-2025 pdf eicon PDF 90 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried adroddiad yn manylu ar aelodaeth arfaethedig Pwyllgorau Rheoleiddio, Pwyllgorau Craffu, a Phwyllgorau a Phaneli Eraill.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yn briodol a

PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL I  gymeradwyo penodi aelodau i Bwyllgorau Rheoleiddio, Pwyllgorau Craffu a Phwyllgorau Eraill fel y nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad. 

 

 

8.

YSTYRIED YR ENWEBIADAU A DDAETHAI I LAW A PHENODI CADEIRYDDION AC IS-GADEIRYDDION PWYLLGORAU'R CYNGOR AM FLWYDDYN Y CYNGOR 2024025 pdf eicon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried enwebiadau oedd wedi dod i law ar gyfer penodi

Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion y Pwyllgorau am Flwyddyn y Cyngor 2024/25. 

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yn briodol a

 

PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y canlynol yn cael eu penodi'n

Gadeiryddion ac yn Is-gadeiryddion y Pwyllgorau Rheoleiddio, y Pwyllgorau Craffu,

 a'r Pwyllgorau a'r Panelau Eraill am Flwyddyn y Cyngor 2024/25:-

 

PWYLLGORAU CRAFFU:

 

 

Cadeirydd

Is-gadeirydd

Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio

Rob Evans

Betsan Jones

 

 

 

Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol

Giles Morgan

Kim Broom

Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg

Carys Jones

Sue Allen

Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd

Kevin Madge

Karen Davies

Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Gareth John

Fiona Walters

 

PWYLLGORAU ERAILL

 

 

Cadeirydd

Is-gadeirydd

Pwyllgor Apêl

 

Ken Howell

Llinos Davies

Pwyllgor Penodi A - Cyfarwyddwyr

Darren Price

Sue Allen

Pwyllgor Penodi B - Penaethiaid Gwasanaeth

Jane Tremlett

Darren Price

Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd

 

Michael Cranham

Tyssul Evans

Y Pwyllgor Trwyddedu

 

Mansel Charles

Dorian Phillips

Pwyllgor Penodi Aelodau

 

Jean Lewis

Anthony Davies

Y Pwyllgor Cynllunio

 

Tyssul Evans

Carys Jones

Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed

Elwyn Williams

Heb fod yn ofynnol

 

 

 

9.

ADOLYGIAD BLYNYDDOL O'R CYFANSODDIAD pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Atgoffwyd y Cyngor o'r gofyniad iddo adolygu ei Gyfansoddiad yn flynyddol a'i fod, fel rhan o'r broses honno, wedi sefydlu Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad i gyflwyno unrhyw newidiadau a argymhellir.

 

Dywedwyd er na fu unrhyw newidiadau deddfwriaethol a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i newidiadau gael eu gwneud i Gyfansoddiad y Cyngor, byddai angen i'r Cyngor gadarnhau'r cyfansoddiad cyfredol a diwygio Rhan 6.1 o'r Cyfansoddiad i adlewyrchu symiau rhagnodedig Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol i'w talu i Gynghorwyr ar gyfer 2024-25.

 

Dywedwyd ymhellach fod Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad wedi cyfarfod ar 8 Ebrill 2024 i adolygu elfennau o'r Cyfansoddiad ac roedd yr argymhellion wedi'u cynnwys yn yr adroddiad i'w hystyried.

 

Wrth gydnabod mai cynnal ffocws oedd pwrpas cyflwyno'r terfynau amser, awgrymwyd yn barchus er mwyn sicrhau nad oedd unrhyw effaith niweidiol ar ddemocratiaeth, tryloywder ac atebolrwydd, pe baent yn cael eu mabwysiadu, bod y terfynau amser yn cael eu monitro'n agos dros y 12 mis nesaf a'u hadolygu yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD

</AI9>

9.1

yn unol â'r penderfyniadau a wnaed gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, bod Cynllun Cyflogau a Lwfansau Cynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig ar gyfer 2024/2025, fel y nodir yn Rhan 6.1 o'r Cyfansoddiad yn cael eu mabwysiadu;

 

9.2

bod y newidiadau cyfansoddiadol, o ganlyniad i'r newidiadau deddfwriaethol ac unrhyw argymhellion ychwanegol a gyflwynwyd gan Weithgor Adolygu'r Cyfansoddiad, fel y manylir yn yr adroddiad yn cael eu cymeradwyo;

 

9.3

bod Cyfansoddiad y Cyngor ar gyfer 2024-2025 yn cael ei fabwysiadu;

 

9.4

bod y Swyddog Monitro yn cael ei awdurdodi i wneud unrhyw fân newidiadau, cywiro gwallau teipio neu wallau drafftio a sicrhau bod yr holl groesgyfeiriadau yn y Cyfansoddiad yn gywir ac y rhoddir gwybod am y rhain i Weithgor Adolygu'r Cyfansoddiad pan fydd angen.