Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem | ||||
---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb wrth y Cynghorwyr K. Davies, S. Godfrey-Coles, B.W. Jones, D. Jones, G.R. Jones, N. Lewis, A. Leyshon and F. Walters.
|
|||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol.
|
|||||
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD (OS OES RHAI) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||
CYHOEDDIADAU GAN YR ARWEINYDD, AELODAU'R CABINET NEU'R PRIF WEITHREDWR (OS OES RHAI) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni wnaethpwyd unrhyw gyhoeddiadau.
|
|||||
LLOFNODI YN GOFNODION CYWIR COFNODION CYFARFODYDD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR Y:- Dogfennau ychwanegol: |
|||||
28AIN CHWEFROR 2024 PDF 342 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
PENDERFYNWYD yn amodol ar y newid uchod, y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 28Chwefror, 2024 yn gofnod cywir.
|
|||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Cyngor adroddiad, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg ar Recriwtio i swydd Cyfarwyddwr Addysg, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd (a Phrif Swyddog Addysg Statudol), a oedd yn darparu gwybodaeth fanwl am y swydd a'r trefniadau Dyletswyddau Uwch dros dro os oedd angen.
Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor y byddai'r Cyfarwyddwr Addysg, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd presennol yn gadael y Cyngor ar 31 Hydref 2024.
Felly, byddai angen i'r Cyngor gymeradwyo'r trefniadau i benodi Cyfarwyddwr Addysg, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd newydd sy'n ymgorffori rôl statudol y Prif Swyddog Addysg. Adroddwyd bod swydd y Prif Swyddog Addysg yn swydd statudol benodedig o dan A.532 o Ddeddf Addysg 1996, sy'n gosod dyletswydd ar y Cyngor i benodi swyddog fel ei Brif Swyddog Addysg.
Byddai angen gweithredu trefniadau dros dro drwy gynnal ymarfer mynegiant o ddiddordeb mewnol i geisio ceisiadau gan unigolion cymwys sydd â phrofiad perthnasol pe na bai penodiad y Cyfarwyddwr newydd mewn lle cyn ymadawiad y deiliad swydd presennol.
Nododd y Cyngor nad oedd yn ofynnol yn ôl y Gyfraith i fynnu bod Athro cymwysedig yn cyflawni'r ddyletswydd statudol, fodd bynnag, roedd y gofyniad cymhwyster hwn wedi'i gynnwys fel maen prawf dymunol.
PENDERFYNWYD
|
|||||
PENODI SWYDDOG MONITRO DROS DRO PDF 140 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Cyngor adroddiad, a gyflwynwyd gan y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Gartrefi, yn nodi argymhelliad y Pwyllgor Penodi 'B' a gynhaliwyd ar 17 Ebrill 2024, a dynodi Mr Steve Murphy yn Swyddog Monitro'r Cyngor ar sail dros dro, yn dilyn ymddeoliad Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith (a Swyddog Monitro) presennol ar 31 Mai 2024.
Nodwyd bod y penodiad yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn: · Cydymffurfio â gofynion Adran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 a chyflawni rôl a chyfrifoldebau statudol y Swyddog Monitro o dan y Ddeddf honno. · Sicrhau bod trefniadau dros dro yn cael eu cynnal i fodloni gofynion statudol tra'n disgwyl y penodiad i'r swydd barhaol. Rhagwelwyd y byddai'r broses recriwtio barhaol yn dod i ben ym mis Gorffennaf 2024. · Sicrhau bod Swyddog Monitro mewn lle i gwmpasu'r rolau statudol a chyfansoddiadol fel y nodir yn Erthygl 11 (Swyddogaethau Swyddog Monitro) Cyfansoddiad y Cyngor.
Diolchodd y Cyngor i L. R. Jones am ei hymroddiad a'i chefnogaeth yn ystod ei chyflogaeth gyda'r Awdurdod.
PENDERFYNWYD nodi argymhelliad y Pwyllgor Penodi 'B' a gynhaliwyd ar 17 Ebrill 2024, a dynodi Mr Steve Murphy yn Swyddog Monitro'r Cyngor ar sail dros dro, yn dilyn ymddeoliad y Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith (a Swyddog Monitro) presennol ar 31 Mai 2024.
|
|||||
YSTYRIED ARGYMHELLION Y CABINET MEWN PERTHYNAS Â'R EITEM CANLYNOL:- Dogfennau ychwanegol: |
|||||
FERSIWN DRAFFT O GYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL 2024-28 (Cabinet 18/03/2024) PDF 122 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Mawrth, 2024 (gweler cofnod 6) wedi ystyried Cynllun Cydraddoldeb Strategol (drafft) 2024-28 a baratowyd i amlinellu sut y byddai'r Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswyddau Penodol Cymru ac yn adeiladu ar gynlluniau blaenorol y Cyngor. Roedd yn ofynnol i'r Awdurdod gyhoeddi'r cynllun newydd ym mis Ebrill 2024.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn crynhoi ac yn disodli'r ddeddfwriaeth flaenorol, ynghyd â symleiddio ac atgyfnerthu'r ddeddf fel ei bod yn haws i bobl ei deall a chydymffurfio â hi. Daeth y rhan fwyaf o'r Ddeddf i rym ar 1 Hydref 2010. Mae Dyletswyddau Penodol wedi'u cyflwyno ar gyfer Cyrff Cyhoeddus yng Nghymru ac mae datblygu Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn un o'r dyletswyddau hynny.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio wrth baratoi'r cynllun newydd bod nifer o wahanol elfennau yn cael eu hystyried a gwaith ymgysylltu â sefydliadau eraill ac Awdurdodau Lleol a phartneriaid yn y PBS. Nodwyd bod y cynllun yn waith ar y gweill ac y byddai'n cael ei adolygu a'i ddiweddaru wrth i adroddiadau ychwanegol fel Cynllun Gweithredu ar Anabledd Llywodraeth Cymru ddod ar gael.
Roedd yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio mewn ymateb i ymholiad ynghylch faint o ddata a oedd yn ymwneud â Chymru gyfan yn hytrach na Sir Gaerfyrddin yn unig a'r ple i gasglu mwy o ddata lleol, yn rhoi sicrwydd y byddai data lleol yn cael ei ddefnyddio wrth iddo ddod ar gael.
Gofynnwyd a allai'r camau ynghylch monitro tensiynau cymunedol sy'n dod i'r amlwg a gweithio gyda phartneriaid allweddol gael eu hehangu i gynnwys cyfeiriad penodol at Gynghorwyr Sir a Chymuned ac a ellid rhoi sicrwydd y byddai aelodau'n cael cyfle i godi materion yn ffurfiol o fewn eu cymunedau. Yn ogystal, gofynnwyd a ellid darparu cyngor a chymorth priodol i nodi risgiau posibl ac wrth ddatblygu a gweithredu mesurau adfer gyda'r cymunedau. Mewn ymateb, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio fod y tîm Cydlyniant Cymunedol yng Nghaerfyrddin bob amser ar gael i'r holl aelodau siarad â nhw a mynd atynt am gyngor.
PENDERFYNWYD:
8.1.1 cymeradwyo'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol; 8.1.2 cytuno ar yr Amcanion Cydraddoldeb Strategol.
|
|||||
DERBYN ADRODDIADAU CYFARFODYDD Y CABINET A GYNHALIWYD AR Y Dogfennau ychwanegol: |
|||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2024.
|
|||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Mawrth 2024.
|
|||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 25 Mawrth 2024.
|
|||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 15 Ebrill 2024.
|
|||||
RHYBUDDION O GYNNIG (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim Rhybuddion o Gynnig wedi dod i law.
|
|||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|||||
CYFLWYNO DEISEB Nodyn: Er mwyn cael eu hystyried mewn cyfarfod ffurfiol rhaid i bob deiseb gynnwys 50 o lofnodion etholwyr cofrestredig ar gyfer copïau papur a 300 o lofnodion etholwyr cofrestredig ar gyfer e-ddeisebau. Mae cyfanswm Llofnodion Etholiadol Sir Gaerfyrddin hyd at y trothwy o 50 wedi'u dilysu. Nid ydym wedi gwirio'r llofnodion wedi hynny.
DEISEB I GYNGOR SIR CAERFYRDDIN UNIONI'R DIFFYG TOILEDAU CYHOEDDUS DIGONOL, HYGYRCH A GLÂN YN NHREF PORTH TYWYN
RYDYM NI, SYDD WEDI LLOFNODI ISOD, YN GOFYN I GYNGOR SIR CAERFYRDDIN WEITHREDU AR UNWAITH I ADFER TOILEDAU CYHOEDDUS YN NHREF PORTH TYWYN. MAE'N RHAID I'R BLOC TOILEDAU DYWEDEDIG FOD YN HYGYRCH I DDEFNYDDWYR CADEIRIAU OLWYN, POBL ANABL A PHOBL OEDRANNUS, A'R RHAI SYDD Â BABANOD NEU BLANT IFANC. MAE'N RHAID DIOGELU'R ADEILAD RHAG FANDALIAETH, GAN SICRHAU BOD TREFN LANHAU A RHEOLAETH BRIODOL AR WAITH, ER MWYN ADFER BALCHDER YN EIN TREF A CHROESAWU TWRISTIAID. GOFYNNWN I'R CYNGOR TREF A'R GRWPIAU CYMUNEDOL PERTHNASOL FOD YN RHAN O'R GWAITH O'R CAM CYNLLUNIO HYD AT Y BROSES O AILAGOR Y CYFLEUSTERAU CYHOEDDUS.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwahoddodd y Cadeirydd Ms Liz Hurley i gyflwyno'r ddeiseb ganlynol, ynghyd â sylwadau ategol:-
‘Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn gofyn am weithredu ar unwaith gan Gyngor Sir Caerfyrddin i adfer toiledau cyhoeddus yn Nhref Porth Tywyn, rhaid i'r bloc toiledau dywededig fod yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn, pobl anabl a phobl oedrannus, a'r rhai sydd â babanod neu blant ifanc. Mae'n rhaid diogelu'r adeilad rhag fandaliaeth, gan sicrhau bod trefn lanhau a rheolaeth briodol ar waith, er mwyn adfer balchder yn ein tref a chroesawu twristiaid. Gofynnwn i'r Cyngor Tref a'r grwpiau cymunedol perthnasol fod yn rhan o'r gwaith o'r cam cynllunio hyd at y broses o ailagor y cyfleusterau cyhoeddus.'
Ymatebodd yr Aelod Cabinet dros Drafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith i'r ddeiseb a chadarnhaodd fod y mater y cyfeiriwyd ato yn y ddeiseb yn swyddogaeth weithredol ac o'r herwydd fod y Cyngor ond yn gallu cyfeirio'r mater at y Cabinet i'w ystyried.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gyfeirio'r ddeiseb at y Cabinet i'w hystyried yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 10.14.
|
|||||
CWESTIYNAU GAN YR AELODAU:- Dogfennau ychwanegol: |
|||||
CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD JOHN JAMES I'R CYNGHORYDD ALED VAUGHAN OWEN - YR AELOD CABINET DROS NEWID HINSAWDD, DATGARBONEIDDIO A CHYNALIADWYEDD “Dangosodd waith ymchwil diweddar gan
y Gymdeithas Llywodraeth Leol nad yw dwy ran o dair o gynghorau yn
Lloegr yn hyderus y byddent yn cyrraedd eu targedau Carbon Sero Net
o fewn eu hamserlenni targed tra bod Cymdeithas Llywodraeth Leol
Cymru yn gweithio ar raglen drosglwyddo a chymorth newid hinsawdd i
geisio helpu'r sector cyhoeddus i gyrraedd targed Sero Carbon Net
Llywodraeth Cymru erbyn 2050.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: “Dangosodd waith ymchwil diweddar gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol nad yw dwy ran o dair o gynghorau yn Lloegr yn hyderus y byddent yn cyrraedd eu targedau Carbon Sero Net o fewn eu hamserlenni targed tra bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn gweithio ar raglen drosglwyddo a chymorth newid hinsawdd i geisio helpu'r sector cyhoeddus i gyrraedd targed Carbon Sero Net Llywodraeth Cymru erbyn 2050.
O ystyried y wybodaeth hon, yn ogystal â chydnabod y pwysau ariannol difrifol cyffredinol a wynebir gan Awdurdodau Lleol, mae cyrraedd targedau Sero Net hyd yn oed yn fwy heriol nag erioed.
Ble mae'r Cyngor hwn yn sefyll ar hyn o bryd mewn perthynas â'i amcanion presennol a'r nod yn y pen draw o gyrraedd targed mwy uchelgeisiol Carbon Sero Net 2030?”
Ymateb gan y Cynghorydd Aled Vaughan Owen – Yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd
Diolch i'r Cynghorydd James am godi'r cwestiwn hwn heddiw. Fel Awdurdod Lleol, gwnaethom addewid i'n preswylwyr ac i genedlaethau'r dyfodol - datganiad o argyfwng hinsawdd ac ymrwymiad i fod yn sero net erbyn 2030.
Rydym yn deall pa mor bwysig yw hyn, rydym yn cydnabod y rôl bwysig sydd gennym fel Awdurdod Lleol i'w chwarae wrth i ni liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd a gwarchod bioamrywiaeth ac rydym yn cydnabod yr heriau sydd o'n blaenau. Y pwysau ariannol o gyflawni nod mor uchelgeisiol yn enwedig pan yr ydym yn gweithio gyda'r Llywodraeth Geidwadol yn Llundain a gafodd eu trechu yn y llys yr wythnos diwethaf - am yr eildro - am beidio â gwneud digon i gyrraedd ei thargedau ar gyfer lleihau allyriadau nwyon t? gwydr.
I'ch atgoffa, cytunwyd yn ein cynllun yn 2020 i ganolbwyntio ar 4 maes allweddol – ein hadeiladau annomestig, ein goleuadau stryd, milltiroedd ein fflyd a'n milltiroedd busnes. Gallaf gadarnhau ar hyn o bryd bod ein hallyriadau carbon oddeutu 36% yn llai ers ein flwyddyn waelodlin cyn Covid. Rwy'n si?r y byddech yn cytuno bod hyn yn ostyngiad sylweddol. Ond nid ydym yn arafu, rwy'n falch o'r gwaith aruthrol sydd wedi'i wneud gan swyddogion ymroddedig i ganolbwyntio ar ein fflyd sy'n cyfrannu tua 19% o'n hallyriadau. Yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf yn unig gyda chefnogaeth ein Panel Ymgynghorol Hinsawdd a Natur, sy'n cynnwys aelodau o bob rhan o'r siambr hon, rydym wedi cynyddu ein fflyd cerbydau trydan i 40 o gerbydau ac wedi gosod mewn polisi y rhagdybiaeth ar gyfer cerbydau trydan ym mhob pryniant yn y dyfodol.
Ond rydym yn ymwybodol nad oes gennym ni fel Awdurdod Lleol yr holl ddulliau sydd eu hangen i fod yn sero net oni bai bod llywodraethau ar bob lefel yn penderfynu cau'r bwlch rhwng rhethreg a realiti a sicrhau ein bod ni ar y trywydd iawn tuag at drawsnewid cyfiawn i ddyfodol mwy cynaliadwy gyda mecanweithiau ariannu priodol.
Ond ni fyddwn yn eistedd yn ôl, a dim ond canolbwyntio ar y cwmpas hwnnw o'r hyn yr oeddem yn ei ystyried yn wreiddiol yn Sero-Net, rydym bellach yn trosglwyddo ein dysgu ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 13.1 |
|||||
CYMARADWYO Y NEWIDIADAU CANLYNOL I AELODAETH PWYLLGORAU Dogfennau ychwanegol: |
|||||
CYMERADWYO'R NEWIDIADAU CANLYNOL I AELODAETH PWYLLGORAU A PHANELU'R CYNGOR A GYNIGIR GAN Y GRWP LLAFUR · Cynghorydd Anthony Leyshon i gymryd lle y Cynghorydd Deryk Cundy ar y Pwyllgor Craffu Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio
· Cynghorydd Janet Williams i lenwi y sedd wag ar y Pwyllgor Craffu Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg
· Cynghorydd Tina Higgins i lenwi y sedd wag ar y Pwyllgor Penodi A
· Cynghorydd Nysia Evans i lenwi y sedd wag ar y Pwyllgor Penodi B
· Cynghorydd Philip Warlow i lenwi y sedd wag ar y Pwyllgor Safonau
· Cynghorydd Deryk Cundy i lenwi y sedd wag ar Cydbwyllgor Craffu Dinas-Ranbarth Bae Abertawe
· Cynghorydd Deryk Cundy i lenwi y sedd wag ar Cyd-bwyllgor Corfforedig y De Orllewin - Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
· Cynghorydd Deryk Cundy I lenwi y sedd wag ar Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-Orllewin Cymru - Is-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu
· Cynghorydd Philip Warlow I lenwi y sedd wag ar y Panel Ymgynghorol ynghylch Polisi Tal
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo'r newidiadau canlynol a gynigiwyd gan y Gr?p Llafur i aelodaeth Pwyllgorau a Phanelau:
·Y Cynghorydd Anthony Leyshon i gymryd lle'r Cynghorydd Deryk Cundy ar Y Pwyllgor Craffu Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio Y Cynghorydd Janet Williams i gymryd y sedd wag ar Y Pwyllgor Craffu Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg · Y Cynghorydd Tina Higgins i gymryd y sedd wag ar y Pwyllgor Penodi A · Y Cynghorydd Nysia Evans i gymryd y sedd wag ar y Pwyllgor Penodi B · Y Cynghorydd Philip Warlow i gymryd y sedd wag ar y Pwyllgor Safonau · Y Cynghorydd Deryk Cundy i gymryd y sedd wag ar Gyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe · Y Cynghorydd Deryk Cundy i gymryd y sedd wag ar Gyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru – Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio · Y Cynghorydd Deryk Cundy i gymryd y sedd wag ar Gyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru – Is-bwyllgor Trosolwg a Chraffu Y Cynghorydd Philip Warlow i gymryd y sedd wag ar y Panel Ymgynghorol Ynghylch Y Polisi Tâl
|
|||||
CYMARADWYO Y NEWIDIADAU CANLYNOL I AELODAETH PWYLLGORAU A PHANELU'R CYNGOR A GYNIGIR GAN AELODAU HEB GYSYLLTIAD:- • Cynghorydd Steve Williams i lenwi y sedd wag ar y Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol
• Cynghorydd Steve Williams I lenwi y swydd wag ar y Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
• Cynghorydd Michael Cranham I lenwi y sedd wag ar y Pwyllgor Apelau
• Cynghorydd John James I lenwi y sedd wag ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
• Cynghorwyr John James a Steve Williams i lenwi y seddi gwag ar y Pwyllgor Cynllunio.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo'r newidiadau canlynol a gynigiwyd gan yr Aelodau heb gysylltiad pleidiol i aelodaeth Pwyllgorau a Phanelau:
·Y Cynghorydd Steve Williams i gymryd y sedd wag ar y Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol · Y Cynghorydd Steve Williams i gymryd y sedd wag ar y Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol · Y Cynghorydd Michael Cranham i gymryd y sedd wag ar y Pwyllgor Apêl · Y Cynghorydd John James i gymryd y sedd wag ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio · Y Cynghorwyr John James a Steve Williams i gymryd y seddi gwag ar y Pwyllgor Cynllunio
|
|||||
CYMERADWYO'R NEWIDIADAU CANLYNOL I AELODAETH AWDURDOD TÂN AC ACHUB CANOLBARTH A GORLLEWIN CYMRU · Cynghorydd Tina Higgins I gymryd lle y Cynghorydd Councillor Rob Evans fel un o aelodau y Gr?p Llafur
· Cynghorydd Emlyn Schiavone I gymryd lle y Cynghorydd Gareth Thomas fel un o aelodau Gr?p Plaid Cymru
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
· Y Cynghorydd Tina Higgins i gymryd lle'r Cynghorydd Rob Evans fel un o gynrychiolwyr y Gr?p Llafur. · Y Cynghorydd Emlyn Schiavone i gymryd lle'r Cynghorydd Gareth Thomas fel un o gynrychiolwyr Gr?p Plaid Cymru.
|
|||||
COFNODION ER GWYBODAETH (AR GAEL AR Y WEFAN) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd fod y cofnodion a amlinellwyd ar yr agenda o dan 15.1 – 15.19 ar gael er gwybodaeth ar wefan y Cyngor.
|