Agenda a Chofnodion

(Cyllid Corfforaethol), Cyngor Sir - Dydd Mercher, 28ain Chwefror, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Nodyn:

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr B. W. Jones, D. C. Evans, A. D. Harries, H. Jones, C. Davies, J. Seaward a G.B. Thomas.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

A Vaughan-Owen

8.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 - 2025/26

Ei wraig yn bennaeth ar ysgol gynradd

Ll.M. Davies

8.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 - 2025/26

Ei g?r yn dysgu fel pennaeth cerddoriaeth

N. Evans

8.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 - 2025/26

Ei merch yn gweithio i'r gwasanaeth llyfrgelloedd

R. Evans

8.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 - 2025/26

Ei merch yn gweithio i'r Gwasanaeth Llyfrgelloedd

M.D. Cranham

8.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 - 2025/26

Ei fab yn gweithio yn sector addysg yr Awdurdod

G. Morgan

8.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 - 2025/26

Tenant yn Llynnoedd Delta

T. Higgins

8.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 - 2025/26

Ei nith yn gweithio yn y gwasanaeth llyfrgelloedd

J. P. Hart

8.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 - 2025/26

Aelodau o’r teulu yn gweithio yn adran Addysg yr Awdurdod

F. Walters

8.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 - 2025/26

Aelodau o'r teulu'n athrawon

D. Nicholas

8.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 - 2025/26

Ei ferch yn gweithio yn yr Adran Gynllunio

L.R. Bowen

8.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 - 2025/26

Ei wraig yn gweithio yn yr uned gyfieithu yn yr Awdurdod

C.A. Jones

8.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 - 2025/26

Ei ferch-yng-nghyfraith yn gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol

D. Cundy

8.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 - 2025/26

Perthnasau’n gweithio i'r Cyngor

E. Skinner

8.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 - 2025/26

Nith yn gweithio i'r Awdurdod

R. Sparks

8.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 - 2025/26

Mae ganddo fusnes yn y diwydiant hamdden a chaniatawyd gollyngiad iddo siarad ond nid pleidleisio

L. Roberts

8.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 - 2025/26

Ei merch yn gweithio ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn yr Awdurdod

M. Palfreman

8.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 - 2025/26

Mae ganddo fusnes ymgynghoriaeth gofal cymdeithasol – caniatawyd gollyngiad iddo siarad ond nid pleidleisio

B. Davies

8.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 - 2025/26

Mae ei wraig yn gweithio i'r gwasanaethau Gofal Cymdeithasol

T.A.J. Davies

8.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 - 2025/26

Ei chwaer-yng-nghyfraith yn gweithio i'r Awdurdod

P.M. Hughes

8.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 - 2025/26

Ei ferch yn gweithio i'r Awdurdod

A. Davies

8.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 - 2025/26

Ei wraig yn athrawes yn yr Awdurdod

J. Lewis

8.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 - 2025/26

Mae ei nith yn gweithio yn yr Adran Addysg

R. James

8.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 - 2025/26

Mae ei bartner yn gweithio yng Ngwasanaethau Llyfrgell yr Awdurdod

K. Madge

8.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 - 2025/26

Ei ferch yn gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol yn yr Awdurdod

E. Rees

8.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 - 2025/26

Ei frawd yn gweithio yn yr Awdurdod

S. Godfrey-Coles

8.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 - 2025/26

Ei phartner yw Pennaeth y Gwasanaethau Plant yn yr Awdurdod

J. P. Hart

8.4 - Deddf Trwyddedu 2003 Adolygiad o’r Polisi Trwyddedu ac Asesiadau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·       Cyhoeddodd y Cadeirydd ei bod wedi mynd i Wobrau Chwaraeon Actif Sir Gâr a gynhaliwyd yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli ar 22 Chwefror 2024.  Estynnwyd diolch i aelodau’r Tîm Actif am eu hymdrechion i wneud y diwrnod yn llwyddiant mawr. Roedd yn braf gwobrwyo cynnydd athletwyr ifanc y Sir. Yn ogystal, cafodd yr arian a godwyd yn ystod y noson ei roi i Elusennau’r Cadeirydd - Hosbis T? Bryngwyn, Canolfan Deulu Sant Paul ac Ymatebwr Cyntaf Llanelli.

 

·       Cyhoeddodd y Cadeirydd fod disgyblion Blwyddyn 6 yn Ysgol Pen Rhos, Llanelli, wedi helpu i godi ymwybyddiaeth o ganser y coluddyn a sgrinio canser y coluddyn yn eu cymuned fel rhan o waith ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (UHB), Iechyd Cyhoeddus Cymru a Menter Canser Moondance. Ysgol Pen Rhos yw'r ysgol gynradd gyntaf yng Nghymru i groesawu'r prosiect yn ei hystafelloedd dosbarth.

 

 

6.

ADOLYGIAD CYMUNEDOL DEDDF LLYWODRAETH LEOL (DEMOCRATIAETH) (CYMRU) 2013 ("Y DDEDDF") pdf eicon PDF 99 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Cyngor adroddiad, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros y Gweithlu a Threfniadaeth. Atgoffwyd y Cyngor, yn ei gyfarfod ar 9 Chwefror 2023, y cymeradwywyd cychwyn Adolygiad Cymunedol i archwilio'r trefniadau llywodraethu Tref a Chymuned presennol ac i wneud Argymhellion Terfynol ar gyfer unrhyw newid priodol. Daeth yr adolygiad hwn i ben ar 11 Hydref 2023. Bydd yr argymhellion a gymeradwywyd yn dod i rym gyda'r set nesaf o etholiadau'r Cynghorau Tref a Chymuned a fydd yn cael eu cynnal ym mis Mai 2027.

 

Fel rhan o'r adolygiad hwn, nodwyd bod anghysonderau o ran ffiniau cymunedol a amlygwyd yn y mapiau perthnasol a atodir yn Atodiad A o'r adroddiad.

 

Rhoddwyd caniatâd yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ar 11 Hydref 2023 i gynnal adolygiad dan Adran 25 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2023. Dechreuodd yr ymgynghoriad chwe wythnos cychwynnol ar 12 Hydref 2023 a daeth i ben ar 22 Tachwedd 2023. Atodwyd ymatebion i'r adroddiad yn Atodiad B.

 

Gofynnwyd i'r Cyngor fabwysiadu'r Argymhellion Drafft at ddibenion yr Adolygiad Cymunedol a chefnogi'r Argymhellion Drafft sy'n cael eu cyhoeddi at ddibenion ymgynghori am gyfnod o 6 wythnos. Dywedwyd y byddai'r dyddiadau ar gyfer yr ymgynghoriad yn dechrau ar 29 Chwefror 2024 hyd at 11 Ebrill 2024 ac nid y dyddiadau a nodwyd yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

 

6.1

Bod y cynigion a nodir yn Atodiad C yn cael eu mabwysiadu gan y Cyngor fel Argymhellion Drafft at ddibenion yr Adolygiad ar gyfer:

 

 

a)    Cyngor Cymuned Llangyndeyrn a Chyngor Gwledig Llanelli

b)    Cyngor Cymuned Llangyndeyrn a Chyngor Cymuned Trimsaran

c)    Cyngor Cymuned Llangyndeyrn a Chyngor Cymuned Pontyberem

 

6.2

Bod yr Argymhellion Drafft yn cael eu cyhoeddi at ddibenion ymgynghori am gyfnod o 6 wythnos;

 

6.3

Bod canlyniadau'r ymgynghoriad ynghyd â'r Argymhellion Terfynol arfaethedig yn cael eu hadrodd i'r Cyngor Llawn ar 12 Mehefin.

 

 

4.

CYHOEDDIADAU GAN YR ARWEINYDD, AELODAU'R CABINET NEU'R PRIF WEITHREDWR (OS OES RHAI)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gyhoeddiadau eraill.

 

 

5.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR Y 24 IONAWR 2024 pdf eicon PDF 154 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 24 Ionawr, 2024 yn gofnod cywir.

 

 

7.

RECRIWTIO I SWYDD PENNAETH Y GYFRAITH, LLYWODRAETHU, A GWASANAETHAU SIFIL (A SWYDDOG MONITRO) pdf eicon PDF 115 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Cyngor adroddiad, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros y Gweithlu a Threfniadaeth ar Recriwtio i swydd Pennaeth y Gyfraith, Llywodraethu a Gwasanaethau Sifil (a Swyddog Monitro), a oedd yn darparu gwybodaeth fanwl am y swydd, rôl y Swyddog Monitro, y trefniadau Dyletswyddau Uwch dros dro a'r amserlen arfaethedig.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor y byddai'r Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith bresennol, (sy'n cynnwys rôl y Swyddog Monitro) yn gadael y Cyngor ar 1 Mehefin 2024. Felly, byddai angen i'r Cyngor ddynodi Swyddog Monitro Dros Dro i gyflawni'r rôl statudol hon hyd nes y daw'r broses benodi i ben a bod Pennaeth y Gyfraith, Llywodraethu a Gwasanaethau Sifil newydd yn y swydd.

 

Dywedwyd y cafwyd trafodaethau rhwng y Prif Weithredwr, cydweithwyr yn y Tîm Rheoli Corfforaethol ac aelodau'r Cabinet, i ystyried y ffordd ymlaen ar gyfer y gwasanaeth, gyda'r bwriad o sicrhau bod y swydd bwysig hon yn addas i'r dyfodol, yn ogystal â helpu i gyflawni arbedion i'r Awdurdod.

 

Gyda golwg ar leihau nifer y swyddi sy'n adrodd yn uniongyrchol i'r Prif Weithredwr, cynigiwyd y byddai'r Gwasanaeth Etholiadol a Chofrestru yn adrodd i Bennaeth y Gyfraith, Llywodraethu a Gwasanaethau Sifil (a Swyddog Monitro). Byddai manteision hyn yn cynnwys gwneud y mwyaf o synergeddau gwasanaethau yn ogystal â helpu i leihau nifer y swyddi sy'n adrodd yn uniongyrchol i'r Prif Weithredwr, a chreu portffolio mwy cytbwys, teg a haws i'w reoli. Adlewyrchwyd y dyletswyddau diwygiedig hyn yn y proffil swydd diwygiedig a atodwyd i'r adroddiad.

 

Nododd y Cyngor ei bod yn annhebygol y byddai'r broses o recriwtio i swydd Pennaeth y Gyfraith, Llywodraethu a Gwasanaethau Sifil (a'r Swyddog Monitro) wedi'i chwblhau cyn i ddeiliad presennol y swydd adael, felly byddai angen trefniadau dros dro drwy gynnal ymarfer mynegiannau o ddiddordeb mewnol i geisio ceisiadau gan unigolion sydd â chymwysterau cyfreithiol a thystysgrif ymarfer a phrofiad perthnasol.

 

PENDERFYNWYD:

 

7.1        cymeradwyo'r Proffil Swydd a'r Fanyleb Person a atodir i'r adroddiad.

 

7.2   cymeradwyo a gweithredu'r trefniadau dros dro arfaethedig, yn dilyn ymarfer mynegiannau o ddiddordeb i fod yn weithredol hyd nes y bydd Pennaeth y Gyfraith, Llywodraethu a Gwasanaethau newydd yn dechrau yn ei swydd.

 

7.3nodi, unwaith y bydd Pwyllgor Penodi 'B' wedi ymgynnull i benodi Pennaeth y Gyfraith, Llywodraethu a Gwasanaethau Sifil newydd, bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno eto yn un o gyfarfodydd y Cyngor Sir yn y dyfodol i nodi'r penodiad, a bod y Cyngor Sir yn dynodi'r penodai newydd fel Swyddog Monitro'r Cyngor yn unol ag Adran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.

 

 

8.

YSTYRIED ARGYMHELLION Y CABINET O RAN Y MATERION CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

8.1

STRATEGAETH CYLLIDEB REFENIW 2024/25 i 2026/27 pdf eicon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorwyr A Vaughan Owen, Ll.M. Davies, N. Evans, R. Evans, M.D. Cranham, G. Morgan, T. Higgins, J.P. Hart, F. Walters, D. Nicholas, L.R. Bowen, C.A. Jones, D. Cundy, E. Skinner, R. Sparks, L. Roberts. M. Palfreman, B. Davies, T.A.J. Davies, P.M. Hughes, A. Davies, J. Lewis, R. James, K. Madge, E. Rees a S. wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ac arhosodd y cynghorwyr hynny yn y cyfarfod gan gymryd rhan yn y drafodaeth ynghylch y mater hwn a'r bleidlais ddilynol).

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 19 Chwefror, 2024 (gweler Cofnod 6), wedi ystyried Strategaeth Cyllideb Refeniw 2024/25 - 2026/27 a'i fod wedi gwneud nifer o argymhellion yn ei chylch, fel y manylwyd arnynt yn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, i'w hystyried gan y Cyngor.

 

Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran y gyllideb, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddilysu'r gyllideb, y gwasgfeydd o ran gwariant, setliad terfynol Llywodraeth Cymru, a'r ymatebion o'r ymgynghoriad ynghylch y gyllideb.

 

Wrth gyflwyno'r adroddiad, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau byddai mabwysiadu'r cynigion yn yr adroddiad yn galluogi'r Cyngor i ddarparu cyllideb deg a chytbwys, a oedd yn ymateb i'r sylwadau oedd wedi deillio o'r broses ymgynghori. Fodd bynnag, roedd yn teimlo bod dyletswydd arno i dynnu sylw at risgiau'r strategaeth, yn ogystal â'r ansicrwydd yn y dyfodol ynghylch codiadau cyflog a chwyddiant, y mae'n rhaid ei dderbyn fel rhan arferol o'r broses pennu'r gyllideb.

 

Nodwyd nifer o risgiau o ganlyniad i ansicrwydd ynghylch ariannu pensiynau athrawon a diffoddwyr tân, y risg o ran cyflawni buddsoddiadau yn y Gwasanaethau Plant, a'r risg oedd ynghlwm wrth ostyngiadau yn y gyllideb ar draws pob rhan o wasanaethau'r Cyngor.

 

 

Yn ogystal, nodwyd bod y gyllideb hon o bosibl yn un o'r rhai anoddaf yn hanes y Cyngor a mynegodd ei bryder ei fod yn gyfnod heriol iawn, pan oedd Awdurdodau Lleol yn y sefyllfa amhosibl o geisio darparu gwasanaethau rheng flaen tra'n parhau i wynebu toriadau gan y llywodraeth ganolog. Roedd dyletswydd ar bob Cynghorydd dros y misoedd nesaf i wneud achos dros bwysigrwydd gwasanaethau cyhoeddus a llywodraeth leol yn gyffredinol, a thros yr angen am ragor o fuddsoddiad oherwydd nid oedd yr hyn sydd gennym ar hyn o bryd yn gynaliadwy.

 

Pwysleisiwyd, wrth bennu'r gyllideb, bod gwaith yn cael ei wneud i geisio diogelu gwasanaethau rheng flaen gan gadw unrhyw gynnydd yn y Dreth Gyngor i isafswm ar yr un pryd, ac er bod 7.5% yn uwch na'r hyn a ddymunir, roedd yn llawer gwell na rhai Awdurdodau Lleol eraill a oedd yn wynebu codiadau oedd mewn ffigurau dwbwl yn y dreth gyngor a bod rhai yn wynebu methdalwriaeth.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet i bawb a wnaeth gymryd rhan yn yr ymgynghoriad neu ymateb i'r arolygon. Hefyd, i'r cyd-gynghorwyr am eu hymrwymiad wrth gyfrannu at y seminarau am y gyllideb mewn modd mor gadarnhaol, er gwaethaf yr heriau enfawr sydd i ddod. Cafodd cynigion y gyllideb eu harchwilio'n fanwl hefyd gan y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.1

8.2

RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD (CRONFA'R CYNGOR) 2024/25 - 2028/29 pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried adroddiad a oedd yn dwyn ynghyd y cynigion diweddaraf am raglen gyfalaf bum mlynedd 2024/25 hyd at 2028/29. Roedd yr adroddiad yn cymryd i ystyriaeth yr ymgynghoriad a gynhaliwyd a'r goblygiadau refeniw oedd yn deillio o'r rhaglen.

 

Wrth gyflwyno'r adroddiad, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau mai'r gwariant gros arfaethedig ar y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2024/25 oedd £86.930m, a'r bwriad oedd i'r Cyngor Sir gyllido £50.374m o'i adnoddau ei hun drwy ddefnyddio benthyciadau, arian wrth gefn, ariannu drwy refeniw uniongyrchol, derbyniadau cyfalaf a grant cyfalaf cyffredinol, a bod y £36.556m o gyllid oedd yn weddill yn dod o ffynonellau allanol.

 

Byddai'r rhaglen gyfalaf newydd yn cael ei hariannu'n llawn dros y pum mlynedd, ond cynigiwyd tanymrwymo peth o'r cyllid oedd ar gael i roi hyblygrwydd ar draws y rhaglen i dalu am unrhyw gostau ychwanegol. Roedd strategaeth gyfalaf yr Awdurdod, sy'n ofynnol gan y Côd Darbodaeth ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol, wedi'i diweddaru ac mae'n nodi'r cyd-destun hirdymor y gwneir penderfyniadau gwariant cyfalaf a buddsoddi ynddo. Rhoddodd ystyriaeth briodol i risg a gwobrwyo a'r effaith ar gyflawni canlyniadau blaenoriaethol. Roedd y strategaeth gyfalaf yn cwmpasu gwariant ar Gronfa'r Cyngor a chyfalaf HRA a chafodd ei chynnwys fel Atodiad C i'r adroddiad.

 

Dywedwyd y byddai £193m yn cael ei fuddsoddi yn y rhaglen newydd dros y pum mlynedd nesaf, £61m ohono ar gyfer yr ymrwymiad parhaus i wella adeiladau ysgolion, £12m tuag at Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl i helpu i drawsnewid ansawdd bywyd llawer o bobl yn eu cartrefi eu hunain, £34m ar gyfer prosiectau adfywio i hybu gweithgarwch economaidd, £16m i gwblhau'r prosiect Pentre Awel a gefnogir gan y Fargen Ddinesig a oedd yn cynnwys canolfan hamdden newydd i Lanelli, £43m i wella seilwaith priffyrdd economaidd lleol a seilwaith ailgylchu a £21m ar gyfer caledwedd a seilwaith TG digidol critigol.

 

Cydnabuwyd, er gwaethaf anawsterau'r amgylchedd economaidd presennol, fod y rhaglen gyfalaf arfaethedig wedi ymrwymo i fuddsoddiad sylweddol dros y pum mlynedd nesaf. Ei nod oedd manteisio ar y cyfleoedd cyllido a'r cyllid gan ffynonellau allanol posibl. Byddai cyfuniad o gynlluniau newydd a phresennol, yn unol â gweledigaeth gorfforaethol y Cyngor, yn datblygu'r economi leol, yn creu swyddi ac yn gwella ansawdd bywyd trigolion Sir Gâr ac ymwelwyr, gan ddiogelu ein hadnoddau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

 

Yn ogystal, nodwyd y llwyddwyd i gael £15.5m o gyllid Ffyniant Bro ar gyfer Canol Tref Llanelli a fyddai'n cael cyllid cyfatebol trwy fuddsoddiad o £2.5m o adnoddau ac y byddai gwaith yn dechrau gyda Llywodraeth y DU i gytuno ar brosiect hyfyw.


 

Tynnwyd sylw at feysydd eraill:-

 

-   Cafodd dros £20m o gyllid ei gynnwys yn y rhaglen ar gyfer cerbydau newydd yn lle'r rhai sy'n heneiddio ac sy'n creu mwy o lygredd.

 

-   Mae £14m tuag at gerbydau newydd ar gyfer cyflwyno'r cynllun didoli ac ailgylchu o d? i d?.

 

-   Er mwyn gwella seilwaith ailgylchu, cynigiwyd sicrhau bod cyfleuster benthyca o £10m ar gael i CWM Environmental i ddatblygu a gwella'r ddarpariaeth ailgylchu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.2

8.3

POLISI RHEOLI'R TRYSORLYS A STRATEGAETH 2024-25 pdf eicon PDF 113 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 19 Chwefror, 2024 (gweler Cofnod 8) wedi ystyried Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2024/25.

 

Roedd yr adroddiad wedi'i lunio yn unol â gofynion Côd Ymarfer diwygiedig CIPFA ynghylch Rheoli'r Trysorlys 2017, lle roedd y Cyngor wedi cytuno'n flaenorol i gynnal Polisi Rheoli'r Trysorlys a oedd yn manylu ar bolisïau ac amcanion gweithgareddau'r Awdurdod o ran Rheoli'r Trysorlys. Nodwyd ei bod hefyd yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys yn flynyddol cyn dechrau'r flwyddyn ariannol yr oedd yn ymwneud â hi. Yn ogystal, dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2003, roedd yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

PENDERFYNWYD:

 

8.3.1     bod Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2024-25 a'r argymhellion a nodwyd ynddynt yn cael eu cymeradwyo;

 

8.3.2     bod Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys, y Dangosyddion Darbodaeth, y Datganiad ynghylch y Ddarpariaeth Isafswm Refeniw, y Strategaeth Fuddsoddi, a'r argymhellion yn cael eu cymeradwyo.

 

 

8.4

DEDDF TRWYDDEDU 2003 ADOLYGIAD O'R BOLISI TRWYDDEDU ACSESIADAU EFFAITH GRONNOL pdf eicon PDF 120 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr J.P. Hart, C.A. Jones a P.M Hughes wedi datgan buddiant yn yr eitem yn gynharach, a gadawodd y cynghorwyr y cyfarfod tra bo'r Cyngor yn trafod yr eitem ac yn pleidleisio yn ei chylch.]

 

Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 15 Ionawr, 2024 (gweler cofnod 11) wedi ystyried adroddiad yn manylu ar yr adolygiad o Bolisi Trwyddedu ac Asesiadau Effaith Gronnol yr Awdurdod. Roedd yn ofynnol, yn ôl deddfwriaeth, i'r polisi trwyddedu gael ei adolygu bob pum mlynedd ac Asesiadau Effaith Gronnol (CIAs) bob tair blynedd, er mwyn sicrhau eu bod dal yn briodol.

 

Wrth gyflwyno'r adroddiad, eglurodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd, fod Swyddogion, yn ystod yr adolygiad diweddar o Heol yr Orsaf, Llanelli a Heol Awst, Caerfyrddin wedi ymgynghori ar y potensial i gynnwys ardaloedd eraill yn yr Ardaloedd Effaith Gronnol sef Maes Nott, Heol y Brenin a Heol y Frenhines, Caerfyrddin. Gwnaed hyn yn dilyn cais gan Gyngor Tref Caerfyrddin ac eraill fel ymateb i'r cynnydd yn nifer y cwynion a dderbyniwyd.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar dystiolaeth gref a gasglwyd o ymgynghoriad a sylwadau a dderbyniwyd gan y rhanddeiliaid.

 

Argymhellodd y Cabinet, ar ôl nodi'r manteision a'r anfanteision ac ystyried y 3 opsiwn, fel y nodwyd yn yr adroddiad, fod y Cyngor yn dewis opsiwn 3 – 'Mabwysiadu Asesiad Effaith Gronnol newydd ar gyfer Maes Nott, Heol y Brenin a Heol y Frenhines, Caerfyrddin a chadw'r asesiadau presennol o fewn y Polisi diweddaraf, i gynnwys polisi 'eithriadau' yn unol â'r Datganiad Polisi Trwyddedu cyfredol.’

 

PENDERFYNWYD

 

8.4.1     dewis opsiwn tri, fel y nodir yn y Crynodeb Gweithredol, fel yr opsiwn polisi mwyaf priodol ar gyfer yr Asesiadau Effaith Gronnol i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu yn Sir Gaerfyrddin orau;

 

8.4.2     cymeradwyo'r Datganiad Polisi Trwyddedu sy'n adlewyrchu'r opsiwn a ddewiswyd.

 

 

9.

DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:

Dogfennau ychwanegol:

9.1

15 IONAWR 2024 pdf eicon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd F. Walters wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, ac arhosodd yn y cyfarfod gan gymryd rhan yn y drafodaeth a'r bleidlais).

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 15 Ionawr, 2024.

 

 

9.2

29 IONAWR 2024 pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 29 Ionawr, 2024.

 

 

10.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD:-

Dogfennau ychwanegol:

10.1

CWESTIWN GAN MR DAVID JENKINS I'R CYNGHORYDD ALED VAUGHAN-OWEN, YR AELOD CABINET DROS NEWID HINSAWDD, DATGARBONEIDDIO A CHYNALIADWYEDD

‘Roedd cyfarfod diweddar yng Nglan-y-fferi a drefnwyd gan aelodau lleol i ymateb i lifogydd mis Ionawr wedi nodi'r canlynol:

-   Gallai gweithredoedd gwael fod wedi cyfrannu at risg llifogydd neu fod wedi arwain at fethu cynnal asedau.

-   Bod hanes o ran diffyg gwaith peirianneg a chynnal a chadw wedi cyfrannu at y llifogydd

-   Nid oes cynlluniau clir ar waith i ymateb i lifogydd

-   Nid oes cynlluniau'n bodoli o ran ôl-ofal i'r bobl y mae llifogydd wedi effeithio arnynt

-   Er gwaethaf ymwybyddiaeth hirsefydlog ynghylch risgiau sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth, nid oes cynllun strategol ar gyfer lliniaru risgiau cynyddol

-   Mae diffyg cydlynu rhwng asiantaethau sy'n gyfrifol am wytnwch lleol.

Felly pa gamau y mae'r cyngor yn bwriadu eu cymryd i leddfu effaith llifogydd ar drigolion Sir Gaerfyrddin?’

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

'Roedd cyfarfod diweddar yng Nglanyfferi, a drefnwyd gan aelodau lleol i ymateb i lifogydd mis Ionawr wedi nodi'r canlynol:-

 

Gallai gweithredoedd gwael fod wedi cyfrannu at risg llifogydd neu fod wedi arwain at fethu cynnal asedau. Bod hanes o ran diffyg gwaith peirianneg a chynnal a chadw wedi cyfrannu at y llifogydd.

 

-   Nid oes cynlluniau clir ar waith i ymateb i lifogydd

-   Nid oes cynlluniau'n bodoli o ran ôl-ofal i'r bobl y mae llifogydd wedi effeithio arnynt

-   Er gwaethaf ymwybyddiaeth hirsefydlog ynghylch risgiau sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth, nid oes cynllun strategol ar gyfer lliniaru risgiau cynyddol

-   Mae diffyg cydlynu rhwng asiantaethau sy'n gyfrifol am wytnwch lleol.

 

Felly pa gamau y mae'r cyngor yn bwriadu eu cymryd i leddfu effaith llifogydd ar drigolion Sir Gaerfyrddin?’

 

Ymateb gan y Cynghorydd Aled Vaughan-Owen - yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:-

 

Diolch yn fawr iawn Mr Jenkins am eich cwestiwn pwysig iawn ac amserol. Cyn ateb, hoffwn, ar ran yr Awdurdod, gydymdeimlo â holl drigolion y Sir sydd wedi wynebu cyfnod anodd iawn dros y misoedd diwethaf oherwydd llifogydd a thywydd garw a hefyd diolch i'r cymunedau sydd wedi dod at ei gilydd i oresgyn sefyllfaoedd heriol. Hoffwn ddiolch hefyd i swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin a oedd wedi helpu yn ystod y cyfnod hwnnw. Gan gynnwys y Cynghorydd Carys Jones yn Llansteffan am ei gwaith diflino yn ystod y llifogydd a hefyd i'r Cynghorwyr Crish Davies a Lewis Davies sydd wedi trefnu cyfarfod yng Nglanyfferi i drafod y sefyllfa yno. Yn wir, mae nifer yn ddiolchgar iawn am eich arweinyddiaeth ac am drefnu sgyrsiau yn y Gymuned. Nid oeddwn yn bresennol yn y cyfarfod yng Nglanyfferi i glywed y sylwadau, ond gallaf gyfeirio at rai o'r pwyntiau rydych wedi'u nodi fel rhan o'r ateb.

 

Fel yr wyf wedi dweud ar sawl achlysur yma yn y siambr, mae dynoliaeth ar bwynt tyngedfennol yn ei hanes, mae tystiolaeth gynyddol o bob cwr o'r byd yn awgrymu ein bod ar yr unfed awr ar ddeg yn y frwydr yn erbyn dirywiad o ran yr hinsawdd a natur, a bydd y penderfyniadau yr ydym yn eu gwneud neu'n methu â'u gwneud yn cael effaith nawr ac ar genedlaethau'r dyfodol. Dyna pam mae'n fraint bod yn rhan o'r Cyngor hwn sydd wedi pleidleisio'n unfrydol o blaid datgan dau argyfwng ac wedi mynnu bod y weinyddiaeth hon yn rhoi'r hinsawdd a natur wrth wraidd y penderfyniadau a wnawn.

 

Nid yw'r Dirywiad o ran yr Hinsawdd yn rhywbeth sy'n digwydd i bobl eraill mewn rhyw wlad bell, yma yng Nghymru rydym yn gweld enghreifftiau uniongyrchol o dywydd eithafol, yn enwedig llifogydd, wrth i gymunedau wynebu newidiadau yn lefel y môr a phatrymau tywydd afreolaidd a seilwaith sy'n heneiddio na chafodd ei gynllunio i ddelio â'r hyn yr ydym bellach yn ei brofi. Mae'n rhaid rhoi blaenoriaeth i liniaru effeithiau gwaethaf Dirywiad o ran yr Hinsawdd, a dyna pam rwy'n falch o'n cynlluniau datgarboneiddio ar draws holl adrannau'r Cyngor hwn, ond  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10.1

10.2

DR ANTHONY LAXTON AT Y CYNGHORYDD ANN DAVIES - AELOD CABINET DROS FATERION GWLEDIG, CYDLYNIANT CYMUNEDOL A PHOLISI CYNLLUNIO

Yng ngoleuni datgan argyfwng hinsawdd yn 2019 a Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol, a fyddai’r Cyngor yn ystyried adolygu ei ystyriaeth tuag at roi caniatâd cynllunio ar gyfer paneli solar a mentrau arbed ynni eraill mewn ardaloedd cadwraeth. Mae’n ymddangos y gall fod gwrthdaro hyd yn oed wrth osod y rhain ar adeiladau eithaf cyffredin ei golwg gyda thoeau llechi Cymreig os yw’r adeilad wedi ei adeiladu cyn 1919. Yn yr achos hwn, dylai cadwraeth fabwysiadu diffiniad ehangach – nid yn unig canolbwyntio ar gadwraeth hanesyddol adeiladau ond ar gadwraeth hirdymor ein cymunedau a'n hamgylchedd drwy ganiatáu mwy o ryddid i osod mesurau i arbed a chreu ynni gwyrdd yn lleol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

[Sylwer:

·       Ymatebodd y Cynghorydd Linda Evans, Aelod Cabinet dros Gartrefi ar ran y Cynghorydd Ann Davies, Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio gan fod yn rhaid iddi adael y cyfarfod cyn yr eitem hon;

·       Roedd y Cynghorydd N. Lewis wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, ac arhosodd yn y cyfarfod.

 

'Yng ngoleuni datgan argyfwng hinsawdd yn 2019 a Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol, a fyddai’r Cyngor yn ystyried adolygu ei ystyriaeth tuag at roi caniatâd cynllunio ar gyfer paneli solar a mentrau arbed ynni eraill mewn ardaloedd cadwraeth? Mae’n ymddangos y gall fod gwrthdaro hyd yn oed wrth osod y rhain ar adeiladau eithaf cyffredin ei golwg gyda thoeau llechi Cymreig os yw’r adeilad wedi ei adeiladu cyn 1919. Yn yr achos hwn, dylai cadwraeth fabwysiadu diffiniad ehangach – nid yn unig canolbwyntio ar gadwraeth hanesyddol adeiladau ond ar gadwraeth hirdymor ein cymunedau a'n hamgylchedd drwy ganiatáu mwy o ryddid.'

 

Ymateb gan y Cynghorydd Linda Evans, yr Aelod Cabinet dros Gartrefi:-

 

Diolch ichi am y cwestiwn. Ymddiheuriadau nad yw'r Cynghorydd Ann Davies yma, mae mewn cyfarfod arall. Cyngor Sir Caerfyrddin oedd yr Awdurdod cyntaf yng Nghymru i ddatgan argyfwng newid hinsawdd a chyhoeddodd ei gynllun sero net. Mae'n cymryd ei gyfrifoldebau yn hyn o beth o ddifrif. Mae ganddo ymrwymiad parhaus i newid tuag at economi carbon isel er mwyn diogelu dyfodol cymunedau a chenedlaethau'r dyfodol. Dyma'r unig Awdurdod Lleol yng Nghymru sydd â chanolfan hyfforddiant a gwybodaeth sy'n ymroddedig i gynaliadwyedd adeiladau a godwyd cyn 1919 a sicrhau eu bod yn diwallu anghenion cenedlaethau'r dyfodol. Mae darparu cyrsiau hyfforddiant rheolaidd mewn atgyweirio, cynnal a chadw ac effeithlonrwydd ynni ym mhob adeilad yn rhan greiddiol o'r rhaglen hon.

 

Ar draws Cymru mae gennym oddeutu 500,000 o adeiladau a godwyd cyn 1919 sy'n cyfateb i draean o'n stoc dai. O'r rhain, mae 189,000 ar 13% yn yr ardal gadwraeth ac mae 30,000 o strwythurau rhestredig, gan gynnwys cartrefi, eglwysi, pontydd a cherrig milltir. Mae ymchwil wedi dangos bod diogelu adeiladau hanesyddol a'r amgylchedd yn darparu budd economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol i le ac yn aml yn denu busnes ac ymwelwyr i'r ardal. Mae'r Awdurdod Lleol yn cydnabod bod ardaloedd cadwraeth ac adeiladau rhestredig yn chwarae rhan bwysig yn iechyd a chynaliadwyedd ein cymunedau ac felly mae asesiad o unrhyw ddatblygiad megis gosod paneli solar bob amser yn cael ei ystyried fesul achos yn unol â'r datblygiad a chynigion y datblygiad. Mewn llawer o achosion, nid oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer gosod paneli solar ar doeau, er enghraifft ar breswylfeydd y tu mewn neu'r tu allan i'r ardal gadwraeth, cyn belled â bod amodau penodol yn cael eu bodloni. Pan fo angen caniatâd cynllunio, gosodir asesiadau cynllunio o fewn fframwaith deddfwriaeth genedlaethol, megis, Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995, Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 a Pholisi Cynllunio Cymru a gwneir dyfarniad ar ystod eang o faterion yn y broses asesu, gan gynnwys cynaliadwyedd hirdymor ein cymunedau a'u gallu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10.2

10.3

MS TARA-JANE SUTCLIFFE I'R CYNGHORYDD EDWARD THOMAS - YR AELOD CABINET DROS WASANAETHAU TRAFNIDIAETH, GWASTRAFF A SEILWAITH

‘Yn 2021 sicrhaodd y Cyngor £16.7m o gyllid y Gronfa Ffyniant Bro gan Lywodraeth y DU ar gyfer Llwybr Beicio Dyffryn Tywi. Roedd yn ofynnol i'r holl gyllid gael ei wario erbyn 31 Mawrth 2024 neu, mewn amgylchiadau eithriadol, erbyn 31 Mawrth 2025. Ymhellach i hynny, ac o ystyried yr oedi hyd yma, mae'n debyg bod gan y Cyngor senario wedi'i gynllunio rhag ofn na fydd yn bodloni'r dyddiad cau estynedig. Pa gostau a ragwelwyd fyddai gan y Cyngor pe bai'r gwaith heb ei gwblhau ar 31 Mawrth 2025, a sut y cyllidebwyd ar gyfer hyn?’

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

'Yn 2021 sicrhaodd y Cyngor £16.7m o gyllid y Gronfa Ffyniant Bro gan Lywodraeth y DU ar gyfer Llwybr Beicio Dyffryn Tywi. Roedd yn ofynnol i'r holl gyllid gael ei wario erbyn 31 Mawrth 2024 neu, mewn amgylchiadau eithriadol, erbyn 31 Mawrth 2025. Ymhellach i hynny, ac o ystyried yr oedi hyd yma, mae'n debyg bod gan y Cyngor senario wedi'i gynllunio rhag ofn na fydd yn bodloni'r dyddiad cau estynedig. Pa gostau a ragwelwyd fyddai gan y Cyngor pe bai'r gwaith heb ei gwblhau ar 31 Mawrth 2025, a sut y cyllidebwyd ar gyfer hyn?

 

Ymateb gan y Cynghorydd Edward Thomas - yr Aelod Cabinet Dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:-

 

Diolch i chi am eich cwestiwn.

 

Fel y gwyddoch yn barod, mae rhan o Lwybr Beicio Dyffryn Tywi eisoes ar agor, agorodd y llwybr sy'n cysylltu Amgueddfa Caerfyrddin yn Abergwili â Bwlch Bach i Fronun, ac yn ymestyn i Felin-wen, ychydig amser yn ôl. Fel y disgwyliwn o'r llwybr gorffenedig, mae'n cynnig golygfeydd prydferth i feicwyr a cherddwyr, gan gynnwys golygfeydd o gerddi Palas yr Esgob. Mae'n darparu ffordd ddiogel heb draffig i bobl feicio a gweld y Sir.

 

Nawr, mae tair rhan i'ch cwestiwn, 'a fydd yr arian yn cael ei wario erbyn y dyddiad cau gwreiddiol?', 'a ydym wedi ymestyn y dyddiad cau ar gyfer gwariant?', a 'beth allai ddigwydd os na fyddwn yn cadw at ddyddiad cau diwygiedig?'.

 

Felly, i ymdrin â'r ddau gwestiwn cyntaf, a fydd yr arian yn cael ei wario erbyn y dyddiad cau gwreiddiol ac a ydym wedi ymestyn y dyddiad cau ar gyfer gwariant? Fel y soniais yn gynharach, mae rhywfaint o'r llwybr eisoes ar agor ac mae'r gwaith yn parhau, rydym yn gweithio ar ran mewn Nantgaredig ar hyn o bryd. Fodd bynnag, nid yw'r Ymchwiliad Gorchymyn Prynu Gorfodol (CPO) a gynhaliwyd ym mis Tachwedd wedi rhoi penderfyniad eto. Er mwyn hwyluso'r sefyllfa, rydym wedi ysgrifennu at y Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd i bwysleisio'r angen am benderfyniad buan gan y gweinidog fel y gall y Cyngor, os caiff y Gorchymyn ei gymeradwyo, symud ymlaen i'r cam nesaf o gaffael Tir y Gorchymyn, gan sicrhau bod y cynllun yn cael ei gyflawni cyn gynted â phosibl. O gofio hyn, o dan delerau'r cyllid, gwnaed cais am addasiad i brosiect ym mis Gorffennaf y llynedd, ac yn dilyn hynny rhoddwyd estyniad ffurfiol i ni gan ganiatáu i'r arian o'r gronfa Ffyniant Bro fod ar gael tan 31 Mawrth 2025. Mewn gwirionedd, estyniad o flwyddyn.

 

Felly, beth fydd yn digwydd os na fyddwn yn cadw at ddyddiad cau diwygiedig? Wel, rydym yn parhau i fod yn hyderus, hyd yn oed os na all gwaith adeiladu barhau'n llawn tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn, trwy dendro sawl pecyn adeiladu i gyd-redeg, byddwn yn cyflawni'r Grant Ffyniant Bro yn llawn o fewn y dyddiad cau. Fel rhan o'r dyfarniad grant, roedd gofyn i ni ddarparu arian cyfatebol ar gyfer y prosiect sy'n cyfateb i £1.864m, mae'r cyllid hwn eisoes wedi'i ymrwymo i'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10.3

11.

CWESTIYNAU GAN AELODAU:-

Dogfennau ychwanegol:

11.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD ALUN LENNY, YR AELOD CABINET DROS ADNODDAU

Wrth ystyried ymrwymiad y Cyngor ym mis Ionawr 2023 i ail-edrych ar ei berthynas â banc Barclays, a allai’r Aelod Cabinet amlinellu pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran ail-edrych - gan amlinellu telerau'r contract presennol gyda Barclays, p'un a ymgynghorwyd â banciau eraill a beth yw barn y weinyddiaeth hon ar honiadau o wyrddgalchu parhaus o fewn Barclays?’

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Wrth ystyried ymrwymiad y Cyngor ym mis Ionawr 2023 i ail-edrych ar ei berthynas â banc Barclays, a allai’r Aelod Cabinet amlinellu pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran ail-edrych - gan amlinellu telerau'r contract presennol gyda Barclays, p'un a ymgynghorwyd â banciau eraill a beth yw barn y weinyddiaeth hon ar honiadau o wyrddgalchu parhaus o fewn Barclays?"

 

Ymateb gan y Cynghorydd Alun Lenny, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau

 

Ers i'r mater hwn gael ei gyflwyno gerbron y Cyngor, mae'r Awdurdod wedi gwneud gwaith sylweddol wrth ymchwilio i'r opsiynau ar gyfer ei wasanaeth bancio ar gyfer y dyfodol. Mae swyddogion wedi ymgysylltu ag ymgynghorydd bancio arbenigol annibynnol i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y farchnad mewn perthynas â sefydliadau bancio cyfredol a'r gwasanaethau a ddarperir. Maent hefyd wedi ymgysylltu'n uniongyrchol â banc Barclays mewn perthynas â'i bolisïau moesegol, cynaliadwy a llywodraethu neu ESG gan geisio gwybodaeth am gyfeiriad y sefydliad hwnnw yn y dyfodol. Mae swyddogion bellach wedi llunio adroddiad ar yr opsiynau y byddaf yn eu trafod gyda'r Cyfarwyddwr dros yr wythnosau nesaf a byddwn yn penderfynu ar y ffordd fwyaf priodol ymlaen. Hoffwn atgoffa'r Aelodau o bwysigrwydd sefydliad bancio cryf, cynaliadwy a chadarn i'r Cyngor Sir sy'n prosesu miliynau o drafodiadau bob blwyddyn ar gyfer y Cyngor Sir er mwyn sicrhau bod llif arian yn symud rhwng trigolion, contractwyr a busnesau mewn modd effeithlon ac effeithiol. Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn gweithredu mewn 128 o gyfrifon banc ac mae trosiant buddsoddiadau yn unig oddeutu £1.8 biliwn.

 

Felly, mae sefydliad cadarn sy'n gweithredu mewn modd amserol ac effeithlon yn hanfodol i'r Awdurdod er mwyn sicrhau y darperir gwasanaethau effeithiol, yn ogystal â phwysigrwydd egwyddorion ESG y sefydliad hwnnw.

 

Diolch yn fawr.

 

 

11.2

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD DARREN PRICE, ARWEINYDD Y CYNGOR

‘Mae Siambr Fasnach Llanelli wedi cyhoeddi ymgyrch i gydnabod Llanelli fel dinas.

 

Mae'r ymgyrch wedi derbyn ymateb cymysg gyda Syr Douglas Perkins, cyd-sylfaenydd Specsavers, Nia Griffith AS a Chynghorau Tref a Gwledig Llanelli yn cefnogi'r cynnig, ac eto mae rhai wedi codi pryderon.

 

A wnewch chi ymrwymo i Gyngor Sir Caerfyrddin gynnal ymgynghoriad cyhoeddus, mewn partneriaeth â'r Siambr Fasnach, i asesu barn y cyhoedd yngl?n â chyflwyno cais am statws dinas?’

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

"Mae Siambr Fasnach Llanelli wedi cyhoeddi ymgyrch i gydnabod Llanelli fel dinas. Mae'r ymgyrch wedi derbyn ymateb cymysg gyda Syr Douglas Perkins, cyd-sylfaenydd Specsavers, Nia Griffith AS a Chynghorau Tref a Gwledig Llanelli yn cefnogi'r cynnig, ac eto mae rhai wedi codi pryderon. A wnewch chi ymrwymo i Gyngor Sir Caerfyrddin gynnal ymgynghoriad cyhoeddus, mewn partneriaeth â'r Siambr Fasnach, i asesu barn y cyhoedd yngl?n â chyflwyno cais am statws dinas?"

 

Ymateb gan y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd y Cyngor

 

Diolch ichi am y cwestiwn. Fel y gwyddoch efallai, rwyf wedi galw ar Siambr Fasnach Llanelli yn gyhoeddus o'r blaen i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus llawn gyda phobl Llanelli, cyn symud ymlaen ag unrhyw gais ffurfiol am statws dinas. Mae pwysigrwydd yr ymgynghoriad cyhoeddus hwnnw yn fy marn i yn gwbl sylfaenol. Yn wir, rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar bob gwleidydd a busnes i wrando ar farn y bobl cyn mynd ymhellach. Yn fy marn i, yr unig ffordd o wneud hynny'n deg yw penodi sefydliad annibynnol i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol, yn annibynnol ar unrhyw gorff neu unrhyw Gyngor. Yn wir, ar 6 Chwefror 2024, rhoddais restr i'r siambr o sefydliadau posibl a allai wneud y gwaith hwnnw ar ei rhan. Nawr, rwy'n sylwi eich bod wedi dweud yn eich cwestiwn bod y cynghorau tref a gwledig yn cefnogi'r cais am statws dinas, ond fy nealltwriaeth i yw mai dim ond y Cyngor Tref sydd wedi datgan cefnogaeth i'r cais, tra bod y cynghorwyr gwledig dim ond wedi cytuno i anfon cynrychiolydd i lansiad y cais ddiwedd mis Mawrth.

 

Rwy'n deall eich bod wedi eilio'r cynnig yn y Cyngor Tref o blaid y cais, os wyf yn gwbl onest, rwy'n credu bod hynny ychydig yn gynamserol heb ymgynghori â'r cyhoedd.

 

Yn gyntaf, wrth gwrs, mae yna nifer o bethau anhysbys ar hyn o bryd. Felly, yn fy marn i, bydd angen i'r rhai sy'n cynnig y newid nodi'n fanwl cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus ffin arfaethedig y ddinas, er enghraifft, unrhyw fuddion y maent yn eu gweld, ynghyd ag unrhyw gostau. Yna gall y manylion hyn fod yn destun trafodaeth a chraffu cyhoeddus.

 

Yn anffodus, ac rwyf wedi sylwi ar hyn, ceir rhai sylwadau cynnar gan un neu ddau o'r rhai sy'n cefnogi'r cais nad ydynt yn seiliedig ar realiti. Felly, er enghraifft, rwyf wedi clywed rhai yn awgrymu y byddai newid statws y dref i ddinas yn arwain at adran damweiniau ac achosion brys gyflawn yn Llanelli, ac mae'n amlwg nad yw hynny'n wir. Gwyddom fod Byrddau Iechyd yn penderfynu ar fodelau ar gyfer darparu gwasanaethau yn seiliedig ar ffactorau poblogaeth a mynediad hwylus yn lleol. Er enghraifft, gwyddom mai'r safleoedd a ffefrir ar gyfer ysbyty newydd Hywel Dda yw Sanclêr neu Hendy-gwyn ar Daf.

 

Rydym hefyd yn nodi bod y buddsoddiad gofal critigol diweddaraf yn Ne Cymru, sef ysbyty y Faenor yng Ngwent, wedi'i leoli yn agos i dref Cwmbrân yn hytrach na dinas Casnewydd. Felly, mae angen i'r achos dros statws dinas fod yn seiliedig  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 11.2

12.

ETHOL IS-GADEIRYDD Y PWYLLGOR CRAFFU IECHYD A GWASANAETHAU CYMDEITHASOL YN DILYN SWYDD WAG CANOL TYMOR

Yn unol â Rheol 4 (2) o Weithdrefn y Cyngor mae'r enwebiad canlynol wedi'i gyflwyno i'r Prif Weithredwr :-

 

 Y Cynghorydd Fiona Walters - Gr?p Annibynnol

 

Nid oes enwebiadau eraill wedi dod i law.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd Fiona Hughes yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am weddill Blwyddyn y Cyngor 2023-24.

 

 

13.

CYMARADWYO Y NEWIDIADAU CANLYNOL I AELODAETH PWYLLGORAU

Dogfennau ychwanegol:

13.1

MAE'R GRWP LLAFUR WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD NYSIA EVANS I LENWI Y SEDD WAG AR Y PWYLLGOR CRAFFU PERFFORMIAD AC ADNODDAU CORFFORAETHO

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

13.1 PENDERFYNWYD cymeradwyo enwebu'r Cynghorydd Nysia Evans i lenwi sedd wag y Gr?p Llafur ar y Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol.

 

 

14.

COFNODION ER GWYBODAETH YN UNIG:-

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod y cofnodion a amlinellwyd ar yr agenda o dan 14.1 – 14.7 ar gael i gael gwybodaeth ar wefan y Cyngor.