Agenda a Chofnodion

Cyngor Sir - Dydd Mercher, 24ain Ionawr, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224088

Nodyn: Yn wreiddio y 17 Ionawr / Originally 17th January 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr B. Davies, A.D. Harries, M.J.A. Lewis, D. Nicholas ac E. Rees.

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau hefyd gan W. Walters, Prif Weithredwr, J. Morgan, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol a L. Rees-Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith a Swyddog Monitro, nad oeddent yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.  

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynghorydd / Swyddog

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant          

Y Cynghorydd J.P. Hart

6. Adolygiad o ddosbarthiadau pleidleisio a mannau pleidleisio 2023, cynigion drafft

 

Defnyddir y gweithle fel gorsaf bleidleisio.

Y Cynghorydd J.P. Hart

7.1 - Cyfrif Refeniw Tai a Phennu Rhenti Tai 2024/25

Mae aelod agos o'r teulu yn rhentu eiddo yn y Sir.

Y Cynghorydd  H.A.L. Evans

7.1 - Cyfrif Refeniw Tai a Phennu Rhenti Tai 2024/25

Aelod agos o'r teulu yn Brif Weithredwr Cymdeithas Dai.

Y Cynghorydd J.D. James

7.1 - Cyfrif Refeniw Tai a Phennu Rhenti Tai 2024/25

Aelodau o'r teulu yn denantiaid t? cyngor.

Y Cynghorydd P.M. Hughes

7.1 - Cyfrif Refeniw Tai a Phennu Rhenti Tai 2024/25

Mae'n rhentu eiddo.

Y Cynghorydd M. Donoghue

7.1 - Cyfrif Refeniw Tai a Phennu Rhenti Tai 2024/25

Mae gan ei g?r eiddo sy'n cael ei rentu drwy'r Awdurdod.

Y Cynghorydd D. Price*

 

7.1 - Cyfrif Refeniw Tai a Phennu Rhenti Tai 2024/25

Mae ei fam-gu yn denant i'r Cyngor.

Y Cynghorydd E. Skinner*

7.1 - Cyfrif Refeniw Tai a Phennu Rhenti Tai 2024/25

Mae'n dal prydles gyda'r Awdurdod ac yn talu taliadau gwasanaeth.

Y Cynghorydd G.B. Thomas*

7.1 - Cyfrif Refeniw Tai a Phennu Rhenti Tai 2024/25

Mae'n berchen ar d? y mae'n ei osod ar rent drwy'r Awdurdod.

Y Cynghorydd A. Evans*

7.1 - Cyfrif Refeniw Tai a Phennu Rhenti Tai 2024/25

Mae mam ei fodryb yn denant t? cyngor.

Y Cynghorydd D. Thomas*

7.1 - Cyfrif Refeniw Tai a Phennu Rhenti Tai 2024/25

Mae ei wraig yn berchen ar eiddo sy'n cael ei osod ar rent drwy'r Awdurdod.

Y Cynghorydd S.L. Rees*

7.1 - Cyfrif Refeniw Tai a Phennu Rhenti Tai 2024/25

Mewn perthynas â pherthnasau agos.

Y Cynghorydd H.A.L. Evans

7.2 – Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai - Rhaglen Buddsoddiadau Tai Sir Gaerfyrddin

Aelod agos o'r teulu yn Brif Weithredwr Cymdeithas Dai.

Y Cynghorydd J.D. James

7.2 – Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai - Rhaglen Buddsoddiadau Tai Sir Gaerfyrddin

Aelodau o'r teulu yn denantiaid t? cyngor.

Y Cynghorydd E. Skinner*

7.2 – Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai - Rhaglen Buddsoddiadau Tai Sir Gaerfyrddin

Mae'n dal prydles gyda'r Awdurdod.

Y Cynghorydd J.P. Hart

10.1 Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr Glynog Davies ac Alun Lenny

 

Mae ei chwaer yn athrawes yn y Sir.

Y Cynghorydd A. Davies

10.1 Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr Glynog Davies ac Alun Lenny

 

Mae ei wraig yn athrawes a gyflogir gan y Sir.

Y Cynghorydd H.B. Shepardson

10.1 Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr Glynog Davies ac Alun Lenny

Mae ei ferch yn athrawes yn y Sir.

Y Cynghorydd L.D. Evans

10.1 Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr Glynog Davies ac Alun Lenny

 

Mae ei merch yn athrawes yn y Sir.

Y Cynghorydd B.W. Jones

10.1 Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr Glynog Davies ac Alun Lenny

 

Mae ei mab yn bennaeth mewn ysgol yn y Sir.

Y Cynghorydd A.Vaughan Owen

10.1 Rhybudd o  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD (OS OES RHAI)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

·       Myfyriodd y Cadeirydd ar fis prysur iawn iddi hi a'i Chydymaith, a soniodd am ei phresenoldeb yn Nhrochfa'r Tymor ym Mhen-bre a oedd yn llwyddiannus iawn ac a gododd dros £800 i elusen. Diolchodd y Cadeirydd i'r rheiny a fu o gymorth gyda'r ymdrechion i godi arian.

 

·       Ar ran y Cyngor, bu i'r Cadeirydd gydymdeimlo â'r cyn-Gynghorydd Irfon Jones, yn dilyn marwolaeth ei wraig, Jean. 

 

·       Ar ran y Cyngor, bu i'r Cadeirydd gydymdeimlo â'r Cynghorydd Carys Jones, yn dilyn marwolaeth ei thad.

 

·       Ar ran y Cyngor, estynnodd y Cadeirydd gydymdeimlad â theulu'r cyn-Gynghorydd Sir Jim Jones yn dilyn ei farwolaeth yn ddiweddar, a rhoddodd wybod i aelodau'r Cyngor am drefniadau'r angladd.

4.

CYHOEDDIADAU GAN YR ARWEINYDD, AELODAU'R CABINET NEU'R PRIF WEITHREDWR (OS OES RHAI)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Arweinydd y wybodaeth ddiweddaraf am ymateb y Cyngor yn dilyn cyhoeddiad diweddar Tata Steel am eu cynlluniau i dorri 2800 o swyddi ar eu safle ym Mhort Talbot.  

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at ddirywiad graddol diwydiant trwm yng Nghymru, lle mae'r gostyngiad sylweddol yn nifer y gweithwyr dros y degawdau wedi arwain at lefelau is o gynhyrchu i'r pwynt lle mai 2.8 miliwn tunnell o ddur yn unig a gynhyrchwyd yn y DU yn 2022, o gymharu â 40 miliwn tunnell yn yr Almaen a 996 miliwn tunnell yn Tsieina.

 

Pwysleisiodd yr Arweinydd effaith economaidd sylweddol y toriadau swyddi a fyddai'n cael eu teimlo ar draws De Cymru gyfan, a dywedodd wrth y Cyngor bod gwaith wedi dechrau i asesu nifer y bobl sy'n preswylio yn Sir Gaerfyrddin y mae eu swyddi mewn perygl uniongyrchol ym Mhort Talbot, a'r effaith ar y gadwyn gyflenwi yn y sir.  Ymhellach, adroddwyd bod y Prif Weithredwr hefyd wedi bod mewn trafodaethau â Phrif Weithredwyr ar draws y rhanbarth a chynrychiolwyr Bargen Ddinesig Bae Abertawe.  Rhoddwyd sicrwydd i'r Aelodau y byddai'r Cyngor yn cefnogi'r rheiny y byddai hyn yn effeithio arnynt. Fodd bynnag, o ystyried maint cyhoeddiad Tata Steel, mynegwyd mai dim ond ymyrraeth gan Lywodraeth y DU allai newid ei gwrs.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at y sylwadau ysgrifenedig yr oedd wedi eu hanfon at Gadeirydd Tata Steel UK, gan ofyn am sicrwydd am ddyfodol safle Trostre yn Llanelli, sydd ar hyn o bryd yn prosesu dur o Bort Talbot i wneud ei ddeunydd pecynnu ac sy'n cyflogi dros 650 o bobl yn uniongyrchol.  Fel un o gyflogwyr mawr yr ardal ers 70 mlynedd, codwyd pryderon ynghylch dyfodol safle Trostre yn y tymor canolig oherwydd y newidiadau ym Mhort Talbot.  Yn hyn o beth, roedd Tata Steel wedi cadarnhau y byddai'n parhau i gynhyrchu gan ddefnyddio coil wedi'i rolio o slabiau wedi'u mewnforio yn y felin stribed poeth ym Mhort Talbot, neu gyda choil wedi'i fewnforio o weithfeydd Tata Steel yn yr Iseldiroedd a'r India yn ogystal â chyflenwyr strategol dethol eraill.  Amlygodd yr Arweinydd ei bryderon y byddai'r ddibyniaeth bosibl ar ddeunyddiau wedi'u mewnforio yn arwain at gostau teithio ac ansicrwydd ychwanegol, gan beryglu hyfywedd safle Trostre yn y dyfodol.

 

Wrth gloi, dywedodd yr Arweinydd y byddai unrhyw ymateb gan Gadeirydd Tata Steel UK yn cael ei ddosbarthu i'r Aelodau.

5.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR 6 RHAGFYR 2023 pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2023 yn gofnod cywir.

6.

ADOLYGIAD O DDOSBARTHAU PLEIDLEISIO A MANNAU PLEIDLEISIO 2023, CYNIGION DRAFFT pdf eicon PDF 161 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Ar ôl datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, datganodd y Cynghorydd J. P. Hart ei fuddiant unwaith eto ac arhosodd yn y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried ac wrth i benderfyniad gael ei wneud arni.]

 

Yn dilyn cofnod 8 o gyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2023, derbyniodd y Cyngor ganlyniad yr adolygiad cychwynnol o Ddosbarthiadau Pleidleisio a Mannau Pleidleisio 2023 er mwyn ei ystyried.  Roedd yr adolygiad cychwynnol a gynhaliwyd gan y Gwasanaethau Etholiadol yn golygu gwneud asesiad o addasrwydd y dosbarthiadau a'r mannau pleidleisio presennol yn y sir.

 

Mewn diweddariad i'r Cyngor, cafodd yr Aelodau wybod y byddai'r amserlen a nodir yn yr adroddiad yn cael ei diwygio yn dilyn cais gan y cyflenwr print am ddata cardiau pleidleisio sy'n berthnasol i etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ac sydd i'w llwytho i fyny ym mis Mawrth 2024. Byddai hyn felly yn dal y cynigion terfynol yn ôl rhag cael eu hystyried gan y Cyngor. 

 

Roedd yr adroddiad a gyflwynwyd i'w ystyried yn manylu ar y fframwaith cyfreithiol ac roedd yn cynnwys gwybodaeth a chynigion ar weithredu newidiadau i ffiniau seneddol a newidiadau i ddosbarthiadau pleidleisio. Gofynnwyd am gymeradwyaeth y Cyngor i symud ymlaen i gam nesaf yr adolygiad mewn perthynas â chychwyn ymarfer ymgynghori cadarn gyda rhanddeiliaid allweddol ar y cynigion drafft.

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu, mewn ymateb i ymholiad, sicrwydd i'r Cyngor y byddai swyddogion yn mynd i'r afael â'r materion a godwyd yn ymwneud â chamerâu teledu cylch cyfyng byw a darparu strwythurau dros dro yn yr ardaloedd nad oedd ganddynt orsafoedd pleidleisio hyfyw, fel y bo'n briodol.

                          

PENDERFYNWYD:

 

6.1

Cymeradwyo'r cynigion drafft a nodwyd yn yr adroddiad.

 

6.2

Rhoi cymeradwyaeth i symud ymlaen i gam nesaf yr adolygiad mewn perthynas â ymgynghoriad ar y cynigion drafft.

 

7.

YSTYRIED ARGYMHELLION Y CABINET MEWN PERTHYNAS Â'R EITEMAU CANLYNOL

Dogfennau ychwanegol:

7.1

CYFRIF REFENIW TAI A PHENNU RHENTI TAI 2024/25 pdf eicon PDF 146 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER: A hwythau wedi datgan buddiant yn yr eitem hon, gadawodd y Cynghorwyr M. Donoghue, A. Evans, H.A.L. Evans, J.P. Hart, P.M. Hughes, J.D. James, D. Price, S.L. Rees, E. Skinner, D. Thomas a G.B. Thomas y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei hystyried ac i benderfyniad gael ei wneud arni.]

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2024 [gweler cofnod 9], wedi adolygu'r cynigion Cyfrif Refeniw Tai a Phennu Rhent Tai ar gyfer 2024/25cyn iddynt gael eu hystyried gan y Cyngor.  Roedd yr adroddiad, a baratowyd gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, ar y cyd â swyddogion o'r Adran Cymunedau, yn dwyn ynghyd y cynigion diweddaraf ar gyfer Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai am 2024/25 i 2026/27 ac yn manylu ar gynnydd arfaethedig i renti tai ar gyfer 2024/25.

 

Cyfeiriwyd at Atodiad D yr adroddiad a oedd yn nodi barn y Pwyllgor Craffu Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio ar ôl ystyried a chymeradwyo'r cynigion yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2023, fel rhan o'r broses ymgynghori ar y gyllideb.

 

Wrth gyflwyno'r adroddiad, mynegodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau yr heriau a wynebir gan yr Awdurdod wrth geisio cael y cydbwysedd cywir rhwng pennu'r rhent yn unol â pholisi presennol y Llywodraeth ar lefel sy'n fforddiadwy i denantiaid ar un llaw, gan gyflawni uchelgeisiau'r Awdurdod ar gyfer tai ar y llaw arall.  Ymhellach, pwysleisiwyd pe bai'r Cyngor yn mabwysiadu argymhellion y Cabinet, y byddai hyn yn golygu cynnydd cyfartalog o 6.5% i renti tai, a oedd ychydig yn is na chap Llywodraeth Cymru o 6.7%.  Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau y byddai'r cynnydd yn cyfateb i rent tai cyfartalog o £105.90 yr wythnos i'w tenantiaid ac yn gyfystyr ag un o'r lefelau rhent isaf allan o'r 11 Awdurdod sy'n cadw stoc yng Nghymru, ac yn sylweddol is na rhenti tai'r sector preifat. 

 

Wrth gloi, adroddodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod y cynigion yn ceisio cael cydbwysedd rhwng y pwysau ar aelwydydd yn ystod argyfwng costau byw a'r angen i barhau â Rhaglen Datblygu Tai yr Awdurdod, gan sicrhau bod eiddo'n parhau i gael eu cynnal i Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy(CHS+).  

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Cabinet:

 

7.1.1

cynyddu'r rhent tai cyfartalog gan 6.5% (£6.47) fesul preswylfa yr wythnos oddi mewn i baramedrau Polisi Rhenti Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru (gan gynnwys y camau cynnydd ar gyfer tenantiaid sy'n is na'r rhenti targed)

            - bod cynnydd o 6.39% yn digwydd i renti eiddo sydd ar y rhenti targed

- bod eiddo lle mae'r rhent yn is na'r rhent targedyn cynyddu gan 6.39% yn ogystal â'r cynnydd mwyaf posibl o £1.00

- caiff y rhenti hynny sy'n uwch na'r targed eu rhewi hyd nes eu bod yn unol â'r  targed

a fydd yn creuCynllun Busnes cynaliadwy, yn cynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (CHS+) ac yn gwireddu Cynllun Cyflawni'r Awdurdod ar gyfer Adfywio a Datblygu Tai;

 

7.1.2

parhau â'r camau cynnydd mwyaf  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.1

7.2

CYNLLUN BUSNES 2024-27 Y CYFRIF REFENIW TAI RHAGLEN BUDDSODDIADAU TAI SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 140 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER:

·       Ar ôl datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, nid oedd y Cynghorydd H.A.L. Evans yn bresennol tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried ac wrth i benderfyniad gael ei wneud arni.

·       A hwythau wedi datgan buddiant yn yr eitem hon, arhosodd y Cynghorwyr J. D. James ac E. Skinner yn y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried ac wrth i benderfyniad gael ei wneud arni.]

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2024 [gweler cofnod 8], wedi ystyried Cynllun Busnes 2024-27 y Cyfrif Refeniw Tai - Rhaglen Buddsoddiadau Tai Sir Gaerfyrddin a oedd yn esbonio gweledigaeth a manylion Rhaglen Buddsoddiadau Tai'r Cyngor dros y tair blynedd nesaf ac a oedd yn cynnwys cynlluniau gwella'r stoc dai, y rhaglen adeiladu newydd a darparu mwy o dai fforddiadwy, ynghyd â datblygu safonau newydd i fodloni egwyddorion carbon sero net yr Awdurdod. 

 

Rhoddodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Gartrefi grynodeb o'r pum thema allweddol a nodwyd yn y cynllun busnes a rhoddodd drosolwg o'r blaenoriaethau a fyddai'n diffinio'r cyfeiriad y byddai'r Awdurdod yn mynd iddo dros y tair blynedd nesaf, fel a ganlyn:

 

·       Darparu cynnig rheoli ystadau a thenantiaethau newydd i sicrhau bod swyddogion tai yn fwy gweladwy a hygyrch ar ystadau'r Awdurdod. Byddai'r cynnig hefyd yn ceisio cael cydbwysedd rhwng cefnogaeth i denantiaid y Cyngor a gweithgarwch gorfodi lle bo hynny'n briodol. Byddai hyn hefyd yn cyd-fynd â gweithredu cynllun peilot "tasgmon" newydd ar ystadau sydd â blaenoriaeth;

 

·       Parhau i gadw nifer yr eiddo gwag yn isel a lleihau nifer yr atgyweiriadau o ddydd i ddydd sy'n aros i gael eu gwneud trwy ddarparu gwell gwasanaeth atgyweirio o ddydd i ddydd, a chywiro'r rhaniad presennol rhwng contractwyr mewnol ac allanol;

 

·       Parhau i fuddsoddi mewn cartrefi i wneud yn si?r eu bod yn rhatach i'w rhedeg ar gyfer tenantiaid y Cyngor gyda'r nodau hirdymor o ddatgarboneiddio cartrefi;

 

·       Caffael mwy o dir yn yr ardaloedd lle mae'r angen mwyaf, gan gynnwys safleoedd mwy i'w defnyddio'n unig ar gyfer tai Cyngor i ddiwallu'r angen digynsail am gartrefi;

 

·       Buddsoddiad pellach mewn tai o fath arbenigol (e.e. anabledd dysgu, tai â chymorth i bobl h?n a phobl ifanc) i sicrhau bod anghenion yn cael eu diwallu yn y ffordd fwyaf priodol. Byddai'r buddsoddiad hwn hefyd yn sicrhau symud i ffwrdd o leoliadau drud ac amhriodol y tu allan i'r sir ar gyfer rhai grwpiau o gleientiaid; a

 

·       Caffael fframwaith mân waith newydd ar gyfer gwaith atgyweirio o ddydd i ddydd a phrosiectau gwella ehangach i sicrhau ymateb cyflymach ac i gefnogi contractwyr lleol llai ledled y Sir.

 

Tynnodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Gartrefi at y ffaith y byddai'r incwm a dderbynnir o renti tenantiaid ac o ffynonellau cyllid eraill dros y tair blynedd nesaf yn galluogi'r Awdurdod i ddatblygu rhaglen gyfalaf o dros £110m a fyddai'n cael effaith gadarnhaol ar denantiaid ac ymdrechion y presennol a'r dyfodol. Wrth gloi, estynnodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.2

7.3

CYNLLUN GOSTYNGIADAU'R DRETH GYNGOR 2024/25 pdf eicon PDF 153 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2024 [gweler cofnod 12], wedi ystyried adroddiad a oedd yn amlinellu gwybodaeth mewn perthynas â Chynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2013/14. Er ei fod yn gynllun Cymru gyfan, roedd yn ofynnol yn ôl y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig fod Cynghorau unigol yn mabwysiadu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yn ffurfiol erbyn 31 Ionawr bob blwyddyn. Nodwyd manylion yn ymwneud â'r ardaloedd cyfyngedig o ddisgresiwn lleol a'r polisi a fabwysiadwyd gan y Cyngor mewn perthynas â'r disgresiynau hynny yn yr adroddiad. 

 

Diben yr adroddiad oedd gofyn am fabwysiadu'n ffurfiol gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ar gyfer 2024/25. Nodwyd bod rheoliadau'r cynllun, yn dilyn cyfarfod y Cabinet, wedi'u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a'u bod wedi dod i rym ar 19 Ionawr 2024.

 

Wrth gyflwyno'r adroddiad, cyfeiriodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau at ddau gywiriad i'w gwneud i adran 2.4 o'r adroddiad lle eglurwyd bod y rheoliadau wedi'u gosod gan y Senedd ar 5 Rhagfyr 2023.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Cabinet:

 

7.3.1

“bod y cynllun safonol Cymru Gyfan ar gyfer Gostyngiadau'r Dreth Gyngor y darperir ar ei gyfer yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 yn cael ei fabwysiadu'n ffurfiol;

 

7.3.2

gweithredu'r ffigurau uwchraddio blynyddol (a ddefnyddir wrth gyfrifo hawl) a'r diwygiadau technegol eraill sydd wedi'u cynnwys yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Diwygio) (Cymru) 2024, a fydd yn dod i rym ar 19 Ionawr 2024 a bod y Rheoliadau hyn yn berthnasol mewn perthynas â chynllun gostyngiadau'r dreth gyngor a wnaed ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2024;

 

7.3

parhau i arfer ei ddisgresiwn o ran elfennau disgresiynol cyfyngedig y cynllun rhagnodedig, fel y'u hamlinellir yn y Crynodeb Gweithredol i'r adroddiad”.

 

8.

YSTYRIED ARGYMHELLIAD Y PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD IMEWN PERTHYNAS Â'R EITEM CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

8.1

POLISI CYFARFODYDD AML-LEOLIAD pdf eicon PDF 89 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr2023 [gweler cofnod 5], wedi ystyried adroddiad a oedd yn atodi'r newidiadau arfaethedig i Bolisi Cyfarfodydd Aml-leoliad yr Awdurdod. 

 

Cafodd Polisi Cyfarfodydd Aml-leoliad yr Awdurdod ei gymeradwyo gan y Cyngor ar 12 Hydref 2022 (gweler cofnod 4.1) gan ystyried y canllawiau statudol dros dro a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.   Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei chanllawiau terfynol ar 7Gorffennaf 2023 ac o ganlyniad ystyriwyd ei bod yn briodol adolygu'r polisi yn seiliedig ar brofiad yr Awdurdod o gyfarfodydd aml-leoliad hyd yma.

 

Roedd y newidiadau arfaethedig i'r polisi, yn seiliedig ar adborth gan Gadeiryddion Pwyllgorau, yn cynnwys mwy o ganllawiau ynghylch defnyddio camerâu ar gyfer pobl sy'n ymuno o bell er mwyn cynnal uniondeb proses gwneud penderfyniadau'r Awdurdod a lleihau'r cyfle ar gyfer her gyfreithiol yn hyn o beth.  Roedd mân welliannau mewn ymateb i lacio cyfyngiadau sy'n gysylltiedig â Covid a hefyd cynigiwyd methodoleg o ran pleidleisio.

 

Mynegwyd pryder ynghylch yr effaith sy'n deillio o gyflwyno'r ddeddfwriaeth aml-leoliad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.  Eglurwyd nad oedd gan swyddogion yr Awdurdod unrhyw ddylanwad dros y dyfeisiau electronig a ddefnyddir gan aelodau o'r cyhoedd a oedd yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd aml-leoliad, ac nad yw'r materion technegol a brofir gan aelodau'r cyhoedd yn aml, gan gynnwys problemau cysylltedd a nam ar y sain, yn cael eu hystyried yn rhai sy'n ffafriol i gynnal cyfarfodydd yn ddidrafferth.  Ar ben hynny, nid oedd rhai aelodau o'r cyhoedd yn gallu defnyddio'r cyfleusterau cyfieithu ar y pryd a ddarperid gan yr Awdurdod, a oedd yn tresmasu ar hawliau'r rheiny oedd yn bresennol i ddefnyddio'r Gymraeg yn ystod rhai cyfarfodydd.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd:

 

bod y Polisi Cyfarfodydd Aml-leoliad diwygiedig yn cael ei gymeradwyo.”

9.

DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR 11 RHAGFYR 2023 pdf eicon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 11  Rhagfyr 2023.

10.

YSTYRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

10.1

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORWYR GLYNOG DAVIES AC ALUN LENNY

“CODIAD CYFLOG ATHRAWON

 

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn galw ar Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, i sicrhau bod y codiad cyflog i athrawon ar gyfer Medi 2022 a Medi 2023, sef 1.5% ym mhob blwyddyn (sy'n cyfateb i £3m i'r cyngor hwn), yn cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Byddai hyn yn osgoi rhoi pwysau ychwanegol ar Awdurdodau Lleol a'r effaith ganlyniadol ar gyllidebau ysgolion, sydd eisoes yn dynn iawn.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: A hwythau wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, datganodd y Cynghorwyr A. Davies, Ll.M. Davies, L.D. Evans, J. P. Hart, B.W. Jones, H.B. Shepardson, E. Skinner, F. Walters ac A.Vaughan Owen eu buddiannau unwaith eto a gwnaethant aros yn y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried ac wrth i benderfyniad gael ei wneud arni.]

 

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr Glynog Davies ac Alun Lenny:-

 

“CODIAD CYFLOG ATHRAWON

 

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn galw ar Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, i sicrhau bod y codiad cyflog i athrawon ar gyfer Medi 2022 a Medi 2023, o 1.5% ym mhob blwyddyn (sy'n cyfateb i £3m i'r cyngor hwn), yn cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Byddai hyn yn osgoi rhoi pwysau ychwanegol ar Awdurdodau Lleol a'r effaith o ganlyniad ar gyllidebau ysgolion, sydd eisoes yn hynod dynn.”

 

Eiliwyd y cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigwyr ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o sylwadau gyda golwg ar y Cynnig.

 

PENDERFYNODD y Cyngor gefnogi'r Cynnig.

11.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd. 

12.

CWESTIYNAU GAN YR AELODAU (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan yr Aelodau. 

13.

COFNODION ER GWYBODAETH (AR GAEL AR Y WEFAN)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod y cofnodion a amlinellir ar yr agenda o dan 13.1 – 13.13 ar gael er gwybodaeth ar wefan y Cyngor.