Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr D.M. Cundy, S.A. Curry, B. Davies, M. Donoghue, N. Evans, R.E. Evans, S. Godfrey-Coles, T.M. Higgins, P. Hughes, R. James, B.W. Jones, D. Jones, D. Nicholas, B.D.J. Phillips, E. Rees, M. Thomas a J. Williams.
|
|||||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||||||||||||||
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD (OS OES RHAI) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd y Cadeirydd at farwolaeth ddiweddar y cyn-Gynghorydd Joy Williams ac ar ran y Cyngor estynnodd ei chydymdeimlad diffuant i'w theulu a'i ffrindiau.
Dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi mynychu nifer o ddigwyddiadau ers y Cyngor diwethaf, gan gynnwys digwyddiad Diwrnod y Rhuban Gwyn yn Rhydaman, ailagor Amgueddfa Parc Howard a adnewyddwyd yn ddiweddar ac agor y cyfleusterau chwaraeon gwell yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Aman.
Ar ôl i'r Cadeirydd estyn gwahoddiad iddynt wneud, bu i'r Cynghorwyr canlynol annerch y Cyngor:
- Llongyfarchodd y Cynghorydd Hazel Evans wirfoddolwyr Drws i'r Dyffryn, sy'n gwneud y gwaith garddio ym Mharc yr Esgob yn yr amgueddfa yn Abergwili. Yn ddiweddar, derbyniodd y gwirfoddolwyr Wobr y Brenin am wasanaethau gwirfoddol.
- Llongyfarchodd y Cynghorydd Jane Tremlett Dîm Llesiant Delta a oedd wedi ennill pedair o blith pum gwobr yng Ngwobrau Gofal Cenedlaethol Cymru, a'r Tîm Gofal Cartref a oedd hefyd wedi ennill gwobr.
|
|||||||||||||||||||
CYHOEDDIADAU GAN YR ARWEINYDD, AELODAU'R CABINET NEU'R PRIF WEITHREDWR (OS OES RHAI) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Cyngor y ddau gyhoeddiad canlynol gan Aelodau Cabinet:
Rhoddodd y Cynghorydd Ann Davies, yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio, y wybodaeth ddiweddaraf i'r Cyngor am ddau fater.
Yn dilyn y tirlithriad ar yr hen domen lo yn Tylorstown yn ôl ym mis Chwefror 2020, cynhaliodd Llywodraeth Cymru adolygiad ac archwiliad o bob un o'r 2500 o domenni glo segur yng Nghymru, gan gynnwys 170 yn Sir Gaerfyrddin. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio fod 5 categori Awdurdod Glo wedi'u pennu gan y tasglu diogelwch tomenni glo a bod un safle preifat yr aseswyd ei fod yng Nghategori C ym Mhontaman, Rhydaman a fyddai'n destun arolygiadau blynyddol i sicrhau ei ddiogelwch parhaus.
Yna aeth yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio ymlaen i rannu'r newyddion bod yr Awdurdod wedi derbyn gwobr efydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn ddiweddar i gydnabod ymrwymiad y Sir i greu system fwyd gynaliadwy, gynhwysol a gwydn ledled y Sir. Estynnodd ei diolch a'i llongyfarchiadau i Alex Cook ar arwain y gwaith hwn a hefyd i Augusta Lewis.
Yn dilyn Datganiad yr Hydref a wnaed gan y Canghellor Jeremy Hunt, darparodd y Cynghorydd Alun Lenny, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, grynodeb o sefyllfa refeniw'r Cyngor. Dywedodd fod y Canghellor, fel y rhagwelwyd, wedi dewis peidio â defnyddio rhywfaint o'r cyllid o £25 biliwn i helpu gwasanaethau cyhoeddus er gwaethaf y pwysau ariannol ar wasanaethau megis addysg a gofal cymdeithasol. Byddai hyn yn arwain at leihad gwirioneddol mewn cyllid o Lundain i Lywodraeth Cymru ac o Gaerdydd i gynghorau lleol. Ychwanegodd y Cynghorydd Lenny y byddai'r Awdurdod yn cael gwybod faint fyddai setliad dros dro y Grant Cynnal Refeniw Blynyddol (RSG) gan Lywodraeth Cymru mewn pythefnos. Mae'r grant hwn yn cyfateb i oddeutu 75% o'r incwm tuag at gynnal gwasanaethau o ddydd i ddydd ac mae pob 1% yn cyfateb i £3m.
Dywedodd y Cynghorydd Lenny y byddai'r Cabinet yn cwrdd ar 22 Rhagfyr, gyda'r bwriad o gynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn syth ar ôl hynny ac y byddai cyfres o seminarau yn cael eu cynnal gyda'r aelodau, yn ogystal â chyfarfod Golwg Sir Gâr gyda disgyblion ysgolion uwchradd. Dywedwyd bod bwlch yn y gyllideb o £22m ar hyn o bryd cyn mesurau effeithlonrwydd a chynnydd yn y Dreth Gyngor.
Yn ystod cyfarfod Cymru gyfan o uwch-swyddogion ac arweinwyr cynghorau yng Nghaerdydd nodwyd bod y cynnydd yn y dreth gyngor sy'n cael ei ystyried ar hyn o bryd gan gynghorau unigol Cymru yn amrywio o 5% i dros 10% ond y dylai'r cynnydd yn y dreth gyngor yn Sir Gaerfyrddin fod ym mhen isaf yr ystod honno.
|
|||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|||||||||||||||||||
YSTYRIED ARGYMHELLION Y CABINET MEWN PERTHYNAS Â'R EITEMAU CANLYNOL Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFARWYDDWR STATUDOL Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2022/23 PDF 126 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Sylwer: Wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ailadroddodd y Cynghorwyr K. Madge, M. Palfreman, B.A.L. Roberts, a P.T. Warlow eu datganiad ac arhosodd y cynghorwyr hyn yn y cyfarfod wrth i'r eitem gael ei hystyried].
Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 30 Hydref, 2023 (gweler cofnod 9), wedi ystyried Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch perfformiad gwasanaethau gofal cymdeithasol yn y sir ar gyfer y flwyddyn 2022/23. Roedd yr adroddiad yn rhoi trosolwg o'r perfformiad yn ystod 2022/23, ynghyd ag asesiad ynghylch darpariaeth yn y dyfodol a'r blaenoriaethau strategol ar gyfer 2024/25.
Roedd yn ofynnol yn statudol i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol adrodd yn flynyddol wrth y Cyngor ar berfformiad yr ystod gyfan o wasanaethau cymdeithasol a'r modd y cânt eu darparu, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer eu gwella. Nodwyd bod y Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo'r adroddiad yn ei gyfarfod ar 4 Hydref 2023.
Diolchodd aelodau'r Cyngor i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol am ei ymroddiad i'r gwasanaeth a'i waith caled wrth ddarparu adroddiad cynhwysfawr a thalwyd teyrnged i'r staff sy'n gweithio o fewn y portffolio.
Ymatebodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd yn unol â hynny i'r ymholiadau a godwyd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Cabinet:
"bod Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Perfformiad y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin, 2022/23 yn cael ei gymeradwyo."
|
|||||||||||||||||||
DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR Y Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gan gyfeirio at Gofnod 12, o Gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 30 Hydref, 2023 ynghylch y Rhybudd o Gynnig a Gyfeiriwyd gan y Cyngor (13 Medi 2023) mewn perthynas â Gr?p Cymorth Iselder Shadows, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod staff yn parhau i weithio gyda Shadows a'u bod wedi ysgrifennu at y Bwrdd Iechyd a oedd wedi dweud ei fod yn cynnal adolygiad o'r holl wasanaethau iechyd meddwl ar draws y Sir ar hyn o bryd.
PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 30 Hydref, 2023.
|
|||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd, 2023.
|
|||||||||||||||||||
YSTYRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:- Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||||||||
RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORWYR JOHN JAMES A ANN DAVIES PDF 51 KB “Mae'r Cyngor hwn yn condemnio torfladdiad erchyll pobl ddiniwed yn Israel ar 7 Hydref. Mae'r Cyngor hefyd wedi'i frawychu gan faint a chanlyniadau'r dial milwrol parhaus yn Gaza. Rydym felly yn galw ar y gymuned ryngwladol i wneud y canlynol:
i. Uno i ddarparu'r ymateb dyngarol sydd ei angen i ddiogelu bywydau diniwed sydd wedi’u dinistrio gan y gwrthdaro hwn, a sicrhau bod mynediad at fwyd, d?r, meddyginiaethau a'r ffynhonnell b?er, sydd eu hangen ar frys.
ii. Ceisio cadoediad ar unwaith i ddod â'r dioddefaint dynol presennol i ben.
iii. Cefnogi'r alwad gan gymunedau ledled y byd i'r HOLL wystlon gael eu rhyddhau a'u dychwelyd adref at eu teuluoedd.
iv. Gweithio gyda chynrychiolwyr Israel a Phalesteina i ddod â'r gwrthdaro presennol i ben a thrafod setliad heddwch parhaol sy'n darparu diogelwch a dyfodol tymor hir heddychlon i'r ardal hon, yn seiliedig ar yr egwyddor o ddatrysiad dwy wladwriaeth.’’
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr John James ac Ann Davies:-
Mae'r Cyngor hwn yn condemnio torfladdiad erchyll pobl ddiniwed yn Israel ar 7 Hydref. Mae'r Cyngor hefyd wedi'i frawychu gan faint a chanlyniadau'r dial milwrol parhaus yn Gaza. Rydym felly yn galw ar y gymuned ryngwladol i wneud y canlynol:
i. Uno i ddarparu'r ymateb dyngarol sydd ei angen i ddiogelu bywydau diniwed sydd wedi'u dinistrio gan y gwrthdaro hwn, a sicrhau bod mynediad at fwyd, d?r, meddyginiaethau a'r ffynhonnell b?er, sydd eu hangen ar frys. ii. Ceisio cadoediad ar unwaith i ddod â'r dioddefaint dynol presennol i ben. iii. Cefnogi'r alwad gan gymunedau ledled y byd i'r HOLL wystlon gael eu rhyddhau a'u dychwelyd adref at eu teuluoedd. iv. Gweithio gyda chynrychiolwyr Israel a Phalesteina i ddod â'r gwrthdaro presennol i ben a thrafod setliad heddwch parhaol sy'n darparu diogelwch a dyfodol tymor hir heddychlon i'r ardal hon, yn seiliedig ar yr egwyddor o ddatrysiad dwy wladwriaeth.
Eiliwyd y cynnig.
Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.
Cynigiwyd y gwelliant canlynol i'r cynnig gan y Cynghorydd Gary Jones a chafodd ei eilio:
v. "Ailddatgan hawl Israel a Phalesteina i fodoli, a chydnabod bod gwrthod hawl Israel i fodoli yn fath o wrthsemitiaeth, fel y gwnaed yn glir yn niffiniad Cynghrair Ryngwladol Cofio’r Holocost o wrthsemitiaeth. Mae cydnabod hawl Israel a Phalesteina i fodoli yn gam hanfodol tuag at heddwch trwy ddatrysiad dwy wladwriaeth”
Rhoddwyd cyfle i Gynigydd ac Eilydd y Gwelliant siarad o'i blaid a rhoesant amlinelliad o'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Gwelliant.
Cyn agor y drafodaeth ynghylch y gwelliant, cadarnhaodd cynigydd ac eilydd y cynnig eu bod yn hapus i dderbyn y gwelliant fel y'i cyflwynwyd, a chytunwyd y dylid cyflwyno'r cynnig terfynol i'w ystyried.
Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r cynnig terfynol.
Ar ôl pleidleisio,
PENDERFYNWYD cefnogi'r Cynnig Terfynol.
|
|||||||||||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|||||||||||||||||||
CWESTIYNAU GAN YR AELODAU:- Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||||||||
CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD HEFIN JONES I'R CYNGHORYDD ALUN LENNY, YR AELOD CABINET DROS ADNODDAU “Wrth nodi'r meini prawf tebygol o ran cael mynediad i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn y dyfodol, cadarnhaodd gweinidogion Llywodraeth Cymru, a'r Prif Weinidog ei hun, yn ddiweddar y byddai'n debygol y byddai angen i 10% o dir mentrau ffermio sy'n cael ei ffermio fod o dan orchudd coed, a 10% arall fod fel tir cynefin. Yn ogystal, mae posibilrwydd cryf y bydd angen i fusnesau ffermio weithredu ystod o ddulliau atafaelu carbon ar dir y maent yn ei reoli i liniaru eu hallyriadau eu hunain, a/neu geisio ymgymryd â gwaith rheoli cynefinoedd yn unol â chynlluniau cymorth i sicrhau cynaliadwyedd. Hefyd mae gan awdurdodau lleol uchelgeisiau mewn perthynas â choedwigo, ynghyd â dyheadau a thargedau ar gyfer lleihau a lliniaru allyriadau.
A wnaiff yr aelod cabinet dros adnoddau roi sicrwydd NA FYDD Cyngor Sir Caerfyrddin yn ceisio defnyddio tir sy'n ffurfio rhan o ddaliadau ffermio'r Cyngor ar gyfer prosiectau coedwigo i gyflawni ei uchelgeisiau ei hun neu i gyflawni ei dargedau ei hun, a sicrhau bod mentrau ffermio a chynhyrchu cynradd sy'n cael eu rhedeg gan denantiaid ar ystadau gwledig y cyngor yn cael y cyfle gorau posibl i fod yn gynaliadwy ac yn parhau i wneud cyfraniad gwerthfawr i'n cymunedau gwledig yn y sir hon?” Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Sylwer: Gan iddi ddatgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ailddatganodd y Cynghorydd C. A. Davies ei buddiant a gadawodd y cyfarfod yn ystod y trafodaethau. ]
Cwestiwn gan y Cynghorydd Jones:
"Wrth nodi'r meini prawf tebygol o ran cael mynediad i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn y dyfodol, cadarnhaodd gweinidogion Llywodraeth Cymru, a'r Prif Weinidog ei hun, yn ddiweddar y byddai'n debygol y byddai angen i 10% o dir mentrau ffermio sy'n cael ei ffermio fod o dan orchudd coed, a 10% arall fod fel tir cynefin. Yn ogystal, mae posibilrwydd cryf y bydd angen i fusnesau ffermio weithredu ystod o ddulliau atafaelu carbon ar dir y maent yn ei reoli i liniaru eu hallyriadau eu hunain, a/neu geisio ymgymryd â gwaith rheoli cynefinoedd yn unol â chynlluniau cymorth i sicrhau cynaliadwyedd.
Hefyd mae gan awdurdodau lleol uchelgeisiau mewn perthynas â choedwigo, ynghyd â dyheadau a thargedau ar gyfer lleihau a lliniaru allyriadau.
A wnaiff yr Aelod Cabinet dros Adnoddau roi sicrwydd NA FYDD Cyngor Sir Caerfyrddin yn ceisio defnyddio tir sy'n ffurfio rhan o ddaliadau ffermio'r Cyngor ar gyfer prosiectau coedwigo i gyflawni ei uchelgeisiau ei hun neu i gyflawni ei dargedau ei hun, a sicrhau bod mentrau ffermio a chynhyrchu cynradd sy'n cael eu rhedeg gan denantiaid ar ystadau gwledig y cyngor yn cael y cyfle gorau posibl i fod yn gynaliadwy ac yn parhau i wneud cyfraniad gwerthfawr i'n cymunedau gwledig yn y sir hon?”
Ymateb gan y Cynghorydd Alun Lenny - yr Aelod Cabinet dros Adnoddau:-
Diolch Gadeirydd a diolch am y cwestiwn, Hefin. Yn wahanol i'r mater blaenorol, mae hwn yn fater y mae gennym reolaeth lwyr drosto. I roi cyd-destun ac i atgoffa aelodau, mae'r Cyngor yn berchen ar bron i 2,500 erw o dir ar 23 o ffermydd - a hynny ers dros ganrif. Yn y gorffennol bu tueddiad i osod ffermydd i denantiaid newydd wrth iddynt ddod yn wag, heb fawr o ystyriaeth i ddefnydd y tir.
Nawr, cefais fy magu ar fferm fechan, gan weithio'r tir nes fy mod i'n 24 oed - yn ôl yn oes y bêls bach, ond mae amaethyddiaeth wedi newid yn sylweddol ers hynny ac yn dal i wneud hynny. Felly, mae'r cyngor bellach yn trafod defnydd pob fferm yn unigol wrth i'r denantiaeth ddod i ben, gan ymgynghori ac ystyried sut y gallwn fod yn gynaliadwy i'r tenant newydd a sut y gallwn fod o fudd i'r gymuned wledig. Mae un, er enghraifft, wedi dechrau prosiect peilot gyda phartneriaid eraill i dyfu llysiau a ffrwythau - fel rydym wedi'i glywed yn gynharach y bore yma.
Rydym hefyd am greu coetir ar wahanol dir sy'n eiddo i'r Cyngor i gyrraedd y targed o liniaru'r effaith y mae carbon yn ei chael ar yr amgylchedd. Oherwydd yr hyn sydd yn y fantol, wrth gwrs, yw dyfodol dynoliaeth. Mewn araith bwerus yn COP28 rhybuddiodd y Brenin Charles hyn: ‘’The world is dreadfully far off track on addressing climate change and unless we rapidly repair and restore ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10.1 |
|||||||||||||||||||
CYMARADWYO Y NEWIDIADAU CANLYNOL I AELODAETH PWYLLGORAU Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||||||||
MAE'R AELODAU ANNIBYNNOL HEB GYSYLLTIAD WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD JOHN JAMES I GYMRYD EU SEDD WAG AR Y PWYLLGOR CRAFFU LLE, CYNALIADWYEDD A NEWID HINSAWDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo enwebiad yr Aelodau heb Gysylltiad Pleidiol i'r Cynghorydd John James lenwi eu sedd wag ar y Pwyllgor Craffu Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd.
|
|||||||||||||||||||
COFNODION ER GWYBODAETH (AR GAEL AR Y WEFAN) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd fod y cofnodion a amlinellir ar yr agenda dan 12.1 – 12.8 ar gael er gwybodaeth ar wefan y Cyngor.
|
|||||||||||||||||||
NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|||||||||||||||||||
CWM ENVIRONMENTAL LTD CYFLEUSTER ADFER ADNODDAU (RRF) - COSTAU AILADEILADU A CHAIS AM FENTHYCIAD Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 13 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r busnes a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'i gystadleuwyr masnachol.
Bu'r Cyngor yn ystyried adroddiad manwl ynghylch trefnu benthyciad i CWM Environmental Ltd er mwyn galluogi'r cwmni i ailadeiladu a chyfarparu Cyfleuster Adfer Adnoddau yn dilyn y tân ar y safle ar 24 Ebrill 2021.
PENDERFYNWYD:
|