Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L. Bowen, A. Davies, B. Davies a P. Hughes. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD (OS OES RHAI) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: · Dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi mynychu lansiad Apêl y Pabi yn Swyddfeydd y Cyngor yng Nghaerfyrddin. · Amlinellodd y Cadeirydd gefnogaeth y Cyngor i Ddiwrnod y Rhuban Gwyn a fyddai'n cael ei gynnal ar 25 Tachwedd 2023 i godi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig a gwasanaethau lleol sydd ar gael i helpu dioddefwyr a goroeswyr. · Ar ôl i'r Cadeirydd estyn gwahoddiad iddynt wneud, bu i'r Cynghorwyr canlynol annerch y Cyngor:-
- Cododd y Cynghorydd Linda Evans ymwybyddiaeth o Apêl Teganau Nadolig eleni gan bwysleisio y byddai costau byw cynyddol yn effeithio ar lawer o blant a theuluoedd eleni ac felly anogodd yr aelodau i gyfrannu at yr Apêl a chodi ymwybyddiaeth ohoni yn eu wardiau.
- Dywedodd y Cynghorydd John Jenkins mai cyfarfod y Cyngor y dyddiad hwnnw fyddai ei gyfarfod olaf gan ei fod wedi penderfynu ymddiswyddo fel Cynghorydd yng Nghyngor Sir Caerfyrddin oherwydd ymrwymiadau teuluol a gwaith. Bu'n myfyrio ar ei gyfnod fel cynghorydd sir ers cael ei ethol i Ward Elli yn Llanelli yn 2004. Mynegodd ei werthfawrogiad i aelodau etholedig a swyddogion y Cyngor am eu harweiniad a'u cymorth yn ystod y cyfnod hwnnw gan estyn ei ddymuniadau gorau at y dyfodol hefyd. Soniodd hefyd am yr anrhydedd o gael ei ethol gan bobl ward Elli i'w cynrychioli ar y Cyngor. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYHOEDDIADAU GAN YR ARWEINYDD, AELODAU'R CABINET NEU'R PRIF WEITHREDWR (OS OES RHAI) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Cyngor y ddau gyhoeddiad canlynol gan Aelodau Cabinet:
· Cyfeiriodd y Cynghorydd Alun Lenny, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, at Ddatganiad yr Hydref a fyddai'n cael ei gyhoeddi gan Ganghellor y DU cyn bo hir. Ar ôl hynny, ym mis Rhagfyr 2023, byddai Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi lefel y Grant Cynnal Refeniw i Awdurdodau Lleol Cymru ar gyfer 2024/25. Soniodd am y pwysau ariannol difrifol y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu yng Nghymru ac yn Lloegr a dywedodd ei fod wedi ysgrifennu at y Canghellor yn hynny o beth yn ei annog i ddarparu cyllid digonol i Lywodraeth Cymru, drwy fformiwla Barnett, i'w galluogi, yn ei dro, i ddarparu cyllid ychwanegol i Lywodraeth Leol yng Nghymru barhau i gynnal gwasanaethau hanfodol.
· Adleisiodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, sylwadau'r Cynghorydd Lenny a chyfeiriodd yn benodol at yr effaith yr oedd cyfyngiadau ariannol yn ei chael ar ddarparu gwasanaethau addysg. Yn benodol, effaith y gostyngiad o £40m mewn cyllid i raglen Moderneiddio Addysg y Cyngor a oedd hefyd yn wynebu cynnydd mewn costau adeiladu a chynnal a chadw. O ganlyniad i'r pwysau hynny, dywedodd fod y rhaglen bresennol yn anghynaladwy a'i bod yn cael ei hailarchwilio ac y byddai'n cael ei chyflwyno i'r Cyngor i'w hystyried maes o law. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR Y 11EG HYDREF 2023 PDF 196 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nodwyd y dylai'r Cynghorydd K. Davies fod wedi'i chynnwys yn y rhestr o aelodau a oedd yn bresennol yn rhithwir yng nghyfarfod y Cyngor ar 11 Hydref 2023.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2023 gan eu bod yn gywir. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYFLWYNIAD GAN BRIF SWYDDOG TÂN ROGER THOMAS, GWASANAETH TÂN AC ACHUB CANOLBARTH A GORLLEWIN CYMRU. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Sylwer: Roedd y Cynghorwyr K. Broom, H. Shepherdson, G.B. Thomas ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a bu iddynt ailadrodd eu datganiad ac aros yn y cyfarfod tra oedd y Cyngor yn ystyried yr eitem.]
Cafodd Roger Thomas, y Prif Swyddog Tân, Mrs Sarah Mansbridge, Swyddog Adran 151 Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, a'r Cynghorydd Gwynfor Thomas, Cadeirydd yr Awdurdod Tân, eu croesawu i'r cyfarfod gan y Cadeirydd.
Rhoddodd y Prif Swyddog Tân a'r Swyddog Adran 151 drosolwg o waith y Gwasanaeth Tân ac Achub gan fanylu ar waith y Gwasanaeth Tân, gan gynnwys yr heriau gweithredol ac ariannol presennol.
Cynhaliwyd sesiwn holi ac ateb ar ôl y cyflwyniad.
Diolchodd y Cadeirydd i'r Prif Swyddog Tân, y Swyddog Adran 151 a Chadeirydd yr Awdurdod Tân am ddod i'r cyfarfod ac am y cyflwyniad. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
AILBENODI AELODAU CYFETHOLEDIG O'R PWYLLGOR SAFONAU AM GYFNOD PELLACH YN Y SWYDD PDF 145 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cyngor yn ystyried adroddiad ynghylch ailbenodi Mrs Daphne Evans a Mrs Julie James i'r Pwyllgor Safonau am gyfnod pellach yn y swydd. Nododd yr adroddiad er bod y ddau aelod wedi'u penodi gan y Cyngor yn 2017 am gyfnod o 6 blynedd, a fyddai'n dod i ben ar 12 Rhagfyr, 2023, bod Rheoliad 21 o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001 yn darparu ar gyfer ailbenodi aelodau am gyfnod pellach o ddim mwy na 4 blynedd heb fod angen ailhysbysebu'r swydd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi Mrs Daphne Evans a Mrs Julie James am gyfnod pellach o 4 blynedd ar Bwyllgor Safonau'r Cyngor am y cyfnod 12 Rhagfyr 2023 – 12 Rhagfyr 2027. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 a Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990, fel y'u diwygiwyd, bu'r Cyngor yn ystyried adroddiad yn manylu ar ganlyniad adolygiad o aelodaeth Pwyllgorau Craffu, Pwyllgorau Rheoleiddio a phwyllgorau eraill y Cyngor yn dilyn cael hysbysiad o'r canlynol:-
- Nid oedd y Cynghorydd John James i'w drin mwyach fel Aelod o'r Gr?p Llafur, - Roedd y Cynghorydd Emyr Rees wedi gadael y Gr?p Llafur a, - Diddymu'r Panel Adolygu Tai.
O ganlyniad i'r adolygiad uchod, nodwyd y byddai diddymu'r Panel Adolygu Tai yn arwain at ostyngiad yn nifer y seddi Pwyllgor ar y Cyngor o 168 i 160.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, o ganlyniad i'r newidiadau i aelodaeth wleidyddol gyffredinol y Cyngor a diddymu'r Panel Adolygu Tai:
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
YSTYRIED ARGYMHELLION Y CABINET O RAN Y MATERION CANLYNOL:- Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedwyd wrth y Cyngor bod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 16 Hydref 2023 (cofnod 10), wedi ystyried Adroddiad Monitro Blynyddol 2022/23 yn ymwneud â Chynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig Sir Gaerfyrddin (2006-2021) a oedd wedi'i baratoi'n unol â darpariaethau Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 a Rheoliadau Cynllun Datblygu Lleol 2005. Nodwyd, yn unol â Dyletswydd Statudol y Cyngor, y byddai'r Adroddiad Monitro Blynyddol yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a'i gyhoeddi ar wefan y Cyngor erbyn 31 Hydref 2023.
PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Cabinet:
“y dylid cymeradwyo'r Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig Sir Gaerfyrddin, ac awdurdodi swyddogion i wneud newidiadau teipograffyddol neu ffeithiol yn ôl yr angen i wella ei eglurder a'i gywirdeb” |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYNGOR SIR GÂR AR GYFER 2022-23 PDF 175 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedwyd wrth y Cyngor bod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 30 Hydref 2023 (cofnod 6), wedi ystyried Adroddiad Monitro Blynyddol Drafft 2022/23 yn ymwneud â Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor 2022-27, a gyhoeddwyd yn unol â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i gyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar ei amcanion Llesiant ac o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 i adrodd ar ei berfformiad yn seiliedig ar ddull hunanasesu. Nodwyd mai nod yr adroddiad oedd bodloni'r ddau ofyniad uchod mewn un ddogfen a'i fod yn cynnwys gwybodaeth am y pedwar Amcan Llesiant a'r Galluogwyr Busnes Craidd ac yn asesu'r cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Cabinet:
“cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Drafft Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2022-23”. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ARFARNIADAU O ARDALOEDD CADWRAETH PDF 152 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Roedd y Cynghorwyr Andrew Davies, H.A.L. Evans, C.A. Jones, D. Jones, A. Lenny, D. Phillips, J. Tremlett ac E. Thomas wedi datgan buddiant personol yn yr eitem hon yn gynharach a bu iddynt aros yn y cyfarfod a phleidleisio.]
Dywedwyd wrth y Cyngor bod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 30 Hydref 2023 (cofnod 8), wedi ystyried adroddiad ynghylch yr Arfarniadau o Ardaloedd Cadwraeth a oedd yn adeiladu ar y gwaith a wnaed i adolygu deg o'r Ardaloedd Cadwraeth dynodedig ledled y Sir a'r gwaith dilynol o baratoi ac ymgynghori ar yr arfarniadau ar gyfer pob un o'r Ardaloedd Cadwraeth a nodwyd. Nodwyd bod yr adroddiad yn amlinellu'r broses a'r adborth a gafwyd fel rhan o'r ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol cysylltiedig, gan nodi'r arfarniadau drafft terfynol o ardaloedd cadwraeth ac unrhyw welliannau a argymhellwyd o ran yr Ardaloedd Cadwraeth eu hunain ynghyd â manylu ar y camau nesaf mewn perthynas â'r broses reoleiddio sydd ei hangen i ddiwygio'r Ardaloedd Cadwraeth yn ffurfiol.
Mewn ymateb i gais a ddaeth i law am ddatgan rhannau o ardal Ffwrnes yn Llanelli, sy'n gysylltiedig ag Alexander Raby, meistr haearn o'r ddeunawfed ganrif, yn ardal gadwraeth, nodwyd y byddai swyddogion yn cysylltu â'r aelod a gododd y mater.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Cabinet:
“8.1 - cymeradwyo canlyniad yr Arfarniadau o Ardaloedd Cadwraeth a'r gwelliannau a argymhellir i Ffiniau Ardaloedd Cadwraeth,
8.2 - awdurdodi swyddogion i ymgymryd â phrosesau rheoleiddio sy'n angenrheidiol i ddiwygio ffiniau Ardaloedd Cadwraeth yn ffurfiol fel yr argymhellir”. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR Y 16EG HYDREF 2023 PDF 115 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 16 Hydref, 2023.
HYD Y CYFARFOD Am 12:54pm tynnwyd sylw'r Pwyllgor at Reol 9 o Weithdrefn y Cyngor – Hyd y cyfarfod – ac, oherwydd y byddai'r cyfarfod wedi bod yn mynd rhagddo ers tair awr am 1:00pm, PENDERFYNWYD bod y Rheolau Sefydlog yn cael eu rhoi o'r neilltu dros dro er mwyn gallu ystyried yr eitemau oedd yn weddill ar yr agenda. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYMERADWYO Y NEWIDIADAU CANLYNOL I AELODAETH PWYLLGORAU:- Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MAE'R GRWP LLAFUR WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD DERYK CUNDY I LENWI'R SEDD A OEDD YN PERTHYN YN GYNT I'R CYNGHORYDD KEVIN MADGE AR Y PWYLLGOR CRAFFU PERFFORMIAD AC ADNODDAU CORFFORAETHOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MAE'R GRWP LLAFUR WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD LEWIS DAVIES I LENWI Y SEDD WAG AR Y PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG, POBL IFANC A'R GYMRAEG Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo enwebiad y Gr?p Llafur i'r Cynghorydd L. Davies gymryd ei sedd wag ar y Pwyllgor Craffu Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MAE'R GRWP LLAFUR WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD CRISH DAVIES I LENWI'R SEDD A OEDD YN PERTHYN YN GYNT I'R CYNGHORYDD ROB EVANS AR Y PWYLLGOR CRAFFU IECHYD A GWASANAETHAU CYMDEITHASOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo enwebiad y Gr?p Llafur i'r Cynghorydd Crish Davies gymryd lle'r Cynghorydd R. Evans ar y Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ETHOL CADEIRYDD Y PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD YN DILYN SWYDD WAG CANOL TYMOR Yn unol â Rheol 4 (2) o Weithdrefn y Cyngor mae'r enwebiadau canlynol wedi'i gyflwyno i'r Prif Weithredwr :-
Y Cynghorydd Councillor Michael Cranham – Annibynnol heb ymuno. Y Cynghorydd Philip Warlow - Gr?p Llafur
Nid oes enwebiadau eraill wedi dod i law. Rhoddir enwau’r rhai a enwebwyd gerbron y cyfarfod yn nhrefn yr wyddor ar gyfer y bleidlais.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Rheol 4 (2) o Weithdrefn y Cyngor, bu'r Cyngor yn ystyried dau enwebiad a oedd wedi dod i law i ethol Cadeirydd Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yn dilyn swydd wag canol tymor.
Yn dilyn pleidlais
PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd M. Cranham yn Gadeirydd Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CWESTIYNAU GAN YR AELODAU:- Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD JOHN JAMES I'R CYNGHORYDD ANN DAVIES, AELOD CABINET DROS FATERION GWLEDIG, CYDLYNIANT CYMUNEDOL A PHOLISI CYNLLUNIO Mae'r cyhoeddiad diweddar gan D?r Cymru bod llawer o'i safleoedd trin d?r gwastraff ar hyn o bryd yn gollwng carthion heb eu trin yn anghyfreithlon i afonydd a'r môr drwy beidio â chadw at eu trwyddedau wedi dychryn trigolion Sir Gaerfyrddin yn fawr.
Gan ystyried y camau rhagweithiol a gymerwyd eisoes gan y Cyngor hwn ynghylch crynodiad ffosfforws yn ein dyfroedd yma yn Sir Gaerfyrddin; Beth mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei wneud i herio D?r Cymru ar yr arfer anghyfreithlon hwn, ac a wnewch chi, y Cynghorydd Davies, gysylltu â D?r Cymru i drafod pa fesurau y mae’r cwmni yn bwriadu eu cyflwyno i sicrhau nad yw esgeulustod o'r fath i'n hamgylchedd ac i iechyd a llesiant ein preswylwyr yn digwydd eto.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cwestiwn gan y Cynghorydd James:
“Mae'r cyhoeddiad diweddar gan D?r Cymru bod llawer o'i safleoedd trin d?r gwastraff ar hyn o bryd yn gollwng carthion heb eu trin yn anghyfreithlon i afonydd a'r môr drwy beidio â chadw at eu trwyddedau wedi dychryn trigolion Sir Gaerfyrddin yn fawr.
Gan ystyried y camau rhagweithiol a gymerwyd eisoes gan y Cyngor hwn ynghylch crynodiad ffosfforws yn ein dyfroedd yma yn Sir Gaerfyrddin; Beth mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei wneud i herio D?r Cymru ar yr arfer anghyfreithlon hwn, ac a wnewch chi, y Cynghorydd Davies, gysylltu â D?r Cymru i drafod pa fesurau y mae'r cwmni yn bwriadu eu cyflwyno i sicrhau nad yw esgeulustod o'r fath i'n hamgylchedd ac i iechyd a llesiant ein preswylwyr yn digwydd eto”.
Ymateb gan y Cynghorydd Davies: Diolch i chi John am y cwestiwn.
Gallaf eich sicrhau chi a'r holl gynghorwyr fy mod wedi siomi'n ddirfawr i weld bod dros 223 achos o dorri caniatâd gollwng wedi digwydd yng Nghymru ers 2018 ac mae'r rhain yn cael effaith andwyol ar fioamrywiaeth afonydd ac ni ddylid digwydd yn yr 21ain ganrif. Rwy'n nodi bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi rhybudd i D?r Cymru a hysbysiadau gorfodi ac rwyf wedi ysgrifennu at Gadeirydd D?r Cymru i ofyn am ymateb ffurfiol ac o ran yr adroddiad i ofyn pam cafwyd cymaint o achosion o dorri rheolau yng Ngarnswllt a Llannon a'r effaith ar yr aber hwn yng Nghaerfyrddin. Nid yw hyn yn ddigon da. Yr ateb, fel rwy'n si?r y byddwch chi i gyd yn sylweddoli, yw buddsoddiad.
Fel Aelod Cabinet Materion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio a Chadeirydd Bwrdd Rheoli Maetholion Tywi, rwyf wedi cwrdd â D?r Cymru i bwyso am yr angen brys am fuddsoddiad hirdymor. Felly rwy'n croesawu'r ffaith bod Cynllun Busnes D?r Cymru wedi'i gyflwyno i OFWAT am y cyfnod 2025-2033 yn gynharach y mis hwn. Ac, os caiff hwn ei gymeradwyo, bydd yn arwain at raglen fuddsoddi gwerth £3.5bn gan leihau effaith y cwmni ar yr amgylchedd ac yn benodol helpu i wella ansawdd d?r afonydd. Mae'n hanfodol bod y gwaith hwn yn dechrau ac mae'n cynnwys mesurau i leihau gollyngiadau maetholion yn sylweddol o waith trin d?r gwastraff i afonydd mewn ardaloedd cadwraeth arbennig a chychwyn rhaglen sawl AMP i atal ei rwydwaith o 2,300 o orlifoedd storm rhag achosi niwed ecolegol i'n hafonydd. Bydd y gwaith hwn, ynddo'i hun, yn helpu i achub ein hafonydd rhag llygredd pellach a sicrhau y gall ein holl drigolion yma yn Sir Gaerfyrddin eu mwynhau. Diolch
Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd James:nid oedd unrhyw gwestiwn atodol. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD TERRY DAVIES I'R CYNGHORYDD DARREN PRICE, ARWEINYDD Y CYNGOR. “A wnaiff yr Arweinydd roi diweddariad ar westy Parc y Strade yn Ffwrnes, Llanelli, ac amlinellu unrhyw drafodaethau y mae wedi’u cael gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru am y mater?”
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cwestiwn gan y Cynghorydd Davies:
“A wnaiff yr Arweinydd roi diweddariad ar westy Parc y Strade yn Ffwrnes, Llanelli, ac amlinellu unrhyw drafodaethau y mae wedi’u cael gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru am y mater?”
Ymateb gan y Cynghorydd Price:
Diolch i chi Terry am y cwestiwn
Ers y cyhoeddiad ddechrau mis Hydref bod Llywodraeth Geidwadol y DU wedi tynnu eu bwriad i ddefnyddio gwesty Parc y Strade yn ôl, mae'r perchnogion, wrth gwrs, wedi dweud eu bod am ailagor y gwesty.
Rwy'n si?r y byddai pob aelod am weld y safle'n cael ei ddefnyddio unwaith eto, ac rwy'n sicr o'r farn bod angen i hyn ddigwydd cyn bo hir.
Nid yw'r penderfyniad ynghylch a fydd y safle'n cael ei weithredu gan y perchennog presennol, neu berchennog arall, yn un y gallwn ni, fel cyngor, ei wneud - wedi'r cyfan mae'n fenter breifat, ond yn amlwg po hiraf y bydd y safle yn wag, y mwyaf fydd adeiladwaith yr adeiladau yn dirywio, a'r mwyaf fydd y gost i sicrhau ei fod yn cyrraedd y safon dderbyniol eto.
Ar ôl siarad â nifer o bobl yn Llanelli ac aelodau yn ystod yr wythnosau diwethaf mae'n amlwg bod pobl leol am weld y safle naill ai'n cael ei ddefnyddio fel gwesty unwaith eto, neu'n cael ei ddatblygu i fod yn ased arall a all fod o fudd i'r dref, ac i hynny ddigwydd cyn gynted â phosibl. Nid oes neb am weld y safle'n parhau i fod yn adfeiliedig am gyfnod hir.
Gan nad oes bygythiad y caiff ei ddefnyddio gan y Swyddfa Gartref bellach, mae angen eglurder arnom nawr gan y perchnogion o ran sut y maent yn bwriadu defnyddio'r safle unwaith eto, ac amserlen fanwl ar gyfer unrhyw waith. Mae'n bwysig i'r gymuned leol ddeall yn llawn gwmpas y gwaith sydd ei angen er mwyn i'r safle gael ei ddefnyddio unwaith eto.
Bydd yr aelodau'n cofio i mi ysgrifennu at y Llywodraeth Geidwadol yn eu hannog i dynnu'n ôl o'r safle, ac o ganlyniad i'r llythyr hwnnw, cefais ohebiaeth bellach gan Lywodraeth y DU dim ond yr wythnos diwethaf. Yn y llythyr hwnnw, dyddiedig 1 Tachwedd, mae Llywodraeth y DU yn datgan eu bod bellach wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid ar ymarfer gwersi a ddysgwyd a hwylusir gan Bartneriaeth Ymfudo Strategol Cymru. Yn amlwg, mae hyn yn bwysig, gan eu bod wedi methu, yn fy marn i, â dysgu'r gwersi o brofiad gwersyll Penalun.
Yn y cyngor hwn, wrth gwrs, rydym wedi dechrau meddwl cryn amser yn ôl am sut y gellir gwneud gwelliannau ac, yn wir, ers i stori Parc y Strade ddod i'r amlwg ym mis Mai, rwyf wedi bod yn dadlau bod ffordd arall o reoli'r broses loches yma yng Nghymru.
Fel y mae aelodau'n ymwybodol, rwyf wedi datgan yn gyson y dylai llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru fod â rôl ganolog wrth ddatblygu dull Cymru gyfan o ymdrin â llety lloches brys, yn hytrach na gadael y mater i Lywodraeth y ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 14.2 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD MEINIR JAMES I'R CYNGHORYDD ALED VAUGHAN OWEN, AELOD CABINET DROS NEWID HINSAWDD, DATGARBONEIDDIO A CHYNALIADWYEDD “Mewn ymateb i'r Datganiad o'r Argyfwng Hinsawdd yn 2019, ydy'r Cyngor yn bwriadu datgarboneiddio ein fflyd cerbydau ysgafn?
Oni fyddai gosod amserlen a targedau ystyrlon yn neges glir i drigolion Sir Gar ein bod yn cymerid ein cyfrifoldebau o ddifrif, ac yn gyfle i ni arddangos yr arbedion costau a manteision fflyd trydan i fusnesau a sefydliadau o fewn ein Sir?”
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cwestiwn gan y Cynghorydd James:
“Mewn ymateb i'r Datganiad o'r Argyfwng Hinsawdd yn 2019, ydy'r Cyngor yn bwriadu datgarboneiddio ein fflyd cerbydau ysgafn?
Oni fyddai gosod amserlen a thargedau ystyrlon yn neges glir i drigolion Sir Gâr ein bod yn cymryd ein cyfrifoldebau o ddifrif, ac yn gyfle i ni arddangos yr arbedion costau a manteision fflyd drydan i fusnesau a sefydliadau o fewn ein Sir?”
Ymateb gan y Cynghorydd Vaughan Owen:
Diolch yn fawr iawn i chi, Gynghorydd James, ac mae eich cwestiwn yn codi mater hollbwysig sy'n effeithio nid yn unig ar yr amgylchedd ond hefyd ar ein hiechyd a'n lles. Mae'n ymwneud â'r angen dybryd i ddatgarboneiddio ein fflyd gyhoeddus o gerbydau. Nid mater o bryder amgylcheddol yn unig yw hwn. Mae'n hanfodol ar gyfer ein dyfodol.
Mae gwyddonwyr a sefydliadau ledled y byd wedi bod yn canu'r larwm, gan gynnwys y gwasanaeth tân yn ei gyflwyniad heddiw, ac mae'r neges yn glir, nid yw oes olew bellach yn gynaliadwy er mwyn ein hinsawdd ac iechyd cyhoeddus. Mae sefydliadau fel y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd, yr IPCC, a Sefydliad Iechyd y Byd wedi darparu tystiolaeth ddiymwad bod ein dibyniaeth barhaus ar danwydd ffosil yn achosi niwed difrifol i'n planed ac i'n hiechyd. Ni allwn wadu ein dibyniaeth ar olew.
I ni, fel awdurdod, rydym wedi ymrwymo'n llwyr i chwarae ein rhan a gosod uchelgais i fod yn sero net erbyn diwedd y degawd. Mae'r ôl troed carbon mwyaf yn deillio o'n hadeiladau annomestig ac mae rhai camau gwirioneddol arloesol yn cael eu cymryd i leihau'r galw am ynni ar ffurf trydan a gwres, fel sydd wedi'i nodi yn yr Adroddiad Blynyddol, ac mae 20% o'r allyriadau'n dod o'n fflyd ac mae'n rhaid i ni wneud pethau'n wahanol yn y maes hwn yn gyflym.
Felly, gallaf gyhoeddi, drwy weithio gyda'r Cynghorydd Edward Thomas, ein bod wedi gorchymyn, o'r wythnos hon ymlaen, bod yn rhaid i bob fflyd newydd ar draws yr awdurdod gael rhagdybiaeth o blaid cerbydau trydan. Yn amlwg, bydd asesiad yn cefnogi pob penderfyniad yn seiliedig ar y gofynion technegol, y costau a'r arbedion economaidd, y buddion o ran yr amgylchedd ac iechyd ac ymarferoldeb.
Mae'r penderfyniad hwn bellach yn llunio'r ffordd ymlaen ar gyfer strategaeth fflyd newydd sy'n addas i'r diben ac sy'n mynd i'r afael â'r heriau a'r cyfleoedd sydd o'n blaenau.
Yng nghyfarfod diwethaf y Panel Ymgynghorol ar Newid yn yr Hinsawdd a'r Argyfwng Natur, cytunodd yr aelodau i gynnal archwiliad dwfn ar fflyd a thrafnidiaeth ar draws yr awdurdod. Rydym yn ffodus bod gennym aelodau gwybodus ac angerddol o bob rhan o'r siambr a fydd yn gallu casglu tystiolaeth gan arbenigwyr ac eraill sydd wedi dechrau'r daith a gyda'n gilydd byddwn yn llunio strategaeth fflyd newydd fentrus, gyffrous a fydd yn cael ei harchwilio a'i gwella, gobeithio, gan y Pwyllgor Craffu Lle a Chynaliadwyedd. Bydd dealltwriaeth y panel a'r pwyllgor craffu yn rhoi argymhellion i'r Cabinet ynghylch mesurau ymarferol i gyflymu'r broses drawsnewid, gan osod targedau uchelgeisiol a'n ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 14.3 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
COFNODION ER GWYBODAETH (AR GAEL AR Y WEFAN) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd fod y cofnodion a amlinellir ar yr agenda dan 15.1 – 15.10 ar gael er gwybodaeth ar wefan y Cyngor. |