Agenda a Chofnodion

Cyngor Sir - Dydd Mercher, 11eg Hydref, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbydiwyd ymddiheuridadau am absendoldeb gan y Cynghorwyr P. Cooper,
B. Davies, J. Hart, P.M. Hughes, G. Jones, K. Madge a J. Tremlett.

 

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

S. Davies

11.1 – Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorwyr Linda Evans ac Edward Thomas

Gweithio i Dolen Teifi  gollyngiad i siarad ond nid pleidleisio

 

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·       Dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi ymweld â Mrs Dilys Rees, mam y cyn-Gynghorydd Mair Stephens, ar ei phen-blwydd yn 100 oed, ac roedd yn wir ysbrydoliaeth.

 

·       Cyhoeddodd y Cadeirydd ei bod wedi mynychu Loud Applause Rising Stars (LARS) yn y Ffwrnes, Llanelli, a oedd yn noson wych yng nghwmni ieuenctid Sir Gaerfyrddin.

 

·       Ar ôl i'r Cadeirydd estyn gwahoddiad iddynt wneud, bu i'r Cynghorwyr canlynol annerch y Cyngor:-

 

-   Galwodd y Cynghorydd Ann Davies ar i'r Aelodau feddwl am y rheiny oedd wedi dioddef o ganlyniad i'r sefyllfa yn Israel dros y dyddiau diwethaf.  Dywedodd fod y Cyngor Sir wedi ymrwymo i heddwch a chydraddoldeb a siaradodd yn erbyn anghyfiawnder a thrais.  Y gobaith oedd y gellid dod o hyd i ateb cyflym er mwyn rhoi cyfle i heddwch yn y dyfodol. Er parch at yr holl deuluoedd cysylltiedig yr oedd yr anghyfiawnder hwn wedi effeithio arnynt, safodd y Cyngor mewn myfyrdod.

 

-           Bu i'r Cynghorydd Sean Rees, ar ran Aelodau Ward Glan-y-môr, longyfarch Clwb Bowlio Havelock yn y Morfa a oedd wedi ennill cyfanswm o 6 thlws mewn tymor hynod lwyddiannus.  Roedd y Clwb wedi cael ei goroni'n Bencampwyr yr Uwch Gynghrair, a Howard Griffiths a Phil Nicolas oedd Pencampwyr y Parau. Rob Hughes, Leigh Moses a Chris Spriggs oedd Pencampwyr y Tripledi.  Yn ogystal, fe wnaeth Mr Spriggs gynrychioli tîm Cymru yn y gystadleuaeth Bowls Lawnt Para yng Ngemau'r Gymanwlad y llynedd.  Roedd Mr Spriggs yn ysbrydoliaeth i bawb wrth hyrwyddo chwaraeon anabledd yn ein cymuned.

 

 

4.

CYHOEDDIADAU GAN YR ARWEINYDD, AELODAU'R CABINET NEU'R PRIF WEITHREDWR (OS OES RHAI)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Arweinydd y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau yng Ngwesty Parc y Strade. Cyfeiriwyd at ddatganiad Llywodraeth y DU ddoe ynghylch ei bwriad i dynnu'n ôl y cynlluniau i ddefnyddio Gwesty Parc y Strade yn llety i Geiswyr Lloches.  Croesawyd hyn yn fawr gan mai'r farn oedd fod y safle'n anaddas.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod llythyrau yn mynegi sylwadau ar y mater hwn wedi bod yn cael eu hanfon i Lywodraeth y DU ers Mai 2023.  Soniwyd bod y Prif Weithredwr a'r Arweinydd wedi ysgrifennu at weision sifil a'r Gweinidog yn y Swyddfa Gartref yn mynegi pryderon difrifol ynghylch tensiynau yn y gymuned, a oedd wedi bod ar gynnydd dros yr wythnosau diwethaf.

 

Er i Lywodraeth y DU gydnabod na fyddai'r model arfaethedig yn addas nac yn briodol ar gyfer y safle, roedd yn destun siom bod 6 mis wedi mynd heibio cyn i'r Llywodraeth ddod i benderfyniad i dynnu'n ôl ei bwriad ar gyfer Gwesty Parc y Strade.  Roedd y mater hwn wedi effeithio'n sylweddol ar gymuned Llanelli dros y 6 mis diwethaf wrth i 95 o swyddi gael eu colli ym mis Gorffennaf eleni, ynghyd ag ased dwristiaeth allweddol ar ffurf gwesty 4*.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r Cyngor hwn, dan arweiniad y Prif Weithredwr, gyda chefnogaeth y Tîm Rheoli Corfforaethol a Swyddogion Cynllunio, y Gyfraith, Adfywio, Gorfodi a llawer o Swyddogion eraill a oedd wedi gweithio'n ddiflino ac wedi mynd y filltir ychwanegol er mwyn canfod datrysiad a gefnogai ddymuniadau pobl Ffwrnes a Llanelli.

 

Yn ogystal, diolchwyd am y gefnogaeth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru a oedd wedi cefnogi safbwynt y Cyngor.  Dywedodd yr Arweinydd ei fod wedi bod mewn cysylltiad â'r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol lawer i waith drwy gydol y mater hwn. Fodd bynnag, roedd am nodi nad oedd cyfle wedi cael ei roi iddo drafod y mater gyda'r Gweinidog yn Llywodraeth y DU oedd yn gyfrifol am gynnig y fath fwriad. Roedd gwrthwynebiad y Cyngor hwn a Llywodraeth Cymru wedi cael ei fynegi'n gyson i Lywodraeth y DU.

 

I gloi, pwysleisiodd yr Arweinydd fod gan y Cyngor hwn hanes balch o groesawu a chefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches i Sir Gaerfyrddin dros y blynyddoedd ac y byddai'n parhau i wneud hynny.

 

Bu i'r Cadeirydd wneud eithriad drwy ganiatáu i'r aelodau lleol siarad adeg cyhoeddiadau'r Arweinydd.

 

Ategodd y Cynghorydd Palfreman ddatganiad yr Arweinydd a byddai'r newyddion da yn rhyddhad i'r gymuned.  Dymunai ddiolch i'r Arweinydd a nifer o Swyddogion y Cyngor a oedd wedi dadlau'n gyson yn erbyn y cynigion ac wedi helpu aelodau lleol i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth ymarferol i'r trigolion yr effeithiwyd arnynt.  At hynny, bu i'r Cynghorydd Palfreman gyfleu ei ddiolch personol i Nia Griffiths, Aelod Seneddol, a Lee Waters, Aelod o’r Senedd, a oedd wedi sefyll eu tir yn gadarn dros bobl Llanelli.

 

Roedd y Cynghorydd Skinner, wrth ddweud gair am y newyddion oedd i'w groesawu, am ddiolch i'r Prif Weithredwr a Swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin, Heddlu Dyfed-Powys a Phwyllgor Gweithredu'r Ffwrnes.

 

 

5.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR 13 MEDI 2023 pdf eicon PDF 116 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 13 Medi 2023 yn gofnod cywir.

 

 

6.

AROLYGIAD ESTYN O WASANAETHAU ADDYSG LLYWODRAETH LEOL SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 170 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyngor adroddiad am Arolygiad Estyn o Wasanaethau Addysg Llywodraeth Leol Sir Gaerfyrddin a'r meysydd oedd angen eu datblygu.

 

Roedd yr adroddiad yn darparu gwybodaeth mewn perthynas ag Arolygiad Estyn ac roedd adroddiad terfynol Estyn wedi'i atodi. Cynhaliwyd yr ymweliad rhagarweiniol ar 22 a 23 Mehefin.  Cynhaliwyd cyfweliadau gydag amryw randdeiliaid, gan gynnwys cynrychiolwyr penaethiaid ysgolion cynradd, uwchradd ac ysgolion arbennig; cynrychiolwyr Cadeiryddion Llywodraethwyr ar draws ysgolion cynradd, uwchradd ac ysgolion arbennig; y bartneriaeth addysg ranbarthol, Partneriaeth; cynrychiolwyr yr undebau llafur; esgobaeth; y bwrdd iechyd lleol; rhieni a swyddogion o Gyfarwyddiaethau eraill yr Awdurdod Lleol.

 

Cyhoeddwyd yr adroddiad ar 27 Medi 2023 ac roedd wedi nodi llawer o gryfderau a nodweddion nodedig.  Nododd y Cyngor y tri argymhelliad canlynol a wnaed:

 

·       A1 Gwella presenoldeb disgyblion yn ysgolion yr awdurdod;

·       A2 Cryfhau prosesau gwella ysgolion, yn enwedig ar gyfer ysgolion

uwchradd;

·       A3 Mireinio ymagweddau at hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer gwella.

 

Wrth gyflwyno'r adroddiad i'r Cyngor, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg mai pleser oedd cyflwyno'r adroddiad gwych, a'i fod yn ymfalchïo yng ngwaith clodwiw Gwasanaethau Addysg Sir Gâr ac yn ddiolchgar i'r holl staff, ysgolion a disgyblion am eu hymdrechion, a oedd yn cael eu cydnabod yn yr adroddiad trwyadl hwn gan Estyn. Roedd yr adroddiad yn nodi bod y weledigaeth a'r arweinyddiaeth strategol yn Sir Gaerfyrddin yn glir ac yn bendant, fel bod ein plant a'n pobl ifanc yn gallu cael yr addysg orau posibl.

 

Diolchwyd i'r staff addysg oedd yn bresennol a'r holl swyddogion cysylltiedig am eu gwaith parhaus a oedd wedi arwain at ganlyniad cadarnhaol. 

 

PENDERFYNWYD:

 

6.1     derbyn yr adroddiad am Arolygiad Estyn o Wasanaethau Addysg Llywodraeth Leol Sir Gaerfyrddin;

 

6.2     nodi'r sefyllfa bresennol a'r trefniadau oedd ar waith i fynd i'r afael â'r argymhellion a'r ychydig feysydd roedd angen eu gwella.

 

 

7.

ADOLYGIAD CYMUNEDOL DEDDF LLYWODRAETH LEOL (DEMOCRATIAETH) (CYMRU) 2013 ("Y DDEDDF") pdf eicon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i'r Cyngor, yn ei gyfarfod ar 8 Mawrth 2023 (gweler cofnod 7), gymeradwyo cychwyn Adolygiad Cymunedol i archwilio'r trefniadau llywodraethu Tref a Chymuned presennol ac i wneud Argymhellion Terfynol ar gyfer unrhyw newid priodol.

 

Roedd gan y Cyngor ddyletswydd o dan adran 22 Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 ("y Ddeddf") i adrodd bob deng mlynedd ar adolygiad cymunedol gan ystyried amserlen Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ar gyfer cynnal yr adolygiadau o drefniadau etholiadol prif ardaloedd sy'n ofynnol gan adran 29 (1) o'r Ddeddf.  Cynhaliwyd yr adolygiad etholiadol diwethaf gan y Comisiwn hwn yn 2021.

 

Roedd y cyfnod ymgynghori ffurfiol wedi ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor, ond roedd ymgyrch ymgysylltu a dargedwyd hefyd wedi'i chynnal. Gwahoddwyd sylwadau o ddydd Llun 13 Mawrth i ddydd Llun 24 Ebrill 2023. Derbyniwyd 24 o sylwadau yn ystod y cyfnod ymgynghori, ac adolygwyd y rhain a pharatowyd cynigion ar gyfer Argymhellion Drafft. Roedd Atodiad 1 i'r adroddiad yn rhoi crynodeb o'r ymatebion ddaeth i law a'r cynigion ar gyfer Argymhellion Drafft a ddeilliai o'r rhain.

 

Fel rhan o'r adolygiad hwn, nodwyd bod anghysonderau o ran ffiniau cymunedol, a atodwyd i'r adroddiad yn Atodiad B.

 

PENDERFYNWYD:

 

7.1     Bod y cynigion a nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad yn cael eu mabwysiadu fel Argymhellion Terfynol at ddibenion yr Adolygiad Cymunedol.

 

7.2     Cytuno ar adolygiad pellach dan Adran 25 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 ar gyfer y canlynol:

 

          a) Cyngor Cymuned Llangyndeyrn a Chyngor Gwledig Llanelli

          b) Cyngor Cymuned Llangyndeyrn a Chyngor Cymuned Trimsaran

          c) Cyngor Cymuned Llangyndeyrn a Chyngor Cymuned Pontyberem

 

 

8.

ADOLYGIAD O DDOSBARTHAU PLEIDLEISIO A MANNAU PLEIDLEISIO 2023 pdf eicon PDF 153 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyngor adroddiad am Adolygiad Dosbarthau Pleidleisio a Mannau Pleidleisio 2023. Roedd yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer cynlluniau am adolygiad statudol o ddosbarthau pleidleisio a mannau pleidleisio yn Sir Gaerfyrddin.

 

Mae'n ofynnol i'r Cyngor o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a Rheoliadau Adolygu Dosbarthau Pleidleisio a Mannau Pleidleisio (Etholiadau Seneddol) 2006 gynnal adolygiad gorfodol bob 5 mlynedd. Rhaid cynnal yr adolygiad nesaf o fewn cyfnod o 16 mis oedd yn dechrau ar 1 Hydref 2023.  Roedd yr adroddiad yn cynnig bod yr adolygiad gorfodol o ddosbarthau pleidleisio a mannau pleidleisio yn dechrau ddydd Iau 12 Hydref 2023.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys amserlen arfaethedig ar gyfer yr adolygiad yr oeddid yn argymell ei gymeradwyo.

 

Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn darparu gwybodaeth a chynigion mewn perthynas â gweithredu newidiadau i ffiniau seneddol a gweithredu newidiadau i ddosbarthau pleidleisio.

 

PENDERFYNWYD:

 

8.1

bod yr adolygiad gorfodol o ddosbarthau pleidleisio a mannau pleidleisio yn dechrau ddydd Iau 12 Hydref 2023;

 

8.2

cymeradwyo'r amserlen amlinellol ar gyfer yr adolygiad;

 

8.3

cymeradwyo dilyn y broses adolygu a ddisgrifir yn yr adroddiad hwn;

 

8.4

bod y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn cael ei awdurdodi i gymryd y mesurau angenrheidiol cyn gynted â phosibl i roi newidiadau etholaethol seneddol ar waith, gan sicrhau bod y gofrestr yn adlewyrchu etholaethau presennol a newydd, hyd nes bod y ffiniau yn gwbl weithredol;

 

8.5

bod y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn cael ei awdurdodi i gymryd y mesurau angenrheidiol i weithredu unrhyw ddosbarthau pleidleisio newydd neu ddiwygiedig ar ôl cwblhau'r adolygiad o'r dosbarthau pleidleisio, gan sicrhau bod y gofrestr yn adlewyrchu'r ffiniau presennol a newydd, hyd nes bod y ffiniau yn gwbl weithredol;

 

8.5

bod y p?er i ddynodi mannau pleidleisio yn unol ag adran 18 a 18A o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 yn cael ei ddirprwyo i'r Rheolwr Gwasanaethau Etholiadol - dim ond pan fo angen penderfyniad ar fyr rybudd y mae'r p?er hwnnw i'w arfer, pan nad yw'n bosibl aros am benderfyniad gan y Cyngor.

 

 

 

9.

YSTYRIED ARGYMHELLION Y CABINET O RAN Y MATER CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

9.1

ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGHYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A'R DANGOSYDD DARBODAETH 2022-2023 pdf eicon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 18 Medi 2023 (gweler cofnod 6), wedi ystyried Adroddiad Blynyddol y Cyngor ynghylch Rheoli'r Trysorlys a Dangosyddion Darbodaeth ar gyfer 2021-22.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Cabinet:

 

“bod Adroddiad Blynyddol 2022/23 ynghylch Rheoli'r Trysorlys a Dangosyddion Darbodaeth yn cael ei fabwysiadu.” 

 

 

10.

DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR Y 18FED MEDI 2023 pdf eicon PDF 124 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Medi, 2023.

 

 

11.

YSTYRIED Y RHYBUDD O GYNNIG CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

11.1

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORWYR LINDA EVANS & EDWARD THOMAS

Mae'r Cyngor yn nodi bod gwasanaeth Bwcabus Fflecsi wedi bod yn gweithredu ers 14 mlynedd, gan ddarparu cyfle hanfodol i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn rhai o ardaloedd mwyaf gwledig Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

 

Mae'r Cyngor yn mynegi ei siom gyda chyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd y gwasanaeth yn dod i ben ar 31 Hydref 2023, a fydd yn ergyd sylweddol i'n cymunedau gwledig.

 

Mae'r Cyngor yn siomedig bod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bysiau newydd ar gyfer y gwasanaethau hyn mor ddiweddar â mis Gorffennaf 2023.

 

Mae'r Cyngor yn cydnabod yr heriau unigryw sy'n wynebu cymunedau gwledig wrth gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus ac yn ailddatgan ei ymrwymiad i weithio i wella gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a chymunedol ledled y sir.

 

Mae'r Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei phenderfyniad, gweithio gydag awdurdodau lleol yng ngorllewin Cymru, a darparu cyllid er mwyn datblygu system drafnidiaeth gyhoeddus a chymunedol gynaliadwy a all gefnogi a chysylltu ein cymunedau gwledig.  Yn y cyfamser, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau gyda'r Bwcabus Fflecsi nes bod gwasanaeth arall ar waith ar gyfer ein hardaloedd gwledig.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: Gan iddi ddatgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ailddatganodd y Cynghorydd S. Davies ei buddiant a dweud bod ganddi ollyngiad i siarad ond nid pleidleisio ar yr eitem hon].

 

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr Linda Evans ac Edward Thomas:-

 

“Mae'r Cyngor yn nodi bod gwasanaeth Bwcabus fflecsi wedi bod mewn bodolaeth ers 14 mlynedd gan roi cyfle hollbwysig i bobl deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn rhai o ardaloedd mwyaf gwledig Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.  Mae'r Cyngor yn mynegi ei siomedigaeth ynghylch cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd y gwasanaeth yn dod i ben ar 31 Hydref 2023, a fydd yn ergyd sylweddol i'n cymunedau gwledig.  Testun gofid i'r Cyngor yw'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi trefnu bysiau newydd ar gyfer y gwasanaethau hyn mor ddiweddar â mis Gorffennaf 2023. Mae'r Cyngor yn cydnabod yr heriau unigryw sy'n wynebu cymunedau gwledig o ran cael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus, ac yn ailddatgan ei ymrwymiad i weithio i wella gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a chymunedol ledled y Sir.

 

Galwa'r Cyngor hwn ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei phenderfyniad, i weithio gydag awdurdodau lleol yng Ngorllewin Cymru, ac i ddarparu cyllid er mwyn datblygu system trafnidiaeth gyhoeddus a chymunedol gynaliadwy a all gefnogi a chysylltu ein cymunedau gwledig.  Yn y cyfamser, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau gyda gwasanaeth Bwcabus Fflecsi nes bod gwasanaeth arall ar waith ar gyfer ein hardaloedd gwledig.”

 

Eiliwyd y cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigwyr ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r Cynnig.

 

PENDERFYNODD y Cyngor gefnogi'r Cynnig.

 

 

12.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

13.

CWESTIYNAU GAN YR AELODAU:-

Dogfennau ychwanegol:

13.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD RUSSELL SPARKS I'R CYNGHORYDD LINDA EVANS, DIRPRWY ARWEINYDD AC AELOD Y CABINET DROS GARTREFI

 “A allwch chi roi gwybod i mi am y cynnydd sy’n cael ei wneud tuag at ddatgarboneiddio ein stoc tai yng ngoleuni datganiad argyfwng hinsawdd 2019 ac ymrwymiad y cyngor hwn i well dyfodol ar gyfer ein plant? Yn benodol, beth yw eich prif rwystrau i gyflawni ‘sero net’ o ran stoc tai’r cyngor a fydd yn y pen draw yn helpu i leihau biliau i drigolion, o ystyried yr argyfwng costau byw parhaus?”

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cwestiwn gan y Cynghorydd Sparkes:

 

“A allech chi roi gwybod i mi am y cynnydd sy'n cael ei wneud tuag at ddatgarboneiddio ein stoc dai yn sgil datgan argyfwng hinsawdd yn 2019 ac ymrwymiad y Cyngor hwn i ddyfodol gwell i'n plant. Yn benodol, beth yw'r prif bethau sy'n eich rhwystro rhag cyflawni 'sero net' mewn perthynas â stoc dai'r Cyngor, a fydd yn y pen draw yn helpu i leihau biliau i breswylwyr o ystyried yr argyfwng costau byw parhaus?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Evans:

 

“Fe wna' i egluro lle rydym arni ar hyn o bryd.  Fel y gwyddoch ac fel y nodir yn ein cynllun busnes ar gyfer 2023/24, ein nod fel adran yw gwneud ein cartrefi mor effeithlon â phosib o ran ynni a chyflawni tystysgrif perfformiad ynni Band C man lleiaf cyn gynted â phosib.  Bydd datgarboneiddio ein stoc o gartrefi a lleihau ein hallyriadau carbon yn ffocws strategol i ni am y blynyddoedd i ddod. Mae 3,000 o'n cartrefi ym Mand C neu uwch o ran Tystysgrif Perfformiad Ynni eisoes, gyda bron i 5,800 o gartrefi ym Mand D gyda lefel SAP o 66 sydd ychydig yn uwch na'r safon a osodwyd yn Safon Ansawdd Tai Cymru ac rwy'n credu taw 65 yw honno ar hyn o bryd.  Er mwyn cyrraedd y nod, i ddechrau, mae gwella ffabrig ein cartrefi yn hanfodol, hefyd mae angen i ni gael gwres carbon isel a thechnoleg adnewyddadwy. 

 

Mae'r her yn enfawr ond mae'n rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i ddatgarboneiddio ein stoc o gartrefi a fydd o fudd i'r amgylchedd ac i'n tenantiaid.  Fel y gwyddoch, mae ein rhaglen adeiladu newydd wedi gwthio'r ffiniau ar gyfer tai cymdeithasol trwy ddarparu cartrefi sy'n isel mewn carbon ac yn effeithiol mewn perthynas ag ynni ac wrth i ni barhau i adeiladu, byddwn yn parhau i wthio'r ffiniau hynny.  Rydym yn defnyddio'r un dull pan fyddwn yn darparu cartrefi newydd i bobl drwy ailddatblygu adeiladau masnachol presennol mewn cartrefi effeithiol a modern, gan ddefnyddio'r dull ffabrig yn gyntaf a defnyddio technolegau adnewyddadwy i ddarparu amgylchedd byw fforddiadwy a chyfforddus i'n tenantiaid.  Wrth gwrs, mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn defnyddio'r un dull wrth wneud gwaith ôl-ffitio ar ein stoc dai bresennol.  Rydym eisoes wedi gwneud gwaith ôl-ffitio llawn ar rai o'n cartrefi sy'n golygu bod safon y cartrefi yr un fath â'n cartrefi newydd.  Rydym yn gosod offer monitro yn y cartrefi er mwyn ein galluogi i fesur effaith perfformiad.  Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y gwaith rydym yn ei wneud i'n cartrefi yn bodloni disgwyliadau ein model data ac yn bwysicach, bod ein tenantiaid yn elwa. 


Eleni rydym yn parhau â’r gwaith. Rydym ar hyn o bryd yn manteisio ar y cyfle i wneud gwaith ôl-ffitio ar ganran o'n tai gwag, ac am y tro cyntaf rydym yn gweithio ar gartrefi y mae tenantiaid yn byw ynddynt ar hyn o bryd, sydd wrth gwrs yn cyflwyno heriau ychwanegol. Mae hyn yn bwysig  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 13.1

13.2

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD JOHN JAMES I'R CYNGHORYDD DARREN PRICE, ARWEINYDD Y CYNGOR

Mae deallusrwydd artiffisial yn dechnoleg drawsnewidiol sy’n cael ei defnyddio ar draws y sector preifat a’r sector cyhoeddus, yn genedlaethol ac yn fyd-eang, ac sy’n chwarae rôl sy’n gwella ac yn datblygu. Mae fy nghwestiwn yn cynnwys dwy ran:

 

Yn gyntaf: Pa gamau y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn eu cymryd ar hyn o bryd ynghylch deallusrwydd artiffisial er mwyn sicrhau bod y Cyngor hwn yn dilyn y prif dueddiadau a datblygiadau a’i fod yn manteisio ar yr arfer gorau y mae awdurdodau lleol eraill a sefydliadau’r sector cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig yn ei weithredu ac yn arloesi mewn perthynas ag ef?

 

Yn ail: Gan edrych tua’r dyfodol, sut y mae’r Cyngor yn bwriadu manteisio i’r eithaf ar ddeallusrwydd artiffisial fel y gellir rhoi cyfleoedd ac arferion ymarferol ar waith, gan gydnabod ac ymdrin â’r heriau y bydd y dechnoleg hon, heb os, yn eu creu wrth iddi ddatblygu?

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cwestiwn gan y Cynghorydd James:

 

“Mae Deallusrwydd Artiffisial yn dechnoleg drawsnewidiol sy'n cael ei defnyddio ledled y sectorau Preifat a Chyhoeddus yn genedlaethol ac yn fyd-eang ac sy'n chwarae rôl gynyddol a gwell. Daw fy nghwestiwn mewn dwy ran:

 

Yn gyntaf: Pa gamau mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn eu cymryd ar hyn o bryd ynghylch Deallusrwydd Artiffisial i sicrhau bod y Cyngor hwn yn cadw i fyny â thueddiadau a datblygiadau allweddol ac yn tynnu ar arferion gorau Awdurdodau Lleol a Sefydliadau Sector Cyhoeddus eraill yn y DU.

 

Yn ail: Gan edrych at y dyfodol, sut mae'r Cyngor hwn am fanteisio i'r eithaf ar Ddeallusrwydd Artiffisial fel y gellir defnyddio cyfleoedd ac arferion, gan gydnabod hefyd a delio â'r heriau ddaw yn sgil y dechnoleg hon yn ddi-os wrth iddi wella."

 

Ymateb gan y Cynghorydd Price:

 

“Mewn ymateb i'r cwestiwn cyntaf, rydym wedi bod yn dilyn datblygiadau ym maes deallusrwydd artiffisial ers peth amser ac mae ein swyddogion yn ymwybodol o'r datblygiadau diweddaraf ac mewn cysylltiad cyson ag arbenigwyr yn y diwydiant, partneriaid sector preifat a chyflenwyr.  Rydym hefyd yn ymwneud ag amrywiaeth o fforymau sector cyhoeddus a ffrydiau gwaith, gan weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol a Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod mewn sefyllfa dda i ddefnyddio arferion gorau Awdurdodau Lleol a sefydliadau sector cyhoeddus eraill mewn perthynas â Deallusrwydd Artiffisial.

 

Mae'r cysylltiadau rydym eisoes wedi'u gwneud a'n presenoldeb yn y Fforymau hyn yn ein helpu i rannu dysgu a nodi'r cyfleoedd mwyaf buddiol i Sir Gaerfyrddin.  Maent hefyd yn darparu gwybodaeth hanfodol am y risgiau a'r heriau posibl sy'n perthyn i ddeallusrwydd artiffisial, gan ein galluogi i baratoi gyda hynny mewn golwg.  Er mwyn i ni gofleidio Deallusrwydd Artiffisial go iawn mae angen i ni ddeall yr achos busnes, y gost, y buddion ac ati fesul achos.  Mae hefyd yn hanfodol ein bod yn deall effaith debygol y dechnoleg hon ar ein gwasanaethau cyhoeddus, ar breswylwyr, ac wrth gwrs ein gweithlu er mwyn sicrhau ein bod yn mabwysiadu hyn mewn modd moesol a diogel.

 

Byddwn yn parhau i gymryd y camau angenrheidiol ac i feithrin ein perthynas â phartneriaid yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat i sicrhau bod Sir Gaerfyrddin yn cadw i fyny â thueddiadau a datblygiadau allweddol ym maes Deallusrwydd Artiffisial. Rydym eisoes yn treialu'r defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial mewn dwy broses AD ac mae ein Bwrdd Trawsnewid Digidol yn edrych ar adrannau eraill lle gallwn ddefnyddio a dysgu trwy ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial.  Er enghraifft, un o'r prosesau yw cyflwyno bot i'r Adran Adnoddau Dynol yn ddiweddar, ac mae'r bot yn gallu prosesu gwybodaeth 24 awr y dydd ac yn fwy effeithiol na'r broses flaenorol. 

Mae arbedion yn amlwg yn ogystal â gwell effeithiolrwydd o ran y broses.  Rydym yn monitro hyn fel bod y bobl fonitro yn gweithio gyda'n hadran i ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial i symleiddio ein prosesau rheoli contract yn Adnoddau Dynol.  Bydd hyn yn lleihau ein defnydd o staff achlysurol ac yn darparu gwelliannau ar gyfer  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 13.2

14.

COFNODION ER GWYBODAETH (AR GAEL AR Y WEFAN)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod y cofnodion a amlinellir ar yr agenda dan 14.1 – 14.5 ar gael er gwybodaeth ar wefan y Cyngor.