Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S.M. Allen, A. Davies, H.L. Davies, S.L. Davies, A.D. Harries, J.P Hart, G.R. Jones, M.J.A. Lewis a B.D.J. Phillips.
|
|||||||||||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||||||||||||||||||||
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||||||||||||||||||||
CYHOEDDIADAU GAN YR ARWEINYDD, AELODAU'R CABINET NEU'R PRIF WEITHREDWR (OS OES RHAI) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Arweinydd y Cyngor y wybodaeth ddiweddaraf i'r Cyngor am y sefyllfa bresennol ynghylch penderfyniad y Swyddfa Gartref i ddefnyddio Gwesty Parc y Strade yn y Ffwrnes ar gyrion Llanelli i letya ceiswyr lloches. Dywedodd fod y cais am waharddeb dros dro yn yr Uchel Lys yn aflwyddiannus a bod yn rhaid i'r Cyngor ystyried y dyfarniad a'r camau nesaf. Nodwyd bod y Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid i roi cymorth ac arweiniad i'r staff oedd wedi colli eu swyddi ac y byddai'n eu cefnogi i chwilio am waith. Roedd y Cyngor wedi gwahodd amryw o gwmnïau i ffair gyflogaeth yr wythnos ddiwethaf.
Cyfeiriwyd at y brotest a phresenoldeb y cyhoedd a'r heddlu wrth fynedfa Gwesty Parc y Strade a'r arestiadau anffodus dros y penwythnos. Pwysleisiodd yr Arweinydd ei fod yn deall pam y mae pobl wedi ymgynnull yno a'r teimladau cryf a'r dicter yn sgil ymddygiad Llywodraeth Geidwadol y DU. Roedd y Cyngor wedi dadlau'n gyson fod ffordd amgen a gwell o ddarparu llety i geiswyr lloches gan ddefnyddio model mwy gwasgaredig a chynllunio grwpiau llai.
Nododd yr Arweinydd ei siom ynghylch y diffyg ymateb gan y Swyddfa Gartref ac nad oedd y Cyngor gam ymlaen na'r diweddariad blaenorol ar 21 Mehefin. Roedd y Swyddfa Gartref wedi addo y byddai'r Cyngor yn cael gwybod am ddemograffeg y rhai sy'n cael llety 24 awr cyn iddynt cyrraedd ond hyd yma nid oedd unrhyw wybodaeth wedi dod i law. Ailbwysleisiwyd y byddai'r Cyngor yn gwneud yr hyn a allai i gefnogi'r gymuned leol a'r staff yn y gwesty.
|
|||||||||||||||||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR Y 21 MEHEFIN 2023 PDF 147 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 21 Mehefin 2023 gan eu bod yn gywir.
|
|||||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU I'R CYNGOR LLAWN PDF 115 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Sylwer: Roedd y Cynghorydd T. Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon ac arhosodd yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ynghylch yr eitem hon a'r bleidlais ddilynol]. Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i Mrs Mary Dodd, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, a wahoddwyd i gyflwyno Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer y cyfnod 2022/23 i'r Cyngor. Nodwyd mai dyma'r adroddiad blynyddol cyntaf a gyflwynwyd gan y Pwyllgor Safonau yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a roddodd ddyletswyddau newydd i arweinwyr grwpiau gwleidyddol i hyrwyddo cydymffurfiaeth â'r côd gan aelodau eu gr?p. Roedd y Ddeddf hon hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgorau Safonau roi gwybod ynghylch pa mor dda y mae arweinwyr grwpiau wedi cydymffurfio â'r dyletswyddau hynny. Diolchodd Mrs Dodd i'r Cyngor am y cyfle i gyflwyno'r Adroddiad Blynyddol ar ran y Pwyllgor Safonau ac aeth yn ei blaen i roi trosolwg o'r materion y bu'r Pwyllgor yn mynd i'r afael â hwy yn ystod 2022/23. Roedd y rheiny'n cynnwys Cwynion Côd Ymddygiad, Ceisiadau am Ollyngiad a Hyfforddiant Côd Ymddygiad ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned. Nodwyd bod y pwyllgor wedi cael dau atgyfeiriad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i'w hymchwilio iddynt ac atgoffwyd yr aelodau na ddylent fod yn hunanfodlon ac y dylent fod yn ymwybodol o'u rhwymedigaethau o dan y côd ymddygiad. Nodwyd hefyd mai dim ond 52 cais am ollyngiadau a ystyriwyd gan y pwyllgor, sef cynnydd sylweddol o gymharu â blynyddoedd blaenorol. Anogodd yr aelodau i ystyried yr angen am ollyngiad ac i geisio cyngor pan fo angen. Diolchodd y Cadeirydd i Mrs Dodd am ei chyflwyniad ac am y gwaith a wnaed gan y Pwyllgor Safonau. PENDERFYNWYD derbyn Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau am y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023.
|
|||||||||||||||||||||||||
DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR Y 19 MEHEFIN, 2023 PDF 120 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Sylwer: Roedd y Cynghorwyr M. Palfreman, H.B. Shepardson, K. Madge, B.A.L. Roberts, P.T. Warlow a S.Godfrey-Coles wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ac wedi aros yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ynghylch yr eitem hon a'r bleidlais ddilynol].
Gan gyfeirio at Gofnod 6, yng Nghyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Mehefin, 2023 ynghylch System Iechyd a Gofal Gorllewin Cymru: Pa Mor Bell, Pa Mor Gyflym?, gofynnwyd i'r Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a allai roi sicrwydd o'i hyder ynghylch y cynllun yn cael ei gyflawni yn Sir Gaerfyrddin, o ystyried y risgiau sylweddol a nodwyd yn yr adroddiad gan gynnwys argaeledd gweithlu ar draws y system, diffyg tystiolaeth gadarn o integreiddio ffurfiol ledled Cymru a'r angen o ran ailfeddwl llywodraethu a rheoli'r system, a hynny'n radical, i sicrhau bod trawsnewidiad o'r math hwn yn gweithio.
Mewn ymateb, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod heriau'r gweithlu yn cael eu cydnabod a'u bod yn flaenllaw o ran blaenoriaeth barhaus gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda a'r Cyngor Sir. Roedd y Pwyllgor Craffu - Iechyd a Gofal Cymdeithasol hefyd wedi cael yr adroddiad ac wedi'i gymeradwyo. Dywedodd fod y gwaith integreiddio yn Sir Gaerfyrddin wedi dechrau sawl blwyddyn yn ôl, a bod perthynas sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth wedi'i datblygu gyda phartneriaid, ac y byddai'r gwaith yn parhau'n gyflym.
Wrth gyfeirio at Gofnod 9, ynghylch y wybodaeth ddiweddaraf am ddeiseb Harbwr Porth Tywyn i'r Cyngor Llawn, gofynnwyd pam nad oedd unrhyw sôn yn y cofnodion am Burry Port Marina Ltd yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr ar 7 Mehefin. Gofynnwyd am eglurhad hefyd ynghylch y sefyllfa bresennol o ran dyfodol Harbwr Porth Tywyn.
Mewn ymateb, cadarnhaodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth ei fod wedi darparu diweddariad cynhwysfawr yn y cyfarfod ac, er bod y cofnodion yn gywir, nid oedd yn gofnod air am air o'r trafodaethau. Dywedodd mai ar gofnod cyhoeddus y cyhoeddwyd bod y cwmni dan sylw wedi cael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr. Hefyd dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth fod y sefyllfa bresennol yn parhau a bod uwch-swyddogion wedi cwrdd a'u bod yn parhau i gynnal trafodaethau â'r gweinyddwyr yn ystod y broses ffurfiol o roi'r cwmni yn nwylo'r gweinyddwyr. Oherwydd y broses gyfreithiol, dywedwyd nad oedd modd rhannu manylion penodol ar hyn o bryd ond dywedodd ei fod yn gobeithio cyrraedd man lle roedd dyfodol yr harbwr yn gliriach. Rhoddwyd sicrwydd y byddai'r holl randdeiliaid perthnasol yn parhau i gael y wybodaeth ddiweddaraf pryd bynnag y bo modd yn ystod y broses hon.
Mewn ymateb i eglurhad ynghylch Cofnod 5.1, Cwestiwn gan Mr Havard Hughes, dywedodd yr Arweinydd fod y prosiect wedi'i ddatblygu dros nifer o flynyddoedd a'i fod wedi bod yn destun nifer o adroddiadau. Dywedodd fod y prosiect yn gyfle enfawr i gynhyrchu refeniw o ran twristiaeth a datblygiad economaidd. Dywedodd fod yr amserlenni a atodwyd i gyllid y prosiect hwn yn heriol a bod cychwyn y broses Gorchymyn Prynu Gorfodol ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7. |
|||||||||||||||||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|||||||||||||||||||||||||
CWESTIYNAU GAN YR AELODAU:- Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||||||||||||||
CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD JOHN JAMES I'R CYNGHORYDD ALED VAUGHAN OWEN AELOD Y CABINET DROS NEWID HINSAWDD, DATGARBONEIDDIO A CHYNALIADWYEDD “Mae'r modd y mae newid yn yr hinsawdd yn cyflymu, datgoedwigo, llygredd a gweithgareddau dynol eraill wedi gwthio byd natur i'r dibyn, gan fygwth y cydbwysedd bregus sy'n cynnal bywyd ar y Ddaear.
Sut ydych chi'n credu y gall Cyngor Sir Caerfyrddin ymateb orau i'r Argyfwng Natur y mae ef a Llywodraeth Cymru wedi'i ddatgan?”
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: “Mae'r modd y mae newid yn yr hinsawdd yn cyflymu, datgoedwigo, llygredd a gweithgareddau dynol eraill wedi gwthio byd natur i'r dibyn, gan fygwth y cydbwysedd bregus sy'n cynnal bywyd ar y Ddaear.
Sut ydych chi'n credu y gall Cyngor Sir Caerfyrddin ymateb orau i'r Argyfwng Natur y mae ef a Llywodraeth Cymru wedi'i ddatgan?”
Ymateb y Cynghorydd Aled Vaughan-Owen - yr Aelod Cabinet Dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:-
Diolch i'r Cadeirydd a diolch i'r Cynghorydd James am y cwestiwn amserol.
Rwy'n si?r ein bod i gyd wedi clywed mai'r wythnos ddiwethaf oedd yr wythnos gynhesaf ar y blaned sy'n ein hatgoffa bod angen i ddynoliaeth gynyddu lefel y gweithredu ar yr argyfyngau newid hinsawdd a natur a gwneud hynny ar frys. Os nad ydym yn sicrhau ein bod yn cadw lefelau'r tymheredd o dan reolaeth, bydd yn cael effaith drychinebus ar ein systemau iechyd, systemau bwyd, yr economi, ein cymunedau a hefyd ar natur.
Dyna pam rwy'n falch iawn ein bod ni fel cyngor wedi galw am gydnabod argyfwng natur y byd ar ddiwedd tymor olaf yr etholiad ac mae'n anrhydedd mawr i fod bellach yn ddeiliad y portffolio Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd a chael rhan fach yn y rôl bwysig o ran y ffordd y mae'r Cyngor yn ymateb i'r heriau hyn. Ond yn wir, ni ellir diwallu'r heriau gydag un deiliad portffolio yn unig. Mae pob un ohonom, fel aelodau lleol, fel aelodau cabinet ac fel corff cyhoeddus, yn gyfrifol am yr heriau sy'n ymwneud â natur.
Mae'n rhaid i ni osod hinsawdd a natur wrth wraidd y broses o lunio polisïau ac wrth weithredu o ddydd i ddydd. Rydym bellach yn gweld hyn yn cael ei gydnabod yn y Cynllun Corfforaethol a hefyd yn y Strategaeth Drawsnewid. Rydym eisoes wedi creu panel ymgynghorol trawsbleidiol ar yr argyfwng natur a hinsawdd ac mae gennym gr?p o aelodau angerddol sydd ar gael i gynghori, i herio ac i ysbrydoli fel y gallwn wneud y penderfyniadau cywir nawr a hefyd yn y dyfodol.
Mae'r gr?p hwn wedi cyfarfod sawl gwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac wedi cael y cyfle i helpu i lunio'r ffordd rydym yn cyflawni nid yn unig yr hyn y mae'n ofynnol yn gyfreithiol inni ei gyflawni o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) ond hefyd yr uchelgais cywir y dylem fod yn anelu ato.
Mae'r Aelodau wedi gallu awgrymu camau pellach, cyflymach a dewrach inni anelu atynt yn y Cynllun Gweithredu nesaf ac edrychaf ymlaen at gyflwyno'r cynllun i'r pwyllgor craffu. Rwy'n gwybod y bydd yn cael ei herio'n briodol i sicrhau ei fod yn cyflawni'r nodau a'r uchelgeisiau sy'n gyffredin inni i gyd.
Ond pa bynnag gamau gwirioneddol y bydd y cyhoedd yn eu gweld, ac yn ystod y gaeaf diwethaf mae Cyngor Sir Caerfyrddin, drwy gyllid Llywodraeth Cymru, wedi gallu darparu 5 safle plannu coed gan gynnwys 3 choetir newydd yn Nhregib, Cydweli a Llandybïe. Mae'r goeden gywir yn y lle cywir am y rheswm cywir yn hanfodol ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9.1 |
|||||||||||||||||||||||||
COFNODION ER GWYBODAETH (AR GAEL AR Y WEFAN) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd fod y cofnodion a amlinellir ar agenda 10.1 – 10.8 ar gael i'w gweld ar wefan y Cyngor.
|