Agenda a Chofnodion

(Aml Leoliad), Cyngor Sir - Dydd Mercher, 22ain Mehefin, 2022 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L.M Davies, G.R. Jones, N. Lewis ac A. Vaughan-Owen.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

R. E. Evans

9.1 - Mae'r Gr?p Llafur wedi enwebu'r Cynghorydd

Rob Evans i gymryd ei sedd wag ar Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth

a Gorllewin Cymru.

Buddiant Personol – wedi'i enwebu i'w benodi.

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad diffuant i deulu'r cyn-Gynghorydd Penny Edwards.  Bu farw Penny ddydd Sul 22 Mai ar ôl cyfnod o salwch.  Roedd Penny yn cynrychioli Ward Hengoed tan yr etholiadau ym mis Mai.

 

·         Estynnwyd cydymdeimlad hefyd i deulu'r cyn-Gynghorydd John Edwards a fu'n cynrychioli Ward Saron tan yr etholiadau llywodraeth leol yn 2012.

 

·         Talodd y Cadeirydd deyrnged i Phil Bennett a fu farw ar 12 Mehefin.  Roedd wedi ennill 29 cap dros Gymru rhwng 1969 a 1978 ac wedi chwarae 413 o gemau i'r Scarlets.  Dywedwyd y byddai gwasanaeth coffa yn cael ei gynnal ym Mharc y Scarlets ddydd Gwener 24 Mehefin, gan ddechrau am 11am, ac y byddai gwasanaeth cyhoeddus wedi hynny yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Felin-foel, am 1pm.

 

·         Cyhoeddodd y Cadeirydd ei fod wedi cael y pleser o fynychu derbyniad yn y Senedd yn ddiweddar i nodi dechrau Wythnos y Lluoedd Arfog 2022.  Roedd hefyd wedi mynychu digwyddiad beicio Taith Merched Prydain.

 

·         Estynnodd y Cynghorydd Alun Lenny, gyda chaniatâd y Cadeirydd, ei longyfarchiadau i Joe Allen a thîm pêl-droed cenedlaethol Cymru ar eu llwyddiant wrth gyrraedd Cwpan y Byd yn Qatar.  Hefyd, llongyfarchwyd Josh Sheehan (Bolton Wanderers) sydd wedi cael tri chap dros Gymru ac sydd ar hyn o bryd yn chwaraewr ar yr ymylon oherwydd anaf.

 

·         Estynnodd y Cynghorydd Edward Thomas, gyda chaniatâd y Cadeirydd, ei longyfarchiadau i Ysgol Gynradd Llandeilo a ddewiswyd i gynrychioli Cymru yng nghyngerdd y Jiwbilî yn y Royal Albert Hall.  Estynnwyd llongyfarchiadau hefyd i Glwb Rygbi Llandeilo, sef un o sylfaenwyr Undeb Rygbi Cymru, sy'n dathlu ei ben-blwydd yn 150 oed eleni. Aeth aelodau'r clwb ar daith feicio 304 milltir i gefnogi Apêl Arch Noa a chanser y prostad.  Diolchodd y Cynghorydd Thomas hefyd i blant Llandeilo am gymryd rhan yn Eisteddfod yr Urdd yn Ninbych.

 

·         Amlinellodd yr Arweinydd, gyda chaniatâd y Cadeirydd, yr ymdrechion sy'n cael eu gwneud gan breswylwyr Sir Gaerfyrddin a'r Awdurdod i roi cymorth i ffoaduriaid o Wcráin. Dywedodd yr Arweinydd fod 80 o noddwyr o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin. Mae dros 30 o blant eisoes wedi dechrau yn yr ysgol.  Mae rhai teuluoedd o Wcráin hefyd wedi cael llety tymor byr ac mae'r Awdurdod yn darparu amrywiaeth o wasanaethau a chymorth.  I gloi, dywedodd yr Arweinydd wrth yr holl deuluoedd o Wcráin sydd yma fod Sir Gaerfyrddin yn sefyll gyda nhw, wrth eu hochr nhw, ac y byddem yn gwneud beth bynnag y gellid ei wneud i'w cefnogi.

 

Soniodd yr Arweinydd am yr arolwg preswylwyr a fyddai'n mynd yn fyw cyn bo hir.  Dywedodd yr Arweinydd fod yr Awdurdod yn ceisio barn preswylwyr ar bob maes perfformiad er mwyn llywio'r gwaith o gynllunio ar gyfer y dyfodol.  Byddai'r canfyddiadau pwysig yn cael eu rhannu ar draws pob lefel o'r sefydliad er mwyn llywio'r broses o wneud penderfyniadau.  Anogodd yr Arweinydd yr holl breswylwyr i fynd ar-lein i gwblhau'r arolwg. 

 

Dywedodd yr Arweinydd hefyd fod y cyfarfod cyntaf o Arweinwyr y Grwpiau wedi'i gynnal i drafod gweithio mewn partneriaeth a'i fod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFODYDD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR Y:-

Dogfennau ychwanegol:

4.1

2AIL MAWRTH, 2022 pdf eicon PDF 486 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 2 Mawrth 2022 yn gofnod cywir.

4.2

9FED MAWRTH, 2022 pdf eicon PDF 394 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2022 yn gofnod cywir, yn amodol ar gynnwys y Cynghorydd J.P. Jenkins yn y rhestr o'r rheiny a oedd yn bresennol.

4.3

25AIN MAI, 2022 pdf eicon PDF 381 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 25 Mai 2022 yn gofnod cywir.

5.

PENODI AELOD CYMUNEDOL O'R PWYLLGOR I'R PWYLLGOR SAFONAU. pdf eicon PDF 293 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn argymell bod y Cynghorydd Philip Rogers o Gyngor Tref Sanclêr yn cael ei ailbenodi'n Aelod Cymunedol y Pwyllgor Safonau tan ddiwedd ei gyfnod presennol yn ei swydd fel Cynghorydd Tref. Mae rheoliad 4 o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001 yn gofyn bod gan Bwyllgor Safonau Aelod Pwyllgor Cymunedol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cynghorydd Philip Rogers yn cael ei ailbenodi'n Aelod Cymunedol y Pwyllgor Safonau tan ddiwedd ei gyfnod presennol yn ei swydd fel Cynghorydd Tref.

 

6.

DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR:-

Dogfennau ychwanegol:

6.1

14EG MAWRTH 2022 pdf eicon PDF 337 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2022.

6.2

28AIN MAWRTH 2022 pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 28 Mawrth 2022.

6.3

11EG EBRILL 2022 pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 11 Ebrill 2022.

7.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

8.

CWESTIYNAU GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan aelodau.

9.

CYMARADWYO Y NEWIDIADAU CANLYNOL I AELODAETH PWYLLGORAU

Dogfennau ychwanegol:

9.1

MAE'R GRWP LLAFUR WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD ROB EVANS I GYMRYD SEDD WAG AR WASANAETH TÂN AC ACHUB CANOLBARTH A GORLLEWIN CYMRU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo enwebiad y Cynghorydd R.E Evans fel un o gynrychiolwyr y Gr?p Llafur ar Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.