Agenda a Chofnodion

Cyngor Sir - Dydd Mercher, 8fed Gorffennaf, 2020 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod -.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Nodyn: Rhith-gyfarfod. Gall aelodau'r cyhoedd weld y cyfarfod yn fyw trwy wefan yr Awdurdod. Os oes angen cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg arnoch yn ystod y cyfarfod, ffoniwch 0330 336 4321 cyfrin-gôd' 37533938# (Am daliadau galwad cysylltwch â'ch darparwr gwasanaeth.) 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P. Hughes, T.J. Jones, S. Phillips a G.B. Thomas

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

K. Lloyd

7.3 - Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Rob James

Mae'n aelod o Adran Ymddeol Unsain. Mae wedi derbyn gollyngiad i siarad ond nid pleidleisio.

A. Lenny

7.1 - Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd L. Bowen

Mae rhan o'r cynnig yn ymwneud ag enwau strydoedd ac mae'n byw ar Heol Picton. Mae wedi cael cyngor cyfreithiol gan y swyddog monitro ac mae'n gallu siarad a phleidleisio ar bleidlais gyffredinol, ond nid ar y rhan sy'n ymwneud ag enwau strydoedd os caiff y bleidlais honno ei gwneud ar wahân.

K. Madge

6.1 - Cwestiwn gan y Cynghorydd K. Madge i'r Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd

Mae ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol

E. Morgan

7.3 - Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Rob James

Aelod oes o Unsain

R. James

8.1 - Cartrefi yn Orsafoedd P?er

Cynrychiolydd y Cyngor ar Bwyllgor Craffu Rhanbarthol Bae Abertawe

Mr. C. Moore

7.3 - Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Rob James

Mae aelod o'i deulu wedi bod yn weithiwr asiantaeth yn y theatr o'r blaen.

 

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Cofnodion:

·         Diolchodd y Cadeirydd i'r Aelodau hynny o'r Cyngor a oedd wedi mynychu'r cyfarfod blynyddol ac i'w gyfeillion, perthnasau, a gwesteion nodedig a oedd wedi recordio neges fideo fer ar gyfer y diwrnod;

·         Cyhoeddodd y Cadeirydd mai'r elusennau a ddewiswyd ganddo am Flwyddyn ei Gadeiryddiaeth fyddai Canser y Prostad ac Eglwys San Pedr, Llanybydder;

·         Cyfeiriodd y Cadeirydd at ei ymweliad diweddar ag Ysgol Llanybydder i weld y paratoadau ar gyfer croesawu'r plant yn ôl i'r ysgol yn ystod pandemig Covid-19.

 

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNOD CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR:-

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y tair set o gofnodion i'w cyflwyno i'r Cyngor y diwrnod hwnnw i'w mabwysiadu fel cofnodion cywir, a dywedodd mai ei fwriad, ar yr amod bod dim gwrthwynebiadau, oedd derbyn y cynigwyr a'r eilwyr ac unrhyw faterion o gywirdeb yn unigol, ond byddai'n cymryd un bleidlais yn unig i fabwysiadu'r holl gofnodion, yn amodol ar unrhyw newidiadau.

 

4.1

3YDD MAWRTH 2020 pdf eicon PDF 476 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor ar 3 Mawrth, 2020 gan eu bod yn gywir.

 

 

4.2

10FED MAWRTH 2020 pdf eicon PDF 241 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor ar 10 Mawrth, 2020 gan eu bod yn gywir.

 

 

4.3

10FED MEHEFIN 2020 pdf eicon PDF 117 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor ar 10 Mehefin, 2020 gan eu bod yn gywir.

 

 

5.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD pdf eicon PDF 59 KB

5.1

CWESTIWN GAN A. DAVIES I'R CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR

“Ers sawl mis, mae fy ffrindiau a minnau wedi bod yn cael trafferth cyrraedd yr ysgol ar ôl i'n gwasanaeth bws ysgol gael ei ddileu.

Rydym wedi bod yn dibynnu ar ein rhieni i'n gyrru i'r ysgol, gan nad yw'r llwybrau i'r ysgol yn addas.

Mae'r penderfyniad i ddileu'r gwasanaeth bws ysgol yn cael effaith fawr ar deuluoedd fy ffrindiau. Mae rhieni'n cyrraedd y gwaith yn hwyr, mae problemau wedi bod o ran y bws gwasanaeth ac mae'r tywydd wedi bod yn erchyll.

Rwy'n pryderu bod nifer y bobl sy'n cael eu gollwng gan gar yn niweidio ein hamgylchedd.

Mae pobl yn parhau i drosglwyddo'r baich, felly fy nghwestiwn yw pryd y byddwn yn cael ein bysiau ysgol yn ôl? “

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd Miss Davies yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw ond gofynnwyd iddo ofyn y cwestiwn ar ei rhan:-

"Ers sawl mis, mae fy ffrindiau a minnau wedi bod yn cael trafferth cyrraedd yr ysgol ar ôl i'n gwasanaeth bws ysgol gael ei ddileu.

Rydym wedi bod yn dibynnu ar ein rhieni i'n gyrru i'r ysgol, gan nad yw'r llwybrau i'r ysgol yn addas.

Mae'r penderfyniad i ddileu'r gwasanaeth bws ysgol yn cael effaith fawr ar deuluoedd fy ffrindiau. Mae rhieni'n cyrraedd y gwaith yn hwyr, mae problemau wedi bod o ran y bws gwasanaeth ac mae'r tywydd wedi bod yn erchyll.

Rwy'n pryderu bod nifer y bobl sy'n cael eu gollwng gan gar yn niweidio ein hamgylchedd.

Mae pobl yn parhau i drosglwyddo'r baich, felly fy nghwestiwn yw pryd y byddwn yn cael ein bysiau ysgol yn ôl?

Dywedodd y Cadeirydd y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei gyfleu i Miss Davies yn unol â rhan 10.7 o Reolau Gweithdrefn Corfforaethol y Cyngor.

 

5.2

CWESTIWN GAN S. BERE I'R CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR

“Mae mannau gwyrdd trefol, megis Lôn Jackson yng nghanol tref Caerfyrddin, yn chwarae rôl gynyddol bwysig fel rhan o'n seilwaith trefol, yn enwedig oherwydd eu potensial i amsugno d?r glaw fel rhan o systemau draenio trefol cynaliadwy a gallu eu planhigion a choed i weithredu fel math o aerdymheru naturiol yn ystod tywydd poeth neu gyfnodau sych. Mae awdurdodau lleol wedi hen gydnabod bod eu mannau gwyrdd yn cynnig amrywiaeth o fuddion y tu hwnt i'w gwerth hamdden, gan gynnwys gwasanaethau naturiol neu 'ecosystem' megis rheoli llifogydd, rheoleiddio ansawdd d?r, amsugno s?n, storio carbon, amrywiaeth rhywogaethau gwyllt, ac ati. Cyfeirir yn aml at fannau gwyrdd fel ysgyfaint tref neu ddinas ac mae hyn yn wir, felly yng ngoleuni hyn a hygrededd y Cyngor ei hun fel sefydliad gwyrdd a fydd y Cyng. Dole yn cychwyn adolygiad ar unwaith o'r penderfyniad i adfywio Lôn Jackson, er mwyn bodloni ei hun bod y Cyngor yn gwneud popeth yn ei allu i gadw at ei hygrededd gwyrdd, gan sicrhau y manteisir i'r eithaf ar fuddion iechyd a llesiant canol ein trefi?”  

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd Ms Bere yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw ond gofynnwyd iddo ofyn y cwestiwn ar ei rhan:-

 

“Mae mannau gwyrdd trefol, megis Lôn Jackson yng nghanol tref Caerfyrddin, yn chwarae rôl gynyddol bwysig fel rhan o'n seilwaith trefol, yn enwedig oherwydd eu potensial i amsugno d?r glaw fel rhan o systemau draenio trefol cynaliadwy a gallu eu planhigion a choed i weithredu fel math o aerdymheru naturiol yn ystod tywydd poeth neu gyfnodau sych. Mae awdurdodau lleol wedi hen gydnabod bod eu mannau gwyrdd yn cynnig amrywiaeth o fuddion y tu hwnt i'w gwerth hamdden, gan gynnwys gwasanaethau naturiol neu 'ecosystem' megis rheoli llifogydd, rheoleiddio ansawdd d?r, amsugno s?n, storio carbon, amrywiaeth rhywogaethau gwyllt, ac ati. Cyfeirir yn aml at fannau gwyrdd fel ysgyfaint tref neu ddinas ac mae hyn yn wir, felly yng ngoleuni hyn a hygrededd y Cyngor ei hun fel sefydliad gwyrdd, a fydd y Cyng. Dole yn cychwyn adolygiad ar unwaith o'r penderfyniad i adfywio Lôn Jackson, er mwyn bodloni ei hun bod y Cyngor yn gwneud popeth yn ei allu i gadw at ei hygrededd gwyrdd, gan sicrhau y manteisir i'r eithaf ar fuddion iechyd a llesiant canol ein trefi?” 

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei gyfleu i Ms Bere yn unol â rhan 10.7 o Reolau Gweithdrefn Corfforaethol y Cyngor.

 

5.3

CWESTIWN GAN R. NARAYAN-TAYLOR I'R CYNGHORYDD JANE TREMLETT, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD

“Yng nghanol tref Caerfyrddin ar hyn o bryd, dim ond dwy ardal hyfyw o fannau gwyrdd sydd ar gael, sef Heol Sgubor a Lôn Jackson lle gall trigolion gael awyr iach glân, ymgysylltu â natur, ymlacio a chwrdd â ffrindiau. O ganlyniad, nid yw'n syndod bod pobl yn hoff iawn o'r mannau hyn ac yn achos Lôn Jackson mae'n cael ei defnyddio'n helaeth, yn enwedig yn ystod misoedd y gwanwyn a'r haf. Yng ngoleuni'r dystiolaeth gynyddol bod mannau gwyrdd o'r fath yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at iechyd corfforol a meddyliol, a fydd y Cynghorydd Tremlett yn gofyn am adolygiad ar unwaith o benderfyniad y Cyngor i adfywio Lôn Jackson er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn gwneud popeth yn ei allu i hyrwyddo iechyd a llesiant ei drigolion, a chyflawni ei nodau llesiant ei hun a nodau "Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.”

Cofnodion:

Yng nghanol tref Caerfyrddin ar hyn o bryd, dim ond dwy ardal hyfyw o fannau gwyrdd sydd ar gael, sef Heol Sgubor a Lôn Jackson lle gall trigolion gael awyr iach glân, ymgysylltu â natur, ymlacio a chwrdd â ffrindiau. O ganlyniad, nid yw'n syndod bod pobl yn hoff iawn o'r mannau hyn ac yn achos Lôn Jackson mae'n cael ei defnyddio'n helaeth, yn enwedig yn ystod misoedd y gwanwyn a'r haf. Yng ngoleuni'r dystiolaeth gynyddol bod mannau gwyrdd o'r fath yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at iechyd corfforol a meddyliol, a fydd y Cynghorydd Tremlett yn gofyn am adolygiad ar unwaith o benderfyniad y Cyngor i adfywio Lôn Jackson er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn gwneud popeth yn ei allu i hyrwyddo iechyd a llesiant ei drigolion, a chyflawni ei nodau llesiant ei hun a nodau "Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015."

 

Ymateb y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd:-

 

Mae'r pwyntiau a godwyd gan Mr Narayan-Taylor yn berthnasol iawn yn y cyfnod presennol a bydd mannau cyhoeddus fel Lôn Jackson yn chwarae rhan bwysig o ran iechyd a llesiant pobl wrth i gyfyngiadau symud Covid-19 ddod i ben. Gallaf ddweud wrth Mr Narayan-Taylor y bydd ymrwymiad y Cyngor i wella ei hygrededd gwyrdd yn cael ei ystyried wrth ailddatblygu Lôn Jackson. Wrth i'r pandemig gilio, rhoddir ystyriaeth hefyd i allu'r cynllun diwygiedig i gyflawni amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 o ran sicrhau cydnerthedd a ffyniant economaidd, tra'n diogelu ein diwylliant; ein hiaith Gymraeg; iechyd a llesiant ein trigolion; yr amgylchedd, a hyrwyddo cydraddoldeb a chydlyniant.

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn atodol

 

5.4

CWESTIWN GAN J HEATH I'R CYNGHORYDD CEFIN CAMPBELL, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG

“ Yn dilyn penderfyniad clodwiw'r Cyngor Sir i ddatgan argyfwng hinsawdd ar ddechrau 2019, yna ei benderfyniad i ofyn i Gronfa Bensiwn Dyfed ystyried symud ei buddsoddiadau mewn tanwyddau ffosil, ac yna ei benderfyniad ym mis Chwefror 2020 i alw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan i ddilyn ei arweiniad drwy newid eu targedau carbon sero net o 2050 i 2030, a wnaiff y Cynghorydd Campbell, sy'n arwain y  Cyngor ar yr Amgylchedd, ofyn am adolygiad ar unwaith o'r penderfyniad i adfywio ardal Lôn Jackson yn nhref Caerfyrddin, er mwyn bodloni ei hun nad yw'r cynigion ar gyfer Lôn Jackson yn groes i agenda gymeradwy'r Cyngor ar yr amgylchedd?”

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd Mr Heath yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw ond gofynnwyd iddo ofyn y cwestiwn ar ei ran:-

"Yn dilyn penderfyniad clodwiw'r Cyngor Sir i ddatgan argyfwng hinsawdd ar ddechrau 2019, yna ei benderfyniad i ofyn i Gronfa Bensiwn Dyfed ystyried symud ei buddsoddiadau mewn tanwyddau ffosil, ac yna ei benderfyniad ym mis Chwefror 2020 i alw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan i ddilyn ei arweiniad drwy newid eu targedau carbon sero net o 2050 i 2030, a wnaiff y Cynghorydd Campbell, sy'n arwain y Cyngor ar yr Amgylchedd, ofyn am adolygiad ar unwaith o'r penderfyniad i adfywio ardal Lôn Jackson yn nhref Caerfyrddin, er mwyn bodloni ei hun nad yw'r cynigion ar gyfer Lôn Jackson yn groes i agenda gymeradwy'r Cyngor ar yr amgylchedd?”

Dywedodd y Cadeirydd y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei gyfleu i Mr Heath yn unol â rhan 10.7 o Reolau Gweithdrefn Corfforaethol y Cyngor.

 

6.

CWESTIYNAU GAN YR AELODAU

6.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD KEVIN MADGE I CYNGHORYDD JANE TREMLETT - AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD

“Mae'r Pandemig Covid-19 wedi dangos bod gofal cymdeithasol yn hanfodol i'n cymdeithas sy'n tanlinellu'r pwysau ariannol enfawr y mae gofal cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin a Chymru yn eu hwynebu.

A allem gael y wybodaeth ddiweddaraf gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol am y pwysau ariannol diweddaraf sy'n wynebu'r awdurdod hwn yn ystod y misoedd sydd ar ôl yn y flwyddyn ariannol hon”.  

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd K. Madge wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)

 

Mae'r Pandemig Covid-19 wedi dangos bod gofal cymdeithasol yn hanfodol i'n cymdeithas sy'n tanlinellu'r pwysau ariannol enfawr y mae gofal cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin a Chymru yn eu hwynebu.

 

A allem gael y wybodaeth ddiweddaraf gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol am y pwysau ariannol diweddaraf sy'n wynebu'r awdurdod hwn yn ystod y misoedd sydd ar ôl yn y flwyddyn ariannol hon.  

 

Ymateb y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd:-

 

Diolch i chi'r Cynghorydd Madge am eich cwestiwn. Byddwn i'n cytuno bod yr argyfwng hwn wedi amlygu i bawb yn ein cymdeithas bwysigrwydd gofal cymdeithasol. Dylem ni i gyd fod yn ddiolchgar i staff gofal am y gwaith maent yn ei wneud ar draws ein sir. Bydd yr aelodau'n gwybod bellach i ni ymateb i'r argyfwng ar unwaith gan gynnig cymorth ariannol uniongyrchol i gartrefi gofal a darparwyr gofal cartref. Er bod y rhan fwyaf o'r costau hyn wedi'u talu gan Lywodraeth Cymru hyd yma, mae cryn ansicrwydd am ba hyd y bydd y cymorth hwn yn para. Bydd angen cymorth parhaus sylweddol ar gartrefi gofal yn benodol, wrth iddynt reoli lleoedd gwag o ganlyniad i COVID-19.

 

Er fy mod yn croesawu codi'r proffil cenedlaethol ar gyfer Gofal Cymdeithasol, rydym yn aros am eglurhad gan Lywodraeth Cymru ar sut beth fydd cymorth ariannol yn y tymor hir. Bydd hyn yn cael cryn sylw o ran yr alldro terfynol ar gyfer y flwyddyn ac a fydd yr arian ychwanegol a ddyrannwyd gennym yn y gyllideb y llynedd yn ddigonol. Bydd ein proses monitro cyllideb gorfforaethol yn monitro ac yn adrodd ar y sefyllfa'n fanwl wrth i ni symud ymlaen.

 

Mae'n amlwg bod angen ateb tymor hir arnom i ariannu gofal cymdeithasol, ac rwy'n parhau i ddadlau'r achos gyda'r Cyfarwyddwr fod angen i'r Llywodraeth lunio atebion cenedlaethol ar frys.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Kevin Madge:

Yn eich barn chi, beth arall mae angen ei wneud ar lefel genedlaethol i leihau'r pwysau sydd ar gyllid?

 

Ymateb y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd:-

 

Diolch Kevin. Rhoi pwysau cyson ar Lywodraeth Cymru rwy'n credu. Roeddwn i mewn cyfarfod yr wythnos diwethaf fel Cadeirydd y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol gyda'r Gweinidog Iechyd a'r Dirprwy Weinidog Iechyd, ac roedd holl Gadeiryddion y Partneriaethau Rhanbarthol yn cefnogi rhoi ystyriaeth fanwl i'r cyllid ac ymateb mor gyflym ag y bo modd i awdurdodau lleol oherwydd yr argyfwng cyllid  a wynebir

 

7.

YSTYRIED Y RHYBUDD O GYNNIG CANLYNOL:-

7.1

RHYBYDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD LIAM BOWEN pdf eicon PDF 57 KB

Mynd i'r afael â hiliaeth yn Sir Gaerfyrddin

Mae marwolaeth ofnadwy George Floyd yn yr Unol Daleithiau a'r wythnosau o brotestio a thrafod sydd wedi dilyn wedi rhoi cyfle i ni gyd fyfyrio ar realiti llym hiliaeth ar draws y byd. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn Sir ofalgar, agored a chynhwysol, ond mae'n rhaid cydnabod yn agored bod elfennau o hiliaeth ac anoddefgarwch yn parhau yn ein cymdeithas heddiw yn anffodus. Felly, mae'n ddyletswydd ar y cyngor hwn i gydnabod yn ffurfiol y methiannau hyn, ac estyn llaw i'r gymuned Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME), i lunio rhaglenni addysgol rhagweithiol ac ailedrych ar ein henebion hanesyddol yng ngoleuni digwyddiadau diweddar. Felly:

Mae'r Cyngor hwn yn

  • Gwneud datganiad clir a diamwys ei fod yn casáu hiliaeth, rhagfarn a gwahaniaethu o bob math – yn y gorffennol a'r presennol.
  • Cefnogi'r neges 'Mae Bywydau Du o Bwys' ac yn credu yn hawl dinasyddion i brotestio'n heddychlon mewn amgylchedd diogel
  • Cydnabod pwysigrwydd cymunedau BAME yn ein sir ac yn ymrwymo i weithio gyda hwy, rydym yn anelu at addysgu, adnabod a dileu hiliaeth yn Sir Gaerfyrddin.

Bydd y Cyngor yn:

  • Gwrando ar lais cymunedau BAME yn ein sir a sefydlu Gr?p Gorchwyl a Gorffen Trawsbleidiol i gymryd tystiolaeth er mwyn sicrhau bod eu pryderon, eu hofnau a'u cynigion yn cael eu clywed yn llawn ac yn llywio polisi yn y dyfodol
  • Gweithio gyda Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys i fynd i’r afael â hiliaeth, rhagfarn a gwahaniaethu o fewn y system farnwrol

·        Parhau i ddysgu o ddigwyddiadau hanesyddol mewn dull sy'n ffeithiol gytbwys

  • Ymrwymo i weithio gyda'n hysgolion i gynnwys themâu gwladychiaeth, cam-fanteisio, gwahaniaethu a hiliaeth yn y Cwricwlwm Cenedlaethol newydd ac o ran dysgu gydol oes
  • Cynnal adolygiad o henebion cyhoeddus, gan gynnwys yr un i Thomas Picton yng Nghaerfyrddin, yn ogystal ag enwau strydoedd ac adrodd ar eu priodoldeb yng Nghymru yn yr 21ain Ganrif
  • Croesawu mis Hanes Pobl Dduon (Hydref) drwy gynnal digwyddiadau cyhoeddus i dynnu sylw at realiti effaith negyddol anghydraddoldeb hiliol a dathlu'r cyfraniad a wneir gan gymunedau BAME tuag at ein bywyd lleol a chenedlaethol

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd A. Lenny wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)

 

Ystyriodd y Cyngor y Rhybudd o Gynnig canlynol gan y
Cynghorydd Liam Bowen:-

 

Mynd i'r afael â hiliaeth yn Sir Gaerfyrddin

Mae marwolaeth ofnadwy George Floyd yn yr Unol Daleithiau a'r wythnosau o brotestio a thrafod sydd wedi dilyn wedi rhoi cyfle i ni gyd fyfyrio ar realiti llym hiliaeth ar draws y byd. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn Sir ofalgar, agored a chynhwysol, ond mae'n rhaid cydnabod yn agored bod elfennau o hiliaeth ac anoddefgarwch yn parhau yn ein cymdeithas heddiw yn anffodus. Felly, mae'n ddyletswydd ar y Cyngor hwn i gydnabod yn ffurfiol y methiannau hyn, ac estyn llaw i'r gymuned Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME), i lunio rhaglenni addysgol rhagweithiol ac ailedrych ar ein henebion hanesyddol yng ngoleuni digwyddiadau diweddar. Felly:

Mae'r Cyngor hwn yn

  • Gwneud datganiad clir a diamwys ei fod yn casáu hiliaeth, rhagfarn a gwahaniaethu o bob math – yn y gorffennol a'r presennol.
  • Cefnogi'r neges 'Mae Bywydau Du o Bwys' ac yn credu yn hawl dinasyddion i brotestio'n heddychlon mewn amgylchedd diogel
  • Cydnabod pwysigrwydd cymunedau BAME yn ein sir ac yn ymrwymo i weithio gyda hwy, rydym yn anelu at addysgu, adnabod a dileu hiliaeth yn Sir Gaerfyrddin.

Bydd y Cyngor yn:

  • Gwrando ar lais cymunedau BAME yn ein sir a sefydlu Gr?p Gorchwyl a Gorffen Trawsbleidiol i gymryd tystiolaeth er mwyn sicrhau bod eu pryderon, eu hofnau a'u cynigion yn cael eu clywed yn llawn ac yn llywio polisi yn y dyfodol
  • Gweithio gyda Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys i fynd i’r afael â hiliaeth, rhagfarn a gwahaniaethu o fewn y system farnwrol

·         Parhau i ddysgu o ddigwyddiadau hanesyddol mewn dull sy'n ffeithiol gytbwys

  • Ymrwymo i weithio gyda'n hysgolion i gynnwys themâu gwladychiaeth, cam-fanteisio, gwahaniaethu a hiliaeth yn y Cwricwlwm Cenedlaethol newydd ac o ran dysgu gydol oes
  • Cynnal adolygiad o henebion cyhoeddus, gan gynnwys yr un i Thomas Picton yng Nghaerfyrddin, yn ogystal ag enwau strydoedd ac adrodd ar eu priodoldeb yng Nghymru yn yr 21ain Ganrif
  • Croesawu mis Hanes Pobl Dduon (Hydref) drwy gynnal digwyddiadau cyhoeddus i dynnu sylw at realiti effaith negyddol anghydraddoldeb hiliol a dathlu'r cyfraniad a wneir gan gymunedau BAME tuag at ein bywyd lleol a chenedlaethol

Eiliwyd y Cynnig.

 

Cynigiwyd y gwelliant canlynol i'r cynnig gan y Cynghorydd F. Akhtar a oedd yn newid pwyntiau bwled un a phump yn unig yn Rhybudd o Gynnig y Cynghorydd Bowen h.y.

 

Bydd y Cyngor yn:

  • Gwrando ar lais cymunedau BAME yn ein sir a sefydlu Gr?p Gorchwyl a Gorffen Trawsbleidiol i gymryd tystiolaeth er mwyn sicrhau bod eu pryderon, eu hofnau a'u cynigion yn cael eu clywed yn llawn ac yn llywio polisi yn y dyfodol, gyda'r gr?p yn cwblhau'r gwaith mewn deufis. 
  • Croesawu cyhoeddiad Prif Weinidog Cymru ei fod yn mynd i gynnal adolygiad cenedlaethol o henebion cyhoeddus, gan gynnwys yr un i Thomas Picton yng Nghaerfyrddin, yn ogystal ag  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.1

7.2

RHYBYDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD KEVIN MADGE pdf eicon PDF 48 KB

Gan fod rheilffordd cludo glo Dyffryn Aman yn cyrraedd diwedd ei hoes, credwn y dylai Cyngor Sir Caerfyrddin gynnal astudiaeth ddichonoldeb o'r rheilffordd, i weld a allem greu rheilffordd werdd fodern sy'n gydnaws â'r amgylchedd. Byddai'r bws rheilffordd modern yn cysylltu Dyffryn Aman a Dyffryn Gwendraeth â Llanelli ac Abertawe.

 

Gallai hyn helpu i leihau tlodi trafnidiaeth, helpu preswylwyr i deithio i'r gwaith a dod â thwristiaid i mewn i'n cymoedd, gan greu swyddi yn y blynyddoedd i ddod. Sefydlwyd y rheilffordd hon ym 1842 ac mae'n rhaid i ni ei chadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.  

 

Mae'n hanfodol bod astudiaeth ddichonoldeb yn cael ei chynnal, gan fod y rheilffordd yn cael ei gwaredu cyn gynted â phosibl, er mwyn sicrhau bod unrhyw gynlluniau yn y dyfodol yn parhau'n fforddiadwy i'r cyhoedd. 

Cofnodion:

Ystyriodd y Cyngor y Rhybudd o Gynnig canlynol gan y Cynghorydd
Kevin Madge:-

 

“Gan fod rheilffordd cludo glo Dyffryn Aman yn cyrraedd diwedd ei hoes, credwn y dylai Cyngor Sir Caerfyrddin gynnal astudiaeth ddichonoldeb o'r rheilffordd, i weld a allem greu rheilffordd werdd fodern sy'n gydnaws â'r amgylchedd. Byddai'r bws rheilffordd modern yn cysylltu Dyffryn Aman a Dyffryn Gwendraeth â Llanelli ac Abertawe.

 

Gallai hyn helpu i leihau tlodi trafnidiaeth, helpu preswylwyr i deithio i'r gwaith a dod â thwristiaid i mewn i'n cymoedd, gan greu swyddi yn y blynyddoedd i ddod. Sefydlwyd y rheilffordd hon ym 1842 ac mae'n rhaid i ni ei chadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.  

 

Mae'n hanfodol bod astudiaeth ddichonoldeb yn cael ei chynnal, a bod y llinell yn cael ei diogelu cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod unrhyw gynlluniau yn y dyfodol dal yn fforddiadwy i'r cyhoedd".

 

Cynigiwyd ac eiliwyd y gwelliant canlynol i'r Cynnig gan y Cynghorydd H. Evans:

 

Mae'r Cyngor hwn yn:

 

• Credu y dylem edrych ar ddatblygu rheilffordd i deithwyr sy'n fodern ac yn  gydnaws â'r amgylchedd nawr bod rheilffordd cludo glo Dyffryn Aman yn cyrraedd diwedd ei hoes.

 

• Cadarnhau ei benderfyniad ar 18 Hydref 2017 i alw am gynnwys Dyffryn Aman a chymunedau eraill yn Sir Gaerfyrddin yn natblygiad Metro Bae Abertawe a Chymoedd y Gorllewin.

 

• Nodi bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi comisiynu astudiaeth ddichonoldeb ynghylch datblygu Metro Bae Abertawe a Chymoedd y Gorllewin, yn dilyn cytundeb ynghylch cyllideb gyda Phlaid Cymru yn 2017.

 

• Mynegi ei siom nad yw'r Astudiaeth Ddichonoldeb ynghylch datblygu Metro Bae Abertawe a Chymoedd y Gorllewin wedi cael ei chyhoeddi eto.

 

• Galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r astudiaeth ddichonoldeb a sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud i nodi'r posibiliadau o ran ailagor llinellau rheilffordd Dyffryn Aman a Chwm Gwendraeth i deithwyr.

 

Byddai'r rheilffordd fodern yn cysylltu Dyffryn Aman a Dyffryn Gwendraeth â Llanelli ac Abertawe.

 

Gallai hyn helpu i leihau tlodi trafnidiaeth, helpu preswylwyr i deithio i'r gwaith a dod â thwristiaid i mewn i'n cymoedd, gan greu swyddi yn y blynyddoedd i ddod. Sefydlwyd y rheilffordd hon ym 1842 ac mae'n rhaid i ni ei chadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.  

 

Mae'n hanfodol bod astudiaeth ddichonoldeb yn cael ei chynnal, a bod y llinell yn cael ei diogelu cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod unrhyw gynlluniau yn y dyfodol dal yn fforddiadwy i'r cyhoedd".

 

Cafodd cynigydd ac eilydd y Gwelliant gyfle i siarad o'i blaid a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau a gefnogai'r gwelliant. 

 

Dywedwyd wrth y Cyngor fod cynigydd ac eilydd y cynnig gwreiddiol yn derbyn y gwelliant

 

Ar hynny, y gwelliant oedd y cynnig terfynol

 

Dywedwyd wrth y Cyngor, os byddai'r cynnig terfynol yn cael ei gefnogi, byddai'r mater yn cael ei gyfeirio i'r Bwrdd Gweithredol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gefnogi'r Cynnig Terfynol a'i gyfeirio i'r Bwrdd Gweithredol.

 

 

7.3

RHYBYDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES

Bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cytuno i'r canlynol:

1.         Cyflogi'r holl staff asiantaeth sy'n gweithio yn y theatrau y mae'r asiantaeth wedi dileu eu swyddi yn hytrach na'u rhoi ar ffyrlo yn unol â chais Cyngor Sir Caerfyrddin. 

2.        Dylai'r Awdurdod gwblhau adolygiad llawn o'r defnydd o waith asiantaeth yng Nghyngor Sir Caerfyrddin a chyhoeddi ei ganfyddiadau ar ein gwefan cyn gynted â phosibl.

3.        Dylai'r Cyngor geisio trosglwyddo o dan TUPE yr holl weithwyr asiantaeth a gyflogir am fwy na 2 flynedd fel gweithwyr parhaol. 

4.        Dylem atal yr arfer o dalu ffïoedd i gwmnïau asiantaeth a gwerthuso cyfleoedd i greu systemau mewnol i gefnogi pob adran gan gynnwys, ond nid yn unig, athrawon a chynorthwywyr addysgu, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal a'n timau lletygarwch/hamdden.

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorwyr K. Lloyd ac E. Morgan, ynghyd â Mr C. Moore, wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)

 

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James:-

Bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cytuno i:

1.        Cyflogi'r holl staff asiantaeth sy'n gweithio yn y theatrau y mae'r asiantaeth wedi dileu eu swyddi yn hytrach na'u rhoi ar ffyrlo yn unol â chais Cyngor Sir Caerfyrddin. 

2.        Dylai'r Awdurdod gwblhau adolygiad llawn o'r defnydd o waith asiantaeth yng Nghyngor Sir Caerfyrddin a chyhoeddi ei ganfyddiadau ar ein gwefan cyn gynted â phosibl.

3.        Dylai'r Cyngor Ddiogelu Cyflogaeth (TUPE) yr holl weithwyr asiantaeth sydd wedi'u cyflogi am fwy na 2 flynedd fel cyflogeion parhaol.

4.        Dylem atal yr arfer o dalu ffïoedd i gwmnïau asiantaeth a gwerthuso cyfleoedd i greu systemau mewnol i gefnogi pob adran gan gynnwys, ond nid yn unig, athrawon a chynorthwywyr addysgu, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal a'n timau lletygarwch/hamdden.

Eiliwyd y Cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau o blaid ac yn erbyn y Cynnig.

 

Dywedwyd wrth y Cyngor, os byddai'r cynnig yn cael ei gefnogi, byddai'r mater yn cael ei gyfeirio i'r Bwrdd Gweithredol.

 

Yn dilyn pleidlais

 

PENDERFYNWYD peidio â chefnogi'r Rhybudd o Gynnig.

 

8.

YSTRIED ARGYMHELLION Y BWRDD GWEITHREDOL O RAN Y MATERION CANLYNOL:-

8.1

CARTREFI YN ORSAFOEDD PWER (Y BWRDD GWEITHREDOL 16EG MAWRTH 2020) pdf eicon PDF 306 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Datganwyd diddordeb gan y Cynghorydd R. James ar ddechrau'r eitem hon fel cynrychiolydd y Cyngor ar Bwyllgor Craffu Rhanbarthol Bae Abertawe)

 

Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 16 Ionawr 2020 (gweler cofnod 9), wedi ystyried adroddiad ar Achos Busnes Rhanbarthol 'Cartrefi yn Orsafoedd P?er' Bargen Ddinesig Bae Abertawe, sy'n cael ei arwain gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot (manylion yn Atodiad 1 i'r adroddiad), i'w gyflwyno i'r Swyddfa Rheoli Portffolio, yn unol â Chynllun Gweithredu'r Fargen Ddinesig, er mwyn cael cymeradwyaeth o ran cyllid y Fargen Ddinesig.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

“Bod yr Aelodau yn cymeradwyo achos busnes 'Cartrefi yn Orsafoedd P?er', fel y manylir yn Atodiad 1, ac yn ei gyflwyno'n ffurfiol i'r Swyddfa Rheoli Portffolio yn unol â Chynllun Gweithredu'r Fargen Ddinesig er mwyn cael cymeradwyaeth o ran cyllid y Fargen Ddinesig;

 

rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Adfywio, mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd ac Aelodau perthnasol o'r Bwrdd Gweithredol, gymeradwyo unrhyw newidiadau i'r achos busnes yn dilyn cymeradwyaeth yng ngoleuni unrhyw newidiadau y gofynnir amdanynt o bosib gan Gyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe;

 

awdurdodi'r Pennaeth Adfywio, mewn ymgynghoriad â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, yr Arweinydd ac unrhyw Aelodau perthnasol o'r Bwrdd Gweithredol, i ffurfio unrhyw gytundebau grant neu ddogfennau cysylltiedig a allai fod yn angenrheidiol i dynnu arian i lawr oddi wrth Lywodraeth y DU/Llywodraeth Cymru neu Gorff Atebol Bargen Ddinesig Bae Abertawe.”

 

9.

DERBYN ADRODDIADAU CYFARODYDD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:-

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y ddwy gyfres o Gofnodion y Bwrdd Gweithredol oedd i'w derbyn gan y Cyngor a dywedodd mai ei fwriad, yn amodol ar beidio â chael unrhyw wrthwynebiadau, oedd derbyn y cynigwyr a'r eilwyr yn unigol ond mai un bleidlais yn unig y byddai'n ei chymryd i dderbyn y cofnodion.

 

 

9.1

16EG MAWRTH 2020 pdf eicon PDF 192 KB

Cofnodion:

9.2

1AF MEHEFIN 2020 pdf eicon PDF 74 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 1 Mehefin, 2020.