Agenda a Chofnodion

Cyngor Sir - Dydd Mercher, 18fed Hydref, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr F. Akhtar, G. Davies,
S.L. Davies, D. Harries, A. James, G.H. John, T.J. Jones, K. Lloyd, S. Najmi,
B. Thomas, A.D.T.Speake.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Estynnwyd llongyfarchiadau i'r Cynghorydd Liam Bowen a oedd yn ddiweddar wedi ennill gradd mewn Cymraeg a Gwleidyddiaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Caerdydd.  Estynnodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau hefyd i'r Cynghorydd Bowen ar ei ddyweddïad yn ddiweddar.

 

·         Estynnwyd llongyfarchiadau i Gronfa Bensiwn Dyfed a oedd wedi llwyddo i ennill dwy wobr yn y Gwobrau Buddsoddi Cronfa Bensiwn Awdurdod Lleol a gynhaliwyd yn Llundain.  Dyfarnwyd y Wobr am Weinyddu Cynllun a Gwobr Cronfa'r Flwyddyn o blith y Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol (o dan £2.5bn) i Gronfa Bensiwn Dyfed.  Mynegwyd gair o werthfawrogiad i'r holl swyddogion a fu'n gysylltiedig â hyn am eu hymroddiad a'u gwaith caled.  Casglodd y Rheolwr Pensiynau a Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn y gwobrau oddi wrth y Cadeirydd.

 

·         Estynnwyd llongyfarchiadau i Sgiliau Adeiladu Cyfle a enillodd Wobr y Frenhines am Fenter ac Arloesi yn gynharach eleni i gydnabod eu Cynllun Prentisiaeth ar y Cyd sy'n torri tir newydd.  Sefydlwyd Cynllun Prentisiaeth ar y Cyd Sgiliau Adeiladu Cyfle yn 2013 a hwn oedd un o'r cynlluniau cyflogi prentisiaid cydweithredol cyntaf yn y Deyrnas Unedig.  Mae Cyfle yn cynorthwyo oedolion ifanc i gael gwaith cynaliadwy yn y diwydiant adeiladu ac ar hyn o bryd mae'n cwmpasu'r crefftau canlynol: Gosod Brics, Plastro, Gwaith Saer, Gwaith Trydan, Gwaith Plymwr, Peintio ac Addurno, Cynnal a Chadw, Cyfrifyddu a Busnes a Gweinyddiaeth. Ymhellach, i gydnabod cefnogaeth Cyngor Sir Caerfyrddin tuag at Cyfle, cyflwynwyd gwobr replica i'r Cadeirydd gan yr Arglwydd Raglaw mewn seremoni yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru fis Medi diwethaf.

·         Estynnwyd gair o werthfawrogiad i'r holl staff yn y Cyngor wedi iddynt frwydro yn erbyn y gwyntoedd cryfion iawn yn ddiweddar i sicrhau bod busnes yn mynd yn ei flaen fel arfer.  Tynnwyd sylw'r Cyngor at waith yr Adran Briffyrdd, a fu'n delio â 34 digwyddiad unigol ar hyd a lled y Sir yn ystod y gwyntoedd cryfion a gwympodd goed a cheblau trydan. Cofnododd y Swyddfa Dywydd wyntoedd o hyd at 75 milltir yr awr.  Cydnabuwyd staff rheng flaen y Cyngor a fu'n gweithio'n ddiflino i ailagor ffyrdd, y swyddogion oedd ar ddyletswydd, staff y Ganolfan Gyswllt ac Asiantiaid y Llinell Gofal a fu'n delio â nifer fawr o alwadau gan y cyhoedd.

 

·         Estynnwyd llongyfarchiadau i Miss Francesca Evans-Thomas, o Flwyddyn 8 Ysgol Bryngwyn, Llanelli, a oedd wedi ennill pencampwriaeth Cymru ym Mhencampwriaethau Chwyrlïo Baton Cenedlaethol Cymru a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Nghydweli. Mynegwyd pob lwc a dymuniadau gorau i Miss Evans-Thomas wrth iddi gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Chwyrlïo Baton y Byd yn Norwy yn nes ymlaen eleni. 

 

·         Estynnwyd llongyfarchiadau i Mr Jason Thomas o Glwb Pêl-droed Drefach a oedd wedi ennill gwobr Hyfforddwr Chwaraeon Cymunedol y Flwyddyn yng Ngwobrau Cymunedol Cymdeithas Bêl-droed Cymru a hynny allan o 7000 o enwebiadau.  Roedd y wobr hon yn wir gydnabyddiaeth o ymroddiad Mr Thomas dros yr 8 mlynedd diwethaf wrth greu a meithrin timau o chwaraewyr ifanc yn y Clwb.

 

·         Estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad â theulu'r Fonesig Mary Mansel Lewis, gweddw cyn-Arglwydd Raglaw Dyfed, Syr David Mansel Lewis.

 

·         Tynnwyd sylw'r Cyngor ar  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR YR 20FED MEDI, 2017. pdf eicon PDF 576 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 20 Medi 2017 yn gofnod cywir.

 

5.

CYFLWYNIAD LLYSGENNAD CHWARAEON IFANC

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mr Carl Daniels, yr Uwch-reolwr Chwaraeon a Hamdden a gyflwynwyd gan y Pennaeth Hamdden, Ian Jones. Gwahoddwyd yr Uwch-reolwr Chwaraeon a Hamdden i roi cyflwyniad ar y Rhaglen Llysgenhadon Ifanc.

 

Soniodd y Pennaeth Hamdden yn fyr wrth Aelodau'r Cyngor am y cefndir i waith Adain y Gwasanaethau Chwaraeon a Hamdden: Mae gan y Sir 8 canolfan hamdden sy'n cael eu defnyddio dros 1.5m o weithiau.  Mewn ymateb i'r gwasgfeuon ariannol, mae'r gwaith i gynyddu'r lefelau incwm wedi golygu bod modd cadw mwy o wasanaethau, a berodd gynnydd o ryw £250k yn incwm y Gweithgareddau D?r dros y 4-5 mlynedd diwethaf sy'n debygol o arwain at incwm o dros £1m, a chynnydd o ryw £300k mewn Iechyd a Ffitrwydd sy'n debygol o arwain at incwm o dros £1m eleni. Yn ogystal â'r gwaith a wnaed mewn Canolfannau Hamdden câi cryn dipyn o waith ei wneud yn y gymuned ac mewn ysgolion.  Roedd y Rhaglen Llysgenhadon Ifanc yn enghraifft o'r gwaith a wnaed, a dim ond rhan oedd hyn o'r gwaith datblygu cymunedol ehangach oedd yn cael ei wneud ar gost i'r Awdurdod o fuddsoddi tua £26k y flwyddyn.

 

Daeth Richard Dando o Chwaraeon Cymru, Rowan Smith a Dyfrig Davis, disgybl ac athro o Ysgol Talacharn, a Jess Thomas o Ysgol Bro Myrddin gyda'r Uwch-reolwr Chwaraeon a Hamdden i'r cyfarfod, a rhoesant bob un eu profiadau personol eu hunain o fod yn rhan o'r rhaglen.

 

Gan gydweithio â Chwaraeon Cymru, datblygwyd y Rhaglen Llysgenhadon Ifanc, rhaglen sy'n arwain y sector yn Sir Gaerfyrddin, i gyflawni nifer o Amcanion Llysgennad Ifanc a oedd yn cynnwys:

 

·         Cynyddu nifer y bobl sy'n cymryd rhan mewn Chwaraeon a hyrwyddo ffyrdd iach o fyw

·         Hyrwyddo gwerthoedd cadarnhaol chwaraeon yn yr ysgol a'r gymuned leol trwy fod yn esiampl dda

·         Bod yn llais y bobl ifanc o ran ymarfer corff a chwaraeon ysgol yn eu hysgolion a'u cymunedau

·         Dod â chyffro ac ysbrydoliaeth digwyddiadau mawr i'w hysgolion

·         Cael pob plentyn i wirioni ar chwaraeon am weddill ei oes.

 

Roedd y rhaglen yn cynnwys llwybr ar gyfer Llysgenhadon Ifanc ledled Cymru gan ddechrau ar lefel Efydd (blynyddoedd 5 a 6), Efydd+ (blynyddoedd 7, 8 a 9), Arian (14+ oed), Aur (blwyddyn 10 ac uwch) drwodd i lefel Platinwm ar lefel Genedlaethol.  Nod y llwybr hwn oedd hyfforddi a datblygu cenhedlaeth o arweinwyr y dyfodol trwy roi i bobl ifanc y sgiliau a'r profiad i'w gwneud yn bobl ifanc gyflogadwy a chydnerth drwy chwaraeon a hamdden corfforol.

 

Sir Gaerfyrddin oedd yr Awdurdod Lleol cyntaf yng Nghymru i gyflwyno'r rhaglen Llysgenhadon Ifanc Efydd, ac mae gan y Sir bellach rwydwaith o dros 300 o Lysgenhadon Ifanc sy'n darparu cymorth hyfforddi gwerthfawr i staff.  Mynegwyd gwerthfawrogiad o'r Swyddogion Pobl Ifanc Egnïol yn yr Is-adran Hamdden am eu hymroddiad wrth iddynt yrru'r rhaglen yn ei blaen yn yr ysgolion.

 

Cynhaliwyd sesiwn holi ac ateb ar ôl y cyflwyniad.

 

Mewn ymateb i'r cwestiwn 'Beth allai Cynghorwyr ei wneud i helpu gyda llwyddiant parhaus y rhaglen?', dywedodd yr Uwch-reolwr Chwaraeon a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

7.

CWESTIYNAU GAN AELODAU:-

Dogfennau ychwanegol:

7.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD JOHN PROSSER I'R CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR

Faint o staff a gyflogir naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar gontractau dim oriau?

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Faint o staff a gyflogir naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar gontractau dim oriau?

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

“Dyma gwestiwn a ofynnir yn eithaf rheolaidd gan ein cydweithwyr yn yr Undebau Llafur, ac mae fy ymateb i chi heddiw yr un peth â'r ymateb hynny a roddir, yr un mor rheolaidd, i'r Undebau Llafur.

 

Mewn perthynas â rhan gyntaf eich cwestiwn yn ymwneud â chyflogaeth uniongyrchol, nid oes gennym unrhyw gontractau dim oriau, felly mae'r nifer hwnnw yn sero. Mae gennym, fodd bynnag, weithwyr achlysurol yr ydym yn galw arnynt i gyflawni rhai o'n gwasanaethau, yn ôl yr angen.  Efallai y dylwn egluro'r gwahaniaeth rhwng y ddau, gan fod y termau 'contract achlysurol' a 'chontractau dim oriau' yn aml yn cael eu defnyddio y naill am y llall, a gall hyn beri dryswch.

 

 

 

 

Dan gontract achlysurol, yn gyffredin nid oes rhwymedigaeth ar y cyflogwr i gynnig gwaith i'r unigolyn ac, yn hollbwysig, nid oes rhwymedigaeth ar yr unigolyn i dderbyn y gwaith a gynigir.  Yn eithaf aml nid yw'r gyd-rwymedigaeth hon yn codi, felly ystyrir bod yr unigolion yn 'weithwyr' ac nid yn 'gyflogeion'.

 

Mae contract 'dim oriau' yn wahanol i gytundeb gweithiwr achlysurol arferol yn yr ystyr nad oes unrhyw rwymedigaeth ar y Cyflogwr i gynnig gwaith, ond fel rheol bod rhwymedigaeth ar yr unigolyn i fod ar gael, ac i dderbyn gwaith pan y'i cynigir.

 

O droi ein sylw at 'gyflogaeth anuniongyrchol' felly, gallaf gadarnhau bod ein Huned Gaffael, ar gyfer pob gweithgarwch Caffael y mae ei werth dros £25k, yn cynnal yr hyn a elwir yn Asesiadau Risg Cynaliadwy gyda'r swyddogion perthnasol o fewn yr adrannau sy'n caffael gwasanaethau, i sicrhau bod materion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yn cael eu hasesu, eu deall a'u rheoli ym mhob penderfyniad caffael allweddol sy'n ymwneud â chaffael nwyddau a gwasanaethau.  Caiff y rhain eu cynnwys yn ein Manyleb Gaffael.  Un o'r meysydd yr ydym yn eu hystyried yw 'p'un a yw'r rhain yn golygu y gallai cyflogeion y contractwyr gael eu hecsbloetio?' Mae ein manyleb ar gyfer tendrau yn diogelu rhag bod hyn yn digwydd.

 

Mae un o'r ymholiadau cyson yr ydym wedi'i gael dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn ymwneud â chontractau ‘dim oriau’ yn narpariaeth ein fframwaith Gofal Cartref a ddyfarnwyd gennym nôl yn 2015. Edrychom ar oriau contract ein cadwyn gyflenwi yn y maes hwn ac amodwyd gennym bryd hynny nad oedd y darparwyr a gyflogid ar y fframwaith hwn i gyflogi eu staff ar gontractau 'dim oriau' i gyflawni gofynion y Cyngor.

 

Bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol o'r Côd Ymarfer yn ymwneud â Chyflogaeth Foesegol mewn cadwyni cyflenwi, lle na ddefnyddir contractau dim oriau mewn modd annheg, ac rydym yn gweithio gyda chydweithwyr Caffael yn Sir Benfro drwy ein gwasanaeth peilot Caffael ar y Cyd, a chydag ein his-adran Adnoddau Dynol i bennu'r hyn sydd angen i ni ei roi ar waith i fodloni disgwyliadau'r Côd.  Unwaith eto, er gwybodaeth, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.1

8.

YSTYRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

8.1

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES

Bod y Cyngor hwn:

 

a) yn cydnabod pwysigrwydd cael rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus fodern ac integredig er mwyn cynyddu cysylltedd cymunedau ledled Sir Gaerfyrddin a mynd i'r afael ag ansawdd aer gwael;

 

b) yn cefnogi'r egwyddorion a gyflwynir yng Nghynllun Metro Bae Abertawe;

 

c) yn ymrwymo i gymryd rhan mewn unrhyw drafodaethau yn y dyfodol ynghylch system Fetro bosibl;

 

d) yn dadlau bod unrhyw gynnig yn y dyfodol yn cynnwys Dyffryn Aman a Chaerfyrddin i sicrhau bod y buddion i'w teimlo gan drefi a phentrefi ledled Sir Gaerfyrddin.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James:-

 

Bod y Cyngor hwn:

 

a) yn cydnabod pwysigrwydd cael rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus fodern ac integredig er mwyn cynyddu cysylltedd cymunedau ledled Sir Gaerfyrddin a mynd i'r afael ag ansawdd aer gwael;

 

b) yn cefnogi'r egwyddorion a gyflwynir yng Nghynllun Metro Bae Abertawe;

 

c) yn ymrwymo i gymryd rhan mewn unrhyw drafodaethau yn y dyfodol ynghylch system Fetro bosibl;

 

d) yn dadlau bod unrhyw gynnig yn y dyfodol yn cynnwys Dyffryn Aman a Chaerfyrddin i sicrhau bod y buddion i'w teimlo gan drefi a phentrefi ledled Sir Gaerfyrddin.

 

Eiliwyd y Cynnig.

 

Cynigiwyd y gwelliant canlynol i'r Cynnig gan y Cynghorydd Darren Price a chafodd ei eilio:-

 

Ar ôl pwynt bwled d), ychwanegu:-

 

e)         Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi rhoi'r gorau i'r cynllun i drydaneiddio rheilffordd y Great Western hyd at Abertawe ac mai dim ond 1% o wariant cyfalaf Network Rail sydd wedi cael ei wario yng Nghymru ers 2011, er gwaethaf y ffaith bod gan Gymru 11% o holl rwydwaith traciau'r DU.

f)          Yn galw at Lywodraeth Cymru i lobïo Network Rail a Llywodraeth y DU ar iddynt gynyddu gwariant Network Rail yng Nghymru a chyflwyno system Metro ar gyfer Bae Abertawe a Chymoedd y Gorllewin.

g)         Yn croesawu'r cytundeb y daethpwyd iddi'r mis hwn rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru sydd yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i archwilio'r posibilrwydd o system Metro newydd ar gyfer Cymoedd y Gorllewin a Bae Abertawe.

 

Dywedodd y Cynigydd (gyda chefnogaeth ei eilydd) ei fod yn hapus i dderbyn y newid a rhoddwyd cyfle iddo siarad o blaid y Cynnig gan amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd y Gwelliant siarad o blaid hynny, ac amlinellodd y rhesymau dros ei gyflwyno.

 

Gwnaed sawl datganiad o blaid y Cynnig, fel y'i diwygiwyd, ac yn dilyn hynny daeth yn Gynnig Terfynol a

 

PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gan y Cyngor fod y Rhybudd o Gynnig yn cael ei gefnogi.

 

8.2

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD JEFF EDMUNDS

Mae bod yn agored ac yn dryloyw yn hanfodol bwysig ym maes llywodraethu cyhoeddus, ac mae gofyn cwestiynau ac ymateb yn ystyrlon yn rhan o hynny.

 

Mae rheolau digon clir yn ein Cyfansoddiad sy'n ymwneud â'r cwestiynau a ofynnir yng Nghyfarfodydd y Cyngor ond credaf na roddir yr un eglurder yn ein cyfansoddiad o ran yr ymateb.

Hoffwn dynnu eich sylw at Reol 11.7.1 (a) o Weithdrefn y Cyngor.

 

Mewn ymateb i gwestiwn dywed y rheol hon: Gall ateb fod ar ffurf:-

‘Ateb llafar uniongyrchol.’

 

Ni chyfeirir at y cwestiwn, felly fy nghynnig yw bod y Rheol hon o Weithdrefn y Cyngor yn cael ei diwygio er mwyn bod yn fwy eglur.

 

Y cynnig yw bod Rheol 11.7.1 (a) o Weithdrefn y Cyngor yn cael ei diwygio  ac yn darllen fel a ganlyn:-

‘Ateb llafar sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r cwestiwn ac yn gryno.’ 

 

Drwy roi ystyriaeth briodol a statws cyfartal i gwestiynau ac atebion, gellir ond cynyddu hyder y cyhoedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Jeff Edmunds:-

 

Mae bod yn agored ac yn dryloyw yn hanfodol bwysig ym maes llywodraethu cyhoeddus, ac mae gofyn cwestiynau ac ymateb yn ystyrlon yn rhan o hynny.

 

Mae rheolau digon clir yn ein Cyfansoddiad sy'n ymwneud â'r cwestiynau a ofynnir yng Nghyfarfodydd y Cyngor ond credaf na roddir yr un eglurder yn ein cyfansoddiad o ran yr ymateb.

Hoffwn dynnu eich sylw at Reol 11.7.1 o Weithdrefn y Cyngor. (a). 

 

Mewn ymateb i gwestiwn dywed y rheol hon: Gall ateb fod ar ffurf:-

‘Ateb llafar uniongyrchol.’

 

Ni chyfeirir at y cwestiwn, felly fy nghynnig yw bod y Rheol hon o Weithdrefn y Cyngor yn cael ei diwygio er mwyn bod yn fwy eglur.

 

Y cynnig yw bod Rheol 11.7.1 (a) o Weithdrefn y Cyngor yn cael ei diwygio  ac yn darllen fel a ganlyn:-

‘Ateb llafar sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r cwestiwn ac yn gryno.’ 

 

Drwy roi ystyriaeth briodol a statws cyfartal i gwestiynau ac atebion, gellir ond cynyddu hyder y cyhoedd.

 

Eiliwyd y Cynnig.

 

Cafodd y cynigydd gyfle i siarad o blaid y Cynnig, ac amlinellodd y rhesymau dros ei gyflwyno.

 

Gyda golwg ar y broses bresennol gwnaed honiad bod Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad wedi'i sefydlu i ystyried unrhyw newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor cyn gwneud argymhelliad i'r Cyngor.  Gyda golwg ar y broses ac yng ngoleuni Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad a oedd y ddigwydd y dydd Mercher nesaf, dywedodd y Cynigydd (gyda chefnogaeth ei eilydd) ei fod yn hapus i dynnu'r Cynnig yn ôl.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr y byddai'r eitem hon yn cael ei rhoi ar Agenda cyfarfod nesaf Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad a oedd i ddigwydd ddydd Mercher 25 Hydref 2017.

 

 

9.

YSTYRIED ARGYMHELLION Y PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD O RAN Y MATERION CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

9.1

PENODI HYRWYDDWR DATBLYGU AELODAU. pdf eicon PDF 73 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Er mwyn cydymffurfio ag adran 7 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, hyfforddi a datblygu'r Aelodau ac yn unol â'r canllawiau statudol, cafodd Awdurdodau Lleol eu hannog i benodi Hyrwyddwr Datblygu Aelodau.  Ystyriodd yr Aelodau adroddiad ar Benodi Hyrwyddwr Datblygu Aelodau a oedd ynghlwm wrth ddisgrifiad y rôl.

 

Nododd yr Aelodau y byddai'r Hyrwyddwr Datblygu Aelodau yn gweithio'n agos gyda'r Cynghorydd Mair Stephens, sef yr Arweinydd Datblygu Aelodau ar ran y Bwrdd Gweithredol, a swyddogion y Tîm Dysgu a Datblygu er mwyn nodi a hybu materion sy'n ymwneud â datblygu Aelodau.

 

PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd Rob James yn Hyrwyddwr Datblygu Aelodau.

 

10.

AELODAETH PWYLLGORAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 2 (2)(n), roedd yr enwebiadau canlynol gan y Gr?p Llafur wedi dod i law a PHENDERFYNWYD:

 

10.1     nodi bod y Cynghorydd Kevin Madge yn cymryd lle'r Cynghorydd Bill Thomas ar y Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau;

 

10.2     nodi bod y Cynghorydd Bill Thomas yn cymryd lle'r Cynghorydd Kevin Madge ar y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant

 

Yn ogystal â’r uchod, darparwyd enwebiadau pellach gan y Gr?p Llafur.  PENDERFYNWYD hefyd:

 

10.3     nodi bod y Cynghorydd Suzy Curry yn cymryd lle'r Cynghorydd Louvain Roberts ar y Pwyllgor Cynllunio;

 

10.4     nodi bod y Cynghorydd Louvain Roberts yn cymryd lle'r Cynghorydd Suzy Curry ar y Pwyllgor Craffu - Cymunedau.