Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. Davies, Ll.M. Davies, C.A. Jones, N. Lewis a D. Owen.
|
|||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: · Dywedodd y Cadeirydd ei bod hi, a'i chydymaith wedi mynychu nifer o ddigwyddiadau gan gynnwys cynyrchiadau theatr amatur, seremonïau urddo'r maer yng Nghaerfyrddin a Phorth Tywyn a hefyd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a gynhaliwyd yn Llanymddyfri. · Cyfeiriodd y Cynghorydd H. Davies at Eisteddfod yr Urdd a gynhaliwyd yn Llanymddyfri yn ddiweddar ac mynegodd ei werthfawrogiad i bawb a fu'n rhan o redeg a chefnogi'r digwyddiad. · Roedd y Cynghorydd D. Thomas wedi llongyfarch Ffion Davies o Benygroes ar gael ei dewis i gynrychioli Cymru fel aelod o'r tîm rygbi saith bob ochr dan 18 oed. · Cyfeiriodd y Cynghorydd A. Vaughan Owen at y ffaith y bu yn Sinema Cross Hands i weld cynhyrchiad o "Fashion Re-imagined" a hyrwyddwyd gan Bwyllgor Newid Hinsawdd cangen Pump-hewl o Sefydliad y Merched a oedd yn tynnu sylw at effaith y diwydiant ffasiwn ar newid hinsawdd a'r defnydd o adnoddau ac i groesawu'r cysyniad o economi gylchol. · Mynegodd y Cynghorydd L. Bowen ei longyfarchiadau i Jonny Clayton o Bontyberem ar ennill Cwpan Dartiau'r Byd am yr 2il waith mewn tair blynedd gyda'i bartner Gerwyn Price. |
|||||||
CYHOEDDIADAU GAN YR ARWEINYDD, AELODAU'R CABINET NEU'R PRIF WEITHREDWR (OS OES RHAI) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Arweinydd y Cyngor y wybodaeth ddiweddaraf i'r Cyngor am y sefyllfa bresennol ynghylch penderfyniad y Swyddfa Gartref i ddefnyddio Gwesty Parc y Strade yn y Ffwrnes ar gyrion Llanelli i ddarparu llety ar gyfer ceiswyr lloches. Dywedodd fod diweddariad llafar wedi'i dderbyn y diwrnod cynt yn nodi y byddai hyd at 241 o unigolion yn cyrraedd mewn grwpiau o 50 o bobl o'r 10fed o Orffennaf ymlaen a'u osod mewn 77 ystafell yn y gwesty. Rhoddodd wybodaeth i'r Cyngor am y sylwadau/pryderon a wnaed gan y Cyngor, a'i bartneriaid, i'r Swyddfa Gartref yn erbyn y cynnig annoeth hwn gan ddangos amharch llwyr yn ogystal â diffyg ymgynghori a chyfathrebu. Roedd y Cyngor wedi cymryd cyngor cyfreithiol a chyngor chynllunio ynghylch y cynnig ac roedd yn parhau i edrych ar yr holl opsiynau posibl gyda'r bwriad o atal llety i geiswyr lloches yn y gwesty. Cadarnhaodd pan fyddai ganddo ragor o wybodaeth y gallai rannu yn gyhoeddus, byddai'n rhannu'r wybodaeth honno gydag aelodau'r Cyngor
Cafodd y Cynghorydd M. Palfreman, fel aelod lleol, gyfle i ymateb i gyhoeddiad yr Arweinwyr a mynegodd ei werthfawrogiad a'i gefnogaeth barhaus i ymdrechion y cyngor wrth gyflwyno achos cadarn i Lywodraeth y DU yn erbyn y cynnig.
Rhoddodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg ddiweddariad i'r Cyngor ar yr Eisteddfod a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Llanymddyfri ac estynnodd ei ddiolch a'i werthfawrogiad i bawb a fu'n rhan o'r gwaith o sicrhau llwyddiant yr Eisteddfod. Rhoddodd hefyd ganmoliaeth i'r ysgolion a'r plant o Sir Gaerfyrddin a fu'n cymryd rhan yn yr eisteddfod gyda 90% o ysgolion cynradd a 100% o ysgolion uwchradd y sir yn cael eu cynrychioli. |
|||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR: Dogfennau ychwanegol: |
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 10 Mai 2023 yn gofnod cywir. |
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Tynnwyd sylw'r Cyngor at gofnod rhif 9 yn ymwneud â phenodi Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Pwyllgorau / Paneli a nodwyd bod y cyfeiriad at y Cynghorydd L. Davies yn cael ei benodi'n Is-gadeirydd y Pwyllgor Apeliadau yn anghywir a dylai yn hytrach nodi y Cynghorydd L.M. Davies.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 24Mai 2023 yn gofnod cywir yn amodol ar newid yr uchod. |
|||||||
ARGYMHELLION DRAFFT - ADOLYGIAD CYMUNEDOL YN SIR GAERFYRDDIN PDF 107 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Atgoffwyd y Cyngor, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Chwefror 2023 ei fod, o dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth)(Cymru) 2014, wedi cymeradwyo cychwyn Adolygiad Cymunedol i archwilio trefniadau Llywodraethu presennol Cynghorau Tref a Chymuned yn Sir Gaerfyrddin ac i wneud argymhellion terfynol ar gyfer unrhyw newidiadau priodol. Yn unol â'r penderfyniad hwnnw, cynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol rhwng 13 Mawrth a 24 Ebrill ac roedd y canlyniadau fel y manylwyd yn Atodiad A i'r adroddiad, yn crynhoi'r ymatebion a'r cynigion ar gyfer yr argymhellion drafft a dderbyniwyd ynghyd â'r argymhellion a gyflwynwyd gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol/Swyddog Canlyniadau.
Dywedwyd wrth y Cyngor, yn amodol ar dderbyn argymhellion yr adroddiad, y byddai angen cynnal ail gyfnod ymgynghori gyda'r canlyniad i'w ailgyflwyno i'r Cyngor yn ei gyfarfod ym mis Hydref i benderfynu ar ei argymhellion terfynol.
PENDERFYNWYD:
|
|||||||
YSTYRIED ARGYMHELLION Y CABINET O RAN Y MATERION CANLYNOL:- Dogfennau ychwanegol: |
|||||||
POLISI ENWI STRYDOEDD A RHIFO EIDDO PDF 131 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Cabinet yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mai 2023 (Cofnod 7) wedi ystyried adroddiad ar fabwysiadu Polisi Enwi Strydoedd a Rhifo Eiddo ar gyfer Sir Gaerfyrddin, yn dilyn ymgynghoriad ar y polisi drafft a ystyriwyd gan y Cyngor ar 28 Medi 2022 (Cofnod 9.1). Nodwyd bod chwe ymateb wedi dod i law i'r ymgynghoriad, fel y manylwyd yn yr atodiad i'r adroddiad, ac nid oedd yr un ohonynt, yn golygu gwelliant penodol i'r polisi drafft.
Dywedodd yr Aelod Cabinet mewn ymateb i sylwadau, ei bod yn croesawu unrhyw enghreifftiau gan aelodau o unrhyw faterion neu anghysondebau ar enwi strydoedd / rhifo eiddo yn eu wardiau y byddai angen eu hystyried a'u trin o dan y polisi newydd.
PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Cabinet:-
“bod y Polisi Enwi Strydoedd a Rhifo Drafft yn cael ei fabwysiadu”. |
|||||||
DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR Y Dogfennau ychwanegol: |
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 24 24 Ebrill 2023. |
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 22 Mai, 2023. |
|||||||
YSTYRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:- Dogfennau ychwanegol: |
|||||||
RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORWYR ALUN LENNY AC EDWARD THOMAS “CYLLID BRYS AR GYFER TYLLLAU YN Y FFYRDD
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn datgan bod cyflwr dirywiol llawer o ffyrdd yn ein sir yn rhan o broblem acíwt ledled y DU a achosir gan dangyllido awdurdodau lleol yn y tymor hir gan lywodraethau Ceidwadol olynol y DU ers 2010.
Mae'r Cyngor yn nodi bod y £200m ychwanegol a ddyrannwyd yn ddiweddar gan San Steffan tuag at y 'gronfa dyllau' yn ffracsiwn o'r amcangyfrif o £14b sydd ei angen i fynd i'r afael â'r ôl-groniad o waith atgyweirio ffyrdd lleol yng Nghymru a Lloegr.
Mae'r Cyngor hefyd yn nodi gyda braw adroddiad diweddar gan Gynghrair Diwydiant Asphalt sy'n honni bod gan bron i un rhan o bump o'r ffyrdd a reolir gan gynghorau lleol yng Nghymru a Lloegr ddisgwyliad oes o lai na phum mlynedd, a bydd angen eu tynnu, eu hatgyweirio a'u hailwynebu.
Mae'r cyngor hwn felly yn galw ar:
· Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr holl gyllid a ddyrennir tuag at y hyn drwy fformiwla Barnett yn cael ei drosglwyddo i gynghorau sir, ac i ddargyfeirio peth o'r arian a arbedir drwy ddileu cynlluniau ffyrdd newydd yng Nghymru yn ddiweddar i lawr i'r cynghorau i'w galluogi i gynyddu'r gwaith o atgyweirio'r ffyrdd nad ydynt yn gefnffyrdd presennol”. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr Alun Lenny ac Edward Thomas-
“Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn datgan bod cyflwr dirywiol llawer o ffyrdd yn ein sir yn rhan o broblem acíwt ledled y DU a achosir gan dangyllido awdurdodau lleol yn y tymor hir gan lywodraethau Ceidwadol olynol y DU ers 2010.
Mae'r Cyngor yn nodi bod y £200m ychwanegol a ddyrannwyd yn ddiweddar gan San Steffan tuag at y 'gronfa dyllau' yn ffracsiwn o'r amcangyfrif o £14b sydd ei angen i fynd i'r afael â'r ôl-groniad o waith atgyweirio ffyrdd lleol yng Nghymru a Lloegr.
Mae'r Cyngor hefyd yn nodi gyda braw adroddiad diweddar gan Gynghrair Diwydiant Asphalt sy'n honni bod gan bron i un rhan o bump o'r ffyrdd a reolir gan gynghorau lleol yng Nghymru a Lloegr ddisgwyliad oes o lai na phum mlynedd, a bydd angen eu tynnu, eu hatgyweirio a'u hailwynebu.
Mae'r cyngor hwn felly yn galw ar: · Llywodraeth y DU i ddechrau cynllunio nawr sut i ddyrannu o leiaf £14b yn ei chyllideb nesaf fel mesur brys i alluogi cynghorau lleol i fynd i'r afael â'r dirywiad difrifol hwn yn ein seilwaith, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, cyn y gaeaf nesaf; · Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr holl gyllid a ddyrannwyd tuag at y pennawd hwn drwy fformiwla Barnett yn cael ei drosglwyddo i gynghorau sir, ac i ddargyfeirio peth o'r arian a arbedwyd drwy gael gwared ar gynlluniau ffyrdd newydd yng Nghymru yn ddiweddar i'r cynghorau i'w galluogi i gynyddu'r gwaith o atgyweirio ffyrdd presennol nad ydynt yn gefnffyrdd".
Eiliwyd y cynnig.
Rhoddwyd cyfle i gynigwyr ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.
Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r Cynnig.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Rhybudd o Gynnig yn cael ei gefnogi. |
|||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD. Dogfennau ychwanegol: |
|||||||
CWESTIWN GAN CHARLIE EVANS I'R CYNGHORYDD EDWARD THOMAS - YR AELOD CABINET DROS WASANAETHAU TRAFNIDIAETH, GWASTRAFF A SEILWAITH. "Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi cyhoeddi ei bod yn dod â'r Cynllun Argyfwng Bysiau i ben ar 24 Gorffennaf. Mae corff y diwydiant, Coach and Bus Operators Cymru, sy'n cynrychioli cwmnïau bach, wedi mynegi pryderon yn y gorffennol y byddai 65% i 100% o'r gwasanaethau'n cael eu torri.
Byddai hyn yn cael effaith ddinistriol ar ein cymunedau, gan olygu na fyddai ein trigolion mwyaf agored i niwed yn gallu defnyddio canol ein trefi a'n pentrefi mor rhwydd ac na fyddai gweithwyr yn gallu cyrraedd y gwaith mor rhwydd, a byddai'n cynyddu traffig ceir a thagfeydd yn ein cymunedau. Ymddengys fod hyn yn hollol groes i strategaethau net sero a thrafnidiaeth gyhoeddus Cytundeb Cydweithio Llafur a Phlaid Cymru.
Pa waith cynllunio - ariannol, gweithredol a logistaidd - y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei wneud i sicrhau bod gennym yr un lefel o wasanaethau bysiau ledled Sir Gaerfyrddin ar ôl 24 Gorffennaf?" Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (NODER: Roedd y Cynghorydd S. Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a pharhaodd yn y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei thrafod)
"Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi cyhoeddi ei bod yn dod â'r Cynllun Argyfwng Bysiau i ben ar 24 Gorffennaf. Mae corff y diwydiant, Coach and Bus Operators Cymru, sy'n cynrychioli cwmnïau bach, wedi mynegi pryderon yn y gorffennol y byddai 65% i 100% o'r gwasanaethau'n cael eu torri. Byddai hyn yn cael effaith ddinistriol ar ein cymunedau, gan olygu na fyddai ein trigolion mwyaf agored i niwed yn gallu defnyddio canol ein trefi a'n pentrefi mor rhwydd ac na fyddai gweithwyr yn gallu cyrraedd y gwaith mor rhwydd, a byddai'n cynyddu traffig ceir a thagfeydd yn ein cymunedau. Ymddengys fod hyn yn hollol groes i strategaethau net sero a thrafnidiaeth gyhoeddus Cytundeb Cydweithio Llafur a Phlaid Cymru. Pa waith cynllunio - ariannol, gweithredol a logistaidd - y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei wneud i sicrhau bod gennym yr un lefel o wasanaethau bysiau ledled Sir Gaerfyrddin ar ôl 24 Gorffennaf”. Ymateb gan y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:-
Mae eich cwestiwn yn codi nifer o bwyntiau y byddaf yn ymateb iddynt yn eu trefn os yw hynny'n iawn gyda chi.
Ydy, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi cyhoeddi ei bod yn dod â'r Cynllun Argyfwng Bysiau i ben ar 24Gorffennaf. Fodd bynnag, ddydd Gwener diwethaf, a dim ond dydd Gwener diwethaf, cyhoeddwyd bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod £46m ar gael ar ffurf Cronfa Bontio ar gyfer Bysiau ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfan. Bydd y cyllid hwn yn cadw gwasanaethau strategol Traws Cymru i redeg. Ond, mae hefyd yn siomedig iawn i ni weld bod y Dirprwy Weinidog wedi parhau gyda'i gynlluniau i ddod â'r Cynllun Argyfwng Bysiau i ben er gwaethaf cefnogaeth drawsbleidiol yn gwrthwynebu'r toriadau ond, rydym yn croesawu bod modd ymestyn y cymorth am y flwyddyn bresennol.
Yn y Siambr hon ychydig wythnosau'n unig yn ôl roedd cytundeb ar draws y Siambr yn gwrthwynebu unrhyw ostyngiad i gyllid ar gyfer gwasanaethau. Mae'r cyngor hwn wedi bod yn bendant ac yn gyson ei farn yn gwrthwynebu'r toriadau i'r Cynllun Argyfwng Bysiau ac mae hyn wedi cael ei godi gennyf i ac Arweinydd y Cyngor drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru.
Mae'n rhaid i mi ddweud nid wyf yn deall y cynllun sydd gan y Dirprwy Weinidog - ar un llaw mae'n ymddangos ei fod am ein hannog allan o'n ceir ac i drafnidiaeth gyhoeddus ond nid yw'n ymddangos ei fod eisiau gormod o drafnidiaeth gyhoeddus chwaith. Fodd bynnag, fel y dywedais, nid ydym yn hapus gyda'r toriadau, ond rydym yn deall na fydd y gostyngiadau mewn gwasanaethau ledled Sir Gaerfyrddin yn agos at y 65%-100% a ddyfynnwyd gennych yn eich cwestiwn. Fel yr wyf yn ei ddeall ar hyn o bryd, byddwn ond yn colli nifer fach o wasanaethau, ond mae'r trafodaethau hyn yn parhau yn rhanbarthol. ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10.1 |
|||||||
CWESTIYNAU GAN AELODAU (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan yr Aelodau. |
|||||||
COFNODION ER GWYBODAETH YN UNIG:- Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd fod y cofnodion a amlinellir ar agenda 12.1 – 12.6 ar gael i'w gweld ar wefan y Cyngor. |