Lleoliad: Siambr - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L.M Davies, G.R. Jones, N. Lewis ac A. Vaughan-Owen. |
|||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: · Estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad diffuant i deulu'r cyn-Gynghorydd Penny Edwards. Bu farw Penny ddydd Sul 22 Mai ar ôl cyfnod o salwch. Roedd Penny yn cynrychioli Ward Hengoed tan yr etholiadau ym mis Mai.
· Estynnwyd cydymdeimlad hefyd i deulu'r cyn-Gynghorydd John Edwards a fu'n cynrychioli Ward Saron tan yr etholiadau llywodraeth leol yn 2012.
· Talodd y Cadeirydd deyrnged i Phil Bennett a fu farw ar 12 Mehefin. Roedd wedi ennill 29 cap dros Gymru rhwng 1969 a 1978 ac wedi chwarae 413 o gemau i'r Scarlets. Dywedwyd y byddai gwasanaeth coffa yn cael ei gynnal ym Mharc y Scarlets ddydd Gwener 24 Mehefin, gan ddechrau am 11am, ac y byddai gwasanaeth cyhoeddus wedi hynny yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Felin-foel, am 1pm.
· Cyhoeddodd y Cadeirydd ei fod wedi cael y pleser o fynychu derbyniad yn y Senedd yn ddiweddar i nodi dechrau Wythnos y Lluoedd Arfog 2022. Roedd hefyd wedi mynychu digwyddiad beicio Taith Merched Prydain.
· Estynnodd y Cynghorydd Alun Lenny, gyda chaniatâd y Cadeirydd, ei longyfarchiadau i Joe Allen a thîm pêl-droed cenedlaethol Cymru ar eu llwyddiant wrth gyrraedd Cwpan y Byd yn Qatar. Hefyd, llongyfarchwyd Josh Sheehan (Bolton Wanderers) sydd wedi cael tri chap dros Gymru ac sydd ar hyn o bryd yn chwaraewr ar yr ymylon oherwydd anaf.
· Estynnodd y Cynghorydd Edward Thomas, gyda chaniatâd y Cadeirydd, ei longyfarchiadau i Ysgol Gynradd Llandeilo a ddewiswyd i gynrychioli Cymru yng nghyngerdd y Jiwbilî yn y Royal Albert Hall. Estynnwyd llongyfarchiadau hefyd i Glwb Rygbi Llandeilo, sef un o sylfaenwyr Undeb Rygbi Cymru, sy'n dathlu ei ben-blwydd yn 150 oed eleni. Aeth aelodau'r clwb ar daith feicio 304 milltir i gefnogi Apêl Arch Noa a chanser y prostad. Diolchodd y Cynghorydd Thomas hefyd i blant Llandeilo am gymryd rhan yn Eisteddfod yr Urdd yn Ninbych.
· Amlinellodd yr Arweinydd, gyda chaniatâd y Cadeirydd, yr ymdrechion sy'n cael eu gwneud gan breswylwyr Sir Gaerfyrddin a'r Awdurdod i roi cymorth i ffoaduriaid o Wcráin. Dywedodd yr Arweinydd fod 80 o noddwyr o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin. Mae dros 30 o blant eisoes wedi dechrau yn yr ysgol. Mae rhai teuluoedd o Wcráin hefyd wedi cael llety tymor byr ac mae'r Awdurdod yn darparu amrywiaeth o wasanaethau a chymorth. I gloi, dywedodd yr Arweinydd wrth yr holl deuluoedd o Wcráin sydd yma fod Sir Gaerfyrddin yn sefyll gyda nhw, wrth eu hochr nhw, ac y byddem yn gwneud beth bynnag y gellid ei wneud i'w cefnogi.
Soniodd yr Arweinydd am yr arolwg preswylwyr a fyddai'n mynd yn fyw cyn bo hir. Dywedodd yr Arweinydd fod yr Awdurdod yn ceisio barn preswylwyr ar bob maes perfformiad er mwyn llywio'r gwaith o gynllunio ar gyfer y dyfodol. Byddai'r canfyddiadau pwysig yn cael eu rhannu ar draws pob lefel o'r sefydliad er mwyn llywio'r broses o wneud penderfyniadau. Anogodd yr Arweinydd yr holl breswylwyr i fynd ar-lein i gwblhau'r arolwg.
Dywedodd yr Arweinydd hefyd fod y cyfarfod cyntaf o Arweinwyr y Grwpiau wedi'i gynnal i drafod gweithio mewn partneriaeth a'i fod ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFODYDD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR Y:- Dogfennau ychwanegol: |
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 2 Mawrth 2022 yn gofnod cywir. |
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2022 yn gofnod cywir, yn amodol ar gynnwys y Cynghorydd J.P. Jenkins yn y rhestr o'r rheiny a oedd yn bresennol. |
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 25 Mai 2022 yn gofnod cywir. |
|||||||
PENODI AELOD CYMUNEDOL O'R PWYLLGOR I'R PWYLLGOR SAFONAU. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn argymell bod y Cynghorydd Philip Rogers o Gyngor Tref Sanclêr yn cael ei ailbenodi'n Aelod Cymunedol y Pwyllgor Safonau tan ddiwedd ei gyfnod presennol yn ei swydd fel Cynghorydd Tref. Mae rheoliad 4 o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001 yn gofyn bod gan Bwyllgor Safonau Aelod Pwyllgor Cymunedol.
PENDERFYNWYD bod y Cynghorydd Philip Rogers yn cael ei ailbenodi'n Aelod Cymunedol y Pwyllgor Safonau tan ddiwedd ei gyfnod presennol yn ei swydd fel Cynghorydd Tref.
|
|||||||
DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR:- Dogfennau ychwanegol: |
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2022. |
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 28 Mawrth 2022. |
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 11 Ebrill 2022. |
|||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd. |
|||||||
CWESTIYNAU GAN YR AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan aelodau. |
|||||||
CYMARADWYO Y NEWIDIADAU CANLYNOL I AELODAETH PWYLLGORAU Dogfennau ychwanegol: |
|||||||
MAE'R GRWP LLAFUR WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD ROB EVANS I GYMRYD SEDD WAG AR WASANAETH TÂN AC ACHUB CANOLBARTH A GORLLEWIN CYMRU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo enwebiad y Cynghorydd R.E Evans fel un o gynrychiolwyr y Gr?p Llafur ar Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. |