Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr M. Cranham, H.B. Shepardson a J. Williams. |
||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
||||||||||
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf am y gweithgareddau a'r digwyddiadau diweddar yr oedd ef a'i Gydymaith wedi bod iddynt yn cynrychioli'r Cyngor, gan gynnwys: · Ymweliad a gynhaliwyd gan y Cyngor ar gyfer y Clwb Ffermwyr Ifanc. · Datgelu cyfleuster Archifau Caerfyrddin.
Cafwyd cyhoeddiad gan yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, yn unol â rhan 2 (2)(c) o Reolau Gweithdrefn Gorfforaethol y Cyngor am y pwysau ariannol difrifol y mae'r Cyngor ac Awdurdodau Lleol eraill yng Nghymru yn ei wynebu, yn deillio o'r sefyllfa economaidd bresennol a ddaeth yn sgil nifer o ffactorau gan gynnwys cynnydd posibl o 300% mewn costau ynni, chwyddiant cynyddol a chodiadau cyflog.
Nododd yr Aelod Cabinet y byddai rhagor o wybodaeth ar gael ar 14 Rhagfyr 2022 yn dilyn cyhoeddi setliad Grant Cynnal Refeniw Drafft Llywodraeth Cymru, ac yn dilyn hynny byddai'r broses ymgynghori ffurfiol ar y gyllideb yn cychwyn. Pwysleisiwyd mai Llywodraeth Cymru oedd yn darparu prif ffynhonnell gyllido'r Cyngor, a oedd yn ei dro yn dibynnu ar y grant bloc a ddyrannwyd gan San Steffan. Yn unol â hynny, dim ond 20% o incwm y Cyngor a gafodd ei gynhyrchu gan dreth gyngor. Darparwyd sicrwydd i'r Cyngor fod arbedion effeithlonrwydd posibl yn cael eu hystyried ym mhob rhan o'r Cyngor, gan gynnwys gwasanaethau, cynlluniau cyfalaf, cyllidebau ysgolion, ffioedd a thaliadau, gadael swyddi gwag heb eu llenwi a defnyddio cronfeydd wrth gefn y Cyngor. Yn sgil yr argyfwng costau byw, byddai'r Cyngor yn ymdrechu i gadw unrhyw gynnydd yn y dreth gyngor mor isel â phosibl.
|
||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR 9 TACHWEDD 2022 PDF 163 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2022 gan eu bod yn gywir.
|
||||||||||
ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL 2021/22 CYNLLUN DATBLYGU LLEOL MABWYSIEDIG SIR GAERFYRDDIN PDF 147 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorydd M. James wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ac arhosodd yn y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried ac yn ystod y bleidlais.]
Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i Adroddiad Monitro Blynyddol 2021/22 ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig Sir Gaerfyrddin, a luniwyd yn unol â Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 a Rheoliadau Cynllun Datblygu Lleol 2005.
Daeth yr adroddiad i'r casgliad fod cynnydd cadarnhaol wedi'i wneud o ran gweithredu llawer o bolisïau ac amcanion y Cynllun mabwysiedig, ond roedd rhai elfennau a rhannau heb eu cyflawni fel y bwriadwyd ac mae Pandemig Covid-19 a'r cyfyngiadau cysylltiedig wedi ychwanegu at hyn.
Nodwyd, yn unol â dyletswydd statudol y Cyngor, fod yr Adroddiad Monitro Blynyddol wedi cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a'i gyhoeddi ar wefan y Cyngor erbyn 31 Hydref 2022.
Nodwyd y byddai proses ymgynghori anffurfiol yn cael ei chynnal a fyddai'n rhoi cyfle i bartïon â diddordeb roi sylwadau ar y materion allweddol a godwyd. Er nad oedd yn ofyniad statudol, byddai'r ymgynghoriad yn darparu cyfle pwysig i gyflwyno sylwadau, a lle bo'n briodol, i'r sylwadau hynny gyfrannu at gynnwys Adroddiadau Monitro Blynyddol dilynol. Byddai cynnwys yr Adroddiad Monitro Blynyddol, ynghyd â chynnwys y dogfennau blaenorol hefyd yn cael ei ddefnyddio wrth baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig 2018 – 2033 a'i sylfaen dystiolaeth gysylltiedig.
PENDERFYNWYD:
|
||||||||||
YSTYRIED ARGYMHELLION Y CABINET O RAN Y MATER CYNLYNOL Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||
CYNLLUN DATBLYGU LLEOL DIWYGIEDIG SIR GAERFYRDDIN 2018-2033 AIL FERSIWN ADNEUO DRAFFT PDF 141 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorydd M. James wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ac arhosodd yn y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried ac yn ystod y bleidlais.]
Yn dilyn cofnod 7 o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 14 Tachwedd 2022, bu'r Cyngor yn ystyried adroddiad yn nodi yr ail Fersiwn Adneuo Drafft o Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig a nododd Weledigaeth, Amcanion Strategol a gofynion Twf Strategol y Cyngor o ran defnydd tir ar gyfer y Sir hyd at 2033. Roedd y CDLl yn cynnwys set fanwl a chynhwysfawr o bolisïau a darpariaethau, gan gynnwys dyraniadau safle-benodol at ddefnydd tai a chyflogaeth, yn ogystal ag ystyriaethau amgylcheddol a gofodol eraill. Cydnabuwyd bod cyfres o ffactorau wedi effeithio ar gynnydd a chynnwys y Cynllun gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, lefelau ffosffad mewn afonydd gwarchodedig a phandemig Covid-19.
Gofynnwyd am gymeradwyaeth ar gyfer cyhoeddi'r CDLl a'r dogfennau ategol fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol am gyfnod statudol o 6 wythnos o leiaf a fyddai'n dechrau ym mis Ionawr 2023. Ar ôl hynny, byddai'n destun archwiliad cyhoeddus gan Arolygydd Cynllunio Penodedig Llywodraeth Cymru gyda'r bwriad o'i fabwysiadu'n ffurfiol yn 2024.
Mewn ymateb i bryder a godwyd mewn perthynas â hyd y CDLl eglurwyd bod fformat yr adroddiad wedi'i ragnodi gan Lywodraeth Cymru, ac felly roedd yn angenrheidiol i'r Cyngor gydymffurfio â'r fformat hwnnw wrth baratoi'r ddogfennaeth.
Cyfeiriwyd at ganlyniadau'r Cyfrifiad diweddar o ran twf yn y boblogaeth a lleihad yn nifer y siaradwyr Cymraeg a gofynnwyd am eglurhad ynghylch sut yr ymdrinnir â'r rhain yn y CDLl. Pwysleisiwyd bod y CDLl, ynghyd â'i wybodaeth ategol, yn ddogfennau datblygol a fyddai'n datblygu hyd nes eu bod yn cael eu cyhoeddi. Roedd hyn yn adlewyrchu argaeledd rhai darnau o dystiolaeth ac amserlenni sy'n gysylltiedig â pharatoadau'r CDLl i sicrhau bod y wybodaeth fwyaf cyfredol yn cael ei chynnwys pan fyddai'r dogfennau'n cael eu cyhoeddi. Darparwyd sicrwydd bod y CDLl, fel dogfen gyfannol, yn cynnwys ystod o Gynlluniau a Strategaethau allweddol eraill o fewn yr Awdurdod.
Rhoddodd y Rheolwr Blaen-gynllunio drosolwg o'r fethodoleg ymgysylltu a'r broses ymgynghori a fabwysiadwyd lle cyflwynwyd y CDLl drwy sylwadau ysgrifenedig a fyddai'n cael eu hategu gan ddarluniadau a mapiau digidol i annog rhyngweithio. Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio y byddai'r broses ymgynghori yn darparu dulliau priodol i fynd i'r afael â phryderon neu anghysondebau o ran dyraniadau'r safle a sut y cawsant eu portreadu yn y CDLl.
Rhoddwyd teyrnged i'r diweddar Gynghorydd Mair Stephens yn ystod ei chyfnod yn y swydd fel Cadeirydd y Panel Trawsbleidiol. Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio, mewn ymateb i sylwadau a wnaed, fod trigolion lleol yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer tai fforddiadwy ac y dylai Aelodau eu hannog i gofrestru ar gyfer tai fforddiadwy a/neu dai cymdeithasol, fel y bo'n briodol.
Eglurodd y Rheolwr Blaen-gynllunio i'r Aelodau fod y CDLl yn ceisio rhoi ail wynt i ganol trefi o ran eu bywiogrwydd a'u hyfywedd, a bod y ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.1 |
||||||||||
DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL: Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 14 Tachwedd, 2022.
|
||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
||||||||||
CWESTIYNAU GAN YR AELODAU (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd fod cwestiwn brys wedi'i gyflwyno yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 11.4b.
CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES, YR AELOD CABINET DROS ADDYSG A'R GYMRAEG
“A allai'r Aelod Cabinet dros Addysg roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y cynnydd yn nifer yr achosion o'r dwymyn goch yn ein hysgolion yn yr wythnos ddiwethaf?”
Ymateb y Cynghorydd Glynog Davies - Yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg:-
“Diolch yn fawr, Gadeirydd, a diolch i Rob am y cwestiwn, sef cwestiwn amserol iawn a chwestiwn hynod bwysig wrth gwrs. A dweud y gwir, os nad oedd cwestiwn yn codi ynghylch hyn, roeddwn i wedi bwriadu gofyn am ganiatâd y Cadeirydd i ddweud gair am hyn. Daeth y dwymyn goch i'm sylw yn gyntaf oll pan glywais fod llawer o blant yn yr ysgol leol ym Mrynaman yn dioddef o'r dwymyn goch. Roedd hyn yn bryder mawr i mi fel Cadeirydd y Llywodraethwyr a hefyd i'r staff yn yr ysgol. Dros yr wythnosau diwethaf mae dau ddwsin o blant yn yr ysgol wedi bod yn dost. Mae dau o'r plant wedi gorfod cael triniaeth yn yr ysbyty ac mae un yn dal i fod yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. Mae'r dwymyn goch, neu Scarletina, yn glefyd difrifol iawn. Mae'n heintus iawn ac mae'n cael ei achosi gan facteria, sef y bacteria streptococus gr?p A, ac rydym yn gyfarwydd iawn â'r term 'Strep A’. Mae'n lledaenu'n hawdd iawn, drwy gael cyswllt uniongyrchol â pherson sy'n dioddef o'r clefyd neu drwy'r aer. Mae diferion yn yr aer, oherwydd peswch neu disian, ac yna mae'r clefyd yn lledaenu. Ac wrth gwrs, cofiwch y gall ledaenu hefyd drwy ddefnyddio'r un offer neu declynnau â phobl eraill. Symptomau'r dwymyn goch yw brech sy'n teimlo fel papur swnd wrth ei gyffwrdd; mae'r symptomau eraill yn cynnwys tymheredd uchel, wyneb bochgoch a thafod chwyddedig coch - efallai eich bod wedi clywed am 'dafod mefus’. Ar ôl cael diagnosis mae'r driniaeth yn eithaf syml ac fel arfer mae'n cynnwys cwrs o wrthfiotigau penisilin. Nawr, tynnwyd fy sylw at un gofid. Roeddwn yn siarad â dyn, fy mab, sy'n feddyg teulu, ac mae prinder gwrthfiotigau ar hyn o bryd. Mae gennym achosion yn Sir Gaerfyrddin erbyn hyn. Rwy'n gwybod bod 5 ysgol wedi'u heintio i raddau amrywiol a rhai plant, fel y soniwyd amdanynt, wedi gorfod cael triniaeth yn yr ysbyty. Mae achosion mewn sawl sir arall ac rydym yn gweithio'n agos iawn gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rydym yn gweithio gyda nhw ac yn ymateb ar unwaith i'r achosion hyn. Fore Llun, cafodd ein Penaethiaid y wybodaeth ddiweddaraf am y mater pwysig iawn hwn, ac rydym wedi rhannu llythyr gwybodaeth a ddarparwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru am y symptomau a hefyd sut i ymateb. Mae'n bwysig iawn ein bod yn codi ymwybyddiaeth o hyn; Mae staff ein hysgolion yn ymwybodol o hyn, ac maent yn cadw llygad ar y sefyllfa, ac yn cadw golwg am blant sydd â thymheredd uchel neu sydd â llwnc ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9. |
||||||||||
CYFLWYNO DEISEB Pwnc: Diogelwch Ffordd, Heol y Llew Du, Cross Hands.
Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, breswylwyr Heol y Llew Du, eisiau i fesurau arafu traffig gael eu gosod ar hyd ein ffordd i sicrhau bod y terfyn cyflymder o 30mya yn cael ei barchu gan yrwyr. Rydymni hefyd eisiau i'r gyffordd groesgam beryglus gael ei newid fel mater o frys; mae hwn yn fater sy'n ymwneud â diogelu ac yn berygl i ddiogelwch ar y ffordd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawyd Ms M. Ballard i'r cyfarfod gan y Cadeirydd, a oedd wedi ei gwahodd i annerch y Cyngor ac i gyflwyno'r ddeiseb ganlynol ynghylch Diogelwch Ffyrdd yn Heol y Llew Du, Cross Hands fel a ganlyn:
“Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, breswylwyr Heol y Llew Du, eisiau i fesurau arafu traffig gael eu gosod ar hyd ein ffordd i sicrhau bod y terfyn cyflymder o 30mya yn cael ei barchu gan yrwyr. Rydym hefyd eisiau i'r gyffordd groesgam beryglus gael ei newid fel mater o frys; mae hwn yn berygl ar y ffyrdd ac yn fater diogelu”.
Amlinellodd Ms Ballard i'r Cyngor y rhesymeg dros y ddeiseb a oedd wedi derbyn dros 130 o lofnodion yn adlewyrchu pryderon nifer o drigolion y gymuned ynghylch diogelwch ffyrdd ar Heol y Llew Du, Cross Hands.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith y byddai'r adran yn ymchwilio i'r materion a godwyd yn y ddeiseb ac yna byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o Gabinet y Cyngor yn y dyfodol.
Ar ôl y cyflwyniad, trosglwyddodd Ms Ballard y ddeiseb yn ffurfiol i'r Cyngor.
PENDERFYNWYD cyfeirio'r ddeiseb at y Cabinet i'w hystyried yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 10.14.
|
||||||||||
COFNODION ER GWYBODAETH (AR GAEL AR Y WEFAN) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |