Agenda a Chofnodion

Cyllideb Corfforaethol, Cyngor Sir - Dydd Mawrth, 23ain Chwefror, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr T. Bowen, D.M. Cundy, D.B. Davies, P. Edwards, M. Gravell, P.M. Hughes, J.P. Jenkins, H.B. Shepardson, J. Thomas, K.P. Thomas, M.K. Thomas ac W.G. Thomas.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Councillor

Minute Number

Nature of Interest

C.P. Higgins

 

 

6 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2016/17 tan 2018/19

Mae'n gwneud gwaith i Gyngor ar Bopeth Cymru.

S.L. Davies

 

 

6 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2016/17 tan 2018/19 (Tudalen 44)

Model darparu arall ar gyfer Chwaraeon, Hamdden a'r Theatrau (2014).

A.W. Jones

 

 

 

6 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2016/17 tan 2018/19

Mae'n un o Ymddiriedolwyr Lles Glowyr Rhydaman sy'n prydlesu darn o dir gan y Cyngor Sir.

J.D. James

6 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2016/17 tan 2018/19 (Tudalen 44)

Model darparu arall ar gyfer Chwaraeon, Hamdden a'r Theatrau (2014).

 

T. Devichand

 

 

 

6 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2016/17 tan 2018/19 (Tudalen 44)

Model darparu arall ar gyfer Chwaraeon, Hamdden a'r Theatrau (2014) - Cadeirydd Pwyllgor Lles Dafen.

T. Devichand

8 Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai a Phennu Rhenti Tai am 2016/17.

 

Landlord

J. Edmunds

8 Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai a Phennu Rhenti Tai am 2016/17.

 

Landlord

T. Davies

 

 

7 - Y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd: 2016/17 – 2020/21.

Cadeirydd Ymddiriedolwyr Oriel Myrddin.

 

A. Lenny

 

 

7 - Y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd: 2016/17 – 2020/21.

Un o Ymddiriedolwyr Oriel Myrddin.

 

 

A. Lenny

6 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2016/17 tan 2018/19.

 

Mae'n gwasanaethu ar y gr?p a ffurfiwyd i roi sylw i ddyfodol Caerfyrddin.

S.E. Thomas

 

 

7 - Y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd: 2016/17 – 2020/21

Un o Ymddiriedolwyr Oriel Myrddin.

 

 

S.M. Allen

 

 

7 - Y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd: 2016/17 – 2020/21

Un o Ymddiriedolwyr Oriel Myrddin.

 

 

A. James

 

 

7 - Y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd: 2016/17 – 2020/21

Un o Ymddiriedolwyr Oriel Myrddin.

 

 

K. Madge

6 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2016/17 tan 2018/19

7 - Y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd: 2016/17 – 2020/21

Ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·        Dymunodd y Cadeirydd wellhad buan i'r Cynghorwyr P.M. Edwards a J. Thomas gan iddynt fod yn dost a chael triniaeth yn yr ysbyty yn ddiweddar.

·        Estynnodd y Cadeirydd longyfarchiadau i'r Cynghorydd D.J.R. Llewellyn a Mrs Llewellyn gan eu bod wedi derbyn Tlws Coffa Robina Elis-Gruffydd, sef tlws a roddir am gyfraniad arbennig yn y gymuned yn lleol yng Ngogledd Sir Benfro a Gorllewin Sir Gaerfyrddin.

·        Rhoddodd y Cadeirydd wybod i'r Cyngor am drefniadau'r Wythnos Gymraeg a fyddai'n cael ei chynnal yng Nghaerfyrddin rhwng dydd Sadwrn 27ain Chwefror a dydd Sadwrn 5ed Mawrth 2016, ac estynnodd wahoddiad cynnes i'r holl aelodau ddod i'r gwahanol gweithgareddau

4.

CWESTIYNAU GAN AELODAU:-

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan yr Aelodau.

5.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

6.

STRATEGAETH CYLLIDEB REFENIW 2016/2017 I 2018/19; pdf eicon PDF 500 KB

(Gofynnir i’r Aelodau nodi na ddarparir copïau papur o’r atodiad 1 A(ii) oherwydd eu maint, a bod modd eu darllen ar wefan y Cyngor drwy ddilyn y ddolen gyswllt canlynol Cyfarfod y Bwrdd Gweithredol ar 1af Chwefror 2016:

http://democratiaeth.sirgar.llyw.cymru/documents/g299/Pecyn%20adroddiadau%20cyhoeddus%2001af-Chwe-2016%2010.00%20Y%20Bwrdd%20Gweithredol.pdf?T=10&LLL=1

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Yr oedd y Cynghorwyr C.P. Higgins, S.L. Davies, A.W. Jones, J.D. James, T. Devichand, A. Lenny a K. Madge wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, a bu iddynt aros yn y cyfarfod tra oedd dan sylw)

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 1af Chwefror, 2016 (gweler Cofnod 14), wedi ystyried Strategaeth Cyllideb Refeniw 2016/17 tan 2018/19 a'i fod wedi gwneud nifer o argymhellion yn ei chylch, fel y manylwyd arnynt yn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, i'w hystyried gan y Cyngor.

 

Cafodd y Cyngor gyflwyniad gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, ar ran y Bwrdd Gweithredol, lle bu'n amlinellu cefndir y cynigion cyllidebol oedd gerbron y Cyngor, gan gynnwys y sefyllfa ddiweddaraf ynghylch Setliad Llywodraeth Cymru, adborth am yr ymgynghoriad ynghylch y gyllideb, ynghyd â'r wybodaeth ddiweddaraf am dwf ac am ddata dilysu.  Dywedodd fod yr Awdurdod wedi bod yn wynebu sefyllfa gyllido anodd ers nifer o flynyddoedd. Ychwanegodd fod yr Awdurdod yn cydnabod bod angen gwneud pethau mewn modd gwahanol ynghyd â blaenoriaethu sut yr oedd yn gwario ei adnoddau mwyfwy prin, a bod yr Awdurdod wedi pennu cyllideb gytbwys bob tro gan gynnal, ar yr un pryd, safonau'r gwasanaethau i raddau helaeth iawn. Unwaith eto yn achos 2016/17, yr oedd yr Awdurdod wedi cael setliad ar gyfer blwyddyn yn unig, ac felly yr oedd hi'n deg tybio y byddai'r cwtogi hwn ar gyllid Llywodraeth Leol a setliadau Llywodraeth Cymru, na welwyd mo’i debyg o’r blaen, yn parhau. Felly byddai'n rhaid i'r Awdurdod ddal i hoelio ei sylw ar arbedion effeithlonrwydd neu leihau'r costau er mwyn sicrhau ei fod yn gynaliadwy yn ariannol a bod modd pennu cyllidebau cytbwys i'r dyfodol.

 

Dywedodd fod y Cyngor wedi cael setliad dangosol 2016/17 a oedd 1% yn llai, ond na fyddai'n cael gwybodaeth am y setliad terfynol tan 2il Mawrth, a fyddai'n amodol ar gael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ar 9fed Mawrth. Felly, yn unol ag argymhelliad 1.3 yn yr adroddiad, byddai angen i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol roi gwybodaeth i gyfarfod y Cyngor ar 10fed Mawrth am unrhyw newidiadau i'r setliad. Er nad oedd y setliad terfynol wedi ei gyhoeddi hyd yn hyn, braf oedd nodi bod y setliad dros dro, a oedd 1% yn llai, yn fwy ffafriol nag yr oeddid wedi ei ragweld. Yr oedd hynny wedi galluogi'r Awdurdod i ailystyried rhai o'i gynigion cyllidebol gwreiddiol, gan addasu rhai o'r ffigurau oedd ynddynt, gan gynnwys addasu at ddibenion dilysu arbedion effeithlonrwydd nad oeddynt wedi eu clustnodi, codiad cyflog posibl, a'r diogelwch oedd ar gael i'r ysgolion.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod setliad dangosol Sir Gaerfyrddin 1% yn llai, ond tanlinellodd y byddai'r lleihad gwirioneddol yn sylweddol fwy ar ôl ystyried effeithiau chwyddiant a'r beichiau newydd. O gofio mai cyllid gan Lywodraeth Cymru oedd yn cyllido bron 76% o wariant net y Cyngor, yr oedd pob 1% o doriad yn cyfateb i £2.5 miliwn ac yr oedd effaith toriad o'r fath  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD 2016/17- 2020/21; pdf eicon PDF 308 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Yr oedd y Cynghorwyr T. Davies, A. Lenny, S.E. Thomas, S.M. Allen, A. James a K. Madge wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, a bu iddynt aros yn y cyfarfod tra oedd dan sylw)

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 1af Chwefror, 2016 (gweler Cofnod 15), wedi ystyried y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd (Cronfa'r Cyngor) am y cyfnod rhwng 2016/17 a 2020/21, a'i fod wedi gwneud nifer o argymhellion yn ei chylch, fel y manylwyd arnynt yn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, i'w hystyried gan y Cyngor.

 

Cafodd y Cyngor gyflwyniad gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, ar ran y Bwrdd Gweithredol, am y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd a adlewyrchai'r amcanion yn y Strategaeth Gorfforaethol ar gyfer 2015-2020 a oedd wedi ei mabwysiadu'n ddiweddar ac a oedd yn manylu ar flaenoriaethau a dyheadau strategol yr Awdurdod.

 

Rhoddodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol wybod i'r Cyngor fod y rhaglen gyfalaf yn gyfanswm o £226 miliwn dros y pum mlynedd, ac eglurodd taw'r nod oedd sicrhau bod buddsoddiad sylweddol mewn nifer o brosiectau allweddol er mwyn creu swyddi a gwella ansawdd bywyd pobl Sir Gaerfyrddin. Yn ôl yr amcangyfrif presennol yr oedd £133 miliwn ar gael gan y Cyngor Sir ar gyfer y rhaglen, ynghyd â £90 miliwn arall gan gyrff cyllido grantiau allanol. Fel oedd yn wir am y gyllideb refeniw (gweler cofnod 6 uchod), yr oedd y rhaglen gyfalaf wedi ei seilio ar y setliad dros dro a roddai £5.4 miliwn i'r Awdurdod ar ffurf benthyca â chymorth ynghyd â grant cyfalaf cyffredinol o £3.6 miliwn, y byddai'r ddau swm yn amodol ar gael cadarnhad gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2016.

 

Amlinellodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yr amrywiaeth o brosiectau a gâi gymorth gan y rhaglen gan gynnwys Ysgolion yr 21ain Ganrif, y Gronfa Mentrau Gwledig, Datblygiad Ystadau Diwydiannol, Canolfan Llesiant Llanelli, Gwasanaeth Archifau Caerfyrddin, a chwrs rasio beiciau newydd. Er y byddai angen i'r rhaglen a'r modd y byddai'n cael ei chyllido gael eu monitro'n fanwl, dywedodd fod y rhaglen, fel yr oedd wedi ei chyflwyno, wedi ei chyllido'n llawn tan 2019/20 a bod diffyg bychan yn unig yn y flwyddyn olaf sef 2020/21.

 

Cyfeiriwyd at y cyfleuster gofal ychwanegol arfaethedig yn Llanelli ac at ddyfodol Cartref Gofal Preswyl Cae Maen. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y sefyllfa bresennol mewn perthynas â'r rhain. Gan gyfeirio at y cyfleuster gofal ychwanegol, dywedodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd fod trafodaethau cychwynnol ar waith a bod angen adlewyrchu anghenion pobl dros y 25 mlynedd nesaf. Nid oedd dim cynigion pendant ar hyn o bryd, ond byddai'r Bwrdd Gweithredol yn cael adroddiad wrth i'r cynlluniau gael eu datblygu. O ran dyfodol Cartref Gofal Preswyl Cae Maen, rhoddodd hi sicrwydd i'r Cyngor nad oedd dim cynlluniau i'w gau.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

7.1

Cymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd a'r cyllid, fel y'i nodwyd yn Atodiad B, a bod cyllideb 2016/2017  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

CYFRIF CYLLIDEB REFENIW TAI A LEFELAU RHENTI 2016/17; pdf eicon PDF 365 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Yr oedd y Cynghorwyr T. Devichand a J. Edmunds wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, a bu iddynt aros yn y cyfarfod tra oedd dan sylw)

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 1af Chwefror, 2016 (gweler Cofnod 16), wedi ystyried Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai a Phennu Rhenti Tai am 2016/17 a'i fod wedi gwneud nifer o argymhellion yn eu cylch, fel y manylwyd arnynt yn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, i'w hystyried gan y Cyngor.

 

Cafodd y Cyngor gyflwyniad gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, ar ran y Bwrdd Gweithredol, am gynigion Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai am 2016/17 gan adlewyrchu amcanion y Cynllun Busnes 30 mlynedd, sef y prif gyfrwng cynllunio ariannol ar gyfer cyrraedd Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy ynghyd â'r Strategaeth Tai Fforddiadwy, a oedd i'w roi gerbron y Cyngor ym mis Mawrth 2016. 

 

Dywedodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol fod y buddsoddiad arfaethedig yn y cynllun busnes presennol wedi golygu bod Safon Tai Sir Gaerfyrddin wedi ei chyrraedd erbyn 2015, ac wedi darparu buddsoddiad i gynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy ac i gychwyn buddsoddi yn y Strategaeth Tai Fforddiadwy, sef £45 miliwn a £31 miliwn yn y drefn honno.

 

Atgoffodd y Cyngor fod y Cyfrif Refeniw Tai wedi ei ddiwygio'n sylweddol yn 2015/16 gan fod yr 11 o awdurdodau stoc dai yng Nghymru, gan gynnwys Sir Gaerfyrddin, wedi gadael y System Cymhorthdal Tai oedd wedi dyddio, gan roi rhagor o reolaeth iddynt dros eu stoc dai eu hunain.  Yn achos Sir Gaerfyrddin, er ei bod yn ofynnol i'r Awdurdod gael benthyg £79 miliwn i gyllido'r gadael, yr oedd hefyd wedi golygu bod yr Awdurdod wedi gorffen talu £6.2 miliwn i'r Trysorlys yn flynyddol.

 

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol wybod i'r cyfarfod fod y Bwrdd Gweithredol yn cynnig bod rhenti tai yn codi 2.79% ar gyfartaledd yn unol â Pholisi Cysoni Rhenti Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, yr oedd y Cyngor wedi ei fabwysiadu'r llynedd, gan olygu ei bod yn ofynnol i'r awdurdod weithio tuag at gyrraedd y rhenti targed cyn pen pum mlynedd. Yr oedd cyfartaledd rhenti targed isel Sir Gaerfyrddin yn £78.08, a phe byddid yn derbyn argymhellion yr adroddiad byddai cyfartaledd y rhenti'n £78.73, sef ychydig yn fwy na’r targed isaf.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ei bod yn anodd, fel yr oedd bob amser wrth bennu'r rhenti, inni gael cydbwysedd rhwng effaith y codiad rhent ar denantiaid y Cyngor a'r angen i bennu rhenti'n unol â pholisi Llywodraeth Cymru, gan sicrhau ar yr un pryd bod y Cyngor yn gallu dal ati i lunio cynllun busnes cynaliadwy er mwyn camu ymlaen â Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy a'r Strategaeth Tai Fforddiadwy.

 

Wrth gynnig yr argymhellion gerbron y Cyngor, dywedodd fod y cynigion wedi cael cefnogaeth unfrydol y Pwyllgor Craffu - Cymunedau yn ei gyfarfod ar 15fed Ionawr, 2016.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

8.1

Codi cyfartaledd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

POLISI RHEOLI'R TRYSORLYS A STRATEGAETH 2016-2017. pdf eicon PDF 243 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 1af Chwefror, 2016 (gweler Cofnod 9), wedi ystyried Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2016/17 ac wedi gwneud dau argymhelliad, fel y manylwyd arnynt yn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, i'w hystyried gan y Cyngor. 

 

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol wybod i'r cyfarfod ei bod yn ofynnol, yn unol â Chôd Ymarfer CIPFA ynghylch Rheoli'r Trysorlys, yr oedd y Cyngor wedi ei fabwysiadu, i'r Cyngor gynnal Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys yr oedd angen eu cymeradwyo'n flynyddol cyn dechrau'r flwyddyn ariannol yr oeddynt yn ymwneud â hi.  Hefyd, dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2003, yr oedd yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo'r Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys ar gyfer y flwyddyn i ddod, fel y manylwyd arnynt yn Atodiad D.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

9.1

Bod y Polisi a’r Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2016/17 a'r argymhellion a nodwyd ynddynt yn cael eu cymeradwyo,

 

9.2

Bod y Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys a'r argymhellion a nodwyd ynddynt yn cael eu cymeradwyo.

 

10.

DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR Y 1AF CHWEFROR, 2016. pdf eicon PDF 593 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y cyfarfod uchod.