Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr F.Akhtar, S.M. Allen, J.S. Edmunds, P. Edwards, A. Fox, A. James, T.J. Jones, S. Matthews, S. Najmi, E.G. Thomas a G.B. Thomas.
|
||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
||||||||||
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: · Aeth y Cadeirydd ati i longyfarch D. A. Jones, Derwen Fawr a'i wraig Eluned a oedd wedi dathlu eu pen-blwydd priodas ddiemwnt yn ddiweddar.
· Nododd y Cadeirydd ei fod wedi mynd i nifer o ddigwyddiadau yn ddiweddar gan gynnwys gwasanaeth coffa ym Mhorth Tywyn, Taith Prydain yn Ysgol Bro Dinefwr a hefyd seremoni dadorchuddio mainc er cof am y diweddar D.T. Davies yn Llandeilo.
· Dymunodd y Cadeirydd ben-blwydd hapus i Marjorie Ferguson o Landeilo yn 100 oed.
· Mynegodd y Cadeirydd hefyd ei longyfarchiadau i'r Cynghorydd Alan Speake a'i wraig Stephanie a oedd wedi dathlu eu pen-blwydd priodas aur yn ddiweddar.
· Gyda chaniatâd y Cadeirydd, rhoddodd y Cynghorydd Jane Tremlett wybod bod y Cyngor a Llesiant Delta wedi derbyn gwobr ar y cyd am y Rhaglen Connect yng Ngwobrau Trawsnewid y Sector Cyhoeddus a gynhaliwyd yr wythnos ddiwethaf yn Llundain. Wrth roi gwybod am yr uchod, roedd y Cynghorydd Tremlett am ddiolch yn ddiffuant i'r holl staff am eu gwaith caled.
· Rhoddodd yr Arweinydd, gyda chaniatâd y Cadeirydd, y wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa o ran Covid yn Sir Gaerfyrddin. Mynegodd ei bryder yngl?n â'r ffigurau diweddar er bod arwyddion cynnar bod cyfradd y cynnydd mewn achosion yn arafu. Roedd hefyd yn annog pawb i gael y brechlyn ac yn rhoi sicrwydd bod popeth yn cael ei wneud i ddiogelu'r GIG. Mynegwyd pryder bod y tîm TTP wedi adrodd ei fod wedi gweld pobl yn ymddieithrio o'r broses a gofynnodd i ni i gyd barhau i weithio gyda'r tîm TTP. Mynegodd ei ddiolch i bawb sy'n ymwneud â'r broses Profi, Olrhain a Diogelu.
|
||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNOD CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR 14EG GORFFENNAF, 2021 PDF 352 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2021 yn gofnod cywir.
|
||||||||||
CWM ENVIRONMENTAL LTD - GOFYNIAD ARIANNU TYMOR BYR PDF 340 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau yr adroddiad a'i bwrpas oedd sefydlu mynediad tymor byr at gyllid ar gyfer CWM Environmental Ltd i dalu costau untro a chostau rhedeg ychwanegol yn dilyn y tân yn y Cyfleuster Ailgylchu Deunyddiau ar 24 Ebrill 2021 hyd nes y daw'r hawliadau yswiriant perthnasol i law.
Bu digwyddiad tân mawr ar safle Cwm Environmental Ltd yn Nantycaws ar 24 Ebrill 2021 a arweiniodd at golli'r adeilad ailgylchu deunyddiau bagiau glas a'i gynnwys yn llwyr. Cafodd cynllun tân ac argyfwng y cwmni ei roi ar waith, ac roedd staff CWM yn gweithio gyda'r Gwasanaeth Tân i reoli'r tân, gan leihau effaith y tân ar yr amgylchedd.
Mae CWM yn parhau i weithio gydag aseswr colledion ei gwmni yswiriant ac mae wedi bod yn darparu ymatebion a thystiolaeth ategol i'r cwestiynau a godwyd hyd yn hyn. Nid oedd yn anarferol i'r broses derbyn atebolrwydd yn ffurfiol gymryd nifer o wythnosau (yn amodol ar ymchwiliadau amrywiol) ond ar ôl cytuno nad oedd unrhyw rwystrau i dderbyn atebolrwydd o ran polisi, gellid wedyn canolbwyntio ar yr hawliad ei hun.
Dywedwyd bod CWM yn wynebu sefyllfa lle bydd yn rhaid talu costau cyn unrhyw setliadau yswiriant megis: - Cost ymateb ar unwaith i'r tân - Cost dymchwel - Costau gweithredu uwch
Ystyriwyd felly bod angen hwyluso cyfleuster benthyca i CWM Environmental Ltd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOLgytuno ar gyfleuster cyllido fel a ganlyn:
5.1 Swm y benthyciad - hyd at £1,000,000 am gyfnod o 12 mis; 5.2 Cyfradd y llog : 2% yn uwch na'r gyfradd a bennwyd gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus ar gyfer benthyciad 12 mis; 5.3 Y broses o ryddhau'r cyllid yn cael ei dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol i'w weinyddu fel a ganlyn: a) Rhyddhau cyllid dim ond pan fydd tystiolaeth o wariant ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r tân. b) Bydd yr elfennau terfynol ynghylch y cytundeb benthyciad manwl yn cael eu dirprwyo i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol. |
||||||||||
YSTYRIED ARGYMHELLION Y CABINET MEWN PERTHYNAS Â'R EITEMAU CANLYNOL Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFARWYDDWR STATUDOL Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL PDF 501 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 26 Gorffennaf (gweler cofnod 7), wedi ystyried Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOLfod Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Perfformiad y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin 2020/21 yn cael ei gymeradwyo.
|
||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
||||||||||
YSTYRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:- Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||
RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD DERYK CUNDY Rydym yn cynnig bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cytuno â’r canlynol: Er mwyn atal yr ôl-groniad difrifol o geisiadau cynllunio a materion gorfodi a ddaw yn y dyfodol ac i sicrhau bod y Gwasanaeth Cynllunio yn addas i'r diben ac er mwyn atal y risg gydnabyddedig i'n cynlluniau Adfywio, ein bod yn: 1. Cryfhauein Prosesau Craffu a Rheoli Risg, ein Gweithdrefnau ac Adroddiadau drwy weithredu'n llawn argymhellion yr adroddiadau gan Swyddfa Archwilio Cymru "Adolygiad o Drefniadau Rheoli Risg – Cyngor Sir Caerfyrddin – Gorffennaf 2019" ac "Adolygiad o'r Gwasanaethau Cynllunio – Cyngor Sir Caerfyrddin – Gorffennaf 2021”. 2. Bod yr adroddiad mewnol i'r Adran Gynllunio, "Adolygiad Strategol o'r Gwasanaeth Cynllunio' ar gael i bob Cynghorydd graffu arno a hynny cyn cyfarfod y Pwyllgor Archwilio ar 24 Medi. 3. Bod Cynllun i ddatrys yr ôl-groniad presennol o'r cannoedd lawer o geisiadau cynllunio a hyd yn oed mwy o faterion gorfodi, yn ogystal â sicrhau bod Gwasanaeth yr Adran Gynllunio yn addas i'r diben i'n galluogi i gyrraedd ein targedau Adfywio mewn modd amserol, yn cael ei gyflwyno i'r Siambr hon gan y Pennaeth Cynllunio Dros Dro yn ystod ein cyfarfod nesaf o'r Cyngor Sir. 4. Bod yr arfer o ddefnyddio cwmnïau preifat i glirio'r ôl-groniad o geisiadau cynllunio yn dod i ben ac yn cael ei gyflawni yn fewnol. 5. Bod cyllideb ddigonol yn cael ei gosod ar gyfer unrhyw newid sydd ei angen i’r Adran Gynllunio ddarparu gwasanaethau effeithiol a chynaliadwy. 6. Galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio i gyhoeddi adroddiad misol sy'n nodi'r sefyllfa bresennol o ran ceisiadau cynllunio sy'n aros am benderfyniad a materion gorfodi. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Cyngor y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Deryk. Cundy:- Rydym yn cynnig bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cytuno â’r canlynol: Er mwyn atal yr ôl-groniad difrifol o geisiadau cynllunio a materion gorfodi a ddaw yn y dyfodol ac i sicrhau bod y Gwasanaeth Cynllunio yn addas i'r diben ac er mwyn atal y risg gydnabyddedig i'n cynlluniau Adfywio, ein bod yn: 1. Cryfhau ein Prosesau Craffu a Rheoli Risg, ein Gweithdrefnau ac Adroddiadau drwy weithredu'n llawn argymhellion yr adroddiadau gan Swyddfa Archwilio Cymru "Adolygiad o Drefniadau Rheoli Risg – Cyngor Sir Caerfyrddin – Gorffennaf 2019" ac "Adolygiad o'r Gwasanaethau Cynllunio – Cyngor Sir Caerfyrddin – Gorffennaf 2021”. 2. Bod yr adroddiad mewnol i'r Adran Gynllunio, "Adolygiad Strategol o'r Gwasanaeth Cynllunio' ar gael i bob Cynghorydd graffu arno a hynny cyn cyfarfod y Pwyllgor Archwilio ar 24 Medi. 3. Bod Cynllun i ddatrys yr ôl-groniad presennol o'r cannoedd lawer o geisiadau cynllunio a hyd yn oed mwy o faterion gorfodi, yn ogystal â sicrhau bod Gwasanaeth yr Adran Gynllunio yn addas i'r diben i'n galluogi i gyrraedd ein targedau Adfywio mewn modd amserol, yn cael ei gyflwyno i'r Siambr hon gan y Pennaeth Cynllunio Dros Dro yn ystod ein cyfarfod nesaf o'r Cyngor Sir. 4. Bod yr arfer o ddefnyddio cwmnïau preifat i glirio'r ôl-groniad o geisiadau cynllunio yn dod i ben ac yn cael ei gyflawni yn fewnol. 5. Bod cyllideb ddigonol yn cael ei gosod ar gyfer unrhyw newid sydd ei angen i’r Adran Gynllunio ddarparu gwasanaethau effeithiol a chynaliadwy. 6. Galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio i gyhoeddi adroddiad misol sy'n nodi'r sefyllfa bresennol o ran ceisiadau cynllunio sy'n aros am benderfyniad a materion gorfodi. Eiliwyd y Cynnig.
Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.
Gwnaed nifer o ddatganiadau o blaid ac yn erbyn y Cynnig.
Dywedwyd wrth y Cyngor, os byddai'r cynnig yn cael ei gefnogi, byddai'r mater yn cael ei gyfeirio i'r Cabinet.
PENDERFYNWYD peidio â chefnogi'r Rhybudd o Gynnig.
|
||||||||||
RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES PDF 321 KB Mae'r Cyngor yn nodi bod amrywiolyn Delta o SARS-CoV-2 yn heintio plant a phobl ifanc ar gyfradd ddigynsail, ac eto mae ysgolion yng Nghymru wedi ailagor heb roi unrhyw ddulliau adferol ar waith i amddiffyn disgyblion a staff.
Gan ei fod yn feirws sy'n cael ei drosglwyddo yn yr aer, mae awyru ac aer glân yn allweddol yn y frwydr yn erbyn SARS-CoV-2, fel y cydnabyddir yn y Joint Union Guide to Improving Ventilation in Schools and Colleges (Medi 2021) a strategaeth Llywodraeth Cymru i ddarparu offer monitro CO2. Fodd bynnag, nid yw offer monitro yn ateb y broblem o ran awyru gwael: yn syml maent yn nodi bod problem ac y dylid cymryd camau adferol.
Mae'r cyngor hwn yn nodi bod y dechnoleg osôn a gynigir gan Lywodraeth Cymru, y dyrannwyd £3.3m o gyllid ar ei gyfer, wedi cael ei gohirio yn dilyn pryderon am ddiogelwch gan arbenigwyr meddygol. Nodwn hefyd gyngor yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch mai'r offer mwyaf addas i'w ddefnyddio mewn ystafelloedd ag awyru gwael yw:
· Hidlyddion Aer Gronynnol Effeithlon Iawn (HEPA) sy'n 99.97% effeithlon o ran dal gronynnau feirysol a gynhyrchir gan bobl sy'n gysylltiedig â SARS-CoV-2 (Centres for Disease Control and Prevention; Ventilation in Buildings; diweddarwyd 2 Mehefin 2021.) a:
· Dyfeisiau uwchfioled
Felly, mae'r cyngor hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried ar frys gymeradwyo, tendro ac ariannu unedau UV-C a/neu unedau HEPA, fel yr argymhellwyd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a sydd wedi'u dilysu fel rhai priodol a diogel i'w defnyddio gan Sefydliad Iechyd y Byd, y Lancet ac awdurdodau meddygol a chyhoeddiadau blaenllaw eraill. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Cyngor y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Glynog Davies:-
‘’Mae'r Cyngor yn nodi bod amrywiolyn Delta o SARS-CoV-2 yn heintio plant a phobl ifanc ar gyfradd ddigynsail, ac eto mae ysgolion yng Nghymru wedi ailagor heb roi unrhyw ddulliau adferol ar waith i amddiffyn disgyblion a staff.
Gan ei fod yn feirws sy'n cael ei drosglwyddo yn yr aer, mae awyru ac aer glân yn allweddol yn y frwydr yn erbyn SARS-CoV-2, fel y cydnabyddir yn y Joint Union Guide to Improving Ventilation in Schools and Colleges (Medi 2021) a strategaeth Llywodraeth Cymru i ddarparu offer monitro CO2. Fodd bynnag, nid yw offer monitro yn ateb y broblem o ran awyru gwael: yn syml maent yn nodi bod problem ac y dylid cymryd camau adferol.
Mae'r cyngor hwn yn nodi bod y dechnoleg osôn a gynigir gan Lywodraeth Cymru, y dyrannwyd £3.3m o gyllid ar ei gyfer, wedi cael ei gohirio yn dilyn pryderon am ddiogelwch gan arbenigwyr meddygol. Nodwn hefyd gyngor yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch mai'r offer mwyaf addas i'w ddefnyddio mewn ystafelloedd ag awyru gwael yw:
· Hidlenni Aer Gronynnol Effeithlon Iawn (HEPA) sy'n 99.97% effeithlon o ran dal gronynnau feirysol a gynhyrchir gan bobl sy'n gysylltiedig â SARS-CoV-2 (Centresfor Disease Control and Prevention; Ventilation in Buildings; diweddarwyd 2 Mehefin 2021.) a:
· Dyfeisiau uwchfioled
Felly, mae'r cyngor hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried ar frys gymeradwyo, tendro ac ariannu unedau UV-C a/neu unedau HEPA, fel yr argymhellwyd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a sydd wedi'u dilysu fel rhai priodol a diogel i'w defnyddio gan Sefydliad Iechyd y Byd, y Lancet ac awdurdodau meddygol a chyhoeddiadau blaenllaw eraill’’
Eiliwyd y Cynnig.
Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.
Cynigiwyd y gwelliant canlynol i'r cynnig gan y Cynghorydd R. James a chafodd ei eilio:
Mae'r Cyngor yn nodi bod amrywiolyn Delta o SARS-CoV-2 yn heintio plant a phobl ifanc ar gyfradd ddigynsail.
Gan ei fod yn feirws sy'n cael ei drosglwyddo yn yr aer, mae awyru ac aer glân yn allweddol yn y frwydr yn erbyn SARS-CoV-2, fel y cydnabyddir yn y Joint Union Guide to Improving Ventilation in Schools and Colleges (Medi 2021) a strategaeth Llywodraeth Cymru i ddarparu offer monitro CO2. Fodd bynnag, nid yw offer monitro yn ateb y broblem o ran awyru gwael: yn syml maent yn nodi bod problem ac y dylid cymryd camau adferol.
Mae'r Cyngor hwn yn nodi y bydd Gr?p Ymgynghorol Technegol Llywodraeth Cymru bellach yn ystyried canlyniadau treialon cynnar y peiriannau hyn ac yn rhoi cyngor pellach ar eu defnydd mewn lleoliadau addysg cyn i unrhyw broses gaffael ddechrau. Nodwn hefyd gyngor yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch mai'r offer mwyaf addas i'w ddefnyddio mewn ystafelloedd ag awyru gwael yw:
· Hidlenni Aer Gronynnol Effeithlon Iawn (HEPA) sy'n 99.97% effeithlon o ran dal gronynnau feirysol a gynhyrchir ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.2 |
||||||||||
RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD TINA HIGGINS “Mae llawer o drigolion y sir wedi sylwi ar ddyfodiad pobl ifanc sydd nid yn unig yn gyrru'n wyllt ar hyd strydoedd Sir Gaerfyrddin, ond sydd hefyd â cheir â phibellau gwacau sy'n popio neu greu s?n uchel iawn. Mae'r broblem yn fater aml-asiantaeth, nid yn fater i'r heddlu ei ddatrys yn unig.
Ers 2019, mae'r Adran Drafnidiaeth wedi bod yn treialu camerâu mewn gwahanol rannau o'r DU. Mae'r camerâu'n gweithio'n debyg iawn i gamera cyflymder arferol ond yn hytrach na chyfrifo cyflymder, maent yn defnyddio meicroffon i nodi faint o s?n sy'n dod o gerbyd. Os bydd s?n y car yn rhy uchel, bydd yn sbarduno'r camera i dynnu llun a bydd system adnabod rhifau cerbydau yn awtomatig (ANPR) yn nodi'r rhif cofrestru ac yn sicrhau bod cosb yn cael ei hanfon i gyfeiriad cofrestredig perchennog y car sydd wedi troseddu.
Rydym yn cynnig bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymchwilio i'r posibilrwydd o osod camerâu acwstig yn yr ardaloedd lle mae'r problemau hyn yn Sir Gaerfyrddin.” Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Tina Higgins:-
“Mae llawer o drigolion y sir wedi sylwi ar ddyfodiad pobl ifanc sydd nid yn unig yn gyrru'n wyllt ar hyd strydoedd Sir Gaerfyrddin, ond sydd hefyd â cheir â phibellau gwacáu sy'n popio neu greu s?n uchel iawn. Mae'r broblem yn fater aml-asiantaeth, nid yn fater i'r heddlu ei ddatrys yn unig.
Ers 2019, mae'r Adran Drafnidiaeth wedi bod yn treialu camerâu mewn gwahanol rannau o'r DU. Mae'r camerâu'n gweithio'n debyg iawn i gamera cyflymder arferol ond yn hytrach na chyfrifo cyflymder, maent yn defnyddio meicroffon i nodi faint o s?n sy'n dod o gerbyd. Os bydd s?n car yn rhy uchel, bydd yn sbarduno'r camera i dynnu llun a bydd system adnabod rhifau cerbydau yn awtomatig (ANPR) yn nodi'r rhif cofrestru ac yn sicrhau bod cosb yn cael ei hanfon i gyfeiriad cofrestredig perchennog y car sydd wedi troseddu.
Rydym yn cynnig bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymchwilio i'r posibilrwydd o osod camerâu acwstig yn yr ardaloedd lle mae'r problemau hyn yn Sir Gaerfyrddin.”
Eiliwyd y Cynnig.
Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.
Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r Cynnig.
Dywedwyd wrth y Cyngor, os byddai'r cynnig yn cael ei gefnogi, byddai'r mater yn cael ei gyfeirio i'r Cabinet.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gefnogi'r Rhybudd o Gynnig a'i gyfeirio i'r Cabinet.
|
||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
||||||||||
CWESTIYNAU GAN YR AELODAU:- Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||
CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD DAI THOMAS I'R CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR Ym mis Awst fe gyhoeddodd Awdit Cymru adroddiad ar Adran Gynllunio’r Cyngor Sir. A yw’r Arweinydd yn gallu amlinellu gwaith y weinyddiaeth yma mewn perthynas â’r ymateb i gynnwys yr adroddiad? Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: ‘‘Ym mis Awst cyhoeddodd Archwilio Cymru adroddiad ar Adran Gynllunio'r Cyngor Sir. All yr Arweinydd amlinellu gwaith y weinyddiaeth hon mewn perthynas â'r ymateb i gynnwys yr adroddiad?"
Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-
Diolch ichi am eich cwestiwn Gynghorydd Thomas. Hoffwn fanteisio ar y cyfle i egluro'r sefyllfa a chywiro rhywfaint o'r wybodaeth anghywir a rannwyd yn y drafodaeth flaenorol ynghylch perfformiad yr adran gynllunio. Roedd gwybodaeth anghywir yn y crynodeb, yn honni nad oedd gennym gynllun ar waith hyd yn hyn. I egluro, byddaf yn rhoi llinell amser o'r digwyddiadau i chi. Daeth adborth anffurfiol gan Archwiliad Cymru i'r Prif Weithredwr ddiwedd mis Ebrill ac ar unwaith gofynnodd y Prif Weithredwr i'r Pennaeth TGCh a Pholisi Corfforaethol sefydlu bwrdd ymyrraeth. Sefydlwyd y bwrdd ymyrraeth hwn wedyn ar 10 Mai ac mae'n adrodd i'r bwrdd sicrhau ymyrraeth sydd dan gadeiryddiaeth y Prif Weithredwr.
Yna anfonodd Archwilio Cymru ei adroddiad drafft at y Prif Weithredwr ar 14 Mehefin a sefydlwyd yr Hwb Cynllunio wythnos yn ddiweddarach ar 21 Mehefin i ymdrin â phob galwad i Reolwyr Datblygu i ddechrau ond mae bellach yn derbyn galwadau ynghylch gorfodi rheolau cynllunio. Derbyniodd rhag-gyfarfod y cabinet adroddiad cynnydd rhagarweiniol ar 24 Mehefin. Anfonodd Archwilio Cymru ei adroddiad terfynol at y Prif Weithredwr ar 13 Gorffennaf a derbyniodd pob aelod o staff yng ngwasanaeth yr adran gynllunio gopi o'r adroddiad ar 21 Gorffennaf. Derbyniodd y Cabinet yr ail adroddiad cynnydd ar 26 Gorffennaf a derbyniodd Archwilio Cymru ein cynllun gweithredu ffurfiol mewn ymateb i'r 17 argymhelliad ar 30 Gorffennaf. Derbyniodd y Pwyllgor Cynllunio ddiweddariad ar lafar ar y cynnydd ar 19 Awst a disgwylir i'r adroddiad cynnydd nesaf gael ei gyflwyno i'r Cabinet ar 20 Medi. Gobeithio bod y llinell amser yn rhoi rhywfaint o eglurder ynghylch yr hyn yr ydym eisoes wedi'i glywed y bore yma.
Dyma'r union beth a ddywedir yng nghrynodeb Archwilio Cymru o'i ganfyddiadau: "mae angen mynd i’r afael ar frys â materion arwyddocaol a hirsefydlog o ran perfformiad yn y gwasanaeth cynllunio i helpu i wireddu uchelgeisiau’r Cyngor". Mae Archwilio Cymru yn dweud ei fod wedi dod i'r casgliad hwnnw oherwydd bod angen cryfhau'r trefniadau presennol ar gyfer penderfynu ar geisiadau cynllunio mawr i'n helpu i wireddu ein huchelgeisiau adfywio. Roedd y materion hirsefydlog o ran perfformiad ym maes rheoli datblygu a gorfodi cynllunio yn tanseilio'r gallu i ddarparu gwasanaethau'n effeithiol ac mae angen i ni adolygu ein trefniadau gwella gwasanaeth a pherfformiad cynllunio ar frys er mwyn gwasanaethu ein cwsmeriaid yn well.
Rwy'n falch iawn bod y Cynghorydd Thomas wedi gofyn y cwestiwn ac i allu rhannu'r llinell amser honno er mwyn rhoi eglurder a'r gwir am ein hymateb i adroddiad Archwilio Cymru.
Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Dai Thomas:
A allai'r Arweinydd roi manylion pellach am yr argymhellion a sut mae'r Cyngor yn parhau i wella.
Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-
Mae gennym gamau gweithredu ar waith yn erbyn pob un o'r 17 argymhelliad a wnaed gan Archwilio Cymru. ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10.1 |
||||||||||
CYMARADWYO Y NEWIDIADAU CANLYNOL I AELODAETH PWYLLGORAU Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||
BOD Y GRWP ANNIBYNNOL WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD ARWEL DAVIES I GYMRYD LLE'R CYNGHORYDD ANTHONY DAVIES AR Y PWYLLGOR CRAFFU POLISI AC ADNODDAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 2(2)(n), roedd yr enwebiad canlynol wedi dod i law gan y Gr?p Annibynnol a:
PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo enwebiad y Cynghorydd Arwel Davies i gymryd lle'r Cynghorydd Anthony Davies fel un o gynrychiolwyr y Gr?p Annibynnol ar y Pwyllgor Craffu – Polisi ac Adnoddau.
|
||||||||||
COFNODION ER GWYBODAETH (AR GAEL AR Y WEFAN) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd fod y cofnodion a amlinellir ar agenda 12.1 – 12.13 ar gael i'w gweld ar wefan y Cyngor.
|