Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Julie Owens 01267 224088
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P. Cooper, a B.D.J. Phillips.</AI1> |
|||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol. |
|||||||
PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 563 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod yr ymgeisydd, ers cyhoeddi dogfennau'r cyfarfod, wedi tynnu cais PL/06972 yn ôl "Codi un annedd ar dir ger Addewid-Haf, Capel Iwan, Castellnewydd Emlyn, SA38 9NH”.
3.1 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL bod y Pwyllgor yn cymeradwyo'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau a nodir yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod, a dileu Erthygl 18 (1) Cyfarwyddyd Atal a roddwyd gan Lywodraeth Cymru o dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu Cymru) 2012 ("Cyfarwyddiadau Atal"):-
3.2 PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
|
|||||||
ADRODDIAD APELIADAU PDF 244 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at PL/05355 a nodir yn Nhabl 3 yr adroddiad. Nodwyd bod yr Awdurdod yn adolygu ei safbwynt yng ngoleuni'r penderfyniad ac y byddai rhagor o wybodaeth ar gael maes o law.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad. |
|||||||
PERFFORMIAD Y GWASANAETH CYNLLUNIO - CHWARTER 4 PDF 119 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Perfformiad y Gwasanaeth Cynllunio, ar gyfer Chwarter 4 am y cyfnod o Ionawr i fis Mawrth 2024, ac, yn arbennig, yr Is-adran Rheoli Datblygu a Gorfodi. Roedd yr adroddiad yn cynnwys dangosyddion monitro perfformiad craidd ynghyd â data cymharol ar gyfer chwarteri blaenorol yn 2022/23.
Roedd yr adroddiad yn nodi cyfres o ddangosyddion monitro perfformiad craidd a fyddai'n rhan o fonitro perfformiad y gwasanaethau cynllunio yn y dyfodol. Roedd y rhain yn cynnwys "Dangosyddion Cenedlaethol" a'r rhai a nodwyd gan y Cyngor.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod rhai meysydd yn is na'r targed oherwydd diffyg capasiti adnoddau.
Wrth ystyried perfformiad yr Awdurdod mewn perthynas ag achosion gorfodi, eglurodd yr Uwch Reolwr Datblygu a Gorfodi fod cyfres o dempledi yn cael eu datblygu i roi rhagor o wybodaeth i'r aelodau ynghylch statws achosion gorfodi.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. |
|||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Dogfennau ychwanegol: |
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 28 Mawrth 2024 gan eu bod yn gywir. |
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 9 Ebrill 2024 yn gofnod cywir.
|